Tuesday, 26 August 2008

47,779 gair

Rhywsut daeth ŵyl fach fod yn ŵyl tair wythnos. Wn i ddim sut ddigwyddodd hynny. Ta beth, rydw i wedi dychwelyd at waith ar y llyfr yr wythnos hon ac rydw i'n symud yn araf tuag at ddiwedd y prosiect.

Na, celwydd yw hwnnw. Rydw i'n symud yn araf tuag at gwblhau'r drafft cyntaf. Mae yna bum pennod arall i'w ysgrifennu. Ar ôl hynny daw pwy a ŵyr pa mor hir o olygu. Ac wedyn beth bynnag sy'n angenrheidiol ar gyfer cyhoeddi'r peth. Dwi erioed cyrraedd y pwynt hwnnw o'r blaen, felly bydd yn gyffrous a diddorol.

Gobeithio y bydd y cyhoeddwr eisiau'r peth o hyd. Yng nghefn fy mhen mae gennyf ofyn y byddwn yn cyflwyno'r gwaith i'm golygydd a byddai'n dweud: "Na, diolch Chris. Dwi wedi ailfeddwl y peth a does dim diddordeb. Sori. Chi wedi cwyno gormod am Eisteddfod."

Pe digwyddai hyn byddai gennyf ddau lyfr nad oes neb yn eu darllen -- un yn y Saesneg ac un yn y Gymraeg. A hefyd byddai fy nghynlluniau yn ffyced. Wn i ddim beth mae'r Gymraeg am "putting all my eggs in one basket" ond dyna beth ydw i'n ei wneud ar ryw lefel. Dim yn fwriadol ond oherwydd dyna fel y mae pethau. Pan feddyliaf am fy nyfodol, rhan bwysig yw cyhoeddi'r llyfr hwn.

Gan hynny, dwi ddim yn uffach o hapus am fynd ar wyliau tair-wythnos sydyn. Ond efallai bu yna angen amdanynt. Mae gennyf anhwylder deubegwn a all chwarae gyda'm pen weithiau ac achosi fi methu gweld fy ymddygiad. Gall fy chwerwedd tua rhai pethau berwi yn afresymol weithiau. Does angen, felly, imi ddarbwyllo'r byd taw gwastraff o amser yw Eisteddfod. Os ydych chi eisiau talu £12 i yfed coffi a ddarparir gan Brifysgol Bangor, wel dyna eich hawl chi, onid yw?

A dauwynebog yw fy meirniadaeth beth bynnag. Mae gennyf duedd i feddwl yn negyddol am y peth, ond petawn i'n ennill £10,000 oddi wrth Wobr Goffa Daniel Owen, neu beth bynnag, diau fyddwn innau'n faithful fuckin' puppy i'r Eisteddfod annwyl.

Fel mae'n digwydd, aeth y briodferch ifanc a fi i'r Brifwyl eleni ac roedd Rachel yn fodlon iawn â hi. Dwedodd y roedd yn llawer gwell nag Eisteddfod Abertawe 2006. Dyna chi. Os mae'r briodferch ifanc yn hapus, wel, does dim cymaint o awydd cwyno.

Ac nawr mae'r Democratic National Convention yn cael ei chynnal. Rydw i'n gwylio cymaint â gallaf ei ddioddef. Nad yw'n llawer. Os ydych chi'n gwylio, dwedaf wrthoch chi nad yw Americanwyr yn gwylio'r mwyafrif y pethau. Ar y cyfan, gwylian nhw'r areithiau mawr yn y nos, megis araith Michelle Obama ar nos Lun. Gan gynllun, ni fydd yr areithiau hyn yn arbennig o dda oherwydd does neb eisiau cysgodi Barack. Bydd ef yn siarad ar nos Iau.

Friday, 22 August 2008

Efallai mae'n ddiddorol i siaradwyr Cymraeg

Wn i ddim ai Gymraeg bydd ymhlith yr ieithoedd yn y ffilm The Linguists ond efallai bydd o ddiddordeb beth bynnag. Mwy na thebyg rhy gryf yw'r Gymraeg i'r bois 'ma, a dyw hi ddim yn ddigon sexy.

