Thursday, 28 February 2008

You win some, you lose some

Mae Shiona'n mynd.

Hen hen ffrind yw Shiona y rydw i'n ei nabod ers fy nyddiau ym Mhortsmouth, mwy na degawd yn ôl. Roeddwn i'n arfer dweud ar y cofnodolyn hwn y byddwn i gadael y briodferch ifanc er mwyn Shiona. Roeddwn i'n dweud hynny pan oedd yna 5,000 milltir rhyngom ni. Nid yw mor gellweirus imi ddweud y peth bellach, gyda minnau'n byw ym Mhrydain erbyn hyn. Yn enwedig oherwydd tuedd rhai pobl credu taw gwir bur yw popeth ysgrifennaf amdanaf fy hunan.

Gan ffawd glaniwyd y ddau ohonom ni yng Nghaerdydd yn yr un adeg. Tros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae Shiona'n byw ¾ milltir i'r lan y ffordd oddi fy nghartref. Ond mae hi'n mynd yn ôl i'r Alban ar ddydd Gwener. Mae hi wedi cael digon o Gymru.

Tra oedd pethau'n mynd yn wael imi'r llynedd roedd hithau'n brwydro dod o hyd ei lle yng Nghymru hefyd. Ni allai hi ddatblygu cyfeillgarwch gyda phobl yma. Daeth hi i Gaerdydd er mwyn ennill gradd uwch yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fel minnau, ni theimlai hi'n groeso.

Ond roedd ein sefyllfaoedd yn wahanol. Yn gyntaf, daeth Shiona i Gymru gyda dull o feddwl nad yw hi'n hoffi'r Cymry. Rhy deimladwy ydyn nhw, yn ôl Shiona; ni wyddant sut i wneud hwyl am eu pennau eu hunain. Daeth hi yma gyda syniad rhagosod negyddol ac yn y modd o gael ei siomi, ni siomid hi. Ond, wedi dweud hynny, mae'n anodd gweddu mewn unrhyw le newydd, dinasoedd yn benodol. Rhaid cydymdeimlo â hi rhywsut. A hefyd, annhebyg imi, ni chafodd Shiona ei chusanu gan bobl enwog Cymru.

Pan oedd pethau mor anodd imi'r llynedd, nid oedd arnaf i awydd cymdeithasu o gwbl; ni welwn i lawer o'm hen gyfaill felly. O fis Gorffennaf 2006 i fis Gorffennaf 2007, gwelais iddi hi ddim ond pedwar tro. Yn y Gymraeg neu'r Saesneg, nid oedd arnaf i eisiau siarad â neb. Ond yn enwedig -- rhaid imi gyfaddef -- nid oedd arnaf i eisiau siarad â rhywun a fyddai beirniadu Cymru, ac yn yr un modd beirniadu minnau a'm penderfyniad rhoi cymaint o'm hunan i'r lle hwn. Tyfodd pellter rhyngom ni.

Erbyn hyn, diolch i bobl megis Fflur a Llŷr ac, wel, uffern, shitloads o bobl a dweud y gwir, yn araf araf rydw i'n dechrau teimlo'n fwy cysurus yn yr hen Gymru or-deimladwy, di-hiwmor hon. Ac mae Shiona wedi chwerwi'n bellach.

Euthum i ymweld â hi ddoe, er mwyn dweud ffarwél. Wrth siarad â hi, sylweddolais fy mod i wedi gweddu pellach i ddull o feddwl Cymreig oherwydd teimlwn i euogrwydd am ei theimladau tua Chymru.

"O, mae'r bai arna' i am hyn," meddyliwn i.

Roeddwn i'n ymddwyn fel cynifer o Gymry ar ôl darganfuwyd am anhapusrwydd fi yma. Roeddwn i'n teimlo y dylwn i wedi gweithio'n galetach i wella agwedd fy nghyfaill tua Chymru; dylwn i wedi gweithio'n galetach tros Gymru, er mwyn Cymru. Fel petai taw dyletswydd fi yw sicrhau good PR i'r wlad a'i gwerin. Rydw i'n dechrau teimlo synnwyr o berchenogaeth.

