Saturday, 19 April 2008

Yr Eglwys y Gymraeg

Ar hyn o bryd rydw i hyd at fy mhen-gliniau mewn y Wyddeleg. Treuliais sawl awr ddoe wrthi'n adolygu. Mae gennyf amryw o ffynonellau ar gyfer adolygu ond ni theimlaf fy mod i'n cael darlun cyflawn o'r iaith er gwaethaf hyn. Un rheswm wrth gwrs yw bod gan Wyddeleg tafodieithoedd -- cyffelyb i'r Gymraeg ond mae'r gwahaniaethau yn fwy amlwg (a). Felly, os oes gennych chi sawl adnodd dysgu, mae gennych chi sawl tafodiaith hefyd. A chymysglyd yw'ch darlun o'r iaith.

Er enghraifft, daw fy nhiwtor Gwyddeleg o Corc, yn ne Iwerddon. Felly caiff yr adnoddau oddi wrtho fe dafodiaith Corc. Ond ar y rhyngrwyd, yr adnodd haws-i'w-ddefnyddio y gallaf ei ffeindio yw Blas, a anelir at siaradwyr tafodiaith Wlster (b). Neu gallaf i ddefnyddio gwefan a sefydlwyd gan Americanwr. Ond mae'n anodd ei ddeall weithiau ac mae gennyf amheuaethau am ddefnyddio gwefan Americanwr ar gyfer dysgu Gwyddeleg. Gobeithio na fyddai neb yn defnyddio fy mlog i'w helpu dysgu Cymraeg.

Mae'n strange twist of fate taw ymlaciol yw ysgrifennu ar y blog hwn erbyn hyn. Cofiaf pan oeddwn i'n casáu ysgrifennu yn y Gymraeg, ond nawr gallaf -- mwy neu lai -- feddwl ynddi. Dyna chi, plant: gellwch chithau ddod i fod yn (weddol) rhugl yn y Gymraeg mewn dim ond wyth blwyddyn byr!

Wrth feddwl am ba mor hir y mae hi wedi cymryd imi gyrraedd y pwynt hwn, ni allaf ddweud ai fyddaf i barhau gyda'r Wyddeleg ar ôl pasia'r cyfnod arholiadau heibio. Mae gennyf arholiad llafar ar 7fed Mai, ac arholiad ysgrifenedig ar 16eg Mai; fel pethau mae, byddaf i'n cerdded o'r arholiadau hynny wrthi'n gweiddi (yn fy mhen): "Gwynt teg i'r ffycin iaith 'na!"

Ond rydw i wedi teimlo'r un peth tua'r Gymraeg mwy nag unwaith, felly mae'n anodd imi broffwydo. Efallai byddaf i ddod yn ôl ati ar ôl ysbaid.

Ond fy mhrif amcan yr haf hwn yw ysgrifennu'r llyfr hwnnw y rydw i'n sôn amdano ers y llynedd. Llyfr am fy mhrofiadau dysgu'r Gymraeg a symud yma, ac yn y blaen. Elfen a gysylltir â'r chwedl honno, wrth gwrs, yw'r anhawster yr ei brofais wrth geisio gweddu yn y byd Cymraeg. O hyd nid ydw i'n gweddu'n dda yma, ond o leiaf y rydw i wedi dod i dderbyn y ffaith honno.

Peth rydw i am ysgrifennu amdano yw'r syniad o'r Gymraeg fel crefydd. Mae yna duedd gan ddysgwyr i weld yr iaith fel petai'n ffydd, ac mae yna duedd gan addysgwyr a hyrwyddwyr (a rhai bychanwyr) yr iaith i'w hybu fel y cyfryw. Hynny yw, mae yna duedd i weld iaith fel petai'n rhywbeth mwy nag y mae hi, rhywbeth mwy cyflawn.

Petaech chi'n penderfynu bod yn Gristnogion, y cam cyntaf wrth gwrs yw derbyn Iesu i'ch calon. Ac mae'n canlyn y bydd Iesu bach eich derbyn chithau. Hapus, hapus. Ond mwy nag hynny, mae yna ddisgwyliad y cewch chithau eich derbyn gan gymuned Iesu, sef cymuned y capel neu'r eglwys. Yn fy rhuthrau cynt i mewn crefydd (roeddwn i arfer bod yn aelod Campus Crusade for Christ yn Nevada) dyna'r elfen a llosgai fi. Roedd arnaf i gymaint o eisiau i berthyn i rywbeth, i "ffitio" rhywle, ond nid oeddwn i'n un ohonynt -- ni chefais fy nerbyn gan gyfeillion Iesu.

