Un peth a nodaf yn y llyfr fy mod i'n gweithio arno yw tuedd yng Nghymru datgan gwreiddiau person ym mrawddeg gyntaf o'i ddisgrifiad. Hynny yw, mae yna uffach o bwyslais yng Nghymru ar o ble ydych chi'n dod. Edrych ar glawr bron unrhyw lyfr Cymraeg a mwy na thebyg dechreua disgrifiad yr awdur gyda rhywbeth fel: "Brodor Austin yw Chris."
Ŵn i ddim sut teimlaf am hyn. Er gwelaf werth o gael balchder yn eich ardal, rhaid gofyn ai berthnasol pob tro i rinwedd nofel yw ardal y person a ysgrifennodd y peth. Ni welir hyn mor aml ar gloriau nofelau Saesneg.
Peth arall y hoffwn ddianc rhagddo yw teitl "dysgwr." Petawn i'n dod i fod yn nofelydd rhagorol (annhebygol, gŵn, ond gall ddyn freuddwydio), bron yn sicr 100 y cant byddwn i'n cael fy nisgrifio fel dysgwr. Gwelwch hyn gyda phobl eraill. Caiff "dysgwr" ei ddefnyddio pan nad oes angen tynnu sylw at y ffaith.
Roeddwn i'n meddwl heddiw: Os mynna pobl ddefnyddio ffaith amherthnasol i'm diffinio, dwi ddim eisiau nhw sôn am fy mod yn ddysgwr. Diflas yw hwnnw. Dylen nhw ddatgan rhywbeth mwy diddorol: "A dyma Chris Cope -- he fucked a Turkish girl."
Dyna fath disgrifiad y rydw i ei eisiau ar glawr fy llyfr i.
VOCAB
8 hours ago

6 sylw:
A dyma Chris Cope -- he fucked a Turkish girl.
Dysgwr a ffwciodd hogan o Dwrci?
WOW! Dyna anghyffredin!
Mae Chris yn Gnychwr Twrcod,...*ngghh*..*mmngh*....sy'nwreiddioloAustinTexas.
Na, fethais i. Ma jest rhaid deud lle ti'n dod.
Falch o glywed fod y nofel yn siapio. Wyt ti am wneud dirty protest yn y Pafiliwn eleni er mwyn ceisio gwneud yn iawn am godi dy obeithion yn 2006?
Os na welai di ar y maes, welai di mewn tafarn. Hwyl chief.
rhybudd dyslexia ben bore... O'n i wir yn meddwl bo Nwdls newydd weud bod ti'n wrineiddio o Austin Texas. Ti ddim yn gweld 'nny'n aml ar glawr llyfr.
ta beth, gai ategu be wedodd Rhodri ynglyn â'r maes/tafarn. Gei di beint o ddadrithiad arna i :)
Cytuno gant y cant a thi Chris. Ma'r Cymry yn lico rhoi pobol mewn bocsys - un o fan hyn yw hwn ac i'r ysgol hon ath y llall. Y term 'dysgwr' yw'r gwaethaf un o'r cwbwl lot - ma bron fel rhybudd ymlan llaw fel y caiff pobol gyffredin y cyfle i'w hosgoi nhw fel y pla. 'Sneb yn iwso'r term 'na i ddisgrifio rhywun yn dysgu Sbaeneg neu Saesneg. Gelli di wastod lladd rhywun ac wedyn bysa pawb yn dy gyflwyno di fel 'y llofrudd' - sydd yn lot fwy diddorol :-)
Turkish girl? Ydy hynny'n wir? Beth arall nid wyt ti wedi dweud wrthon ni??
Ti'n gweld, dw i'n ffeindio ffeithiau fel 'na llawer mwy diddorol nag o ble mae person yn dod yn wreiddiol...dw i'n tueddu meddwl, os man geni yw'r unig peth i'w ddweud am awdur ar glawr y llyfr, pa mor ddiddorol gallai'r person fod? "Mae e'n dod o Austin, dyma'r peth mwyaf ddiddorol amdano." Trist... :)
Roeddwn efo llond ceg o te pan darllenais y merch o Twrci! A rwan rhaid i mi llnau y keyboard wrth i mi poeri y cwbwl allan!!!
Rhaid i ti derbyn dyma be mae y Cymry yn gwneud unrhyw le yn y byd! Dim be ydi dy swydd neu a wyt ti person da neu drwg ond o ble ti dod POB TRO a wedyn pa stryd, pa ystafell gwely yn dy ty ti dod!!!It's a Welsh thing!!!!
Dwi ofalus ateb yr cwestiwn hwn oherwydd all y sgwrs gorffen yn syth os wyt ti dweud y lle anghywir! Plwyfol! Iesu Grist Ia !!!!!
Post a Comment