Teimlais yn drist wrth adael tŷ Shiona ddoe. Rhois gwtsh (a) iddi a theimlwn i fel petai y byddai hwn y tro diwethaf imi ei gweld hi. Mwy na thebyg, nid yw hynny'n wir. Yr hyn y roeddwn i'n ei deimlo, credaf, oedd y lleddf o ddweud ffarwél wrth ddarn o'm fy hunan. Mae'n anodd ei esbonio.

Ond wrth gerdded adref, calonogais i ychydig hefyd. Bu'r haul yn llachar, gallwn i arogli sglodion yn yr awyr. Edrychais i tua the Dell ac allan pellach tua'r bryniau coedwig Leckwith a meddyliwn wrthyf fy hunan: "Dwi'n dechrau nabod y lle 'ma."

(a) Dyw "cwtsh" ddim yn air yn ôl Cysgeir. Awgrymir ganddo y dylwn i ddefnyddio "cofleidiad." Ond swnia "cofleidiad" fel rhyw fath o weithred lawfeddygol.

Wednesday, 20 February 2008

Wrth fynd i'r dafarn, a ydw i'n "joining in the British way of life"?

Efallai gwelsoch chi'r newyddion heddiw bod y llywodraeth eisiau newid y broses o ddod i fod yn Brydeiniwr. Fel person sydd eisiau bod yn ddinesydd y Deyrnas Unedig mae'r newyddion hyn yn arbennig o ddiddorol imi.

Pob tro mae yna sôn am fewnfudo, teimlaf tipyn bach yn nerfus oherwydd y natur value-added o'r gair "mewnfudo." Yng ngwleidyddiaeth, yn aml iawn caiff gair math o werth iddo. Er enghraifft: democratiaeth = da. Pob tro mae person yn sôn am ddemocratiaeth, mae yna awgrym an-llafar ei bod hi'n dda. Yn yr un modd, mae mewnfudo'n beth drwg. Pob tro sonia gwleidydd am fewnfudo, defnyddia'r un tôn o lais â byddai wrth sôn am drosedd.

Gellir teimlo weithiau taw ar gyfer pobl yn y llywodraeth mae gair "mewnfudo" yn gôd am "darkies." Oherwydd, pan sonia pobl am fewnfudo, mwy nag arfer soniant am fewnfudo gan bobl o Affrica ac Asia. Ond yn anffodus, mae'r rheolau sy'n cael ei datblygu er mewn delio â'r coloured chaps yn cymhwyso i minnau.

Amheugar ydw i, felly, am newyddion heddiw. Pryderaf y crëir gan y llywodraeth gormod o gylchau imi neidio trwyddynt.

Treuliais dipyn o amser heddiw mynd trwy'r ddogfen The Path to Citizenship: Next Steps in Reforming the Immigration System, sy'n amlinellu yr hyn bod y llywodraeth eisiau ei gwneud. Wel, mae'n ceisio amlinellu; a dweud y gwir mae'n hynod o amwys am rai pethau. Er enghraifft, pan soniant am eisiau mewnfudwr i "demonstrate commitment to the community" am beth yn union a ydyn nhw'n sôn?

Dwedir yn y ddogfen y byddai "active citizenship" cyflymu'r broses o ymgeisio i fod yn ddinesydd. Rydw i'n o blaid y syniad hwnnw. Ond mae'n aneglur ar sut i fod yn "active citizen" ac eithrio gwirfoddoli. Rydw i'n teimlo fy mod i'n "active citizen" yn y gymuned Gymraeg, ac rydw i'n gweithio i fod yn fwy gweithgar. Ond a fyddai hynny'n cyfrif tua'r amcan o fod yn "active citizen"? Rhywsut ni chredaf byddai cyflymu fy ymgais imi ddweud: "Yeah, I go to a lot of Welsh-language events."

(Er, i fod yn deg, sylweddolais y dweda'r ddogfen: "The requirement to speak 'English' is referred to in this document, but please note that demonstrating knowledge of either Welsh or Scots Gaelic also satisfies this requirement.")

Hefyd pryderaf am y ffaith y dweda'r ddogfen nad oes gan fyfyriwr llwybr i ddinasyddiaeth. Felly petawn i barhau yn y brifysgol a cheisio am radd uwch, ni fyddai wneud ddim byd tua fy ngobeithion o fod yn Brydeiniwr. Byddai rhaid imi ddod o hyd ffordd o hawlio fy mod yn "highly skilled worker." Nid oes gennyf siawns o wneud hynny. Awdur ydw i eisiau bod -- nid oes gan awdur unrhyw fath o fedr; dyna pam mae'n awdur.

Yn amlwg, y ffordd haws imi fod yn ddinesydd yw priodi rhywun sy'n ddinesydd eisoes. Dyma pam rydw i am ofyn Catrin Dafydd i'm priodi.

Er, nid ydw i'n siŵr sut teimla'r briodferch ifanc am y cynllun hwn. Neu Catrin Dafydd chwaith.

Friday, 15 February 2008

Sorry, what were you saying?

Nid y cofnodolyn hwn o'r math sy'n trafod pethau. Dylwn i wneud hynny'n glir. Rydw i'n sylweddoli sut gallech chi gael eich drysu gan fy nghofnodion diweddar -- roeddwn i'n sôn am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau ac wedyn am ddiffyg papur dyddiol yng Nghymru.

Ond, a dweud y gwir, nid oes gennyf ddiddordeb mewn sgwrsio gormod ar y pynciau hyn. Os ydych chi eisiau ymuno trafodaeth ar rywbeth, ewch i Maes-e. Mae gennyf i fwy o ddiddordeb mewn bronnau a chwrw.

Petaem ni mewn tafarn ac oeddech chi'n ceisio siarad â mi am sut rydw i'n methu â deall pam mae angen Cymru papur dyddiol materol, byddwn i "clock out" yn fy mhen a dechrau sganio'r ystafell am ferched i edrych arnyn nhw (ac eithrio petaech chi fod yn fenyw eich hunan -- wedyn byddwn i'n llygadrythu ar dy frest).

Y ffaith syml yw, nid oes gennyf ddigon o ddiddordeb yn y pwnc o bapurau dyddiol i wrando arnoch chi. Yn fy marn, mae'n pipedream i Gymru eisiau'r peth erbyn hyn. Efallai bod fi'n anghywir ond mae'n bur annhebyg y gwnewch chi newid fy meddwl. Cymer cysur, felly, nid mi yw'r person sy'n gwneud y penderfyniadau ar y peth. Fel Americanwr, ni allaf gyfrannu o gwbl i sut caiff pethau eu rheoli yma. I am just some drunkard in the corner.

Rydw i'n nodi'r ffaith hon oherwydd rydw i wedi clywed oddi wrth rhai pobl sydd eisiau imi roi fy enw ar ddeiseb sy'n annog y llywodraeth i... yhm... wneud... yhm... rhywbeth am y ffaith nad oes gan Gymru ffased hynafol o gyfryngau. Sori, wnaf i ddim.

Rydw i'n amheugar am effeithioldeb deisebau ar-lein beth bynnag, ac nid ydw i'n siŵr am yr achos (faint o arian ydych chi eisiau'r llywodraeth rhoi i'r Papur Dyddiol Cysegredig hwn? Am faint o amser? Ar ryw bwynt, onid yw fe'n ddianghenraid oherwydd eisoes mae gan Gymru tarddle newyddion sy'n cael ei gyflogi gan y llywodraeth, sef y BBC). Ond nid ydw i'n rhyw fath o right-wing conspiracist fel canlyniad, felly paid â diddymu mi fel ffrind Facebook (ie, mae pobl wedi gwneud hyn imi o'r blaen) neu, yn gyfleus methu â fy ngweld yn y dafarn (ie, maen nhw wedi gwneud hynny, hefyd). Mynegaf fy marn ar fy nghofnodolyn ond ni fynnaf ichi ei derbyn.

Petaech chi eisiau imi roi fy enw ar ddeiseb, dylech sefydlu un sy'n annog merched rhwbio eu bronnau yn fy erbyn.

'S'dim ots am bapur dyddiol, mae Cymru eisiau cychwyn trefedigaeth rhywle! Dyna'r ffordd ymlaen!

Roeddwn i'n cwyno ar ddydd Mercher am y ffaith bod fy nhad a'i genhedlaeth yn methu â sylweddoli bod eu hen ddull o feddwl yn cronni gwelliant. Efallai nid ydw i'n defnyddio'r geiriau gorau yno, ond rydych chi'n deall: Er gwaethaf ei good intentions mae gan fy nhad hen ddull o feddwl sy'n gallu rhwystro ymdrechion i wneud, mwy neu lai, yr hynny ei fod eisiau eu gwneud, ond nid yn y modd ei fod eisiau.

Ond wrth gwrs, hen, hen stori yw hon -- un genhedlaeth yn dadlau â llall. Roeddwn i'n meddwl am y pethau hyn y bore hwn wrth wrando ar Radio Cymru a rhyw ddyn hŷn brochus sôn ar y ffaith bod Y Byd wedi rhoi'r ffidl yn y to gyda'i ymdrechion i gychwyn papur dyddiol Cymraeg.

"Diwedd i freuddwyd" yw pennawd a ddefnyddir gan y BBC, ac mae'n addas iawn. Mae'n anodd credu y bu erioed unrhyw beth mwy.

Wrth gwrs, mae Dyddiol Cyf. yn ceisio rhoi'r bai ar y llywodraeth, sy'n arwydd imi o ba gymaint o shambles y roedd y peth i gyd. Rhoi'r bai ar lywodraeth yw Cam Rif Un yn Y Llyfr-Chwaraeon Mawr o Sut i Syflyd Cyfrifoldeb (a). Dyma stori BBC am Y Byd dyfod, a gyhoeddwyd pedwar blynedd yn ôl; a gwyddom y roedd yna sôn "difrif" am gychwyn papur dyddiol ers blynyddoedd cyn hynny. Felly, a oedd cynllun Dyddiol Cyf. i lusgo'i draed am hanner ddegawd? "Hei, gwnawn ni fuck all am oesoedd, cymryd arian y cyhoedd, codi gobeithion ac wedyn disgwyl am y llywodraeth cadw'r peth blonegog rhag suddo. Bestest. Business. Plan. Ever."

Breuddwyd oedd y peth. Ac wrth wrando'r bore hwn, roeddwn i'n gofyn ai oedd yn freuddwyd a sefydlwyd yn y dull o feddwl anghywir. A oedd yn doomed to fail o'r dechrau oherwydd roedd y rheswm amdano'n anghywir?

Mae'n amlwg y meddylia Hywel Teifi Edwards ei fod fe ei hun yn hynod o bwysig; ac roedd y boi gwell-na-chi 'ma ar Radio Cymru ar ôl 8 o'r gloch ar fore Gwener (tua 01:05 ar offeryn Gwrando Eto) ac yn anhapus iawn gyda'r ffaith bod Y Byd wedi rhoi'r gorau i bethau. Ar ôl sawl ymgais, llwyddodd y cyflwynydd gwthio mewn brygowthan Edwards a gofyn am awgrymiadau y dylai ymdrechion i sefydlu papur dyddiol Cymraeg canolbwyntio ar y rhyngrwyd.

"Nid mwy o tidbits electronig mae Cymru eu hangen. Papur go iawn!" meddai fe.

Bu fy ymateb cyntaf iddo yn rhywbeth anacademaidd fel, "idiot," ond wedyn cefais fy nharo gan y ffaith taw nid er mwyn democratiaeth mae Edwards eisiau papur dyddiol materol, ond er mwyn balchder. I Edwards, mae "papur go iawn" yn nodwedd o gymdeithas go iawn. Mae "papur go iawn" yn rhywbeth y gall fe ei chwifio yn wyneb person. Agwedd cymdeithas wâr yw "papur go iawn" -- agwedd cymdeithas uwch, blaengar. Ymddengys imi ei fod eisiau "papur go iawn" oherwydd mae ganddo chip ar ei ysgwydd; mae'r ffaith y byddai papur dyddiol cynorthwyo democratiaeth yn fonws.

