29.7.08

38,191 gair

Tarwyd fi ddoe gan y ffaith taw amaturaidd yw cyfrif maint geiriau sydd gennyf ar brosiect. Ni welwch y math stwff hwn gan Owen Martell, er enghraifft. Mae fe'n gweithio ar lyfr arall ar hyn o bryd ond dyw e'n cyfrif ei eiriau pob 20 munud (neu, os mae yn, dyw fe'n cyhoeddi'r wybodaeth hon i'r byd).

Ond, wrth gwrs, amatur ydw i.

O hyd rydw i'n fath person a swynir gan syniad o ysgrifennu. Rhaid brwydro weithiau erbyn gwneud pethau dim ond oherwydd ymddangosan nhw fod yn "awduraidd" imi. Yfed jin ac ysmygu wrth deipio ac ati. Ar y cyfan, rydw i'n llwyddo osgoi bod yn ystrydebol ond os mae yna ferch sy'n darllen sydd eisiau cael helynt Bohemiadd â fi, rho fi wybod.

Ces i e-bost ddoe gan rywun sy'n gwneud rhaglenni teledu o'r Babell Len yn yr Eisteddfod a ofynnodd ai fodlon siarad â Mari Lövgreen ydw i. Ŵn i ddim am beth yn bendant mae hi eisiau siarad, oherwydd rydw i methu â chysylltu yn ôl erbyn hyn. Roeddwn i'n rhy brysur yn ysgrifennu ac yfed jin a chael rhyw â Keira Knightley. Fel y mae. Ond rydw i am ateb yr e-bost heno, a gwnaf fy ngorau peidio dweud rhywbeth twp, fel yr hyn a wnes i yr wythnos ddiwethaf.

Er, a dweud y gwir, does gennyf syniad am beth allwn i siarad yn nhermau llenyddol. Heblaw fy marn taw old and busted yw ôl-foderniaeth (hynny yw, mae ysgrifennu ôl-foderniaeth er mwyn ôl-foderniaeth yn old and busted), ni allaf feddwl am rywbeth doeth i'w ddweud ar gyfer rhaglen teledu. Nid llenor ydw i.

Teimlaf yn... annigonol am hynny rhywsut. Rydw i'n feddwl llawer am hyn yr wythnos hon -- nad ydw i'n chwarae rôl o berson sy'n ysgrifennu.

Ces i fy nechrau meddwl am hyn i gyd gan sgwrs a ges i ag Annie am brosiect y rydw i am wneud yn ystod yr haf nesaf â Llŷr. Erbyn hyn mae'n edrych fel y bydd Annie'n ein hymuno a'n ffilmio. Mae Annie'n ffilmwraig (sef filmmaker sy'n fenyw) go iawn. Ar hyn o bryd gweithia dros gyfres deledu big time. Dwi ddim eisiau dweud enw'r gyfres oherwydd ŵn i ddim a yw hi eisiau pobl gwybod, ond, credwch fi, mae'n gyfres y byddech chi wedi clywed amdani. A nawr mae'n meddwl am wneud y prosiect hwn, a sonia hi am ganfod cyllido, ac mae hi eisiau'r tri ohonom gwrdd yn Nulyn rhywbryd yn fuan (o, ie, Llŷr, os wyt ti'n darllen hwn, anghofiais ddweud hynny wrthyt ti) ac ati.

A dyma fi'n meddwl: "O, ffyc. Mae hwn yn beth o ddifrif."

Erbyn yr haf nesaf (os gweithia bethau fel y dylent) byddaf yn awdur cyhoeddedig, yn gwneud ymchwil ar gyfer llyfr arall a pharatoi am ysgrifennu nofel (yn ystod 2009-2010). Awdur go iawn. Wel, o fath. Anodd yw hawlio teitl awdur go iawn os ysgrifennwch yn y Gymraeg. Nodaf yn y llyfr hwn dyfod y gellwch fod yn brif weinidog Cymru ac o hyd bydd rhaid ichi giwio ar gyfer coffi yn Starbucks Bryste. Dim ots, felly, am fod yn awdur -- llwyddiannus neu ddim.

Ond gwelwch fy mhwynt. A dyma fi'n cyfrif geiriau. A ddylwn i ymddwyn yn fwy... ŵn i ddim... mwy fel yr hyn a ddisgwylir o awdur? Mwy fel fy nelwedd o'r hyn y mae awdur yn? Ond os ydw i'n cogio bod yn awdur, onid ydw i'n gwneud yr un peth â petawn i'n yfed jin? Mae'n well gennyf gael y jin.