Ta beth, wrth ddysgu'r Gymraeg mae yna duedd gan rai credu petaent nhw'n dysgu'r iaith -- "derbyn" yr iaith, fel petai -- cânt nhw eu derbyn i mewn cymuned Gymraeg. Fel petai dysgu'r berfau ac ansoddeiriau a threigladau yn gamau tuag at ennill cariad, serch a hapusrwydd yng Nghymru. Maen nhw'n dysgu'r côd ar gyfer bod yn aelodau'r clwb.

Mae'r agosrwydd Cymraeg â Chymreig yn rheswm am hyn, credaf. Hynny yw, cymysgir yr iaith a'r diwylliant fet petaent yn yr un peth. Ond, wrth gwrs, bullshit yw hyn i gyd. Mae iaith yn iaith. Mae Cymraeg -- fel pob iaith arall -- yn fodd o symud syniad o'm pen i i'ch pen chi. Mae'n fodd o gyfathrebu. Nid yw'n grefydd, ideoleg, ddull o fyw, neu beth bynnag. Mae'n eiriau, a dim byd mwy. Roeddwn i'n hynod o dwp i obeithio y byddai symud yma a pherffeithio fy Nghymraeg yn newid fy mywyd yn ddewinol. Ni enillir ffrindiau dim ond oherwydd siaradwch eu hiaith.

Meddyliaf am hyn i gyd wrth adolygu Gwyddeleg. Beth yw'r pwynt o ddysgu iaith os gŵn i nad yw'n warant o'm bod yn rhan o'r rheiny sy'n ei siarad? Pam ddylwn i arteithio mi fy hunan i gadw'r iaith hon yn fyw?

Ac mae'r unigrwydd yn parhau.

-----

(a) A dyma dystiolaeth bosibl i'm damcaniaeth taw niweidiol i iaith leiafrifol yw gormod o dafodieithoedd

(b) Mae gan Wlster sawl enw yn y Gymraeg, yn ôl Geiriadur yr Academi: Wledd, Wlaidd, Wleth, Ulster ac Wlster. Ni ŵn pa un i'w ddefnyddio.

Wednesday, 16 April 2008

Ar ôl meddwl amdano, nid oes pwynt i'r cofnod hwn

Er mwyn ffyc (a), rydw i wedi blino o'r Wyddeleg. Na, nid yw'r frawddeg honno ddim yn wir; a dylwn i fod yn ofalus wrth ei hysgrifennu. Mae'n bosibl bod Dr. Mac Giolla Chríost yn darllen.

Darlithydd Prifysgol Caerdydd yw Dr. Mac Giolla Chríost (un o'm hoff ddarlithwyr a dweud y gwir -- ac nid ydw i'n cusanu tin), ac mae fe'n siarad Gwyddeleg.

Ar ddydd Mawrth y roedd yn sôn am effaith technoleg ar iaith -- sut mae technoleg yn ei newid. Ar y cyfan, mae gennyf duedd credu taw gor-adweithio yw'r pryderon am effaith technoleg ar iaith. Wrth gwrs caiff effaith, ond ni fydd Cymry'r dyfodol yn defnyddio "v" yn lle na "fi" oherwydd cafodd ei defnyddio gan blentyn araf 15 oed yn yr 21ain ganrif.

Ta beth, yn ei PowerPoint defnyddiodd Dr. Mac Giolla Chríost rhai esiamplau o'r iaith gymysglyd a welir ar wefannau megis blogiau a maes-e ac yn sydyn, dyna fe'n dangos esiampl o iaith ein hannwyl Ray Diota.

"O. Waw," meddyliwn i. "A yw'n bosibl bod yna rywun rhywle sy'n cyfeirio at fy mlog i mewn darlith?!"

Darlith ar agweddau rhywiol tua chyflwynyddion benyw Cymraeg, efallai:
"Nawr, beth mae Chris Cope yn dweud am Sara Elgan?"
Ie. Byddwn ei phlamo.
"Ac Alex Jones?"
O ie.
"A beth am y ferch 'na o 'Dwdlam'?"
Yhm. Ie. Mae ceir sy'n hedfan yn secsi.

