Rhywsut daeth ŵyl fach fod yn ŵyl tair wythnos. Wn i ddim sut ddigwyddodd hynny. Ta beth, rydw i wedi dychwelyd at waith ar y llyfr yr wythnos hon ac rydw i'n symud yn araf tuag at ddiwedd y prosiect.
Na, celwydd yw hwnnw. Rydw i'n symud yn araf tuag at gwblhau'r drafft cyntaf. Mae yna bum pennod arall i'w ysgrifennu. Ar ôl hynny daw pwy a ŵyr pa mor hir o olygu. Ac wedyn beth bynnag sy'n angenrheidiol ar gyfer cyhoeddi'r peth. Dwi erioed cyrraedd y pwynt hwnnw o'r blaen, felly bydd yn gyffrous a diddorol.
Gobeithio y bydd y cyhoeddwr eisiau'r peth o hyd. Yng nghefn fy mhen mae gennyf ofyn y byddwn yn cyflwyno'r gwaith i'm golygydd a byddai'n dweud: "Na, diolch Chris. Dwi wedi ailfeddwl y peth a does dim diddordeb. Sori. Chi wedi cwyno gormod am Eisteddfod."
Pe digwyddai hyn byddai gennyf ddau lyfr nad oes neb yn eu darllen -- un yn y Saesneg ac un yn y Gymraeg. A hefyd byddai fy nghynlluniau yn ffyced. Wn i ddim beth mae'r Gymraeg am "putting all my eggs in one basket" ond dyna beth ydw i'n ei wneud ar ryw lefel. Dim yn fwriadol ond oherwydd dyna fel y mae pethau. Pan feddyliaf am fy nyfodol, rhan bwysig yw cyhoeddi'r llyfr hwn.
Gan hynny, dwi ddim yn uffach o hapus am fynd ar wyliau tair-wythnos sydyn. Ond efallai bu yna angen amdanynt. Mae gennyf anhwylder deubegwn a all chwarae gyda'm pen weithiau ac achosi fi methu gweld fy ymddygiad. Gall fy chwerwedd tua rhai pethau berwi yn afresymol weithiau. Does angen, felly, imi ddarbwyllo'r byd taw gwastraff o amser yw Eisteddfod. Os ydych chi eisiau talu £12 i yfed coffi a ddarparir gan Brifysgol Bangor, wel dyna eich hawl chi, onid yw?
A dauwynebog yw fy meirniadaeth beth bynnag. Mae gennyf duedd i feddwl yn negyddol am y peth, ond petawn i'n ennill £10,000 oddi wrth Wobr Goffa Daniel Owen, neu beth bynnag, diau fyddwn innau'n faithful fuckin' puppy i'r Eisteddfod annwyl.
Fel mae'n digwydd, aeth y briodferch ifanc a fi i'r Brifwyl eleni ac roedd Rachel yn fodlon iawn â hi. Dwedodd y roedd yn llawer gwell nag Eisteddfod Abertawe 2006. Dyna chi. Os mae'r briodferch ifanc yn hapus, wel, does dim cymaint o awydd cwyno.
Ac nawr mae'r Democratic National Convention yn cael ei chynnal. Rydw i'n gwylio cymaint â gallaf ei ddioddef. Nad yw'n llawer. Os ydych chi'n gwylio, dwedaf wrthoch chi nad yw Americanwyr yn gwylio'r mwyafrif y pethau. Ar y cyfan, gwylian nhw'r areithiau mawr yn y nos, megis araith Michelle Obama ar nos Lun. Gan gynllun, ni fydd yr areithiau hyn yn arbennig o dda oherwydd does neb eisiau cysgodi Barack. Bydd ef yn siarad ar nos Iau.
VOCAB
1 day ago

2 sylw:
"Dwi wedi ailfeddwl y peth a does dim diddordeb. Sori. Chi wedi cwyno gormod am Eisteddfod."
ha! ie, dylet ti fod 'di holi ymlaen llaw a oedd tudalen arddull ar gael i roi gwybod beth roedd hunangofiant i'w weud - a beth roedd dy brofiadau di i fod!
Dyna'r peth wych am y Gymraeg, dyni'n jysd cael dweud 'fel mae'r sais yn dweud' cyn defnyddio'r dihareb Saesneg! Yn Saesneg wrth cwrs, dros yr oesoedd mae pobl wedi colli'r 'As the French say', oedd yn arfer cael ei dweud cyn pethau fel 'Ce'st la Vie' a 'je ne sais quoi'....
Gyda llaw Chris, dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y llyfr, pob lwc gyda'r gwaith golygu a dod o hyd i gyhoeddwyr. Dwi'n disgwyl dy weld ti'n arwyddo copiau yn Eisteddfod Y Bala... ;)
Post a Comment