Ond y dyddiau o bapurau go iawn yn darfod. Wedi bod yn darfod ers degawdau. Ni chredaf y bydd y papur newydd materol yn farw byth, ond ni chredaf chwaith fod sefydlu papur newydd yn necessarily y ffordd gorau o symud ymlaen erbyn hyn. Ac mae'r dull o feddwl sy'n disgrifio'r rhyngrwyd fel "tidbits electronig" yn arwydd o rywun sy'n methu ag amgyffred y byd fel y mae.

Edrychwch ar y papurau mwyaf "go iawn" o'r papurau go iawn, a gwnewch chi weld tarddleoedd newyddion sydd wedi dod i sylweddoli'r pwysigrwydd y rhyngrwyd. Y Times, y Guardian, y New York Times, El Pais, ac yn y blaen, ac yn y blaen, ac yn y blaen -- mae gan bob un "papur go iawn" bresenoldeb go iawn ar y rhyngrwyd.

Y peth hoffwn i ei weld yw tarddle newyddion rhyngrwyd cyflawn. Rydw i'n meddwl y gallai ymdrech difrif fod yn llwyddiannus. Erbyn hyn mae yna duedd i wneud pethau'n half-assed neu methu â dyrannu digon o staff. Felly ni welir ymdrechion rhyngrwyd fel ymdrechion go iawn gan y cyhoedd oherwydd ni chaiff eu trin fel ymdrechion go iawn gan y cyrff sy'n eu cynnig.

Ond, wrth gwrs, dim ond person sydd wedi arfer gweithio tros gwmni newyddion rhyngrwyd llwyddiannus ydw i. Beth fyddwn i ei wybod? Yr unig beth sy'n glir yw'r ffaith taw Y Byd y bu. Gobeithiaf y caiff y £340,000 a buddsoddwyd gan Gymry gobeithiol ei dalu yn ôl yn fuan. Wedyn gall yr hen ddulliau o feddwl fynd ôl at ddawnsio ar eu traed eu hunain.

(a) "The Big Playbook of How to Shift Responsibility" rydw i'n ceisio dweud.

Wednesday, 13 February 2008

Efallai, efallai, efallai

Bloeddio. Roedd fy nhad yn bloeddio arnaf i. Dyw fy nhad byth yn bloeddio. Pan ddistrywiais ei gar mewn damwain, pan yrrais fy pick-up i mewn y garej, pan gachais ar y llawr wrth feddwi, pan ofynnais am $2,000 ni floeddiai fy nhad. Ond roedd yn bloeddio ar nos Sul pan awgrymais na ddylai Hillary Clinton ennill enwebiad ei phlaid.

Gyda phob etholiad cynradd a chawcws ychwanegol, mae'n ymddangos bod Barack Obama yn codi momentwm ac efallai, efallai, efallai gallai fe fod yn ymgeisydd y Democrats (a) ym mis Tachwedd. Ac nid yw fy nhad yn gysurus gyda hynny.

Hell-or-high-water Democrat yw fy nhad. Hynny yw, come hell or high water, pleidleisia fe o blaid y Democrats pob tro. Petai Iesu Grist dod yn ôl i'r byd corfforol byddai fy nhad yn siŵr i bleidleisio "Dem" cyn mynd i weld y Brenin Brenhinoedd.

I bobl megis fy nhad, maen nhw'n hapus i weld Barack Obama codi cymaint o ddiddordeb yn y broses, ac, ie, siŵr, mae'n dda gweld sawl ymgeisydd cystadlu am yr enwebiad y blaid ond... come on... nid ydyn nhw i fod yn cystadlu yn wir. Mae pawb yn gwybod taw hawl Hillary yw'r enwebiad. Mae pawb yn gwybod hynny ers oesoedd. Onid ydyn nhw?

