19.11.08

Ble mae'r de?

Mae Guardian wedi creu map sy'n dangos lle gellir canfod aelodau'r BNP ym Mhrydain. Daw hwn yn sgil cyhoeddiad ar-lein o enwau'r 13,500 aelod y blaid.

Rydw i'n nodi'n llawen nad oes llawer ohonynt i'w gweld yng Nghaerdydd annwyl, yn ôl y map. Ond beth sy'n bod ar Abertawe? Yr ardal gyda'r aelodau mwyaf yw hi.

Mae'n rheswm arall am beidio mynd yno, tybiaf. (a)
-----

(a) Pobl Abertawe, jôc yw honno. Paid â digio.

3 sylw:

Dafydd said...

Mae'r niferoedd mor fach mae'n amhosib gwneud llawer o synnwyr o'r ystadegau. Ond os ydych chi'n cymharu y niferoedd o aelodau gyda poblogaeth yr ardal, mae yna rhyw batrwm syml, sef fod fwy o aelodau yn yr ardaloedd gwledig y tu allan i'r prif ganolfannau poblogaeth.

Mae yna dau neu dri aelod lawr y ffordd yn Llandaf ond pa mor ddibynadwy yw'r rhestr?

Nwdls said...

Mae hwnna'n edrych yn wahanol iawn i'r 'heat map' sydd raw fan hyn: http://spod.cx/bnp_members_list.shtml

Simon Dyda said...

Dw'i'n amheus iawn am y rhestr. Does modd gwybod faint o bobl arni sydd yn aelodau go iawn ac mae 'na bosibilrwydd mai stynt gan y BNP ydy.