Mae yna lawer i'w feirniadu am gerddoriaeth gyfrwng Cymraeg, ond erbyn hyn rydw i wedi penderfynu na allaf ddefnyddio termau megis "da" neu "wael." Does dim modd teg o fesur rhinwedd cerddoriaeth gyfoes oherwydd mae gan bawb chwaeth amrywiol. Ond ar y cyfan, gwahanaf grwpiau mewn i ddau gategori:
1) Grwpiau sy'n perfformio imi.
2) Grwpiau sy'n perfformio i'w hunain.
Ar y cyfan, gwedda grwpiau cyfrwng Cymraeg fewn i'r ail grŵp. Os rydych chi'n mynd i weld nhw perfformio yn fyw, y peth sy'n eich taro'n syth yw bod nhw'n mwynhau eu hunain wrth wneud. A gan hynny, dydyn nhw ddim yn talu uffach o sylw ar safon y gerddoriaeth. Does dim ots ganddyn nhw os collan nhw nodyn neu dri, neu beth bynnag. Maen nhw'n cael amser gwych.
A chwarae teg iddyn nhw. Does dim llwyth o arian i'w gael wrth wneud pethau yn y Gymraeg, ac os nad ydych chi'n eu mwynhau byddai'n well ichi roi'r gorau iddyn nhw. Ond, wel, pan rydw i'n gwrando ar grŵp a ymddengys i fod yn mwynhau eu hunain i'r pwynt does dim ots ai yno neu ddim ydw i, mae'n well gennyf beidio â bod yno. Hynny yw, os rydych chi eisiau fuck about ar lwyfan, does dim ots 'da fi -- ond dwi ddim am dalu i'ch gweld.
Wedi dweud nad oes gennyf hawl bendant i feirniadu gerddoriaeth gyfoes gyfrwng Cymraeg, oes rhaid bod yna gynifer o grwpiau ska/funk/60au-aidd? Byddai person yn meddwl nad oes math arall o gerddoriaeth yng Nghymru.
I get it. You're wacky. You wear silly clothes. Now play some fucking music that isn't shit.
VOCAB
1 day ago

12 sylw:
First things first (a gobeithio gai ddim fy saethu gan adawr sylw di-enw)
"mae'n well gennyf beidio bod yno."
Iesu mawr Chris dere mlaen achan, does neb yn honni mai Bandiau Cymraeg yw'r pethau gorau yn y byd (ok, oni bai am rhai o'r bandiau eu hunain, cyflwynwyr Bandit, C2 a.y.y.b.), ac ydy mae'n llawer rhy hawdd i fand sy'n canu'n Gymraeg gael cyhoeddusrwydd am fod cynlleied ohonynt, ond dw i'n meddwl dy fod ti'n bod yn or-feiriniadol. Fe alli di ddadlau wrth gwrs mai fi (a'r gynulleidfa Gymraeg yn gyffredinol) sydd wedi dod i arfer gyda safonnau is.
Allai ddim cytuno chwaith ma dim ond bandiau funk/ska sydd yna chwaith - o'r degau o fandiau fydd ymlaen yn y steddfod, allai on dmeddwl am 2/3 sy'n dusgyn i'r categori yma.
Os nad yw bandiau Cymraeg at dy ddant, mae digon o bethau eraill ymlaen yn ystod yr wythnos nesaf. Mae lot o bethau ar Maes C (a mannau eraill) yn ymwneud â llenyddiaeth. Byddwn i wedi hoffi mynd i'r Stomp nos Wener, ond byddai'n mynd i wylio Hanner Pei......band funk o'r 90'au ;-)
Hefyd mae lot o ddramau ymalen. Gall dramau CYmraeg fod reit trwm, ond mae nosweithai dramau fer, a'r rhai cwmniau ametur (yn yr hwyr ar Theatr y Maes) yn gallu bod reit doniol....oni bai dy fod yn mynd yno gyda disgwyliadau rhy uchel!
Rhai o gigiau'r Steddfod:
Genod Droog
Derwyddon Dr Gonzo
Swci Boscawen
Cowbois Rhos Botwnnog
Radio Luxembourg
Cerys Matthews
Y Rei
Fflur Dafydd a'r Barf
MC Mabon
MC Saizmundo
Bob Delyn a'r Ebillion
Meic Stevens
Gai Toms
Gwyneth Glyn
a bron i bob un o'r rhain (os nad pob un) yn berfformwyr penigamp, 'swn i'n meddwl. A dim llawer o funk/ska, 'chwaith!
Pa rai, Chris, sy'n dy wylltio gymaint?
[dim cymorth ieithyddol gen i draw fan hyn am y tro!]
Pob tro mae rhywun yn ceisio amddiffyn cerddoriaeth gyfrwng Cymraeg gan enwi Meic Stevens, mae'r baban Iesu bach yn crio.
wrth gwrs ei fod ef - byddai caneuon gorau M.S. yn tynnu dagrau emosiwn o lygaid Duw a'r diafol ill dau! Nid yw'r Iesu ychwaith yn fyddar i gerddoriaeth dda!
a 'mond athrylith fel M.S. fyddain medru gwneud i gam-dreiglo swnio'n bert! ;)
A diolch Rhys. Gwyddwn nad oeddwn i'n ysgrifennu hynny'n gywir ond ces i mental block.
Ac mae'n werth nodi taw siarad tipyn tafod-yn-y-boch ydw i yn y cofnod hwn. O, gwae fi. Does neb yn deall pan ydw i'n bod yn gellweirus.
efallai, mai '...peidio a bod..'
Diawch sut mae disgwyl i rywun ddysgu'r iaith yma
First things first (a gobeithio gai ddim fy saethu gan adawr sylw di-enw)
"mae'n well gennyf beidio bod yno."
___________________________________
BANG, BANG - Mae angen aderyn glan i ganu - ond da gweld dy fod yn fodlon cwympo ar dy fai Rhys - roedd Chris yn hollol gywir :-)
Mae Chris fel Yank efo rhyddid i ymosod (tafod yn y boch ta peidio) i ymosod a'r pynciau taboo Cymru.
Fel safon cerddoriaeth Cymraeg, rhaglenni crap a'r S4C, Meic Stevens,Carwyn James, Ray Gravel, Jonathan Davies, diflasdod yr Eisteddfod, teisen rhiwbob Mam!!! Be arall sydd yn pwnc taboo yn Cymru ?!?!
Dal ati Chris ti gallu dweud be da ni ond gallu meddwl amdan!!
mae'n debyg bod meddwl yn gall yn daboo gyda rhai.
(teisen rhiwbob Mam oedd y gorau'n y byd, yn enwedig wythnos Steddfod!!!)
'Naf i fyth ymosod ar deisen rhiwbob Mam. Anffodus dyw hi ddim i'w chael yn Eisteddfod.
Post a Comment