12.11.08

Didaro

You're Blasé - Phil Harris

Treuliais y bore yn y gwely wrthi'n llygadrythu ar y nenfwd. Rydw i'n hoffi'r gair "nenfwd." Mae'n swnio fel lle yn hytrach na pheth: "Os ydych chi'n bihafio, bachgen, awn ni i'r Nenfwd ar ôl ymweld â'r meddyg."

Es i ddim i unlle. Dim ond gorweddian yn y gwely a theimlo'r tristwch llethol hwn sydd wedi gafael arnaf yn ddiweddar. Yn sydyn, heb reswm neu gynhyrfiad teimlaf lawer o'r un pethau y roeddwn eu teimlo yn fy mlwyddyn gyntaf: Rydw i ar goll yn fy meddyliau, mae gennyf hiraeth am bethau amwys, a phrin ydw i eisiau siarad y Gymraeg.

Yn sgil y pethau hyn, dwi ddim yn talu llawer o sylw ar yr hyn sy'n digwydd o'm cwmpas. Megis prifysgol. Rydw i wedi cyrraedd diwedd seithfed wythnos y tymor, ond mewn ystyr meddyliol dwi ddim wedi dechrau hyd yn oed. Af i ddarlithoedd a chlywed y geiriau yn chwyldroi o gwmpas fy mhen ond peidio eu clywed. Yr unig beth allaf ganolbwyntio arno yw fy awydd mynd adref.

Dwi ddim yn siŵr beth i'w wneud am hyn. Sut i danio fy hunan, i danio fy nychymyg? Y ffaith yw nad ydw i eisiau bod yma ar hyn o bryd. Wn i ddim ble ydw i eisiau bod -- nid yma.

2 sylw:

neil wyn said...

Gobeithio caiff 'y tân' ei ail-danio cyn bo hir! Dwn i ddim os dwi ar y trywydd iawn, ond mae'r dyddiau byr a'r tywydd llaith ac oer yn gallu effeithiau pobl amser yma'r flwyddyn. Mae fy ngwraig yn dioddef yn fwy 'na lawer, ond diolch byth mae popeth yn mynd mewn cylchoedd...

Simon Dyda said...

Full moon blues?