Ta beth, mae pethau'n symud ymlaen gyda'r llyfr. Yn wreiddiol -- yn ôl ym mis Mai -- roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gorffen y peth yr wythnos hon. Ond wedyn gwnes i ddim yn ystod mis Mai, a nawr bydd o leiaf pedair wythnos rhagor cyn daw'r prosiect hwn i'w ben.

Efallai bydd yn rhagor na hynny, hyd yn oed. Er gwaethaf fy ngelyniaeth tuag Eisteddfod rydw i am fynd o leiaf unwaith, ac rydw i'n gobeithio cael cyfle mwynhau peint neu saith â ffrindiau. Neu'r rheiny sydd eisiau cogio taw ffrindiau fi ydyn nhw. Dyma eich cyfle cyfeillion -- cyn ddof i fod yn enwog a rhy gŵl cyfrif geiriau.

8 sylw:

Szczeb said...

Rhai sylwadau iaith ar baragraffau cyntaf y post hwn.

i) "dyw e'n cyfrif ei eiriau pob 20 munud"; "dyw fe'n cyhoeddi'r wybodaeth hon i'r byd": mae angen "ddim" neu "nid" mewn cymalau negyddol o'r fath; hefyd, gan bwyll wrth newid rhwng "fe" ac "ef" heb reswm.

ii)"rydw i'n fath person": tria "fi yw'r math o berson..."

iii) "erbyn gwneud pethau" cofia taw "yn erbyn" sydd yn y Gymraeg.

iv) "rydw i'n llwyddo osgoi" tria "... i osgoi"

v) "rho fi wybod" cyfieithiad uniongyrchol o 'let me know'; tria "rho wybod imi".

vi)"Ŵn i ddim": does dim angen y to - 'gwn' yw ffurf y fferf. Dilledyn yw 'gw^n'.

vii)"Fel y mae"; efallai "felly y mae (hi)" neu "fel'na y mae (hi)".

viii) ac i ddychwelyd i'r cymal perthynol: "Blogiau fy mod yn eu darllen" - mae hynny'n anghywir o hyd!

Szczeb said...

aha - newid i'r cymal perthynol!

eto, cofia taw "yr" yw'r geiryn, ac nad yw'r "r" yn rhan o'r ferf: "... yr ydw i..." neu "'rydw i..." felly!

Anonymous said...

Szczeb - cael bywyd.

Chris Cope said...

Now, now -- peidiwch â bod yn gas tuag at ei gilydd...

Szczeb said...

Dywedwn i fod dysgu'r Gymraeg yn rhan eithaf gwerthfawr o "fywyd"!

Ond gwell inni siarad am hyn yn breifat, 'Anonymous' - nid blog rhywun arall mo'r lle i ni'n dau ffraeo!

Carwyn Edwards said...

Sorri dwi cytuno efo anonymous (beth fydda anon yn Gymraeg hmmm!!)
Tydi blog ddim yn Saunders Lewis na Shakespeare! Dwi ddim disgwyl cymraeg William Morgan gan blogwyr ond pethau difyr!!!!

Chris Cope said...

Wel, Carwyn, cei dy siomi dwywaith gan y blog hwn, te: Cymraeg wan a straeon diflas.

Szczeb said...

Soniais gynt nad y fan hyn yw'r lle i minnau a'r bachan dienw drafod y mater yma, yn enwedig am nad yw Chris ar hyn o bryd am fynegi ei farn ei hunan.

Fel mae'n digwydd, Asuka, ar ei flog yntau yn gofyn y cwestiwn, ai "dysgu" iaith y mae dysgwyr, ynteu (fel mae Carwyn a 'dienw' yn awgrymu) jest yno i gael hwyl mewn ail-iaith.

Cwestiwn pwysicach, efallai (am y bydd pob un yn ateb yn wahanol), yw sut i fynegi'ch agwedd at y dysgu, a dangos a ydych chi'n croesawu sylwadau.

Diwylliant y dysg-flog, felly...

Fel mae Asuka yn dweud - efallai i'r hen Szczeb fynd "dros ben llestri" o ran hyd ei restr o gywiriadau... ond eto, roedd y post yn un eithaf hir, 'fyd! ;)

m(_ _)m

A gobeithio'ch gweld chi draw ar wefan 'Suk!