Aeth y daith i Gaerfyrddin yn iawn. Dwedodd Catrin Dafydd wrthyf i unwaith (a) taw lle sydd eich taro fel tref a allai fod yn well yw Caerfyrddin, ac iawn yw hi. Does dim hollol o'i le am y dref ond cewch deimlad y mae rhywbeth ar goll; fel pe cafodd y dref ei hadeiladu gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn sy'n ysgrifennu ei draethawd olaf erioed. Wrth edrych ar Gaerfyrddin, meddyliwch: "Whoever built this place, his heart just wasn't in it."
Ond dyna ni. Rydw i wedi gweld lleoedd gwaeth. Ac erbyn hyn rydw i wedi penderfynu gwneud cais am gwrs MA ysgrifennu creadigol yng Ngholeg y Drindod. Es i allan ar ddydd Gwener i siarad â darlithydd am y cwrs ac rydw i'n meddwl y mae'n rhywbeth gwna gyfunioni â'm hamcanion. Yn enwedig oherwydd dwi ddim yn siŵr beth uffach yw fy amcanion.
Rydw i eisiau ysgrifennu. Dwi ddim eisiau newynu. Cydosoda'r ddau beth hwnnw ac mae gennych chi fy amcanion.
Coleg bach yw Coleg y Drindod. Gellir ffitio'r holl beth mewn IKEA. Ond bellach bydd yn beth da. Rydw i'n gobeithio y bydd y pellter a bychander yn bethau o fudd i'm hysgrifennu. Eisoes mae gennyf syniad ar gyfer fy ymdriniaeth -- nofel am bellter, dieithriad, ymlyniad, a gwaredigaeth. Dyna'r syniad, o leiaf. Yn nwylo anfedrus i, daw'r ffycin peth i fod yn nofel amwys yn foesol am eisiau cael rhyw â'r ferch uffach o egnïol 'na sy'n portreadu Heini ar S4C.
Dadwisgo'r dracsiwt binc oddi wrthi ac mae hi'n deigr...
Ta beth, mae'r llyfr yn dod ymlaen. Pryderaf am safon fy iaith, taw gor-Saesnegaidd bydd fy Nghymraeg. Hynny yw, mae gan yr unclean megis fy hunan duedd i gyfieithu yn llythrennol, i ysgrifennu'r Saesneg gyda geiriau Cymraeg. Roeddwn i'n meddwl am hyn y diwrnod arall ar ôl darllen cofnod Peggi ble cyfieitha "in for a penny, in for a pound" fel "yn i geiniog, yn i bunt."
A dweud y gwir, does gennyf gliw sut i gyfieithu'r dywediad hwnnw (yn rhannol oherwydd ŵn i ddim ei ystyr yn y Saesneg), ac dwi ddim yn bod yn gas tuag at Peggi. Mae'n beth a wnawn ni dysgwyr i gyd. Ac mae'n anodd peidio â gwneud.
Ffordd gorau i'w osgoi yw darllen a chymdeithasu llawer yng nghyfrwng y Gymraeg. Sydd peth anodd ei wneud y dyddiau hyn. Yn rhannol oherwydd does neb eisiau gwneud dim byd (I have some choice words for a certain someone who doesn't return my fucking texts), ac yn rhannol does gennyf amser i wneud dim byd â nhw beth bynnag. Yn sgil hynny, mae'n anodd gosod amser at ddarllen.
Teimlaf euogrwydd pan nad ydw i'n gweithio. Ond wrth weithio pryderaf fy mod i'n brifo ansawdd fy ysgrifennu gan fethu â throchi yn iaith rhywun arall na fi fy hun.
Ar gefn hyn yw'r pryderon: a fydd rhywun yn hoffi'r llyfr hwn? Rydw i'n dirdroi fy hun trosto a phryderaf na chaiff ei ddarllen ac eithrio gan bobl na ddylai wedi ei brynu yn y lle cyntaf. Mae gennyf hunllef na fyddai neb ond mam-guod yn prynu'r llyfr, dim ond i gael eu cynhyrfu gan ei gynnwys. My grandmother gives me enough shit, yo. Does angen am gecru mam-guod pobl eraill.
