Tuesday, 29 July 2008

38,191 gair

Tarwyd fi ddoe gan y ffaith taw amaturaidd yw cyfrif maint geiriau sydd gennyf ar brosiect. Ni welwch y math stwff hwn gan Owen Martell, er enghraifft. Mae fe'n gweithio ar lyfr arall ar hyn o bryd ond dyw e'n cyfrif ei eiriau pob 20 munud (neu, os mae yn, dyw fe'n cyhoeddi'r wybodaeth hon i'r byd).

Ond, wrth gwrs, amatur ydw i.

O hyd rydw i'n fath person a swynir gan syniad o ysgrifennu. Rhaid brwydro weithiau erbyn gwneud pethau dim ond oherwydd ymddangosan nhw fod yn "awduraidd" imi. Yfed jin ac ysmygu wrth deipio ac ati. Ar y cyfan, rydw i'n llwyddo osgoi bod yn ystrydebol ond os mae yna ferch sy'n darllen sydd eisiau cael helynt Bohemiadd â fi, rho fi wybod.

Ces i e-bost ddoe gan rywun sy'n gwneud rhaglenni teledu o'r Babell Len yn yr Eisteddfod a ofynnodd ai fodlon siarad â Mari Lövgreen ydw i. Ŵn i ddim am beth yn bendant mae hi eisiau siarad, oherwydd rydw i methu â chysylltu yn ôl erbyn hyn. Roeddwn i'n rhy brysur yn ysgrifennu ac yfed jin a chael rhyw â Keira Knightley. Fel y mae. Ond rydw i am ateb yr e-bost heno, a gwnaf fy ngorau peidio dweud rhywbeth twp, fel yr hyn a wnes i yr wythnos ddiwethaf.

Er, a dweud y gwir, does gennyf syniad am beth allwn i siarad yn nhermau llenyddol. Heblaw fy marn taw old and busted yw ôl-foderniaeth (hynny yw, mae ysgrifennu ôl-foderniaeth er mwyn ôl-foderniaeth yn old and busted), ni allaf feddwl am rywbeth doeth i'w ddweud ar gyfer rhaglen teledu. Nid llenor ydw i.

Teimlaf yn... annigonol am hynny rhywsut. Rydw i'n feddwl llawer am hyn yr wythnos hon -- nad ydw i'n chwarae rôl o berson sy'n ysgrifennu.

Ces i fy nechrau meddwl am hyn i gyd gan sgwrs a ges i ag Annie am brosiect y rydw i am wneud yn ystod yr haf nesaf â Llŷr. Erbyn hyn mae'n edrych fel y bydd Annie'n ein hymuno a'n ffilmio. Mae Annie'n ffilmwraig (sef filmmaker sy'n fenyw) go iawn. Ar hyn o bryd gweithia dros gyfres deledu big time. Dwi ddim eisiau dweud enw'r gyfres oherwydd ŵn i ddim a yw hi eisiau pobl gwybod, ond, credwch fi, mae'n gyfres y byddech chi wedi clywed amdani. A nawr mae'n meddwl am wneud y prosiect hwn, a sonia hi am ganfod cyllido, ac mae hi eisiau'r tri ohonom gwrdd yn Nulyn rhywbryd yn fuan (o, ie, Llŷr, os wyt ti'n darllen hwn, anghofiais ddweud hynny wrthyt ti) ac ati.

A dyma fi'n meddwl: "O, ffyc. Mae hwn yn beth o ddifrif."

Erbyn yr haf nesaf (os gweithia bethau fel y dylent) byddaf yn awdur cyhoeddedig, yn gwneud ymchwil ar gyfer llyfr arall a pharatoi am ysgrifennu nofel (yn ystod 2009-2010). Awdur go iawn. Wel, o fath. Anodd yw hawlio teitl awdur go iawn os ysgrifennwch yn y Gymraeg. Nodaf yn y llyfr hwn dyfod y gellwch fod yn brif weinidog Cymru ac o hyd bydd rhaid ichi giwio ar gyfer coffi yn Starbucks Bryste. Dim ots, felly, am fod yn awdur -- llwyddiannus neu ddim.

