8.9.08

55,975 gair

Dwi ddim yn ysgrifennu llawer ar y blogiau'r dyddiau hyn oherwydd rydw i'n ceisio defnyddio fy egni i gyd tuag at gwblhau'r llyfr chwedlonol 'ma. Mae gennyf ddwy bennod ar ôl i'w hysgrifennu, ac fel canlyniad rydw i'n ceisio arafu tipyn yn fy meddwl.

Rydw i'n ysgrifennu'r llyfr mewn trefn gronolegol, hynny yw, fel byddwch yn ei ddarllen (a) yw sut ydw i'n ysgrifennu'r peth. Mae'n gwneud synnwyr i wneud hyn, efallai -- "begin at the beginning" ac ati -- ond dwi ddim eisiau ansawdd yr ysgrifennu cael ei effeithio gan fy awydd i orffen y peth. Felly rydw i'n ceisio tawelu yn fy meddwl ychydig trwy wrthdynnu fy sylw.

Wedi dweud hynny, dwi'n disgwyl i roi'r hoelen olaf yn y drafft cyntaf (dyna drosiad od, onid yw?) erbyn diwedd yr wythnos. Yî-ha. Wedyn daw gywiro ac yn y blaen ac yn y blaen. Soniaf yn ddi-baid am y ffycin llyfr 'ma, ond y gwir yw nad oes gennyf syniad am bryd fyddai'n cael ei gyhoeddi.

Ta beth, rydw i'n teimlo'n weddol dda. Bydd gennyf wythnos (efallai) i ymlacio cyn mynd ati i ddechrau yn ôl ym mhrifysgol nes ymlaen yn y mis. Hon bydd fy mlwyddyn olaf. I'll be all grown up after that.

Uffach. Gobeithio dyw hynny ddim yn wir.

Wrth ysgrifennu'r llyfr hwn, rydw i'n datblygu syniad am lyfr arall. Deuai lawer o chwerwedd tuag at Gymru a'i hiaith i'r wyneb yn ystod y misoedd diwethaf na wyddwn y roedd ynof. Ond dwi ddim eisiau cerdded o gwmpas wrthi'n cario math o gasineb yn fy enaid. Felly rydw i eisiau dod o hyd ffordd i allfwrw'r teimladau hyn.

Ers amser rydw i'n meddwl am ysgrifennu llyfr am geisio canfod y "Gymru Go Iawn" honno a fynna bobl nad yw'n bodoli yng Nghaerdydd. Y syniad yw creu rhyw fath o lawlyfr ar sut i fod yn Gymro diffuant. Gallwn ychwanegu at y cysyniad hwn fy siwrnai o geisio ysgwyd yn rhydd o'm teimladau negyddol tuag at y wlad hon y rydw i wedi dewis i fyw ynddi.

Wn i ddim. Ni fyddai'r prosiect hwnnw'n dod am sbel. Rydw i am wneud ymchwil ar gyfer llyfr arall yn ystod yr haf nesaf, ysgrifennu nofel yn 2009-2010, ac wedyn dychwelyd i'r llyfr o'r haf cynt. Yes, I'm planning several years into the future -- I am well aware that God loves to fuck with people who try to do that. Efallai byddai'n well imi ddweud y rydw i'n dychmygu sawl blwyddyn ymlaen.

Ac wrth gwrs, rhaid delio â phopeth presennol cyn pryderu am sut i amserlennu llyfr am geisio dod i garu Cymru eto. Ond mae yn gwestiwn, onid yw? Beth fyddech chi'n awgrymu i rywun sydd wedi colli ei ffydd, fel petai? Nid fi yn benodol, ond unrhyw un. Beth ddylai fe wneud? Ble ddylai fe fynd?

(a) Gobeithio y byddech chi'n ei ddarllen. Plîs?

4 sylw:

asuka said...

rwy'n dy weld di ar gefn beic modur yn "chwilio am gymru," captain america!

Chris Cope said...

A dweud y gwir, rydw i'n hoffi'r syniad na! Yn enwedig oherwydd byddai'n haws gyrru i lawr lonydd cefn gwlad.

asuka said...

wel, 'mond hanner jocan rown i - byddwn i'n prynu'r llyfr 'na!

Melangell said...

Byddaf yn ei ddarllen a dweud wrth fy myfyrwyr Cymraeg