(a) Dyna name-dropping digywilydd, onid yw?
VOCAB
8 hours ago

6 sylw:
ti'n nabod y gwefannau 'na sy'n honni gallu cyfieithu? gall fod yn hwylus gweithio yn ôl, gan ddadwneud y "cyfieithiad" gair-wrth-air cymraeg - on'd wyt ti'n meddwl weithiau bod ni i gyd y dysgwyr yn gwneud yr un peth â nhw i raddau?
rwy'n casglu y bydd rhaid iti symud i gaerfyrddin os gwnei di'r gwrs hwn? (nid jest mynd draw am seminar unwaith yr wythnos neu rywbeth...?)
Na fyddaf. Byddai'r briodferch ifanc a fi'n aros yng Nghaerdydd dlws a byddwn i'n teithio allan i Gaerfyrddin ar y trên. Mae'n swnio'n wallgof, efallai. Ond byddai'r daith yn rhoi llawer o amser at ddarllen (sy'n rhan bwysig o'r cwrs), ac o hyd byddai'n rhatach na gwneud MA yng Nghaerdydd.
gwych - llawer gwell aros yng nghaerdydd na symud i le newydd unwaith 'to. ac mae'n debyg y gelli di drefnu pethau fel na fydd rhaid mynd yna bob dydd.
Nodyn ieithyddol
1. Cymalau Perthynol a Chymalau Isradd
Lle ceir 'that' mewn cymalau perthynol Saesneg anffurfiol ('The man that came yesterday'), rhaid osgoi hyn yn y Gymraeg - cymalau isradd ('subordinate') yw cymalau 'bod' (e.g. "Rwy'n credu fy mod i'n hapus").
Dau enghraifft o'r blog:
i) "Blogiau fy mod i'n eu darllen" h.y. cyfieithiad o 'Blogs (that) I read'. Cofiwn that 'Blogs (which) I read fyddai'n gywir mewn Saesneg ffurfiol, a gwelwn taw cymal perthynol sydd yma, yn hytrach na chymal isradd. Felly: 'Blogiau yr wy'n eu darllen' neu 'Blogiau a ddarllenaf', etc., fyddai'n gywir.
ii) "cewch deimlad y mae rhywbeth ar goll". Yma, beth am 'cewch deimlad fod rhywbeth ar goll' (h.y. cymal isradd go iawn y tro yma)?
2. Pe
Berfau amhenodol ('conditional') sydd fel arfer ar ôl 'pe'
i) "fel pe cafodd y dref ei hadeiladu" > 'fel pe cawsai'r dref...'
Diolch SZ. Mae "that" a "which" yn bethau hynod o anodd imi oherwydd mae'r rheolau Saesneg Saesnig yn wahanol o'r rheolau Saesnig Americanaidd.
Os yw cyfieithu "that" yn peri problemau (neu, yn hytrach, sylweddoli pryd y gellir defnyddio 'which', 'who(m)', etc. yn lle 'that', gellir gwahaniaethu rhwng cymalau perthynol a chymalau isradd o berspectif swyddogaeth.
Rheol hwylus yw:
1. Defnyddir cymalau isradd i fynegi barn, rhoi araith anunion, etc. (rwy'n credu bod; meddai yntau fod; wyt ti'n credu y dylai..., etc.) [yma ni ellir cyfieithu 'which, who, etc.' yn Saesneg], tra:
2. defnyddir cymalau perthynol wrth flaenu elfennau o'r frawddeg (my marn i yw'r un y dylid ei dilyn; rwy'n darllen y llyfr a ysgrifennwyd gan dy frawd) - [yma gellir mewn rhai cyweiriau o Saesneg ddefnyddio 'that' ond (yn bwysicaf) gellir hefyd gyfieithu 'which, who, etc.'].
Post a Comment