Rydw i wedi gwneud dyrnaid o newidiadau i'r hen flog heddiw. Ac efallai bod yna rai newidiadau llai ar ddod.
Yn gyffelyb i'm blog Saesneg mae gan y blog "newydd" tair colofn, sy'n golygu (fel nodwyd gan Weirdo) mwy o le am hysbysebu. Er, a dweud y gwir, dyw hynny ddim yn y rheswm tu ôl y newid. Does dim arian i'w gael gan hysbysebu ar wefannau Cymraeg eu hiaith.
Rhywbryd yn y dyfodol, rydw i am ddefnyddio'r lle ar y de i'm hunan-hyrwyddo, sef cynnig dolennau i bethau rydw i wedi'u hysgrifennu. Shallow? Yes, yes it is. Croeso i'm blog. Gyda thair colofn gallaf osod mwy o wybodaeth ar yr ystlys heb gael ei cholli ar waelod y tudalen.
Hefyd rydw i wedi ychwanegu Twitter, a wna bethau'n haws i chi sy'n awyddus i'm stalcio. Rydw i'n meddwl ychwanegaf, rhywbryd yn y dyfodol, ryw fath o galendr Google y byddai'n dangos beth bynnag rydw i'n gwneud a phryd. Ond does dim pwynt i'r fath beth nawr oherwydd rydw i'n gwneud dim ffycin byd.
Yn y bôn, wrth wneud y newidiadau hyn rydw i'n ceisio edrych tua'r dyfodol a datblygu rhywbeth y gallwn ei ddefnyddio fel awdur, heb angen mynd i'r drafferth (a chost) i greu gwefan go iawn, megis yr un Owen neu Catrin ac ati. Mae hunan-hyrwyddo yn elfen bwysig o fod yn awdur, medden nhw. Nid Catrin ac Owen, ond "nhw" -- y "nhw" hollbresennol sy'n dweud pob math o stwff. Peidiwch gusan ar y first date; does neb yn siarad y Gymraeg yn y de; rhaid awdur treulio uffach o amser wrthi'n hyrwyddo ei hunan.
Ymddengys nad ydw i yn yr unig un i fod yn gweithio ar ei wefan. Mae yna newidiadau mawr gerllaw i wefannau Barn a Golwg. Yn arbennig rydw i'n edrych ymlaen at weld beth yn union a ddaw gan Golwg. Rydw i eisiau gweld pa fath o wefan gall £200,000 y flwyddyn brynu.
Fel colofnydd Barn rydw i wedi cael cip bach ymlaen llaw o'r gwefan dyfod i Barn (dylai fod yn fyw rhywbryd yn ystod y mis nesaf). Ar y cyfan rydw i'n fodlon â'r peth. Bydd yn hawdd i'w ddefnyddio ac mae ganddo olwg weddol broffesiynol wrth ei gymharu â gwefannau tebyg. Hynny yw, os rydych chi'n edrych ar wefan Time neu Guardian (sef gwefannau cyhoeddiadau newyddion/digwyddiadau cyfoes), gwelwch uffach ragor o bells and whistles ond yn y bôn mae gwefan newydd Barn yn gyffelyb.
Mae hwn yn bwysig, rydw i'n meddwl, oherwydd does gan Barn £200,000 y flwyddyn ar gyfer datblygu a rheoli ei wefan. Am wn i, adeiladwyd yr holl beth gan un dyn heb lawer o brofiad mewn adeiladu gwefannau, sef Dyfrig. Y ffaith yw, yn y byd modern gellir adeiladu gwefan weddol dda heb angen gwario tomen o arian. A dweud y gwir, gall rhai pobl adeiladu gwefan weddol dda am ddim.
Yn sgil hynny, er gwaethaf sôn am ddatblygu meddalwedd newydd, does dim ffordd i berson call wario £200,000 ar adeiladu gwefan ac eithrio mewn senario Brewster's Millions-aidd yr ynddo raid gwario'r arian mor gyflym â phosib er mwyn cael rhagor. Felly, bydd rhaid yr arian hwnnw cael ei wario ar weithredu'r gwefan. Dwi ddim yn sôn am dalu'r £25 y flwyddyn am enw a £15 y mis am ddefnyddio server, ond am gynnwys y gwefan.