I fy nhad, a phobl o'r un enw â fe (b), mae Hillary yn haeddu'r enwebiad -- mae hi wedi ennill ei lle fel ymgeisydd trwy ei ffyddlondeb i'r blaid. Mae hi wedi rhoi'i hamser i mewn; mae hi'n brwydro tros y blaid ers tua thri degawd. Ym meddwl fy nhad, mae'r enwebiad (a'r arlywyddiaeth) yn enedigaeth-fraint Hillary. And he'd be damned if some upstart is gonna put his greasy Illinois hands on Hillary's birthright.

Felly teimla fy nhad yn chwerw rhywsut tua Obama. Mae Hillary'n rhan o'r hen drefn a dyw fy nhad ddim yn ymddiried unrhyw drefn arall. Iddo fe, o hyd mae Plaid Democratic yn blaid yr undebwr, blaid o'r hen beiriant gwleidyddol Efrog Newydd a Chicago -- plaid Kurt Vonnegut a'i debyg.

Ond mae Kurt Vonnegut wedi marw. Y mwyafrif o'r hen ryfelwyr rhyddfrydig o'r 60au a 70au wedi marw neu ymddeol (er, chwarae teg, nid pob un ohonyn nhw). Aeth mwyafrif y swyddi undeb yn yr 80au. Y bobl fel fy nhad sydd wedi mynnu dal ar yr hen drefn, yr hen freuddwydion, yw rhan o'r rheswm bod yr Unol Daleithiau wedi cael, mwy neu lai, tri degawd o lywodraeth mwyfwy geidwadol (c). Mae'r Blaid Democratic a fu yn diflannu. Fel y Republicans, maen nhw'n ceisio dal ar ryw fath o America sydd wedi darfod.

Mae Obama wedi tanio rhywbeth yn y bobl a oedd yn teimlo bod y Profiad Mawr Unol Daleithiau wedi eu siomi. Pobl fel fi. Rydw i'n enghraifft eithafol -- rydw i wedi symud i wlad arall ac rydw i am fod yn ddinesydd y wlad honno -- ond rydw i'n nabod sawl Americanwr sy'n teimlo yn y bôn yr un pethau fy mod i'n eu teimlo: siom, blinder. Teimlwn ni taw nad yw ein gwlad yn ein gwlad; mae cyfrannu yn ddibwynt.

Ond mae yna rywbeth am y mudiad Obama (a beth arall gellir ei alw?) sy'n achosi rhai pobl meddwl: efallai, efallai, efallai gallen nhw fod yn rhan o bethau. Nid ydw i'n un o'r bobl hyn (eto) -- rydw i'n rhy sinigaidd -- ond gallaf deimlo'r peth. Gallaf ei weld.

Am ryw reswm, teimla'r etholiad hwn fel petai'n fwy pwysig nag unrhyw etholiad arall yn fy oes. Siŵr o fod, rydw i'n methu â gwrando ar gyngor Public Enemy ac rydw i'n coelio'r hype. Ond oherwydd teimlad o bwysigrwydd rydw i'n pryderu am yr etholiad.

Pryderaf y byddai Hillary ennill yr enwebiad er gwaethaf yr ysbryd sy'n tanwyddu Obama. Mae gan Hillary ei hen gysylltiadau. Mae hi wedi rhoi'i hamser mewn, ac fel canlyniad gŵyr sut chwarae'r hen drefn. Pryderaf ei bod hi'n medru sgorio ennill trwy ei chysylltiadau.

Wrth gwrs mae hynny'n iawn. Wel, cyfreithlon. Nid etholiad cenedlaethol yw etholiad cynradd neu gawcws, a gall unrhyw blaid ddewis eu hymgeiswyr mewn unrhyw ffordd ei bod eisiau. Yn Nevada dewison nhw gyda chardiau. Felly petai Hillary ddod i fod yn ymgeisydd Democratic trwy dynnu llinynnau, chwarae teg iddi. Ond rydw i'n meddwl y byddai hi a'i phlaid colli'r brwdfrydedd bod Obama'n creu. Efallai byddai'r rheiny a oedd yn teimlo dadfryddfreiniaeth (disenfranchisement) mynd yn ôl at eu teimladau o siom, wrth gicio eu hunain am fod mor dwp i goelio y gallai gwleidyddiaeth fod yn berthnasol iddyn nhw.

