2.8.08

All this Welsh shit

"Yn anffodus, dyn braidd yn academaidd oedd yn rhoi'r wers Gernyweg i mi; roedd o'n gallu dyfynnu barddoniaeth, ond ddim yn gallu deud wrtha i sut i ofyn am baned o de. Felly dwi'n dal ddim yn siŵr be'n union ydi sefyllfa'r iaith na pha mor debyg ydi hi i'r Gymraeg." -- Bethan Gwanas, Ar y Lein Eto

Arfer bod yn olygydd oeddwn i. Treuliwyd fy nyddiau wrthi'n cywiro straeon newyddion a chasáu'r gohebwyr iaithblant (a) yr ysgrifennai'r straeon. Deallaf, felly, y gall defnydd gwael o eiriau ddrysu ac andwyo neges y geiriau. Effeithir cynnwys gan gystrawen.

Mae'n anodd gweld rhinwedd dadl wleidyddol, er enghraifft, os lapir hi mewn iaith or-syml, tafodieithol, anodd ei deall. I'r gwrthwyneb, rydw i wedi darganfod, gall fod yn anodd i bobl weld hiwmor os lapir fe mewn iaith safonol (b). Lledawgrymir rhywbeth am yr hyn a ddwedir gan yr iaith a ddefnyddir.

Wrth ysgrifennu yn y Gymraeg, felly, tueddaf at iaith safonol. Neu'r hyn a ddeallaf i fod yn safonol. A gan ddefnyddio'r term "safonol" golygaf "middle of the road" -- rhywle hapus rhwng tafodiaith annioddefol a Chymraeg ffurfiol annioddefol. A dweud y gwir, does dim digon o bwyslais ar ganfod a datgan y lle hwn ymhlith cylchau Cymraeg eu hiaith, yn fy marn. Wn i ddim pam. Efallai bod yna ormod o barch am dafodiaith. Mae gan y Gymraeg wreiddiau mor gryf yn y traddodiadau gwerin nad oes gan neb hyder am ddweud wrth y person sy'n siarad "Cymraeg" annealladwy: "Hei, swni ti fel ffycin lembo pan wyt ti'n siarad y Gymraeg fel hynny"

Anffodus ydyw nad oes mwy o ymdrech i ddiffinio (a defnyddio) y canol oherwydd at hwnnw mae mwyafrif dysgwyr yn ymgeisio. Soniodd Peggi yn ddiweddar am ei diffyg hyder wrth siarad y Gymraeg, a tra digwydda bethau tebyg ym mhob iaith, endemig ydyw yn y Gymraeg.

Canlyniad yw diffyg terfyn. Pryd gallaf ddweud wrthyf fy hunan nad ydw i'n ddysgwr? Diawl â'r shit hwnnw am bawb yn dysgu trwy'u hoes. Ie, dysgaf (neu ail-gofio) bethau weithiau am y Saesneg, ond dwi ddim yn ddysgwr yr iaith honno. Petaech chi'n ceisio cywiro fy iaith ar fy mlog Saesneg, byddai'r sylw'n cael ei ddileu yn syth. Pryd gallaf deimlo yn fy nghalon y rydw i wedi cyrraedd rhuglder yn y Gymraeg? Beth mae'r safon?

Ar y cyfan, defnyddiaf Barn am y pwrpas hwnnw. Gallaf ddeall yr hyn a ysgrifennir yn Barn, a'r hyn a ysgrifennir a ddwedir gan y BBC, felly dyma fi, rydw i'n siarad y Gymraeg. Does dim ots am dafodiaith. Dwi ddim yn deall ebonics yn dda, ond onid ydw i'n siaradwr Saesneg?

Ond daw bwyslais ar, a chariad am dafodiaith, ynghyd â phresenoldeb Cymraeg ffurfiol ac achosant amheuaeth: a ydw i'n gwybod y Gymraeg o gwbl? Wrth siarad, cwestiynir pob un gair, pob un frawddeg i'r pwynt o fethu mynegi dim, methu eisiau mynegi dim.

