3.7.08

17,204 gair

Arafodd bethau ychydig tros yr wythnos diwethaf, ces i ddelio â bowt bach o iselder a beidiodd yr ysgrifennu am dri diwrnod. Gwaith unig yw ysgrifennu; treuliaf awr ar ôl awr ar fy mhen fy hun mewn ystafell fach (mor fach na allwn ni letemu gwely yn yr "ail ystafell wely" hon). Felly roeddwn i'n isel fy ysbryd pan ges i ganlyniadau'r gwanwyn, a gwnaethpwyd pethau'n waeth ganddyn nhw.

Rydw i'n uffach o anhapus gyda'r marc a ges i mewn cwrs Hanes yr Iaith, a theimlaf taw annheg oedd y peth. Cwynais, a'r rheswm swyddogol am y marc yw nad ydw i wedi ysgrifennu digon. Roedd safon fy iaith yn ddigonol, dangosais wybodaeth o'r pwnc, ond, yn y bôn, ni ysgrifennais ddigon.

"Dim ond dwy awr yn yr arholiad," plediais yn ddi-fudd.

Ysgrifennais trwy'r ddwy awr i gyd, ond ymddengys nad oedd yn ddigon. Nid ydw i'n fyfyriwr da oherwydd dwi ddim yn medru ysgrifennu'n gyflym. Mae hynny'n taro fi fel peth hynod o hurt. Gwelais ar hysbysfwrdd Ysgol y Gymraeg taw gradd gyntaf enillodd Huw Alun Foulkes eleni. Tybed ai ddyn deallus yw Huw yn wir? Neu a yw'n ddim ond boi sy'n gallu ysgrifennu'n eithaf ffycin cyflym? (a)

Yn sgil hynny, efallai na fyddech chi eisiau darllen y llyfr fy mod i'n gweithio arno nawr. Mae'n cymryd misoedd i'w ysgrifennu. Dwedir y cymerodd James Joyce saith blwyddyn cyn gorffen Ulysses. A nodwch nad oes gan y ffycr 'na radd Prifysgol Caerdydd.

Gallaf ddychmygu hysbyseb newydd ar gyfer y brifysgol: "Need a handwritten copy of the Bible? By tomorrow? We got that shit covered."

Ond dyna ni. Does yna lawer y gallaf wneud am y peth. Rydw i wedi pasio pob un o'm modiwlau, felly does dim i dynnu fy sylw oddi fy llyfr. Ac erbyn hyn rydw i'n dechrau meddwl am yr hyn a ddaw ar ôl prifysgol.

Dydd Gwener, teithiaf allan i Gaerfyrddin er mwyn edrych ar gampws Coleg y Drindod a siarad gyda rhywun am wneud yr MA mewn ysgrifennu creadigol a gynigir yno. Ymddengys allaf wneud prosiect yn y Gymraeg trwy'r cwrs hwn, sy'n apelio ataf. Rydw i'n ddifrif am eisiau bod yn awdur Cymraeg, er gwaethaf fy handicap o fod yn ysgrifennwr araf.

Rydw i'n edrych ymlaen. Cymysgedig yw'r darlun sydd gennyf o Gaerfyrddin. Twll o le yw hi yn ôl rhai pobl. Lle gorau yn hanes lleoedd da yw hi yn ôl rhai pobl eraill. Tybiaf taw yn y canol yw'r gwir.

Byddaf yn gyrru yno wrth wrando arnaf fy hun ar y radio. Es i mewn heddiw am sgwrs gyda Hywel a Nia am ddathliadau 4edd Gorffennaf yn yr Unol Daleithiau (sef y diwrnod pan ddathlwn ni ein annibyniaeth rhag chi fast-writing sons of bitches ym Mhrydain). Darlleda'r sgwrs ar ddydd Gwener.

Dyma oedd fy nhrydydd cyfle mynd mewn a siarad â Hywel a Nia, ac mae rhaid i mi ddweud fy mod i'n mwynhau'r peth pob tro. Mae yna rywbeth amdanyn nhw sy'n gatalytig tuag at gael sgwrs. Roeddwn i'n dweud wrth Hywel fy mod eisiau gwneud pethau nodedig yng Nghymru dim ond er mwyn cael dod mewn a siarad â fe amdanyn nhw.

(a) Cymryd y piss ydw i, wrth gwrs. Rydw i'n nabod Huw oddi'r nifer o ddarlithoedd a ges i gydag ef yn ystod y flwyddyn academaidd ddiweddar, a gallaf ddweud y mae fe yn ddyn gwybodus.

0 sylw: