Thursday, 31 January 2008

Y rheswm af i 'Stafell Fyw

Chwaraea Mike Huckabee y bas. Dyma ddigon o reswm -- ar ei ben ei hun -- na wna Huckleberry ennill cefnogaeth ei blaid. Does neb yn hoffi chwaraewr bas. Mae pawb yn gwybod hynny. Bass players never get laid. Yn yr holl hanes cerddoriaeth, gallaf feddwl am ddim ond un chwaraewr bas hoffus, sef Phil Lynott blaen canwr Thin Lizzy.

"The Ace with the Bass" yw'r llysenw y cerflun ohono ar Harry Street yn Nulyn.

Ar gyfer rhywun na phiau un CD Thin Lizzy, ymddengys y gŵn i lawer amdanyn nhw. Ta beth, rydw i'n meddwl am hen Phil heno oherwydd deuthum o hyd fersiwn arbennig o hir o'i gân "Still in Love With You" a berfformiwyd tros y BBC cyn gadawodd Phil y grŵp (a). Un o'm hoff ganeuon yw honno, cyfaddef â chywilydd. Mae'r fersiwn hwn yn 9:10 munud hir. Ahhh, yr hen ddyddiau o ormodedd 70aidd, pan fyddai grŵp chwarae a chwarae a chwarae a chwarae.

Rhywle, mae gennyf fersiwn 16 munud o "Freebird" gan Lynyrd Skynyrd. Beth ddigwyddai i grwpiau fel y rhain? Beth wedi digwydd i'r hen ddyddiau o fynd i gyngerdd a gwrando ar gân, ac, ar ôl sbel, troi i ffrind a dweud: "Dude. Are we still listening to the same song?"

Rydw i'n meddwl rhywbeth megis hwn pan af i wrando ar grwpiau Cymraeg. Nid ydw i wedi clywed grŵp sy'n hapus i eistedd yno ar y llwyfan a jyst chwarae. Gellir teimlad eu bod nhw wedi diflasu o'u sŵn eu hunain. A ydych chi'n cofio pan oeddech chi'n blentyn ac oedd rhaid ichi fynd i siopa gyda'ch mam? A dyna ydych chi, gyda'ch mam yn dal ar eich llaw ac mae'n ceisio tynnu chi lan i sefyll. Ond ydych chi'n mynd yn llac a rholio'ch llygaid yn ôl yn eich pen fel canlyniad o'ch diflastod. Fel hynny gwna rhai grwpiau chwarae.

Wedi dweud hyn, yn sydyn gallaf glywed llais Fflur: "Ti'n mor hen, Chris." Ie, efallai. Mwy na thebyg, yr ymateb yw nad ydw i wedi gweld digon o grwpiau erbyn hyn.

(a) Er mwyn fy nghyd-fyfyrwyr ar fy nghwrs, doeddwn i ddim yno. Weithiau cyfeiriaf at hen bethau a gofynna pobl ai oeddwn i yno. No, for fuck's sake.

Wednesday, 30 January 2008

Not that I agree, but...

Rydw i newydd dod o hyd y dyfyniad hwn wrth weithio ar draethawd ar gyfer yr wythnos nesaf. Yn ôl The Renaissance and Welsh Literature, datganwyd y triad hwn yn 1572: "Three things are best when furthest away: mad dogs, the curse of God, and an Englishman."

Monday, 28 January 2008

Yr imperialydd olaf

Yn Llundain oeddwn i tros y penwythnos. Neu dylwn i ddweud "Yn Llundain bûm"? Oherwydd pan soniaf am y penwythnos, rydw i'n sôn am adeg benodol, onid ydw i? Gramadeg Cymraeg: more fun than a kick in crotch, but only just.

Beth bynnag, euthum i Lundain er mwyn ymweld â hen ffrind o Minnesota, Jen. Os cofiaf yn iawn, dwedais wrth Fflur fod Jen yn gyn-gariad. Mae hyn yn ymestyniad o'r gwirionedd.

"I've got a girl in every port," meddwn i.

OK, roeddwn i'n gwneud mwy nag ymestyn y gwirionedd. Mae gennyf duedd i wneud hyn pan deimlaf yn is mewn presenoldeb person. Teimlaf fel mae yna angen arnaf gyfiawnhau mi fy hunan rhywsut. Petawn i geisio awgrymu fy mod yn ddeallus, byddai Fflur weld trwy hynny yn syth. Yn ei le, soniaf am the womens I got. Felly dyna oeddwn i'n ceisio big myself up trwy awgrymu bod merch a âi i swper gyda mi ychydig droeon yn gyn-gariad.

Jen Rodvold and meBeth bynnag mae hi, euthum i'w ymweld. Dyma lun i brofi'r peth. Tynnais y llun hwn gyda'm llaw chwith pan euthum i Greenwich ar brynhawn Sadwrn. Esboniais ar fy nghofnodolyn Saesneg y roeddwn i yno chwilio am Primrose Hill, lle cynhaliodd Iolo Morgannwg yr Orsedd gyntaf. Ond wrth gwrs, nid yw Primrose Hill yn agos i Greenwich o gwbl. Wel, mwy agos na Chymru, ond chi'n deall fy mhwynt. Gŵn i fuck all am ddaearyddiaeth Llundain.

Ond, fel dwedais ar fy nghofnodlyn Saesneg, cawsom ni hwyl beth bynnag. Ni ŵyr Jen ddim byd am Lundain chwaith, felly roeddwn i'n gweini fel arweinydd taith iddi hi. Roedd y tywydd yn berffaith ac ar ben y bryn hwnnw, teimlais gysylltiad i yma. Nid ydw i'n siŵr am beth rydw i'n meddwl pan ddefnyddiaf y gair hwnnw: "yma." Beth yw ystyr o "yma" pan deimlaf gysylltiad (bach) i Gymru, Llundain ac Iwerddon ar unwaith?

Yr ail dro i hyn digwydd bu hwn. Efallai bod y teimladau o estroniaeth yn dechrau treulio tipyn bach. Ac maent yn cael eu disodli gan imperialaeth, ymddengys. Hmm...

Tuesday, 22 January 2008

Ond sut aeth dy ddydd di?

Dyma brofiad ar gyfer y bobl sy'n hoffi casáu Caerdydd: Heddiw, cefais fy mygwth gan fenyw gyda chledd a bwyell. Na, wir. Ysgrifennais am y peth ar fy nghofnodolyn Saesneg.

Rydw i'n ymddiheuro am fethu â ffonio'r newyddion BBC pan oedd hyn yn digwydd dim ond hanner milltir o'u pencadlys. Ni feddyliais i wneud hynny hyd at ar ôl y peth wedi digwydd.

Monday, 21 January 2008

Y cofnod ynddo a ddynwaredaf rywun sy'n give a fuck am rywbeth mwy na chwrw a bronnau (peidiwch â phoeni, dwi ddim)

"Prif gryfderau Barn yw:
- ei hunaniaeth glir o fewn y farchnad newyddiadurol Gymraeg, fel yr unig fisolyn sy’n trafod materion cyfoes a diwylliannol.
- safon uchel ei gyfranwyr."

Fuck yeah, bitches! Safon uchel ei gyfranwyr. Amdanaf i mae'r arolwg hwnnw'n sôn. Mae Barn yn y cylchgrawn gorau erioed, wrth gwrs. Un rheswm am hynny yw'r ffaith ei fod yn bodoli.

Rydw i'n siŵr y clywsoch chi'r newyddion yr wythnos diwethaf am y gwaith ofer hwnnw a alwir Y Byd. Yn y cyfanswm, dwedodd arolwg ar ran Llywodraeth y Cynulliad taw tra-optimistaidd yw gobeithion Y Byd. Ac mae hyn yn digwydd mewn awyrgylch ble "nid yw’n amser ffafriol, ac nid yw Cymru’n lle ffafriol, ar gyfer lansio papur newydd mewn unrhyw iaith."

Wrth ddarllen yr arolwg, synhwyrais i oddi wrtho'r un peth a deimlaf am Y Byd: mae'n syniad da, ond nid oes ganddo gyfle o lwyddo.

Fel pethau mae, nid oes ganddo gyfle o ddechrau hyd yn oed. A dyna'r peth sy'n cythruddo mi. Mae'n amlwg imi na fydd y balŵn plwm hwn yn mynd unrhyw le, a theimlaf ei fod yn sarhad i'r ewyllys da siaradwyr Cymraeg i barhau gydag addewidion gwag o'i ddod. Erbyn hyn, rydw i'n teimlo fel aelod praidd William Miller ym mis Tachwedd 1844: "Hang on, boys. I think we've been duped."

Petawn i wedi rhoi arian i Y Byd ar gyfer tanysgrifiad byddwn i'n gynddeiriog erbyn hyn ac yn ffonio nhw bob dydd er mwyn mynnu cael fy arian yn ôl.

Wedi dweud hyn, mae yn sefyllfa drist. Dwedwyd bod yna angen am y wasg ar gyfer democratiaeth i weithio -- rhaid y werin bod yn wybodus i gydgyfranogi'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas. Ac eithrio'r BBC, mae gan Gymru fuck all yn nhermau o newyddion am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru (sori, Western Mail, nid yw straeon am Gavin Henson a chavs sy'n tanio biniau sbwriel yn newyddion). Rydw i'n siŵr bod yna awydd gan rai pobl rhoi'r bai ar Loegr am hynny, ond nid yw pethau mor syml. Mae gan sawl ardal ar led y byd yr un fath o broblemau. Beth bynnag y rheswm, mae'r wasg a'r werin wedi colli cysylltiad gyda'i gilydd.

Ac yn yr awyrgylch hwn o anniddordeb, rhaid gofyn a oes pwynt i barhau gyda datganoli. Y ddadl o blaid llywodraeth Cymru yw amddiffyn rhag gormes yr allanolwr. Hynny yw, i fod yn siŵr nad yw'r llais y Cymry'n cael ei foddi gan leisiau eraill o leoedd eraill. Ond os nid oes gan y Cymry ddiddordeb mewn defnyddio eu llais, mae gennych ormes yr elit.

Saturday, 19 January 2008

Cysylltiadau

Mae gan fywyd pob math o adegau bach sy'n gwau gyda'i gilydd ein safbwynt ar y byd. Teimlaf weithiau fel nad ydw i'n fwy na chasgliad enfawr o gyfeiriadau i adegau eraill. Mae hon yn cysylltu â hwn, a hwn â honno, ac yn y blaen. Cymer Fflur y piss ohonof oherwydd tuedd mi i wneud hyn, megis y tro rhois Welsh cake mewn poced fy nghot ac meddwn i: "Dwi'n fel Leopold Bloom -- rhoi foodstuffs yn fy mhocedi."

Yn Ulysses, gan James Joyce, rhydd Leopold Bloom elwlen porc yn ei boced ("His hand accepted the moist tender gland and slid it into a sidepocket." [60:6-7]) ac mae hyn yn atgoffa mi o chwedl Prometheus. Rhodd Prometheus dân i ddynolryw a chosbwyd fe gan Zeus fel canlyniad. Cadwynwyd Prometheus i fynydd, a phob dydd, byddai fwltur fwyta ei afu (bu'n dduw, cofiwch, felly tyfai'r afu yn ôl bob bore). Mae'r afu'n agos i ble byddai cilboced mewn cot, ac er ni ddaw Bloom â thân i Stephen Dedalus, rhydd iddo gymorth ac arweiniad. Felly dyna oeddwn i, gyda fy Welsh cake, bod yn fath o Bloom i Fflur.

Esboniais hyn iddi ac -- yn addas -- meddai hi: "Ti'n mor hen, Chris."

Ta beth, sylwais ddoe fy mod wedi ysgrifennu dim ond dau gofnod yn y cofnodolyn hwn yn ystod mis Ionawr. Teimlwn i siom gyda'm fy hunan am hynny, a meddyliwn i: "Man, I'm such a slacker. Dwi ddim yn diweddaru fy ffycin Welsh blog y dyddiau hyn... Beth yw 'slacker' yn y Gymraeg?"

"Slacwr, mwy na thebyg," meddyliwn. "Byddai'n addas defnyddio cyfieithiad half-ass fel 'na ar gyfer gair fel slacker. A gellir dychmygu y byddai 'to slack' yn 'slacio.' SLACIO!"

A dyna oeddwn i'n gweiddi yn fy mhen fel petawn i'n Dr. Adrian Price, gyrru "bws-mini" i'r lan llwybr Nant Gwrtheyrn.

Euthum i Nant Gwrtheyrn am wythnos ym mis Gorffennaf fel aelod grŵp dysgwyr. Pob tro byddem ni fentro lan y llwybr cul, troellog, sy'n arwain oddi wrth Nant Gwrtheyrn i weddill y byd, byddai'n brofiad arteithiol. Yn enwedig pan fyddai Dr. Price methu â dod o hyd y gêr cywir.

"Man, this thing is gonna stall, and we're goin' straight off this mountain," meddwn i.

"Cymraeg, Chris," meddai Siân, ein tiwtor.

"OK. Beth yw 'to stall' yn y Gymraeg?" meddwn i.

Saib.

"Stalio," meddai Dr. Price. "Swnia fel rhaglen teledu: 'STALIO! Heno ar S4C!'"

O'r amser hwnnw, pob tro aem ni i'r lan y llwybr, gweiddai Dr. Price a minnau, "STALIO!" er mwyn brawychu'r merched (sy'n gwrthod siarad â mi bellach, gyda llaw -- ni ŵn pam).

Neither here nor there yw hyn i gyd. Pwynt yw, rydw i'n ddiog tua fy nghofnodolyn Cymraeg. Rydw i'n slacio. Sori.

Wednesday, 9 January 2008

Mae Gwyddeleg wedi toddi fy ymennydd

Rydw i'n ailddarllen On The Road gan Jack Kerouac ar hyn o bryd ac mae'n achosi mi eisiau teithio. Wrth gwrs, daw'r teimlad hwn yng nghyfnod anghyfleus oherwydd mae gennyf brifysgol i ganolbwyntio arni.

Yr wythnos hon, rydw i wedi bod yn ceisio gwthio'r iaith Gwyddeleg yn fy mhen. Nid yw'n gweithio. Petaech chi eisiau gweld pa mor wael yw pethau, gallwch fynd i weld fy nghyfnodolyn Gwyddeleg.

Nid ydw i'n siŵr a oes "cyfnodolyn" y gair gorau i'w ddefnyddio. Rydw i'n ceisio symud ymlaen rhag defnyddio'r gair "blog" y dyddiau hyn oherwydd:
1) Nad yw "blog" yn air Cymraeg.
2) Nid ydw i'n hoffi'r sŵn o'r gair "blog." Poena'r clustiau rhywsut. Swnia'n amrwd, fel petawn yn dweud: "Hey! Cymer golwg ar fy spunk Gwyddelig."
Felly ceisiaf ddefnyddio "cyfnodolyn" hyd at yr adeg pan ddweda rywun wrthyf i fy mod yn camddefnyddio'r gair yn llwyr, neu hyd at y tro nesaf ysgrifennaf gofnod ac anghofiaf fy mod eisiau rhoi'r gorau i ddefnyddio "blog."

Beth bynnag, os ydych chi'n siarad Gwyddeleg, petaech chi fynd i'm cyfnodolyn/blog/peth rhyngrwydol, cewch eich siomi. Mae fy Ngwyddeleg yn hynod o wael. Rydw i'n ysgrifennu pethau tra syml megis, "Rydw i'n briod. Rachel yw fy ngwraig. Mae hi'n gyfeillgar," arno. Ie, mae'n wir, ond not exactly page-turning stuff, yw fe?

Her benodol am Wyddeleg yw ei ynganu. Annhebyg i Gymraeg, nid ymddengys fod yna gysylltiad rhwng yr hyn a ysgrifennir a'r hyn a ddwedir. Er enghraifft, "Hydref" yn y Wyddeleg yw: "Deireadh Fhómhar." Ond sut ynganir hynny? Fel "dera ôr."

For fuck's sake, Iwerddon! Defnyddiwch lythrennau a gydwedda â'r ffycin synau eich bod chi eisiau eu gwneud! (a)

Beth bynnag, er mwyn cynorthwyo mi fy hunan â'm Gwyddeleg, heddiw dechreuais ychwanegu ffeiliau sŵn ar waelod y cofnodion. Felly gellir clywed mi darllen y cofnod. Os ydych chi'n siarad y Wyddeleg -- neu, os ydych chi'n mwynhau clywed mi gwneud ffŵl o'm fy hunan -- dylai fy nghofnodion sŵn fod (b) yn ddifyrrus ichi. Maen nhw'n erchyll. Gwaeth na'r cachu hwnnw fy mod wedi arfer ei wneud ar y cyfnodolyn hwn.

Ond er gwaethaf yr ymdrech a'r chwithigrwydd, ni theimlaf fy mod yn deall yr iaith yn well. Yn bendant, ni theimlaf fy mod yn ei deall yn ddigon da ar gyfer yr arholiad sydd gennyf ar ddydd Llun. Ni ddaw'r Wyddeleg. Mae rhywbeth amdani sy'n methu â chysylltu â'm calon rhywsut. Ni theimlaf y cynnwrf a theimlwn pan oeddwn i'n dechrau dysgu Cymraeg.

Wrth gwrs, pan oeddwn i'n dechrau dysgu Cymraeg nad oedd yna rywun i'm profi arni. Yn fy mlwyddyn gyntaf prifysgol roeddwn i'n ffycin casáu'r Gymraeg.

Y pwynt yw, I'm not built for this (swnia hynny'n fwy naturiol na "nid adeiladwyd mi ar gyfer hyn," onid yw?) Mae'r Wyddeleg wedi torri fy ewyllys. Nid yw'r tymor academaidd newydd wedi dechrau hyd yn oed ac eisoes rydw i'n barod am y dyddiau hir meddw'r haf.

------------------------------
(a) Yhm, os ydych chi'n Wyddel, dim ond cymryd y piss ydw i.

(b) Roeddwn i arfer cyfeirio at gofnod sŵn fel "post clywedol" ond wedyn gwelais yr isdeitlau ar y rhaglen ddogfen amdanaf. Cyfieithent "post clywedol" i "voice mail." Beth? Pam byddwn i adael voice mail ar fy nghyfnodolyn? Sut mae hynny'n gwneud synnwyr?

Monday, 7 January 2008

Led-led

Bu'r briodferch ifanc a mi yn Iwerddon ar gyfer Nos Galan, a fu'n brofiad life-affirming mewn ffordd ryfedd. Ni chaf lawer o gyfleodd ffoi rhag y brifddinas y dyddiau hyn ac anghofiaf sut mae'n dda cael newid ar amryw amseroedd.

Oherwydd prinder arian, a chasineb Rachel tua hedfan, aethom ni i Iwerddon trwy drên i Gaergybi a fferi i Dún Laoghaire. Petai pethau'n mynd yn ôl cynllunio (ac nad aethant -- oherwydd y tywydd, bu rhaid inni aros yn y porthladd am dair awr ychwanegol), mae'n daith tua wyth awr. Ni phoenid Rachel a mi ganddi: gallem ni deimlo'n well amdanom ein hunain ar gyfer teithio wrth fodd mwy "gwyrdd"; mae'n well gennyf deithio heb y trafferthu o raid mynd trwy atal diogelwch Draconiaidd (a); a bu gennyf ddigon o amser i ddarllen yn llwyr Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau ar y daith lan ac yn ôl.

Hefyd, cefais lawer o amser i feddwl am bethau. Wrth gwrs deuthum i at benderfyniad y dylai fod yn drên tra-chyflym oddi wrth Gaerdydd i Gaergybi, neu, o leiaf, trên heb 20 stop. Dylai fod yn: Caerdydd - Wrecsam - Caergybi. Mae'n bethau fel hyn sy'n achosi mi meddwl fel petawn yn Dori Saesnig: "This place is a joke, what. These people want independence and they can't even sort out how to run a fucking train on existing lines. What!" (b)

Sylweddolais taw peth da arall am deithio ar drên yw effaith y gall gael ar economi canolau trefi. Nid oes llawer o sôn am hyn, ond petai ragor o bobl deithio ar drenau, gallai gynorthwyo'r ardaloedd ble mae gorsafoedd trenau. Pan fu rhaid i Rachel a mi aros am awr yng Nghaergybi cyn cychwyn yn ôl i Gaerdydd, aethom ni i gaffi ar Market Street (c) a theimlai petai y roeddem yn ôl yn y hen ddyddiau.

Ni ŵn yn union pa "hen ddyddiau" fy mod yn cyfeirio atynt -- dyddiau a fu cyn mi. Dyddiau y roedd pan adeiladwyd cynifer o'r gorsafoedd trenau, efallai. Pan eir i orsaf drên hyd yn hyn, mae yna deimlad o le sydd wedi arfer bod, teimlad o esgeuluso. Gellir gweld drysa sydd wedi cael eu cau â brics. Ac o gwmpas yr orsaf, yn aml mae pethau'n mynd yn wael. Wedi mynd yn wael. Yn aml, petai person ddefnyddio gorsaf drên fel porthladd i ddinas/dref Cymru, caiff deimlad bod y ddinas wedi rhoi'r ffidl yn y to. Pan welaf y lleoedd hyn, meddyliaf wrth mi fy hunan: "Sut bu'r lle 'ma? A fu dafarnau yma? Caffis? Bywyd? Gobaith?"

Rhaid cyfaddef nad yw Caergybi ar ben fy rhestr o leoedd i'w ymweld â nhw, ond pan eisteddai Rachel a mi yn y caffi hwnnw -- mwynhau bywyd go iawn yn hytrach na'r cachu annioddefol a ffeindir ar droli trên -- meddyliais wrthyf fy hun: "Ie, dyma sut dylai pethau fod."

-------------------------------
(a) Ni allaf ddod â dim byd mwy na 100ml o ddŵr?! Fuck you.

(b) Ie, gŵn nad yw pethau mor syml â hynny.

(c) Gyda llaw, os byth petaech ffeindio chi eich hunan yng Nghaergybi, argymhellaf fynd i'r Internet Cafe; cafodd y briodferch ifanc eu chili a dwedodd hi amdano: "This is almost as good as what I would make." Mae'r briodferch ifanc yn gogyddes arbennig o fedrus, felly mae hon yn ganmoliaeth uwch.