Prin llwyddais gyrraedd amcan o 5,000 gair yr wythnos hon. Dyna fy bare minimum i'w ysgrifennu mewn wythnos ond mae'n her y dyddiau hyn am ryw reswm.
Efallai taw natur o'r hyn y rydw i'n ysgrifennu sy'n achosi gohirio. Tywyll yw'r 15fed bennod y llyfr hwn, ac mae'n gorfodi fi meddwl yn ôl ar adeg dywyll fy Mhrofiad Cymraeg. Un peth y rydw i wedi darganfod wrth ysgrifennu'r llyfr hwn yw bod gennyf lawer o chwerwdod a dicter tuag at y Gymraeg a phethau Cymreig. Daw nifer o'r teimladau hyn gan yr adeg honno.
Gwyddwn eisoes nad oeddwn i'n hyrwyddwr mwyaf hyzahus (a), ond doeddwn i'n ymwybodol pa mor gryf yw'r teimladau. Wrth ysgrifennu weithiau gofynnaf o'm hunan a ddylwn i ddychwelyd i Minnesota ar ôl gorffen prifysgol. Erbyn hyn mynnaf y rydw i eisiau aros yng Nghymru -- gwneud gradd uwch yng Nghaerfyrddin, ysgrifennu llyfrau yn y Gymraeg, sefydlu fy hunan yma, ac ati. Ond...
Eiddigus ydw i, felly, o Peggi a'i swyno gan Eisteddfod. Dim ond cerdded 20 munud o'm tŷ yw'r Brifwyl y flwyddyn hon ond does gennyf awydd am fynd. Pam? Beth mae'r pwynt? Ar gyfer gweld apig o ddiwylliant Cymreig megis y boi 'ma?
Roeddwn i'n meddwl am hyn i gyd y bore 'ma. Beth sydd i'w denu person at yr iaith? Pam ddylai berson ddysgu'r Gymraeg? Yn wir? Yn enwedig rydw i'n meddwl am y briodferch ifanc, sy'n ceisio penderfynu a yw hi eisiau gwneud cwrs Pellach yn yr hydref.
Gwnaeth hi gwrs Wlpan y llynedd, ac ni ellir dweud y mwynhaodd hi'r peth cant y cant. Roedd yn fwy anodd nag oedd hi'n disgwyl, roedd ganddi fil peth eraill i'w wneud yn ei swydd a chapel, ac wedyn deuai hi adref i weld minnau'n brwydro canfod lle i berthyn mewn popeth. Pam ddylai hi ddal at yr iaith pan mae'n brifo fi? Beth fyddech chi'n ei ddweud wrthi i'w hannog dal at ddysgu? Beth mae'r rheswm? A dweud y gwir, dwi ddim yn gallu meddwl am un.
(a) Gair ffug yw hwnnw; mae'n ansoddair a ddaw o'r ebychiad "Huzzah!"
VOCAB
8 hours ago

1 sylw:
'ta waeth am y profiad o wneud y cwrs (a hawdd credu ei bod yn anodd mynd i wersi ar ôl y gwaith), ydy hi'n mwynhau gallu siarad a deall rhywfaint o'r iaith erbyn hyn? byddai'n anodd iawn parhau fel arall.
Post a Comment