Am y fath arian, disgwyliaf weld cynnwys unigryw i'r gwefan -- stwff na welir yn y cylchgrawn. Faint o bobl a ydych chi'n meddwl a weithia tros wefan Daily Post Cymraeg? Byddwn i'n dyfalu un. Un wage slave sy'n cyfieithu dyrnaid o straeon ac wedyn ei throi hi am y dafarn. Petai Golwg yn cynnig gwefan sydd ganddo ddim byd rhagor nag beth bynnag sydd yn y cylchgrawn, ni fyddai yna angen am y gweithiwr Daily Post hyd yn oed. Gall berson rhan-amser wneud y gwaith. Does angen llawer o amser i cut and paste.
Fel fersiwn ar-lein o'r hyn a gaiff gan y cylchgrawn, gallwn reoli gwefan Golwg am £30,000 y flwyddyn, ac rydw i'n bod yn hael iawn i'm gweithiwr rhan-amser. Ond dwedir gan Golwg eu bod nhw'n creu "gwasanaeth gwerth llawer iawn mwy na £200,000 y flwyddyn."
Meddyliwch am hynny. Am £200,000 y flwyddyn gallwn gyflwyno gwefan gyda staff chwe pherson cyfforddus-yn-eu-cyflog. Chwe ffycin person. Roeddwn i'n arfer gweithio tros gwefan newyddion gyda staff dau berson mewn ardal 3 miliwn preswyliwr, sef mwy na phoblogaeth yr holl Gymru. Does dim ots am greu gwasanaeth gwerth mwy na £200,000, sut mae Golwg am greu gwasanaeth sy'n hanner agos i werth yr arian sydd ganddo?
Fel dwedais, rydw i'n edrych ymlaen. This shit better be the Beijing Olympics of websites, yo.
Hyd yma, dwi ddim yn optimistaidd. Wrth ddarllen blog Golwg, gwelaf lawer o stwff sy'n gyfarwydd o'm dyddiau gweithio yn y rhyngrwyd. Stwff nad ydw i'n siŵr amdano. Er enghraifft, dweda Golwg eu bod nhw eisiau datblygu gwefan sy'n "fel Maes yr Eisteddfod. Ein gwasanaeth newyddion a materion cyfoes ni fydd y Pafiliwn yn y canol ond mi fydd yna bob math o bethau eraill yn gallu digwydd o’i gwmpas."
Wrth gwrs, gwyddom sut teimlaf am Eisteddfod. Ond swnia hwn fel yr hen syniad o'r "catch-all website," neu'r "web portal," sef gwefan sy'n ychydig o bopeth i bawb. Ond wrth gwrs, os rydych chi'n ceisio gwneud hyn rydych chi'n methu'n llwyr i ddeall y rhyngrwyd. Does angen am wefannau "catch-all" oherwydd mae popeth ar gael trwy'r rhyngrwyd. Users create their own interface. Hynny yw, a la carte yw'r pethau mwyaf llwyddiannus ar y we. Wrth geisio creu rhyw fath o sefyllfa rhywbeth-i-bawb rydych chi'n methu sylweddoli deallusrwydd o'ch defnyddwyr. Mae'r syniad o'r "web portal" wedi mynd â'r 90au.
Ond, chwarae teg, does gennyf syniad am beth mae Golwg yn sôn gyda'r stwff cylchgrawn-fel-Eisteddfod hwn (gobeithio na ddisgwylir ganddynt inni dalu £12 am weld y ffycin peth). Efallai bydd yn wych. Wn i ddim. Yr hyn nad ydw i eisiau gweld yw sgâm arall. Efallai na fu amcan Y Byd yn bod yn sgâm, ond bu. Heb gwestiwn, bu. Os rydych chi'n pledio am arian am fwy na phum mlynedd a chwarae ar deimladau cenedlaetholdeb pawb er mwyn cyrraedd eu waled, dim ond i gynhyrchu dim o gwbl, mae hwnnw'n sgâm. Does gair arall.
Nawr mae'r arian mewn dwylo Golwg ac rydw i'n nerfus (a yw hwn y gair gorau i'w ddefnyddio, tybed?) am yr hyn a welaf oddi wrthynt. Enghraifft arall (er, bach) yw'r enw newydd, sef "Golwg Newydd."
Beth fydd synnwyr yr enw hwnnw ymhen blwyddyn, pan nad yw Golwg Newydd yn newydd ym mhellach?
