18.10.08

Llên micro: Sara Michelle Scores Another Emotional Victory

Coda fe bore 'fory a bwyteir yr un brecwast a fwyteir pob dydd ers blynyddoedd yn ôl. Tost, te, marmalêd. Brecwast o bencampwyr. Brecwast o freuddwydwyr. Yn y ddinas oer o lenorion a Phabyddion prynai ei de annwyl gan y Gwyddelod ffug ac honnai wrtho ei hunan taw dilys oedd ef. Neu, byddai. Eisteddai wrth ei fwrdd cegin yn gwrando ar yr offeiriaid yn canu; gwyliai'r eira'n disgyn yn feddal; chwarddai; dawnsiai; a rhywsut llwyddai i ddarbwyllo ei hunan taw gwell nag yna byddai yma. Meithrinai’r freuddwyd, y ddelfryd.

Daw'r trên i'w gludo lawr i'r hen ddinas. Rhugla'r gwresogydd wrth ei draed a deimla heddwch a thristwch. Neu, heddwch â thristwch. Daw'r cyfarch cynnes, y gwenau gwyn, y llygaid gloywon. Ac ymatebir hyn ganddo â gwên nerfus, mwmian, a llygadrythu ar y llawr. Gwinga fe yn erbyn ei fywyd caeth na all ei ddianc. Pob diwrnod yn berfformiad na all ei feistroli. Eistedda'n dawel a llonydd, a cheisia beidio... bod.

Daw'r trên i'w gludo yn ôl adref. Bygythia'r unigrwydd i'w ladd, teimla'r tristwch yn ei orlethu. Fel cic i'r frest, fel plymio oddi ar adeilad. Yn ei feddwl aiff drwy bob un wên, pob un cyfarchiad, pob un arlliw, pob un eiliad, a'u dadansoddi dros ben. Dylai fe wedi dweud hwn. Neu, ni ddylai fe wedi dweud hwnnw. Yn ei gegin, wrth yfed ei de, caiff sgyrsiau dychmygol â nhw. Chwarddan nhw ar ei ffraethineb; swynir nhw ganddo, a byddant wrth eu boddau yn ei gwmni.

Dychwela yfory. Ac yfory ac yfory "creeps in this petty place from day to day, to the last syllable of recorded time; and all our yesterdays have lighted fools the way to dusty death." Gwena. Mwmia. Llygadrytha ar y llawr. Ond yn ddigon buan daw bopeth i'w ben. Ac anghofian nhw amdano ymhen mis. Neu, llai.

0 sylw: