22.7.08

32,211 gair

Mwy neu lai rydw i'n hanner y ffordd trwy'r llyfr erbyn hyn. Bydd yn llyfr cymharol o fyr. Felly'r dylai fod, credaf. Byddai gormod o sôn am fy mywyd yn diflasu minnau heb sôn amdanoch chi. Rydw i'n ceisio ysgrifennu stori ddifyrrus -- rhywbeth gall rywun ei ddarllen heb wybod dim amdanaf.

Yr wythnos hon rydw i'n ysgrifennu ychydig ar fy mhrofiad Eisteddfod cyntaf. Dyma sut dechreua'r darn:

"Siom. Dyna'r gair cyntaf a ddaw i'm pen wrth feddwl am fy Eisteddfod gyntaf. Wel, y gair cyntaf nad yw'n rheg, o leiaf. Rhai geiriau eraill: creigiau, llwch, diflastod, anrhefn, embaras. Ond siom yw'r pennaf air. Roedd y siom fel dwrn i'm bol."

Dwi ddim yn siŵr pa mor onest rydw i eisiau bod am fy nheimladau tuag Eisteddfod. A dweud y gwir wrthoch chi, fy nghyfaill agos, teimlaf fath o ddicter anesboniadwy tuag Eisteddfod. Chwerwdod. Ond dwi ddim yn siŵr a fydd hynny'n parhau neu a ddylwn i fynegi'r teimladau hyn mewn peth mor sefydlog â llyfr. Os rydw i'n dweud ar fy mlog taw fucking ass yw Hwn-a-Hwn, gallaf ddod yn ôl yfory ar ôl sobri a dileu'r peth. Nid opsiwn yw hwnnw gyda llyfr.

Mae yn her. I do not excel at self-censorship.

Hefyd yr wythnos hon rydw i'n meddwl am y ffaith y bydd rhaid imi ddatblygu trefn wahanol os dof i fod yn awdur proffesiynol. Fel pethau mae, gweithiaf yn galed dros ben am tua phythefnos -- wrthi'n ysgrifennu am 14 awr yn feunyddiol -- ac wedyn cael chwalu sydyn. Neithiwr roeddwn i'n cael tipyn o teenage girl moment wrth sgwrsio â ffrind ar dext. Doedd yn bert. Mae'n embaras deffro'r bore nesaf, edrych ar ffôn a meddwl: "For fuck's sake, Cope! You giant fucking girl's blouse!"

Ond o hyd mae'n well na swydd go iawn. Pan deimlaf yn is fel canlyniad yr unigrwydd o fod ar fy mhen trwy'r dydd, meddyliaf wrthyf fy hunan: "Wel, roedd gennyt ti gyfeillion pan oeddet ti'n gweithio yn y byd newyddion." Ac wedyn cofiaf taw'r unig nodwedd achubol oedden nhw. Roeddwn i'n barod rhoi matsien i'r swyddfa pan adawais.

Caf i gyfle gymdeithasu tipyn bach yr wythnos hon. Rydw i am fynd i 'Stafell Fyw yn Buffalo Bar ar nos Iau.

Ond ar hyn o bryd rhaid cael tipyn o gwsg. Yn ôl at weithio yn y bore.

2 sylw:

asuka said...

tra bod 'na ystyriaethau ar wahân i onestrwydd wrth gwrs (fel peidio â bod yn "downer"!), heb os bydd y llyfr yn fwy diddorol os na fydd e'n gweud yr holl bethau bydd y darlennydd yn disgwyl iddo fe weud na mynegi clichés o deimladau y gallai hi/fe eu dychmygu yn barod.
wel, dyna wedwn i!

Melangell said...

Ynglŷn â'r 'Steddfod, wi'n teimlo'r un peth yn union ond diflastod yw'r gair i fi. Fel teulu mae'n well 'da ni fynd i'r Sioe Frenhinol mae'n dweud lot fwy wrthon ni am y Cymry a Chymreictod. Wi'n nabod rhai sy'n credu fod yr Eisteddfod yn snoblyd dros ben. Cymry Cymraeg a dysgwyr yn eu plith nhw.