Ond gwelwch fy mhwynt. A dyma fi'n cyfrif geiriau. A ddylwn i ymddwyn yn fwy... ŵn i ddim... mwy fel yr hyn a ddisgwylir o awdur? Mwy fel fy nelwedd o'r hyn y mae awdur yn? Ond os ydw i'n cogio bod yn awdur, onid ydw i'n gwneud yr un peth â petawn i'n yfed jin? Mae'n well gennyf gael y jin.

Ta beth, mae pethau'n symud ymlaen gyda'r llyfr. Yn wreiddiol -- yn ôl ym mis Mai -- roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gorffen y peth yr wythnos hon. Ond wedyn gwnes i ddim yn ystod mis Mai, a nawr bydd o leiaf pedair wythnos rhagor cyn daw'r prosiect hwn i'w ben.

Efallai bydd yn rhagor na hynny, hyd yn oed. Er gwaethaf fy ngelyniaeth tuag Eisteddfod rydw i am fynd o leiaf unwaith, ac rydw i'n gobeithio cael cyfle mwynhau peint neu saith â ffrindiau. Neu'r rheiny sydd eisiau cogio taw ffrindiau fi ydyn nhw. Dyma eich cyfle cyfeillion -- cyn ddof i fod yn enwog a rhy gŵl cyfrif geiriau.

Diawl â'r cwestiwn

Roeddwn i'n meddwl am yr hen ddywediad Saesneg "devil take" heddiw. Clywir fe yng nghân "Kiss of Fire" gan Louis Armstrong ("Devil take tomorrow" medda fe), a sawl lle eraill.

Hoffwn i'n defnyddio rhywbeth tebyg yn y Gymraeg ac rydw i'n meddwl y byddai "diawl â" yn gywir. Er enghraifft: "Keira Knightley, os dwyt ti ddim eisiau shago fi, diawl â ti, cariad."

Saturday, 26 July 2008

Er , dyw hi ddim yn Dwrcaidd

Rydw i newydd ysgrifennu hyn ar gyfer fy llyfr ac mae'n achosi fi chwerthin:

"Di-rif yw'r troeon y rydw i wedi dweud rhywbeth tafod-yn-y-boch dim ond iddo gael ei gamddehongli fel datgan o ddifrif. Er enghraifft, dwedais ar fy mlog unwaith y hoffwn i gael rhyw â chyflwynwraig teledu Sarra Elgan, ac ymatebodd person mewn panig: "Ond priod yw hi! Chwaraewr rygbi yw ei gŵr!"
Ie, oherwydd yr unig rhwystr i noson ddrygionus a rhywiol yn ystafell gwely Sarra Elgan yw'r fodrwy honno ar ei bys gan Simon Easterby. Os mae'r ddau'n hollti byth gellwch dybio y bydd Sarra a fi wrthi'n cnuchio ymhen hanner awr yr ysgariad.
"

Thursday, 24 July 2008

Diffiniad

Un peth a nodaf yn y llyfr fy mod i'n gweithio arno yw tuedd yng Nghymru datgan gwreiddiau person ym mrawddeg gyntaf o'i ddisgrifiad. Hynny yw, mae yna uffach o bwyslais yng Nghymru ar o ble ydych chi'n dod. Edrych ar glawr bron unrhyw lyfr Cymraeg a mwy na thebyg dechreua disgrifiad yr awdur gyda rhywbeth fel: "Brodor Austin yw Chris."

Ŵn i ddim sut teimlaf am hyn. Er gwelaf werth o gael balchder yn eich ardal, rhaid gofyn ai berthnasol pob tro i rinwedd nofel yw ardal y person a ysgrifennodd y peth. Ni welir hyn mor aml ar gloriau nofelau Saesneg.

Peth arall y hoffwn ddianc rhagddo yw teitl "dysgwr." Petawn i'n dod i fod yn nofelydd rhagorol (annhebygol, gŵn, ond gall ddyn freuddwydio), bron yn sicr 100 y cant byddwn i'n cael fy nisgrifio fel dysgwr. Gwelwch hyn gyda phobl eraill. Caiff "dysgwr" ei ddefnyddio pan nad oes angen tynnu sylw at y ffaith.