Wrth sôn am iaith, rydw i'n arsylwi wrth wylio'r Gemau Olympaidd taw'r Saesneg yw iaith y caiff ei defnyddio yn fwyaf aml. Weithiau bydd yna gyhoeddiadau yn Saesneg, Ffrangeg a Tsieinëeg, ond yn aml dim ond y Saesneg a glywir mewn digwyddiad. Mae'n werth nodi, rydw i'n meddwl, tra gweithiwn ni yng Nghymru tuag at gymdeithas dwyieithog. Mae yna fwy o siaradwyr Tsieinëeg na siaradwyr Saesneg ond yr olaf yw'r iaith fwy cyffredin. Iaith o fasnach yw'r Saesneg, iaith y byd. Os ni all Tsiena osgoi hynny, rhaid y gweddill ohonom ddod i dderbyn lle a phwysigrwydd yr iaith ddrwg drws nesaf.

Sut i ddelio â'r ffaith hon? Wn i ddim.

Sunday, 17 August 2008

Petai diwylliant Cymreig yn berson...


Wel, nid y diwylliant i gyd. Ond mae yna rywbeth am y clip hwn (oddi ar raglen yr Unol Daleithiau yn y 90au) sy'n atgoffa fi o Hywel Teifi Edwards.

Tuesday, 12 August 2008

Ar fy ngwyliau

Mwy na thebyg, wnaf i ddim gofnodi dim hyd at yr wythnos nesaf. Hwyl.

Thursday, 7 August 2008

Wrthi'n llosgi pontydd Eisteddfod

Ysgrifennais gofnod hir iawn ar fy mlog Saesneg am yr hyn nad ydw i'n hoffi am Eisteddfod. Ar hyd yr wythnosau diweddar rydw i'n ceisio gafael ar beth sy'n digio (efallai byddai "siomi" yn air gwell) fi cymaint am y Brifwyl -- dyma rhan o'r ymdrech hwnnw.

Yn wreiddiol roeddwn i am ei ysgrifennu yn y Gymraeg. Ond roeddwn i'n pryderu y byddai'r neges yn cael ei cholli ymhlith cwestiynau ieithyddol.

Wednesday, 6 August 2008

You give a little love and it all comes back to you

"Alright. No real problems there. Your teeth look pretty good," meddai'r deintydd.
"I'm sorry, what?" meddwn i.
"Your teeth," meddai fe. "No problems. A bit of tea stain on this one, but I'll sort that out."

Dim problemau?! Nid erioed yn fy mywyd ydw i wedi clywed "dim problemau" mewn swyddfa deintydd. Ers cyn cof byddai ymweld â deintydd yn golygu amser hir o dan chwyrndroi rhyw offeryn diawledig o boenus.

Deg munud yn hwyrach dyna fi'n cerdded adref, yn canu ac yn meddwl wrthyf fy hunan: Dim problemau! Dwi'n dy garu di, Cymru! Fydda' i fyth yn dy adael!

Rhyfeddol pa mor gyflym y gall hwyliau newid, onid yw?

(Daw'r pennawd o'r gân gorau mewn hanes caneuon da)

43,198 gair

Prin llwyddais gyrraedd amcan o 5,000 gair yr wythnos hon. Dyna fy bare minimum i'w ysgrifennu mewn wythnos ond mae'n her y dyddiau hyn am ryw reswm.

Efallai taw natur o'r hyn y rydw i'n ysgrifennu sy'n achosi gohirio. Tywyll yw'r 15fed bennod y llyfr hwn, ac mae'n gorfodi fi meddwl yn ôl ar adeg dywyll fy Mhrofiad Cymraeg. Un peth y rydw i wedi darganfod wrth ysgrifennu'r llyfr hwn yw bod gennyf lawer o chwerwdod a dicter tuag at y Gymraeg a phethau Cymreig. Daw nifer o'r teimladau hyn gan yr adeg honno.