Ond efallai bydd yn enw newydd dros dro. Ar hyn o bryd mae Golwg yn defnyddio ychydig o'i £200,000 i ofyn am help i ganfod enw'r peth. Maen nhw'n fodlon rhoi £100 i rywun sy'n gallu meddwl am enw da. Rydw i wedi awgrymu rhai enwau -- bid siŵr gellwch feddwl am rywbeth gwell.

3 sylw:
Dwi'n credu dy fod ti'n bod chydig yn afrealistig os ti'n meddwl y galli di setio fyny unrhyw fath o wasanaeth newyddion sy'n honni i fod yn ddyddiol (wel, lled-ddyddiol yn yr achos yma, dydyn nhw ddim yn ceisio bod yn 'bapur' dyddiol). Mae hwn yn mynd i fynd a Golwg o fod yn gylchgrawn syd yn methu wir ag adrodd 'newyddion' am ei fodyn wythnosol, i fod a'r gallu i dorri straeon a gwneud math gwahanol iawn o newyddiaduraeth. Wrth gwrs bydd angen iddyn nhw gynyddu yr ochr arall o'u darpariaeth hefyd sef features, cholofnau, adolygiadau ayyb, felly buan iawn ti'n sôn am gyflog sawl person gwahanol heb sôn am gost person technegol i gadw'r peth yn ship shape ac yn datblygu.
Mae gen ti hefyd y broblem o ran newyddiaduraeth yng NGhymrum, fod y pool newyddiadurwyr i gyd yn cael eu denu at y cyfryngau clyweledol syd â chyflogau llawer uwch na print. Does dim yr un cystadleuaeth am swyddi, fel sydd yn y wasg brint Saesneg, felly wnaiff pobol ddim mynd i weithio i wefan newyddion am gyflog isel, fel y gwnawn nhw i rywun fel y Western Mail. Achos gallan nhw jest mynd nôl i weithio i cash cow y BBC.
Felly, gosod dy obeithion yn uchel, fel y dylai unrhywun, ond paid trio cymharu gyda system newyddiadurateh print nac ar-lein mewn iaith arall, pan fo'r sefyllfa yma'n un unigryw oherwydd ffactorau iaith.
Hefyd, rhaid i ti dderbyn fod angen sybsidi ar iaith sydd dan anfantais, a bod y symiau sy'n cael eu trafod yn mynd i edrych yn overinflated o'u cymharu ag enghreifftiau eraill sydd yn gweithredu yn y farchnad rydd. Ni all papur na chynnyrch Cymraeg fel hyn weithredu yn y farchnad rydd. Mae darpariaeth wantan y Daily Post Cymraeg (sydd wedi torri ar eu darpariaeth Gymraeg wreiddiol wrth leihau'r Herald Cymraeg ar un llaw a chyfieithu erthyglau ar y llaw arall) yn brawf o hyn. Trist, ond gwir. Iesu, ma S4C yn cael £100 miliwn y flwyddyn, a dydi hynny ddim yn gynnwys eu gwasanaeth newyddion sy'n dod gan y BBC. Ma £200,000 yn biso dryw bach yn y môr o'i gymharu.
Dwi'n licio'r patrymlun nwydd 3 colofn - ydy o'n un rhag-osodedig gan Blogger neu 3ydd parti. Mae'r ffont yn neisiach, ond tydy ddim yn hawdd gweld dolenni.
Mae gwefan newydd Golwg yn edrych fel ei fod wedi ei greu drwy WordPress (sydd ddim yn syniad ffol), ond mae nhw wedi anghofio rhoi dolen at bwybynnag ddyluniodd y patrymlun os mai un WordPress sydd wedi ei wendu o + tydy o ddiim yn edrych yn batrymlun addas i wefan cyhoedid newyddion - gormod o ofod gwyn - gobeithio mai nid arwydd o beth sydd i ddod!
Dw i'n gwybiod ti ddi yn or-hoff o gywuiriadau, ond 'gwario' arian, mae rhywun a 'threulio' amser - er mae treulio hefyd yn golygu 'to consume' (ond efallia wedi ei sillafu'n wahanol).
Diolch Rhys. Dylwn wybod hynny. Mae gennyf duedd i anghofio pethau syml pan ydw i'n "rantio."
Ac newidaf liw y dolenni.
Post a Comment