Roeddwn i'n meddwl heddiw: Os mynna pobl ddefnyddio ffaith amherthnasol i'm diffinio, dwi ddim eisiau nhw sôn am fy mod yn ddysgwr. Diflas yw hwnnw. Dylen nhw ddatgan rhywbeth mwy diddorol: "A dyma Chris Cope -- he fucked a Turkish girl."

Dyna fath disgrifiad y rydw i ei eisiau ar glawr fy llyfr i.

Tuesday, 22 July 2008

32,211 gair

Mwy neu lai rydw i'n hanner y ffordd trwy'r llyfr erbyn hyn. Bydd yn llyfr cymharol o fyr. Felly'r dylai fod, credaf. Byddai gormod o sôn am fy mywyd yn diflasu minnau heb sôn amdanoch chi. Rydw i'n ceisio ysgrifennu stori ddifyrrus -- rhywbeth gall rywun ei ddarllen heb wybod dim amdanaf.

Yr wythnos hon rydw i'n ysgrifennu ychydig ar fy mhrofiad Eisteddfod cyntaf. Dyma sut dechreua'r darn:

"Siom. Dyna'r gair cyntaf a ddaw i'm pen wrth feddwl am fy Eisteddfod gyntaf. Wel, y gair cyntaf nad yw'n rheg, o leiaf. Rhai geiriau eraill: creigiau, llwch, diflastod, anrhefn, embaras. Ond siom yw'r pennaf air. Roedd y siom fel dwrn i'm bol."

Dwi ddim yn siŵr pa mor onest rydw i eisiau bod am fy nheimladau tuag Eisteddfod. A dweud y gwir wrthoch chi, fy nghyfaill agos, teimlaf fath o ddicter anesboniadwy tuag Eisteddfod. Chwerwdod. Ond dwi ddim yn siŵr a fydd hynny'n parhau neu a ddylwn i fynegi'r teimladau hyn mewn peth mor sefydlog â llyfr. Os rydw i'n dweud ar fy mlog taw fucking ass yw Hwn-a-Hwn, gallaf ddod yn ôl yfory ar ôl sobri a dileu'r peth. Nid opsiwn yw hwnnw gyda llyfr.

Mae yn her. I do not excel at self-censorship.

Hefyd yr wythnos hon rydw i'n meddwl am y ffaith y bydd rhaid imi ddatblygu trefn wahanol os dof i fod yn awdur proffesiynol. Fel pethau mae, gweithiaf yn galed dros ben am tua phythefnos -- wrthi'n ysgrifennu am 14 awr yn feunyddiol -- ac wedyn cael chwalu sydyn. Neithiwr roeddwn i'n cael tipyn o teenage girl moment wrth sgwrsio â ffrind ar dext. Doedd yn bert. Mae'n embaras deffro'r bore nesaf, edrych ar ffôn a meddwl: "For fuck's sake, Cope! You giant fucking girl's blouse!"

Ond o hyd mae'n well na swydd go iawn. Pan deimlaf yn is fel canlyniad yr unigrwydd o fod ar fy mhen trwy'r dydd, meddyliaf wrthyf fy hunan: "Wel, roedd gennyt ti gyfeillion pan oeddet ti'n gweithio yn y byd newyddion." Ac wedyn cofiaf taw'r unig nodwedd achubol oedden nhw. Roeddwn i'n barod rhoi matsien i'r swyddfa pan adawais.

Caf i gyfle gymdeithasu tipyn bach yr wythnos hon. Rydw i am fynd i 'Stafell Fyw yn Buffalo Bar ar nos Iau.

Ond ar hyn o bryd rhaid cael tipyn o gwsg. Yn ôl at weithio yn y bore.

Tuesday, 15 July 2008

26,606 gair

Nododd wythnos ddiwethaf dwy flwyddyn o'm byw yng Nghaerdydd. Symudodd y briodferch ifanc a fi yma ar 12 Gorffennaf 2006. Time flies.

Dwi ddim yn siŵr sut deimlaf am y peth. Pan gyrhaeddir diwrnodau penodol megis pen-blwydd symud i Brydain mae yna duedd edrych yn ôl a cheisio tynnu rhyw fath o gyfan-neges ganddo. Rydw i'n fwy bodlon â'm bywyd nag oeddwn i'n ddwy flwyddyn yn ôl, ond dim mor hapus. Ni chwarddaf fel y roeddwn i arfer.

