17.10.08

Pedair oed

Pen-blwydd y blog bu dydd Gwener. Pedair blynedd yn ôl, es i ati i geisio cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhyw oes yn hwyrach (neu fel hyn teimla bethau ambell waith), dyma fi ar fin cyhoeddi fy llyfr cyntaf (os gellir dweud taw mis Ebrill/Mai yw "ar fin cyhoeddi") ac yn dechrau gwaith ar fy ail (a).

Mae'r blog wedi mynd trwy sawl newid yn ei fywyd byr -- golygon ac enwau gwahanol -- ond yr un blog ydyw. Peth bach yng nghornel anhysbys y rhyngrwyd enfawr gyda dyrniad o ddarllenwyr ydyw.

O hyd mae gan y Cymry rhyw fath o annhuedd tuag at y we. Neu, efallai byddai'n fwy cywir i ddweud bod ganddynt annhuedd tuag ataf i. Yn gyffredinol daw ryw 25 person pob dydd, gyda chanran ohonynt yn bobl sydd wedi cam-gyrraedd yma wrth wneud chwiliad Google am fronnau glaslancesi neu beth bynnag. Ysgrifennwch eiriau megis "hot asian teens take it from mature Western gentlemen" ar eich blog dim ond unwaith a chanfyddir eich gwefan gan bob ffyctard (b) yn y byd.

Y peth sydd wedi newid y mwyaf tros y blynyddoedd yw fy agwedd tuag at y blog. Cychwynnwyd y gwefan gydag amcan o gysylltu â lle nad oeddwn i'n byw ynddo. Erbyn hyn, rydw i'n byw yng Nghymru ac, mewn ffordd, rydw i'n fwy unig.

Unwaith, yn yr haf diwethaf, cerddais i'r lan y Garth, mynydd (c) yng ngogledd Caerdydd, a gweiddais nerth fy ysgyfaint enw fy nghyfaill, Fflur, sy'n byw yn Ffynnon Taf, ar ei waelod. Gwnes i hyn er mwyn gweld a allai hi glywed fi. Fy mlog yw fersiwn technolegol o'r weithred honno. Dibwynt, aneffeithiol, yn ofer -- rydw i'n siarad â neb a phawb ar unwaith.

-----
(a) Wrth gwrs rydw i'm mynychu prifysgol ar hyn o bryd, felly does gennyf uffach o amser ar ei gyfer. Ni fyddwn i'n disgwyl cwblhau'r peth hyd at rywbryd yn ystod yr haf nesaf. Mwy na thebyg ni chyhoeddaf gofnodion am y diweddaraf ar gynnydd a maint eiriau ac yn y blaen, fel gwnes i wrth ysgrifennu Cwrw Am Ddim.

(b) Un o'm hoff eiriau ar hyn o bryd yw "fucktard." Ac, a bod yn onest, wrth ei ddweud, mae ganddo ryw sŵn Cymraeg iddo, rydw i'n meddwl.

(c) Wel, marilyn yw fe yn swyddogol.

3 sylw:

Linda said...

Dal i ddilyn dy hanes Chris !
Penblwydd Hapus i'r blog :)

Emma Reese said...

Llongyfarchiadau. Ti wedi gwneud yn dda.

EW said...

Penblwydd Hapus i'r blog, a dda iawn ti Chris. Ddim yn dallt 'na 'mond ers 2000 ti di bod yn ddysgu 'iaith y nefoedd'! Mae dy Cymraeg yn gwell na llawer o pobl iaith-cyntaf dwi'n ei nabod!

Dal ati plis.

EW