Faint o droeon a ydw i wedi gweiddi at Gymru: "Fuck your language! God speed its demise"? Dyma ganlyniad o or-ganolbwyntio ar yr iaith, o dreulio gormod o amser wrthi'n meddwl am yr iaith -- ei chystrawen, ei gramadeg, ac ati. Tra credaf y mae yn bwysig gweithio tuag at iaith safonol a'i chynnal, credaf hefyd y gall or-feddwl ar y pethau hyn drechu'r pwynt o iaith, sef cyfathrebu.

A dyna chi fy marn am bobl sy'n cywiro fy iaith ar y blog hwn. Ar y cyfan, rydw i'n werthfawrogol. Wrth gwrs gwn nad yw fy iaith yn berffaith ac rydw i'n fodlon derbyn cyngor ar sut i'w gwella. Ond pryderaf y caiff gynnwys cofnod ei anwybyddu gan or-bwysleisio ar sut ysgrifennwyd. Er enghraifft, mae yna lawer o sylwi yn y cofnod hwn, ond does dim sylwi ar y cofnod ei hunan. Pwynt o gael sylwadau ar flog yw parhau'r sgwrs, fel petai, nid gor-ddadansoddi manylion o gyfrwng y sgwrs.

Wedi dweud hynny i gyd, mwy na thebyg ni fydd neb eisiau sylwi ar fy mlog ym mhellach: "You've made too big a deal of it now, Cope. I don't want that pressure."

-----
(a) Dyw hwnnw ddim yn air. Gwn.

(b) Er, yn fy achos i, dim ond rhan o'r broblem yw honno. Caf fy nghamddeall hefyd oherwydd Americanwr a dysgwr ydw i. Am ryw reswm (estrongasedd?), mae yna ragdybiaeth nad ydw i'n medru siarad y Gymraeg yn iawn, ac nad ydw i'n medru deall cysyniadau a drafodir yn y Gymraeg. Pan geisiaf fod yn gellweirus, felly, mae yna duedd methu gweld yr hiwmor a thybio y rydw i wedi gwneud math o gamgymeriad, neu mae yna rywbeth o'i le am fy nghymeriad.

5 sylw:

Cer i Grafu said...

Dwi ddim yn meddwl ei bod hi’n syniad da i ladd ar rywun am siarad tafodiaith - wedi’r cwbl dyna eu hiaith nhw a dŷn nhw ddim yn ei wneud e i fod yn ‘annioddefol’ neu’n ‘annealladwy’ – ac nid pawb all newid i siarad iaith safonol gywir. Mae hyn yn digwydd yng Nghymru trwy'r amser ac mae’r siaradwyr ‘na yn troi at y Saesneg wedyn a chadw at y Saesneg a meddwl nad yw eu Cymraeg yn ddigon da.

O ran ysgrifennu, mae’n bosibl dewis cywair â blas tafodieithol arno heb fynd dros ben llestri - a hwnna sydd yn dod â phersonoliaeth y person mas. Wi’n credu bod ‘na iaith safonol yn codi erbyn hyn ond bod iddi amrywiadau rhanbarthol fel y gweli di yng ngweithiau Dewi Prysor ac Caryl Lewis.

Szczeb said...

clywch, clywch.

Peggi Rodgers said...
This post has been removed by the author.
Peggi Rodgers said...

Corrected comment: Mae rhai pwyntiau diddorol, Chris. Pell o'n rhugl dw i felly dw i ddim yn gallu siarad llawer i hynny. Ond dw i'n meddwl am fy hunan fel 'siaradwr', er bod i ddim un da iawn. Ond allaf i ddim yn siarad yn rhugl (dim y byddai unrhywun gan glyw yn meddwl fel arall - haha). Dw i ddim yn gwybod yr hyn ansoddi rhuglder fel dw i wedi clywed llawer o ddiffiniadau gwahanol.

Cerebella said...

I'm sorry to be so sadly Anglo... I only know the spottiest bit of Welsh from my grandmother. Looking at this blog reminds how much I want to learn it properly (or at all!).

Anyway, here is my paltry contribution:

Bore da!