Gwyddwn eisoes nad oeddwn i'n hyrwyddwr mwyaf hyzahus (a), ond doeddwn i'n ymwybodol pa mor gryf yw'r teimladau. Wrth ysgrifennu weithiau gofynnaf o'm hunan a ddylwn i ddychwelyd i Minnesota ar ôl gorffen prifysgol. Erbyn hyn mynnaf y rydw i eisiau aros yng Nghymru -- gwneud gradd uwch yng Nghaerfyrddin, ysgrifennu llyfrau yn y Gymraeg, sefydlu fy hunan yma, ac ati. Ond...

Eiddigus ydw i, felly, o Peggi a'i swyno gan Eisteddfod. Dim ond cerdded 20 munud o'm tŷ yw'r Brifwyl y flwyddyn hon ond does gennyf awydd am fynd. Pam? Beth mae'r pwynt? Ar gyfer gweld apig o ddiwylliant Cymreig megis y boi 'ma?

Roeddwn i'n meddwl am hyn i gyd y bore 'ma. Beth sydd i'w denu person at yr iaith? Pam ddylai berson ddysgu'r Gymraeg? Yn wir? Yn enwedig rydw i'n meddwl am y briodferch ifanc, sy'n ceisio penderfynu a yw hi eisiau gwneud cwrs Pellach yn yr hydref.

Gwnaeth hi gwrs Wlpan y llynedd, ac ni ellir dweud y mwynhaodd hi'r peth cant y cant. Roedd yn fwy anodd nag oedd hi'n disgwyl, roedd ganddi fil peth eraill i'w wneud yn ei swydd a chapel, ac wedyn deuai hi adref i weld minnau'n brwydro canfod lle i berthyn mewn popeth. Pam ddylai hi ddal at yr iaith pan mae'n brifo fi? Beth fyddech chi'n ei ddweud wrthi i'w hannog dal at ddysgu? Beth mae'r rheswm? A dweud y gwir, dwi ddim yn gallu meddwl am un.

(a) Gair ffug yw hwnnw; mae'n ansoddair a ddaw o'r ebychiad "Huzzah!"

Saturday, 2 August 2008

All this Welsh shit

"Yn anffodus, dyn braidd yn academaidd oedd yn rhoi'r wers Gernyweg i mi; roedd o'n gallu dyfynnu barddoniaeth, ond ddim yn gallu deud wrtha i sut i ofyn am baned o de. Felly dwi'n dal ddim yn siŵr be'n union ydi sefyllfa'r iaith na pha mor debyg ydi hi i'r Gymraeg." -- Bethan Gwanas, Ar y Lein Eto

Arfer bod yn olygydd oeddwn i. Treuliwyd fy nyddiau wrthi'n cywiro straeon newyddion a chasáu'r gohebwyr iaithblant (a) yr ysgrifennai'r straeon. Deallaf, felly, y gall defnydd gwael o eiriau ddrysu ac andwyo neges y geiriau. Effeithir cynnwys gan gystrawen.

Mae'n anodd gweld rhinwedd dadl wleidyddol, er enghraifft, os lapir hi mewn iaith or-syml, tafodieithol, anodd ei deall. I'r gwrthwyneb, rydw i wedi darganfod, gall fod yn anodd i bobl weld hiwmor os lapir fe mewn iaith safonol (b). Lledawgrymir rhywbeth am yr hyn a ddwedir gan yr iaith a ddefnyddir.

