Apropos o ddim byd (a), roeddwn i'n meddwl heddiw am adeg yn fy mywyd pan oeddwn i'n gweithio fel mentor i blant. Ie, fi. Mentor. Roedden nhw'n orffwyll, yn ddiau.
Ta beth, Ben oedd enw'r bachgen a welwn i dair gwaith pob wythnos er mwyn gwneud cwpl o weithgareddau a sgwrsio. Deuai'r plant yn y cynllun hwn o "gartrefi wedi eu chwalu," neu "gartrefi toredig," yn dibynnu ar ba un geiriadur ydych chi'n ei ddefnyddio. Ta beth, roedd Ben yn fachgen da, a oedd yn lot o hwyl.
Unwaith des i'r ysgol yn fy pickup truck y bues i wedi ei brynu am $400 (tua £260 yn y cyfnod hwnnw -- 1994). Yn amlwg, nid oedd y 1969 Ford F250 hwnnw yn y trỳc gorau erioed (b), a cafodd Ben lawer o bleser yn gwneud hwyl am fy mhen trosto. Mynnodd y bu angen paint job ar yr hen beth, ac aeth y ddau ohonom ati i beintio pob math o ddarluniau ar y trỳc gyda phaentiau y roedd yn yr ysgol. Ar y foned peintiodd Ben ddarlun gwych o bandito Mexicanaidd â mustachio enfawr arno. Peth gorau a welais i erioed.
Ta beth, câi Ben broblemau wrth geisio cymdeithasu, yn rhannol oherwydd brwydrai ddarllen. Felly yn aml byddai'r ddau ohonom ni'n gweithio ar wella ei sgiliau llythrennedd. Ar y cyfan gallai fe ddarllen, ond roedd ganddo duedd i neidio o flaen ei hunan wrth wneud. Hynny yw, dychmygai'r geiriau yn lle nag eu darllen -- dwedai stori o'i hunan yn lle nag yr un ar y tudalen.
Am un enghraifft yn benodol roeddwn i'n meddwl heddiw, pryd dwedais i wrtho fe: "Whoa, slow down, Stud Duck. You have to read the words that are actually written on the page."
"Yeah," meddai fe. "But those aren't as good as what's in my head."
---
(a) Gwn na ddylwn ysgrifennu cyfieithiadau llythrennol, ond ni allaf ddod o hyd idiom debyg yn Geiriadur Idiomau. Er, a dweud y gwir, rydw i'n methu â meddwl am idiom debyg yn y Saesneg hefyd.
(b) Er, rhaid dweud taw "chick magnet" oedd y trỳc hwnnw. Ni ŵn pam, ond gyda fe, gallwn i ddenu merched y roedd uwchben fy safle yn llwyr. Er enghraifft: Hon. Argyhoeddedig ydw i a gafodd fy nhrỳc effaith hudol trosti.
VOCAB
1 day ago

0 sylw:
Post a Comment