8.9.08

Swing and a miss

Rydw i'n gweld y mae gan Fws Caerdydd wefan newydd, haws i'w ddefnyddio. Ond rydw i'n gweld hefyd nad oes yna Gymraeg i'w weld ar y peth.

Ychwanegiad: Am y tro cyntaf erioed rydw i wedi ysgrifennu at rywun i gwyno am ddiffyg y Gymraeg. Wn i ddim beth sy'n digwydd imi -- I'm becoming one of those insufferable Welsh types. Ta beth, os ydych chi am ysgrifennu atynt hefyd, bod yn barchus os gwelwch yn dda. A dweud y gwir, yn fy mhrofiadau i, o leiaf, mae Bws Caerdydd wedi dangos parch tuag at yr iaith yn y gorffennol. Rydw i'n gobeithio taw anghysondeb yw hwn ac y mae'r fersiwn Cymraeg ar y ffordd.

Ychwanegiad i'r ychwanegiad: Clywais yn ôl yn syth gan Fws Caerdydd. Dwedodd nhw: "...from what I understand, (the site) will be improved in various aspects as time progresses. As for the Welsh language aspect of the website -– this is on the agenda as the web site develops, just not sure how long away we are on this."

2 sylw:

Rhys Wynne said...

O'r diwedd, roedd yr hen un yn uffernol (ac yn crasio pob tro gyda fy mhorwr Firefox yn y tŷ). Mae'n edrych reit neis ac ydy' yn llawer haws ei ddefnyddio. Pitio does dim RSS ar gyfer newyddion.

O ia, y Gymraeg - e-bost ar y ffordd iddynt. Tydy o ddim fel petai yna lawer o destun ar y wefan beth bynnag.

Chris Cope said...

Ydy mae yn hen amser. Ces i'r un problemau wrth geisio chwilio am amserlenni.

Yn arfer dwi ddim y math o berson i gwyno am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg (er, wn i ddim pam), ond rydw i wedi bod mor falch o Fws Caerdydd yn y gorffennol wrth eu cymharu â gwasanaeth bws Dulyn, efallai gwnaf innau anfon e-bost iddynt hefyd.