15.6.08

5,343 gair

A dweud y gwir, dwi ddim yn hapus gyda chynnydd fy llyfr erbyn hyn. Prin gallaf ddweud fy mod i'n ysgrifennu o ddifrif gyda word count fel hynny.

Fy esgus yw nad ydw i wedi cael wythnos lawn eto er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu yn unig. Pythefnos yn ôl roeddwn i'n pryderu o hyd am arholiadau, a rhoed hanner yr wythnos hon i ddathlu pen-blwydd priodas gyda'r briodferch ifanc. Naw mlynedd rydym ni'n briod.

Ŵn i ddim sut teimlaf am hynny -- naw blwyddyn. Uffach. Yn fuan iawn cyrhaeddaf y marc 10 blwyddyn ac wedyn does dim imi wneud ond treillio ar IllicitEncounters.com am dipyn ar yr ochr; yn trefnu cyfarfodydd dirgel gyda Sarra Elgan (oherwydd gwyddoch nad yw hithau'n hapus gyda hen Simon erbyn hyn -- mae eisiau arni am ddyn gyda llai o gig ar ei esgyrn).

Ond yn y cyfamser mae gennyf y llyfr hwn i'w orffen. O'r ychydig y rydw i wedi ei wneud rydw i'n weddol hapus amdano. Mwy neu lai. Mwy llai na mwy. Mor fuan â datblygaf drefn ysgrifennu go iawn (yr wythnos hon, gobeithiaf) byddaf yn hapusach. Credaf y gallaf ysgrifennu rhywbeth da, ond mae angen am addasu i mewn patrwm o feddwl yn gyson am y peth.

Gan hynny, ni ddylwn i fod yn blogio oherwydd rydw i'n newid fy null o feddwl a defnyddio fy egni creadigol ar rywbeth na thala. Yn ôl fy nhad, dwedid gan P.G. Wodehouse nad oes pwynt i ysgrifennu ac eithrio er mwyn ennill arian. Ŵn i ddim ai ydw i'n cytuno (yn amlwg nad ydw i -- mae gennyf bedwar ffycin blog), ond mae'n rhywbeth gwerth ei ystyried.

Cofnodaf ta beth. Mae gan y blog rhyw fath o werth diwerth, os gwna hynny synnwyr. Ond rydw i'n ceisio gwneud y llyfr fy mhrif flaenoriaeth. Gobeithiaf y bydd yr wythnos hon yn well.

1 sylw:

asuka said...

llongyfarchiadau ar ben-blwydd y briodas. clai a helyg yw'r anrhegion priodol ar gyfer y nawfed, mae'n ymddangos(!). cei di ddychmygu felly fod ti'n derbyn bwthyn bach, "plethwaith a chlai" dros y we.