Wel, mae Hillary wedi rhoi'r gorau i'w hymdrechion ennill enwebiad y Democratiaid ar gyfer arlywydd yr Unol Daleithiau. Credaf fod ei phrif rhwystr oedd y ffaith taw yn 2008 oedd hi'n ymgyrchu. Hynn yw, daeth gormod o'i pholisïau o'r 70au. Neu, câi rhywbeth am ei hymgyrch deimlad 70aidd i fi; er enghraifft, ymddengys nad oedd neb ar ei staff â'r hyder i gyfleu iddi fod yr undebau ar y clwt erbyn hyn.
Nawr gall Obama ganolbwyntio'n llwyr ar ymgyrch ei hun, a bydd pethau'n weddol dawel ar y blaen gwleidyddol hyd at fis Medi, pryd caiff y ddwy blaid eu cynadleddau. Ac efallai taw y cyfnod tawel hwn dylwn ei ddefnyddio i fynd yn ôl i'm polisi o geisio osgoi parablu gormod am wleidyddiaeth. Pan mae person yn sôn am wleidyddiaeth ar ei flog, mae'n mynd ar greigiau o gael ei adnabod fel blogwr gwleidyddol.
Dwi ddim yn fath blogwr hwn; does gennyf ddigon o ddiddordeb mewn pethau megis hynny, neu ddigon o ddeallusrwydd i sôn amdanynt. Mae'n well gennyf ganolbwyntio ar fronnau a chwrw.
Ac roedd y ddau i'w cael ar ddydd Gwener yn yr heulwen haf. Wel, efallai nad oedd y bronnau "i'w cael" cymaint ag "i'w gweld," ond chi'n deall fy mhwynt.
Arweinid y sioe odidog gan fy arholiad olaf yn y bore. Ar ôl yr arholiad, aeth grŵp ohonom i'r dafarn er mwyn dathlu. Cafodd fy afu a'm enaid eu arteithio, gan y cwrw a'r golwg o ferched anghyffyrddadwy mewn dillad main. Mae'n anodd fod yn ddyn briod, 32 oed, ymhlith merched ar gampws prifysgol. Teimlaf weithiau fy mod ar fin ffrwydro.
Faint o droeon a ydw i wedi darganfod fi fy hun yn cerdded heibio merch ac rydw i wrthi'n brathu trwy fy ngwefus er mwyn cadw fy hun rhag bloeddio: "You are killing me with that tight T-shirt, woman! Do you hear me?! Killing. Me. Now take it off and rub your breasts against my face."
Yhm, ar ôl ysgrifennu hynny, gwnaf i gyngwystlo na dderbynia fy ffrind fy ngwahoddiad i mi gwrdd â hi am de ar brynhawn Mercher. Rydw i'n (hanner) cellwair wrth ddweud pethau di-chwaeth fel hynny, wrth gwrs. Y pwynt yw, mae'r haf yn yma ac rydw i mewn hwyliau da.
Syndod sut gall adeg fyr wneud cymaint o wahaniaeth. Tua mis a hanner yn ôl -- ar 20 Ebrill -- ysgrifennais yn fy nyddiadur: "Beth sydd gennyf o'm profiad o symud yma? Debt, doubt, defeat, self-hate. Onid oedd pethau'n well yn ôl yn St. Paul? Gallem ni wedi prynu tŷ erbyn hyn. Byddai gennyf ffrindiau: Eric, Paul, Anthony, Dan, ac yn y blaen. Efallai byddwn i wedi ysgrifennu nofel arall y byddai wedi cael ei chyhoeddi. Byddai gennyf y freuddwyd o Gymru o hyd, ac onid yw honno'n well na'r realiti?"
Rydw i'n methu addasu i Gymru o hyd. Mae pethau YN well ers y llynedd, heb gwestiwn. Ond o hyd mae gennyf amheuon. A ddylwn i wedi gwneud hyn? A oedd dod i Gymru yn gamsyniad? A fyddaf i fyth yn teimlo fy mod i'n eiddo i'r lle 'ma? Wrth weiddi ar ferched tu mewn fy mhen, yn y bôn onid ydw i'n gweiddi am sylw, am dderbyn, am gyfeillgarwch? Gallaf deimlo weithiau fy mod yn ddrychiolaeth; nad ydw i'n perthyn yma; nad ydw i'n bodoli yma; nad ydys eisiau amdanaf yma.
Anwadalaf rhwng chwerwdod a derbyniad yn nhermau o sut teimlaf am fy mhrofiadau erbyn hyn. Mae dwy flwyddyn wedi gorffen ac ni ellir disgwyl pethau newid llawer tros yr flwyddyn olaf. Ac eto, mae dim ond dwy flwyddyn yw hi -- sut gallaf ddisgwyl i addasu yn berffaith i gymdeithas mewn ddwy flwyddyn?
Pan mae'r heulwen yn disgleirio, teimlaf yn fwy amyneddgar, fwy gobeithiol. Dyma haf. Dyma fy mywyd. Gall bethau fod yn waeth.
VOCAB
8 hours ago

2 sylw:
postiad da iawn - mwynheais i ddarllen hwn.
Gonest ... a doniol hefyd .. a dwi'n gwybod sut ti'n teimlo gyda'r holl ferched din-boeth yna - fi'n deall sut mae'n haws i'r Mwslims ddweud wrthyn nhw i wisgo'r burka! (cellwair wrth gwrs, rhag i mi bechu'r chwaeroliaeth).
Wneith hi beint neu ddwy yn Steddfod dy filltir sgwar? Ti'n nabod y lle'n well na fi erbyn hyn siwr o fod. Digon felly i ddweud dy fod yn rhan ohoni, ohonom. Mae 3 mlynedd yn ddigon i wneud i ddinas deimlo'n ddieithr os nad wyt yn ei byw a'i hanadlu.
Dwi'n gaddo na fydd o mewn gig Meic Stephens, nac unrhyw Bob Dylan-a-like arall ;-)
Yn ddiffuant, dy ffrind tywydd-teg,
Nwdls
Post a Comment