Peth sy’n taro fi trosodd a throsodd wrth ysgrifennu'r llyfr hwn yw diffyg cymdeithasu difyrrus yn fy mywyd. Rhwystr yr iaith yw hwnnw, efallai. Os rydych chi'n nabod fi, byddech chi wedi sylwi y defnyddiaf ragor o Saesneg pan ydw i mewn hwyliau da. O hyd mae'n straen sgwrsio yn y Gymraeg ac weithiau gall fod yn anodd gweld y pwynt. Pam dal at yr iaith pan nad oes gennyf ddim i'w perthyn iddo yn yr iaith? Ond sut allaf berthyn i rywbeth os nad ydw i'n dal ato?

Daw bethau ag amser, efallai. Gobeithio. Weithiau rydw i'n agos i greu wltimata gwirion ar gyfer fy hunan fel: "Os nad oes pethau wedi gwella erbyn 2010, bant â fi i rywle arall." Ac weithiau cerddaf i'r lan y Garth a meddwl: "O flaen fy llygaid mae popeth fy mod ei eisiau."

Mae'r llyfr yn dod ymlaen (dyna ddywediad Saesneg mewn geiriau Cymraeg, sori). Amcan yw ysgrifennu 5,000 gair bob wythnos a llwyddais wneud hyn yn yr wythnos ddiwethaf. Prin. Roeddwn i'n brwydro erbyn math o writer's block yn ystod yr adeg. Gŵn beth ydw i eisiau ysgrifennu ond dwi ddim yn siŵr sut i'w ysgrifennu. Mae yna uffach o berygl diflasu'r darllenwr wrth ysgrifennu stori sy'n hunangofiant yn y bôn. Hunangofiant rhywun nad ydych chi wedi clywed amdano? Booooooring. Felly sut i gyflwyno hanes sy'n ddarllenadwy hyd yn oed nad ydych chi'n fy nabod -- dyna'r her. Cawn ni weld ai llwyddiannus fyddwn i.

Roeddwn i'n gweithio ar bennod sy'n delio â thechnoleg a blogio ac ati, ac roeddwn i'n meddwl am sut ydw i wedi colli tipyn o dir yn y byd modern. Effaith byw yng Nghymru yw honno, heb os. Does dim byd o'i le am fod yn wyliadwrus wrth ddelio â phethau ond mae gennym ni yng Nghymru duedd i fod ychydig rhy bell tu ôl gweddill y Western World. Mae gennym y ddinas fwyaf cosmopolitan (sef Llundain) dim ond rhyw 150 milltir i'n dwyrain (a phob math o stwff wrthi'n digwydd yng Nghaerfaddon) ond yn nhermau rhyngrwyd ymddwynwn ni fel mae'n 1995. Gwefan Golwg? Er mwyn dyn. Cymru dlos yw ein hesgus, ond yn rhy aml ymddengys i fod yn Gymru ddiog.

Er dwedir bod yna newidiadau dyfod ar wefan Golwg (yn ogystal ag ar wefan bARN). Efallai taw rownd y gornel yw'r 2000au, te. What a crazy merry-go-round existence this.

Ta beth, rydw i'n meddwl y dylwn i wneud newidiadau i'm blogiau rhywsut. Ond ŵn i ddim beth i'w wneud. Yn ogystal â hynny teimlaf angen am newid yn nhermau o'r hyn fy mod i'n gwneud. Mae'r blog hwn wedi heneiddio. Rydw i wedi heneiddio. Rydw i angen rhywbeth newydd, ond ni allaf feddwl am beth ydw i'n sôn pan ddwedaf hynny.

Monday, 7 July 2008

20,229 gair

Aeth y daith i Gaerfyrddin yn iawn. Dwedodd Catrin Dafydd wrthyf i unwaith (a) taw lle sydd eich taro fel tref a allai fod yn well yw Caerfyrddin, ac iawn yw hi. Does dim hollol o'i le am y dref ond cewch deimlad y mae rhywbeth ar goll; fel pe cafodd y dref ei hadeiladu gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn sy'n ysgrifennu ei draethawd olaf erioed. Wrth edrych ar Gaerfyrddin, meddyliwch: "Whoever built this place, his heart just wasn't in it."

