"Yn achos ysgoloriaethau a anelir at brynu amser, mae’r swm a ddyfernir yn rhannol gysylltiedig â cholled incwm yn ystod cyfnod yr ysgoloriaeth, pa un a yw’r ymgeisydd yn gyflogedig ai peidio. Mae’r cais yn gofyn i chi roi amcangyfrif o’r swm hwn. Bydd angen datganiad incwm wedi ei gadarnhau arnom os bydd eich cais yn llwyddiannus. Cyfnod arferol ysgoloriaeth yw rhwng 1 a 6 mis."
Ond does gennyf swydd. Felly bydd yn anodd darparu datganiad incwm o'r hyn nad ydw i'n ennill os dwi'n ennill dim. Rydw i'n meddwl y gallwn, efallai, amcangyfrif yr hyn y byddwn i wedi ei ennill petawn i wedi cael swydd gyflog lleiafswm yn ystod yr amser fy mod i'n ysgrifennu'r llyfr. Ond ŵn i ddim ai dderbynian nhw hynny.
Mae yn Catch 22 creulon pan feddyliwch ar y peth. Dwi ddim yn gallu cael arian ar gyfer ysgrifennu oherwydd does gennyf swydd y byddai'n cipio oddi wrthyf yr amser ar gyfer ysgrifennu.
Ta beth, mae pethau'n symud ymlaen gyda'r llyfr. Rydw i wedi llwyddo ysgrifennu tipyn rhagor na 5,000 gair ymhen wythnos. Dwedir y roedd Hemingway mor feddw na fedrai ysgrifennu ond 500 gair mewn diwrnod. Felly, I'm ahead of that bastard. Wrth gwrs, roedd ein dyn Ernest yn fwy dawnus nag ydw i. A châi yntau rhagor merched.
Wrth gwrs rydw i'n fwy sane.
Baban Iesu bach. Pam does yna ddim ffycin gair Cymraeg am "sane?" Wrth chwilio, dof o hyd "call," "synhwyrol" a "rhesymol." Ond gall y geiriau hyn olygu pethau nad ydw i'n eu bwriadu. Er enghraifft, gall y gair "call" olygu "wise" yn ogystal â "sane." Ond gellir bod yn sane heb fod yn wise. Dwi ddim eisiau dweud fy mod i'n fwy "wise" nag oedd Hemingway, dim ond nad ydw i'n fucked in the head. Neu, dwi ddim mor fucked in the head ag ef.
Ta beth y gair i'w ddefnyddio, dwi ddim yn siŵr y mae yn llawer o fudd i fod yn fwy sane nag hen Ernest. Meddyliaf am hwn yn aml. A fyddwn i'n fodlon newid y bywyd sydd gennyf am un erchyll o boenus, ansefydlog, drist, hunanddinistriol, a byr os gallwn i fod yn sicr o gynhyrchu rhywbeth gwych?
A dweud y gwir?
Byddwn.
Ond fel y mae, rydw i'n neb -- wrthi'n ysgrifennu llyfr bach anghofiadwy. O leiaf rydw i'n ei ysgrifennu'n gyflymach nag byddai Ernest Hemingway.
Ac er gofynnaf o'm hunan ai fydd rhywun yn ei darllen rydw i'n ceisio i wneud stori dda o'm hanes. Pwy bynnag a ddarllena'r llyfr hwn, rydw i eisiau nhw i'w fwynhau. Mae'n broses rhwystredig o anodd weithiau oherwydd diffyg hyder yn nhermau safon fy Nghymraeg. Fel y gwelwch hwnt ac yma, gofynnaf gwestiynau am eiriau neu ymadroddion ar y blog hwn. Ond rydw i'n ceisio bod yn wyliadwrus am faint o bwys a rof i'r sgyrsiau a ddatblyga o'r cwestiynau hyn. Dwi ddim eisiau write a book by committee, fel petai.
Er enghraifft, yn y sgwrs hon mae yna drafod o'm defnyddio "ast o anhawster." Nodir taw peth Americanaidd yw defnyddio "bitch of a..." fel ymadrodd adferfol. Ni swnia'n Gymreig. Chwarae teg. I accept that. Ond dwi ddim yn Gymreig chwaith. Wrth gwrs rydw i eisiau swnio'n naturiol gyda fy iaith, ond ble mae'r ffin rhwng addasu i'r iaith a chadw personoliaeth unigol? Dwi ddim yn siŵr.

4 sylw:
Pob lwc gyda’r llyfr.
Y drafferth gyda ‘a bitch of’ wrth ei gyfeithu’n llythrennol i’r Gymraeg yw ei fod e’n gyfieithiad llythrennol o idiom yn y Saesneg.
Mae’n bwysig i greu dywediadau ac idiomau wrth ysgrifennu’n greadigol, ond dyw cyfiethu’n llythrennol o iaith arall ddim yn greadigol iawn. Mae athrawon yn annog plant yng Nghymru i ddefnyddio stoc o hen idiomau Cymraeg fel ‘mae’n bwrw hen wragedd a ffyn’, ‘andros o ffrae’ ac yn y blaen hyd at syrffed ac maen nhw’n britho ein llenyddiaeth. Paid ag ofni mentro a chreu dywediadau newydd a thwll din i’r athrawon hyn – maen nhw’n byw yn yr oes a fu. Mae’n dda o beth iti ddod a’th bersonoliaeth i mewn i’th waith ysgrifenedig.
O ran dweud ‘sane’, fe elli di ddweud ‘ yn fy iawn bwyll’, yn ei iawn bwyll etc.
Helo Chris (Chris arall sy' ma)
Jyst di ffeindio eich blog....wedi bod yn darllen am tua awr nawr!
Cadw ati da'r llyfr, pob lwc.
O ran diddordeb, ble Yng Nghaerdydd da chi'n fyw ar hyn o bryd?
Chris (adio i i MSN os da chi eisiau bach o chat, chedz_@hotmail.com)
Wrth gwrs bod angen creu idiomau newydd (i.e. bod yn greadigol gydag iaith), ond mae agwedd 'i'r diawl â'r hen idiomau' yn mynd yn rhy bell. Er mwyn bod yn wreiddiol dylid (a rhaid, hyd yn oed) cofio'r gwreiddiau.
Does dim byd yn bod â benthyg o'r Saesneg - y broblem (i'r iaith yn gyffredinol) fyddai benthyg o'r Saesneg yn unig.
Problem sydd gennym erbyn hyn yw bod pawb o Gymro yn hollol ymwybodol o gefndir Saesneg nifer o fenthyciadau. Yn yr un modd (i roi enghraifft amlwg), mae'n siw^r y byddai'r rhan fwyaf o wy^r llên Lloegr y canrifoedd a fu yn ymwybodol o darddiad Lladin benthyciadau'r cyfnodau hynny.
Mater o flas iaith, a pherthynas gwleidyddol ieithoedd...
Pob hwyl gyda'r creu.
Own i'm yn meddwl cal gwared o bob un idiom Cymraeg ond i osgoi'r rhai mwya 'hackneyed' ac ie, eu haddasu nhw a rhoi cic newydd lan eu tina.
Post a Comment