Diawl, dwi'n colli'r plot gyda'r stwff blogio 'ma, on'd dwi? Mae'r bai ar adolygu wrth gwrs. Wel, adolygu a diogi. A chwrw. Llawer o gwrw.
Efallai eich bod chi wedi clywed am yr ymgyrch gwybodaeth yfed newydd honno sy'n atgoffa pobl am unedau alcohol. Dwedir taw tair neu bedair uned bob dydd dylai fod yn derfyn yfed dyn, dwy neu dair ar gyfer menyw.
Doeddwn i ddim yn agos at hynny. Roedd cyfartalog finnau'n agosach i 9 uned (a) -- rhagor os oedd pêl-droed neu rygbi ar y teledu. Gŵn y mae yna nifer ohonoch chi a allai yfed fi o dan y bwrdd, fel petai, ond credaf y mae'n ormod am rywun i'w yfed wythnos ar ôl wythnos, diwrnod ar ôl diwrnod. Felly rydw i'n ati i geisio lleihau fy nghymeriant alcohol yr wythnos hon.
Er, ŵn i ddim pa mor hir parha'r cynllun hwn oherwydd mae pêl-droed ar deledu nos Fercher -- Lloegr yn erbyn yr Unol Daleithiau. Mae gennyf obeithion y gallai'r UDA llwyddo rhyw fath o stunning upset a anfona gefnogwyr Lloegr i mewn iselder dwys.
Ac wrth gwrs, nid oes dim byd arall i'w wneud ar ddydd gwyntog glawog megis hwn ond yfed. Mae'n hollol annheg y byddai heddiw'n gŵyl banc. Teimla'r tywydd fel y math o beth a geir yn y gaeaf -- rydw i'n ymladd fi fy hun peidio â thanio'r gwres ymlaen.
Teimlaf fy mod i'n cael fy nhwyllo rhywsut wrth gael tywydd gaeafol ym mis Mai. O leiaf nid yw fy haf wedi dechrau'n swyddogol eto. Mae gennyf ddau arholiad i'w taclo cyn gallaf ledorwedd yn ôl a dweud bod fy ail flwyddyn wedi dod i ben; daw'r arholiad diwethaf ar 6 Mehefin.
Ond eisoes rydw i'n ceisio datblygu rhyw fath o batrwm ar gyfer y misoedd nesaf. Rydw i am dreulio'r haf yn ysgrifennu. Sylweddolais heddiw y bydd yn beth anoddaf nag oeddwn i'n disgwyl i mi orffen ysgrifennu llyfr yn ystod yr haf, oherwydd collaf fy Nghymraeg mor gyflym. Nid ydw i'n cwyno neu gicio ceffyl marw (b), ond er gwaethaf byw yma tua dwy flwyddyn nid oes gennyf lu o gyfeillion sy'n siarad y Gymraeg. Cyn fuan â gorffenna'r flwyddyn academaidd, ni fydd yna gynifer o gyfleodd i mi ddefnyddio'r iaith. Caiff hynny effaith ar fy medr ysgrifennu yng nghyfrwng y Gymraeg.
Ond dyna ni. Ni allai bopeth bod yn berffaith. Rhaid pob artist dioddef rhywsut tros ei waith, gwnaf i ddioddef wrth frwydro deall fi fy hun.
(a) Mae gan botel Brains SA 2.3 uned ac yn aml iawn yfaf bedair ohonyn nhw mewn noswaith.
(b) Ymddengys taw idiom Brydeinig yw "cicio ceffyl marw," ond ei defnyddiais unwaith wrth sgwrsio â Llŷr ac awgrymodd fe na fu wedi ei chlywed o'r blaen. Felly dyma'i geirdarddiad.
VOCAB
8 hours ago

1 sylw:
'Cyn fuan' - bydde ni ddim yn defnyddio'r cyfieithiad caeth yma, defnyddia unai:
'Cyn gynted a..' neu yn yr achos uchod, efallai bydd 'Unwaith bydd..' yn fwy addas.
Felly beth mae 'cicio ceffyl marw' yn ei olygu? Mae'n newydd i mi hefyd.
Dysgais ddywediad gwych gan Sarah wythnos diwethaf. Mae "Sending someone to Coventry" yn golygu peidio siarad gyda rhywun byth eto!
Os ti'n chwilio am gyfleoedd cymdiethasu'n Gymraeg, beth am drefnu tim 'rygbi tag' cymysg (bechgyn a merched) o dy ffrinidau coleg ar gyfer gwyl Tafwyl. Dwi am drio trefnu un o fy nhyd-weithwyr newydd.
Post a Comment