Sori, crwydro ydw i. Pwynt yw, rydw i wedi cael digon o adolygu Gwyddeleg erbyn hyn, ond rhaid imi fod yn ofalus wrth ddweud hynny, oherwydd pwy a ŵyr sy'n darllen. Efallai bydd diddordeb yn yr iaith yn dychwelyd yfory.

(a) Gŵn nad yw "er mwyn ffyc" ("For fuck's sake") yn ddywediad Cymraeg go iawn. Gallwn i wedi defnyddio "er mwyn dyn" neu rywbeth tebyg, ond petawn i'n defnyddio hwnnw ni chaiff yr un argraff, a fyddai fe?

Aeddfed â phosibilrwydd am drychineb

Mae rhywbeth am yr ymdrech cydweithredol hwn yn taro fi fel syniad drwg. Efallai taw dim ond fi sy'n teimlo hynny. Petai'r defaid yn canu am ddiffygion yr Iddewon, rydw i'n siwr y byddai Saunders Lewis wedi ei hoffi.

Monday, 14 April 2008

'Nol i'r Fro!

Wrthi'n parhau ychydig o'm cofnod diwethaf, rydw i'n meddwl y mae'n rhy hawdd i bobl draw fa' 'ma beirniadu'r bobl draw fa' 'na weithiau. Hynny yw, mae yna duedd i Gymry honni nad yw'r Gwyddelod mor wahanol o'r Saeson, ond y ffaith yw: i lygaid Americanaidd/nid-o'r-ynysoedd-Prydain, nid yw'r Cymry mor wahanol chwaith. Mae Saeson, Gwyddelod a Chymry ill tri'n yfed te, gwisgo crisiau Manchester United, ac yn mynnu taw brilliant yw "Friends."

Ond mae yna wahaniaethau ysgafn, yn enwedig yn y bôn o'r cymeriad cenedlaethol. Mae'r Gwyddelod yn fwy Americanaidd ac eto mwy Ewropeaidd na'r Saeson (neu'r Cymry), yn ogystal â chael cymeriad unigryw o'u pennau eu hunain. Nid ydw i eisiau codi gwrychyn (a) neb, ond ymddengys imi weithiau taw chwerw yw rhai Cymry tua eu cefnderoedd Celtaidd (ŵn i ddim pam -- ai oherwydd cânt nhw mwy o anwyldeb o'r Americanwyr efallai?); ac fel canlyniad mae yna duedd eisiau eu paentio gyda'r sen o fod yn "Saeson gydag acen doniol."

Er, wedi dweud hynny, tro diwethaf y roeddwn i yn Iwerddon, arsylwais y cyfeiriai fy ffrindiau at Gymru a Gogledd Iwerddon fel "England" (Ond wrth gwrs, y cafeat i hynny yw bod fy ffrindiau yn Dulynwyr. Petaech chi ofyn rhywun o Cork am y Dulynwyr ni chewch ymateb ffafriol, ac efallai byddai preswyliwr Cork gwahaniaethu rhwng y cenhedloedd gwahanol y Home Nations).

Ta beth, mae'r Gwyddelod yn werin hyfryd yn fy marn i, a'r sefyllfa eu hiaith yn dipyn o ddirgelwch. Rydw i'n meddwl y byddai'n werth yr ymdrech i edrych ar sefyllfa Gwyddeleg er mwyn osgoi ei ail-wneud yng Nghymru. Mae'r iaith Wyddeleg yn rhan o'r cymeriad cenedlaethol, caiff yr iaith ei haddysgu fel rhan o'r cwricwlwm addysg, caiff yr iaith miliynau o ewros o'r llywodraeth, ac, annhebyg i Gymraeg, mae gan yr iaith brwdfrydedd ymhlith y cymunedau tu fas ei gwlad. Er enghraifft, mae yna tua 26,000 siaradwr Gwyddeleg yn yr Unol Daleithiau (o'i gymharu â 2,000 siaradwr Cymraeg); ac onid yw Gwyddeleg yn opsiwn ieithyddol Blogger ond nid y Gymraeg?

Cytunaf â David y mae'n bwysig cynnwys yr ardaloedd dinesig wrth feddwl am strategaeth ieithyddol. Os oes eisiau ar Gymry cael gwlad ddwyieithog, os oes eisiau arnyn nhw (b) gadw'r iaith yn fyw ac yn iach, rhaid canolbwyntio ar wneud y dinasoedd yn rhannau annatod o Gymreictod. Un o'r rhesymau dewisais i ddod i Gaerdydd yw fy nghred y mae'r brifddinas yn gartref i'r dyfodol yr iaith. If Cardiff is important to bisexual immortals, it should be important to you.