Ond dyna ni. Rydw i wedi gweld lleoedd gwaeth. Ac erbyn hyn rydw i wedi penderfynu gwneud cais am gwrs MA ysgrifennu creadigol yng Ngholeg y Drindod. Es i allan ar ddydd Gwener i siarad â darlithydd am y cwrs ac rydw i'n meddwl y mae'n rhywbeth gwna gyfunioni â'm hamcanion. Yn enwedig oherwydd dwi ddim yn siŵr beth uffach yw fy amcanion.

Rydw i eisiau ysgrifennu. Dwi ddim eisiau newynu. Cydosoda'r ddau beth hwnnw ac mae gennych chi fy amcanion.

Coleg bach yw Coleg y Drindod. Gellir ffitio'r holl beth mewn IKEA. Ond bellach bydd yn beth da. Rydw i'n gobeithio y bydd y pellter a bychander yn bethau o fudd i'm hysgrifennu. Eisoes mae gennyf syniad ar gyfer fy ymdriniaeth -- nofel am bellter, dieithriad, ymlyniad, a gwaredigaeth. Dyna'r syniad, o leiaf. Yn nwylo anfedrus i, daw'r ffycin peth i fod yn nofel amwys yn foesol am eisiau cael rhyw â'r ferch uffach o egnïol 'na sy'n portreadu Heini ar S4C.

Dadwisgo'r dracsiwt binc oddi wrthi ac mae hi'n deigr...

Ta beth, mae'r llyfr yn dod ymlaen. Pryderaf am safon fy iaith, taw gor-Saesnegaidd bydd fy Nghymraeg. Hynny yw, mae gan yr unclean megis fy hunan duedd i gyfieithu yn llythrennol, i ysgrifennu'r Saesneg gyda geiriau Cymraeg. Roeddwn i'n meddwl am hyn y diwrnod arall ar ôl darllen cofnod Peggi ble cyfieitha "in for a penny, in for a pound" fel "yn i geiniog, yn i bunt."

A dweud y gwir, does gennyf gliw sut i gyfieithu'r dywediad hwnnw (yn rhannol oherwydd ŵn i ddim ei ystyr yn y Saesneg), ac dwi ddim yn bod yn gas tuag at Peggi. Mae'n beth a wnawn ni dysgwyr i gyd. Ac mae'n anodd peidio â gwneud.

Ffordd gorau i'w osgoi yw darllen a chymdeithasu llawer yng nghyfrwng y Gymraeg. Sydd peth anodd ei wneud y dyddiau hyn. Yn rhannol oherwydd does neb eisiau gwneud dim byd (I have some choice words for a certain someone who doesn't return my fucking texts), ac yn rhannol does gennyf amser i wneud dim byd â nhw beth bynnag. Yn sgil hynny, mae'n anodd gosod amser at ddarllen.

Teimlaf euogrwydd pan nad ydw i'n gweithio. Ond wrth weithio pryderaf fy mod i'n brifo ansawdd fy ysgrifennu gan fethu â throchi yn iaith rhywun arall na fi fy hun.

Ar gefn hyn yw'r pryderon: a fydd rhywun yn hoffi'r llyfr hwn? Rydw i'n dirdroi fy hun trosto a phryderaf na chaiff ei ddarllen ac eithrio gan bobl na ddylai wedi ei brynu yn y lle cyntaf. Mae gennyf hunllef na fyddai neb ond mam-guod yn prynu'r llyfr, dim ond i gael eu cynhyrfu gan ei gynnwys. My grandmother gives me enough shit, yo. Does angen am gecru mam-guod pobl eraill.

(a) Dyna name-dropping digywilydd, onid yw?

Thursday, 3 July 2008

17,204 gair

Arafodd bethau ychydig tros yr wythnos diwethaf, ces i ddelio â bowt bach o iselder a beidiodd yr ysgrifennu am dri diwrnod. Gwaith unig yw ysgrifennu; treuliaf awr ar ôl awr ar fy mhen fy hun mewn ystafell fach (mor fach na allwn ni letemu gwely yn yr "ail ystafell wely" hon). Felly roeddwn i'n isel fy ysbryd pan ges i ganlyniadau'r gwanwyn, a gwnaethpwyd pethau'n waeth ganddyn nhw.