Ac wedyn mae gennych Hillary Clinton erbyn John McCain -- cystadleuaeth nid ydw i'n siŵr y gallai hi ei ennill.

(a) Nid ydw i'n cyfieithu enwau'r prif bleidiau gwleidyddol yr Unol Daleithiau oherwydd -- mewn dull Americanaidd nodweddiadol -- mae'r ddau enw'n diffinio'r ddwy blaid. Mae'r ddau, Democrats a Republicans, yn o blaid democratiaeth; mae'r ddau, Republicans a Democrats, yn o blaid gweriniaeth. Felly Democrat a Republican ydyn nhw, er mwyn sefydlu'r gwahaniaeth rhwng eu henwau a'u credau.

(b) Nid yw'r dywediad hwnnw'n cyfieithu fel dylai. Rydw i'n ceisio dweud, "To my father and his ilk...," ond mae'n edrych fel rydw i'n dweud, "To my father and other people with his name..." Fel petai bob un Steve yn yr Unol Daleithiau yn anrhesymol yn ei deimladau tua Hillary Clinton.

(c) Mae Bill Clinton yn Democrat, ond edrychwch ar beth wnâi yn ei wyth flwyddyn -- er enghraifft, dinistriodd cystadleuaeth yn y cyfryngau gyda'r 1996 Telecommunications Act. Mewn rhai ffordd, bu llywodraeth Clinton yn geidwadol.

Thursday, 7 February 2008

Pilotin'

Mae'n anodd imi gyfaddef... ac efallai nid yw'r cofnodolyn hwn y lle gorau imi ei ddweud, ond weithiau bydd rhywbeth yn pwyso ar berson cymaint nad oes dim byd y gallai fe wneud amdano. Weithiau mae gan berson rhywbeth i'w ddweud ac ni all fe stopio fe ei hun rhag ei ddweud. Ta beth, dwedir taw da i'r enaid yw cyffesu.

Felly, dyma fe: Rydw i'n caru rhywun arall.

Am Alexyss K. Tylor ydw i'n sôn. Efallai mai ffordd gorau ichi wybod pam fy mod i'n caru hi yw gwylio'r fideo hwn. Dylai fod yn amlwg pam mae'n swyno mi -- mae hi'n pilotin' the pussy. Oes angen mwy nag hynny oddi wrth fenyw?

Ymddengys bod Alexyss yn fenyw o Atlanta, Georgia, yn yr Unol Daleithiau. Ymddengys hefyd y daw hi o'r byd public-access television. Peth anodd ei ddisgrifio yw public-access -- teledu sy'n cael ei gynhyrchu gan, wel, unrhyw un. Os oes gennych chi amser sbâr yn yr Unol Daleithiau, gallwch fod ar deledu public-access, fel Fancy Ray McCloney (dim ond Tom bydd yn deall y cyfeiriad hwnnw).

Ta beth, deuthum o hyd fideo Alexyss echdoe. Jyst er mwyn ichi wybod nad ydw i'r math o berson sy'n eistedd yno, teipio ymadroddion fel "vagina power" mewn chwiliad YouTube, darganfûm y peth wrth chwilio am draciau Prince ar Hype Machine. Roedd yna flog y roedd yn cyfeirio at Alexyss a'r gân Prince, "Pussy Control."

"Pussy Control." Mae ganddo gân a alwyd "Pussy Control." Mae gan y gân telynegion godidog fel: "Pussy got bank in her pocket 'fore she got dick in her drawers." Ie. Daw Prince o Minnesota, wrth gwrs. Ni allem ni gael mwy o falchder ynddo.

Siŵr o fod, mae gan Alexyss rheolaeth tros ei hamlen binc hefyd. Hi yw fy hoff berson ar y rhyngrwyd ar hyn o bryd. Fel mae'n digwydd, mae yna lawer rhagor o fideos ohoni ar ei thudalen YouTube. Rydw i wedi bod yn ceisio gwylio nhw ers clywed amdani. Ceisio. Os wyt ti'n gwylio hi am rhy hir, gwna achosi poen yn eich pen.