Felly, mae gennyf duedd i fod yn ochelgar tua'r amcanion Cymuned. Wel, nid yw hynny'n wir. Cefn gwlad = da. Ond rydw i'n ochelgar/ansicr/ddrwgdybus o'r syniad Y Fro Gymraeg (côr angylaidd) a'r awydd gwario adnoddau llywodraethol arni, i'r niwed o ymdrechion yn yr ardaloedd dinesig. Cyfaddefaf yn llwyr nawr fy mod i'n sathru i mewn tiriogaeth na ŵn lawer amdani. Ond, weithiau, gall ymddangos i mi y mae yna rai sydd rhy awyddus torri'r ardaloedd dinesig o'u syniad o beth mae Cymru. Yn lle nag eisiau ymestyn yr hen iaith i'r byd modern maen nhw eisiau adeiladu amddiffynfeydd rhagddo.

Efallai fy mod wedi sôn am fy nghwynion am gymdeithasau Cymreig yr Unol Daleithiau -- sut canolbwyntian nhw ar Gymru a fu. Yn fy mhrofiad innau, canolbwyntian nhw ar y Gymru twee honno nad yw'n bodoli ers cyn Ail Ryfel y Byd, neu erioed. Yn amlwg mae'r sefyllfa'n wahanol, ac mae'n hollol debyg y byddwn i'n teimlo'n wahanol petawn i fyw yna, ond teimlaf weithiau fod gan breswylwyr Y Fro Gymraeg® (ble/beth bynnag yw honno) agweddau tebyg i'r bobl hynny sy'n rhamanteiddio'r wlad o'u tadau.

¡! Pobl Cymuned: Dylech chi deimlo'n rhydd nawr gadael sylw am sut ni ŵn ffycin ddim. Mwy na thebyg byddech chi'n gywir. ¡!

Ta beth, er gwaethaf fy anghysur tua'r syniad o organolbwyntio ar Y Fro Gymraeg™, roeddwn i'n meddwl ddoe am syniad ar gyfer rhaglen teledu y byddai ei hyrwyddo.

Daw'r syniad oddi wylio "Escape to the Country," sef y rhaglen BBC sy'n annog Saeson cyfoethog i fynd ati i godi'r prisiau tai yn y cefn gwlad.

A ydych chi wedi gweld y rhaglen hon? Yn y bôn, cewch chi gwpl cyfoethog (Saeson bron pob tro) sydd eisiau dianc o'u "hectic lives" yn y ddinas, a symud i'r lle perffaith yn y cefn gwlad. Felly bant â nhw gyda gwenci o asiant ystadau i edrych ar dai enfawr nad ydyn nhw eu hangen. Bydd yna ddau ohonynt ond am ryw reswm maen nhw'n edrych ar ffermdy chwech-ystafell. Mwy nag arfer, gwyddant nhw fuck all am yr ardal eu bod nhw'n symud iddi hi, a talan nhw ormod am y tŷ. Enw fi i'r rhaglen yw "Fuck Up Everyone Else's Life in the Country."

Deuthum i gasáu'r rhaglen hon ar ôl gwylio pennod gyda chwpl Seisnig y roedd eisiau symud i Sanclêr. Ni fu unrhyw sôn am y ffaith taw siaradwyr Cymraeg yw mwyafrif preswylwyr y pentref (c), a gellir tybio na fyddai diddordeb gan ein cwpl coeth ni am yr iaith.

Felly, ddoe, roeddwn i'n meddwl y gallai rhaglen S4C dilyn yr un math o syniad -- symud i'r cefn gwlad -- ond er mwyn gwella Y Fro Gymraeg™.

"'Nol i'r Fro!" (ebychnod angenrheidiol) byddai enw'r rhaglen. Byddai'n canolbwyntio ar helpu siaradwyr Cymraeg dod o hyd lle i fyw a bywoliaeth yn yr ardaloedd a ddiffinnir gan Cymuned i fod yn "ardaloedd Cymraeg." Darllenais rywbryd yn ôl ar eu gwefan bod yna ddim ond 16 ardal Gymraeg go iawn yng Nghymru o hyd. Felly byddai'r rhaglen hon (cyflwynir gan Alex Jones oddi Hip Neu Sgip oherwydd rydw i eisiau ei phlamo a gwnaf i wylio unrhyw raglen gyda hithau ynddi) gweithio i ailadeiladu'r ardaloedd hyn. Teilwrio cymdeithasol mewn blwch gorwych.