Rydw i'n uffach o anhapus gyda'r marc a ges i mewn cwrs Hanes yr Iaith, a theimlaf taw annheg oedd y peth. Cwynais, a'r rheswm swyddogol am y marc yw nad ydw i wedi ysgrifennu digon. Roedd safon fy iaith yn ddigonol, dangosais wybodaeth o'r pwnc, ond, yn y bôn, ni ysgrifennais ddigon.

"Dim ond dwy awr yn yr arholiad," plediais yn ddi-fudd.

Ysgrifennais trwy'r ddwy awr i gyd, ond ymddengys nad oedd yn ddigon. Nid ydw i'n fyfyriwr da oherwydd dwi ddim yn medru ysgrifennu'n gyflym. Mae hynny'n taro fi fel peth hynod o hurt. Gwelais ar hysbysfwrdd Ysgol y Gymraeg taw gradd gyntaf enillodd Huw Alun Foulkes eleni. Tybed ai ddyn deallus yw Huw yn wir? Neu a yw'n ddim ond boi sy'n gallu ysgrifennu'n eithaf ffycin cyflym? (a)

Yn sgil hynny, efallai na fyddech chi eisiau darllen y llyfr fy mod i'n gweithio arno nawr. Mae'n cymryd misoedd i'w ysgrifennu. Dwedir y cymerodd James Joyce saith blwyddyn cyn gorffen Ulysses. A nodwch nad oes gan y ffycr 'na radd Prifysgol Caerdydd.

Gallaf ddychmygu hysbyseb newydd ar gyfer y brifysgol: "Need a handwritten copy of the Bible? By tomorrow? We got that shit covered."

Ond dyna ni. Does yna lawer y gallaf wneud am y peth. Rydw i wedi pasio pob un o'm modiwlau, felly does dim i dynnu fy sylw oddi fy llyfr. Ac erbyn hyn rydw i'n dechrau meddwl am yr hyn a ddaw ar ôl prifysgol.

Dydd Gwener, teithiaf allan i Gaerfyrddin er mwyn edrych ar gampws Coleg y Drindod a siarad gyda rhywun am wneud yr MA mewn ysgrifennu creadigol a gynigir yno. Ymddengys allaf wneud prosiect yn y Gymraeg trwy'r cwrs hwn, sy'n apelio ataf. Rydw i'n ddifrif am eisiau bod yn awdur Cymraeg, er gwaethaf fy handicap o fod yn ysgrifennwr araf.

Rydw i'n edrych ymlaen. Cymysgedig yw'r darlun sydd gennyf o Gaerfyrddin. Twll o le yw hi yn ôl rhai pobl. Lle gorau yn hanes lleoedd da yw hi yn ôl rhai pobl eraill. Tybiaf taw yn y canol yw'r gwir.

Byddaf yn gyrru yno wrth wrando arnaf fy hun ar y radio. Es i mewn heddiw am sgwrs gyda Hywel a Nia am ddathliadau 4edd Gorffennaf yn yr Unol Daleithiau (sef y diwrnod pan ddathlwn ni ein annibyniaeth rhag chi fast-writing sons of bitches ym Mhrydain). Darlleda'r sgwrs ar ddydd Gwener.

Dyma oedd fy nhrydydd cyfle mynd mewn a siarad â Hywel a Nia, ac mae rhaid i mi ddweud fy mod i'n mwynhau'r peth pob tro. Mae yna rywbeth amdanyn nhw sy'n gatalytig tuag at gael sgwrs. Roeddwn i'n dweud wrth Hywel fy mod eisiau gwneud pethau nodedig yng Nghymru dim ond er mwyn cael dod mewn a siarad â fe amdanyn nhw.

(a) Cymryd y piss ydw i, wrth gwrs. Rydw i'n nabod Huw oddi'r nifer o ddarlithoedd a ges i gydag ef yn ystod y flwyddyn academaidd ddiweddar, a gallaf ddweud y mae fe yn ddyn gwybodus.