Peth yw: Credaf y gallai fod yn rhaglen lwyddiannus a fyddai annog pobl eraill gwneud yr un peth, neu, o leiaf, meddwl am yr effaith bod ganddynt ar y lleoedd ble maen nhw'n byw. Os oes yna unrhyw gynhyrchwyr sy'n darllen fy mlog rydych chi'n groeso defnyddio'r syniad hwn, ond disgwyliaf am gael consultant's fee. A thŷ yn y cefn gwlad.

-----

(a) Dyma fi'n defnyddio fy llyfr newydd: Geiriadur Idiomau

(b) A ddylwn i wedi ysgrifennu "inni" yma? Allaf i gynnwys fi fy hunan fel "Cymro" wrth sôn am awydd hybu a hyrwyddo'r iaith?

(c) Yn ôl Wikipedia. Ffynhonnell ddibynadwy iawn, gŵn.

Thursday, 10 April 2008

Gallai fod yn waeth

Rydw i wedi bod yn canolbwyntio ar Wyddeleg heno, felly rydw i'n ychydig dryslyd wrth geisio mynd yn ôl at feddwl yn y Gymraeg.

Peth diddorol am yr iaith Wyddeleg yw bod yna gynifer o darddiadau ble gellir clywed yr iaith cael ei defnyddio, wrth gymharu â tharddiadau Cymraeg. Yng Nghymru, rydw i'n ymwybodol o ddim ond un orsaf radio a ddarlleda trwy'r amser yn y Gymraeg, sef Radio Cymru. Ond mae gan Iwerddon sawl gorsaf. Er enghraifft, Raidió X, Raidió na Gaeltachta ac o leiaf un orsaf leol; a darlleda Radio Ulster 40 awr o raglenni pob wythnos (Er, i fod yn deg, mae gan orsafoedd Gwyddeleg duedd gwneud y peth Radio Cymruaidd 'na o siarad yn y famiaith ac wedyn mynd ati i chwarae cerddoriaeth wedi dyddio o'r Unol Daleithiau). Hefyd darlledir yr iaith sawl awr gan RTÉ (TG4) a'r BBC.

Ond, er gwaethaf hynny, mae yna fwy o siaradwyr Cymraeg. Ac o'm profiadau o deithio i Ddulyn, mae'r Gymraeg yn fwy o ran feunyddiol o fywyd yng Nghymru nag yw hi yn Iwerddon. Hynny yw, mae'n fwy o ran feunyddiol yn y dinasoedd mawr (ni ŵn am y sefyllfa yn yr ardaloedd Gaeltachtaí). Mae yna sawl person a gwyna am ddiffyg y Gymraeg yng Nghaerdydd, ond mae sefyllfa fetropolitan Cymru yn iwtopia wrth ei gymharu â'r sefyllfa iaith Iwerddon.

Pan roeddwn i'n ymweld â'm ffrindiau pythefnos yn ôl sylwn wrth fy ffrindiau na ysgrifennir y Wyddeleg ar y bysau Dulyn.
"It's there," meddai fy ffrind. "It's written on the right side of the buses."
Wel, ie. Ond mae'r famiaith ar bob ochr bysiau Caerdydd (a). Ac ar fwrdd y bws mae yna Gymraeg hefyd -- nid yw hi i'w gweld mewn bws Dulyn.

Efallai taw prawf bod ymgyrchwyr Cymraeg yn werth y drafferth yw hwn. Hynny yw -- yn fy marn i, ac rydw i'n ymwybodol fy mod i'n hollol ar fy mhen fy hun wrth ddweud -- gall y bobl sy'n ymdrechu tros yr iaith fod yn flinderus weithiau (wir, a oes angen rhoi'r ffycin "Ble Mae'r Gymraeg?" sticeri ar bopeth?). Ond hebddynt, beth fyddai?

Tybed pam mae'r sefyllfa ieithyddol yn wannach na'r sefyllfa yma. O dan ddylanwad y Celtic Tiger a ydyn nhw wedi dod i fod yn rhy gyfforddus? Wrth golli Lloegr fel gelyn go iawn (mae Lloegr yn elyn o'n calonnau ni am byth, onid yw?) a ydyn nhw wedi colli awydd, neu ynni, i ddiogelu eu hunaniaeth? Yn amlwg, nid fi yw'r person gorau i fod yn gofyn y cwestiynau hyn. Ni ŵn ddim byd. Ac nid ydw i'n fod yn gas tua'r Wyddeleg neu'r Gwyddelod (onid yw'n rhan DNA Americanwr ein bod ni'n caru Iwerddon a phopeth Gwyddelig?). Dim ond yn myfyrio'n ddi-gyfeiriad ydw i.

Ond yn Nulyn, o leiaf, teimlai'r iaith -- imi -- rhywsut fel agweddau pobl Texas tua Willie Nelson. Rydym ni i gyd yn cael parch tua Willie. Ni fyddai neb yn mentro dweud un gair yn ei erbyn. Mae fe a'i gerddoriaeth yn ddarn corfforol o'n hunaniaeth. Ond nid oes llawer o bobl sy'n piau albwm Willie Nelson (er finnau'n perchennog 30 ei draciau). Mae gan y preswylwyr Dulyn barch tua'r iaith eu gwlad ond nid oes ganddyn nhw lawer o ddiddordeb yn ei siarad.

(a) Dwedaf hynny, a siŵr o fod bydd rhywun anfon imi lun o fws Caerdydd heb damaid o Gymraeg arno.

Tuesday, 8 April 2008

Broken record

Rydw i'n adolygu ar hyn o bryd -- wrthi'n paratoi ar gyfer dychwelyd at brifysgol yr wythnos nesaf.

Wrth fynd trwy bethau heddiw gwelais ar ochr fy nodiadau Dadeni a Diwygiad, mewn llawysgrif fy hun: "Beth yn y byd ydw i'n ei wneud yma? Dwi ddim yn deall beth sy'n digwydd."

Ni chofiaf ysgrifennu'r geiriau hyn ond teimlaf yn aml nad ydw i'n perthyn yn fy narlithoedd. Dyna fel pethau mae mewn prifysgol. Weithiau rydw i'n meddwl am barhau a gwneud PhD, a'r munud nesaf rydw i'n cwestiynu pam dewisais erioed dod yma.

Nid amheuaf taw profiad cyffredin yw hwn. Mae yna fyfyrwyr ym mhob prifysgol ym mhob gwlad sy'n ffeindio eu hunain ar noson hir wrthi'n meddwl: "Oh, I'm not gonna lie to you, I've had enough of this."

Well, OK, efallai nid fel Nessa oddi Gavin & Stacey ydyn nhw'n siarad, ond rydych chi'n deall fy mhwynt. Y peth yr ei fyfyriaf yw: a oes yna bobl mawr sy'n fel hyn? Yhm, nid am bobl tew ydw i'n sôn, ond pobl campus. Ta beth, ânt nhw trwy'r teimladau hynny? Os oes, am faint mae'r teimlad yn parhau iddyn nhw?

Rydw i'n ei deimlo ers tua fy mhen-blwydd. Cyn dechreuodd gŵyl Pasg, roeddwn i'n sgwrsio a Dr. Rosser am bosibilrwydd o wneud gwaith PhD. Nawr rydw i'n ysu am weld diwedd y tymor ac haf hir. Ond cyn daw'r dydd gwynfydedig hwnnw bydd gorfod arnaf gofrestru ar gyfer fy nhrydedd flwyddyn ac rydw i'n poeni amdani dipyn. Oherwydd roeddwn i am gofrestru ar gyfer modiwlau a ddatblygai sgiliau ymchwil y byddwn eu heisiau er mwyn parhau a gwneud MA neu PhD.

Ond os rydw i wedi cael digon, efallai byddai'n fwy deallus cofrestru am y modiwlau hawsaf y gallaf eu ffeindio. Ac rydw i'n weddol siŵr na fyddai neb yn disgrifio gwneud ymchwil fel "hawdd."

Ond yn y Big Picture, problemau twp, bechan a dibwys yw'r rhain, onid ydyn nhw? Prifysgol yw prifysgol -- mae yna filiynau sy'n para'n fyw trwy'r profiad hwn pob un flwyddyn. Ond lluddedus yw'r profiad. Ymhen amser -- rydw i'n siŵr -- dychwelaf yn ôl at awydd i wneud MA. Ac rydw i yr un mor siŵr y collaf ddiddordeb eto, hefyd. Ac yn ôl ac ymlaen, ac yn ôl ac ymlaen.

Fel dwedais, a yw hwn yn digwydd i'r pobl mawr?