Wrth ysgrifennu yn y Gymraeg, felly, tueddaf at iaith safonol. Neu'r hyn a ddeallaf i fod yn safonol. A gan ddefnyddio'r term "safonol" golygaf "middle of the road" -- rhywle hapus rhwng tafodiaith annioddefol a Chymraeg ffurfiol annioddefol. A dweud y gwir, does dim digon o bwyslais ar ganfod a datgan y lle hwn ymhlith cylchau Cymraeg eu hiaith, yn fy marn. Wn i ddim pam. Efallai bod yna ormod o barch am dafodiaith. Mae gan y Gymraeg wreiddiau mor gryf yn y traddodiadau gwerin nad oes gan neb hyder am ddweud wrth y person sy'n siarad "Cymraeg" annealladwy: "Hei, swni ti fel ffycin lembo pan wyt ti'n siarad y Gymraeg fel hynny"

Anffodus ydyw nad oes mwy o ymdrech i ddiffinio (a defnyddio) y canol oherwydd at hwnnw mae mwyafrif dysgwyr yn ymgeisio. Soniodd Peggi yn ddiweddar am ei diffyg hyder wrth siarad y Gymraeg, a tra digwydda bethau tebyg ym mhob iaith, endemig ydyw yn y Gymraeg.

Canlyniad yw diffyg terfyn. Pryd gallaf ddweud wrthyf fy hunan nad ydw i'n ddysgwr? Diawl â'r shit hwnnw am bawb yn dysgu trwy'u hoes. Ie, dysgaf (neu ail-gofio) bethau weithiau am y Saesneg, ond dwi ddim yn ddysgwr yr iaith honno. Petaech chi'n ceisio cywiro fy iaith ar fy mlog Saesneg, byddai'r sylw'n cael ei ddileu yn syth. Pryd gallaf deimlo yn fy nghalon y rydw i wedi cyrraedd rhuglder yn y Gymraeg? Beth mae'r safon?

Ar y cyfan, defnyddiaf Barn am y pwrpas hwnnw. Gallaf ddeall yr hyn a ysgrifennir yn Barn, a'r hyn a ysgrifennir a ddwedir gan y BBC, felly dyma fi, rydw i'n siarad y Gymraeg. Does dim ots am dafodiaith. Dwi ddim yn deall ebonics yn dda, ond onid ydw i'n siaradwr Saesneg?

Ond daw bwyslais ar, a chariad am dafodiaith, ynghyd â phresenoldeb Cymraeg ffurfiol ac achosant amheuaeth: a ydw i'n gwybod y Gymraeg o gwbl? Wrth siarad, cwestiynir pob un gair, pob un frawddeg i'r pwynt o fethu mynegi dim, methu eisiau mynegi dim.

Faint o droeon a ydw i wedi gweiddi at Gymru: "Fuck your language! God speed its demise"? Dyma ganlyniad o or-ganolbwyntio ar yr iaith, o dreulio gormod o amser wrthi'n meddwl am yr iaith -- ei chystrawen, ei gramadeg, ac ati. Tra credaf y mae yn bwysig gweithio tuag at iaith safonol a'i chynnal, credaf hefyd y gall or-feddwl ar y pethau hyn drechu'r pwynt o iaith, sef cyfathrebu.

A dyna chi fy marn am bobl sy'n cywiro fy iaith ar y blog hwn. Ar y cyfan, rydw i'n werthfawrogol. Wrth gwrs gwn nad yw fy iaith yn berffaith ac rydw i'n fodlon derbyn cyngor ar sut i'w gwella. Ond pryderaf y caiff gynnwys cofnod ei anwybyddu gan or-bwysleisio ar sut ysgrifennwyd. Er enghraifft, mae yna lawer o sylwi yn y cofnod hwn, ond does dim sylwi ar y cofnod ei hunan. Pwynt o gael sylwadau ar flog yw parhau'r sgwrs, fel petai, nid gor-ddadansoddi manylion o gyfrwng y sgwrs.

Wedi dweud hynny i gyd, mwy na thebyg ni fydd neb eisiau sylwi ar fy mlog ym mhellach: "You've made too big a deal of it now, Cope. I don't want that pressure."

-----
(a) Dyw hwnnw ddim yn air. Gwn.

(b) Er, yn fy achos i, dim ond rhan o'r broblem yw honno. Caf fy nghamddeall hefyd oherwydd Americanwr a dysgwr ydw i. Am ryw reswm (estrongasedd?), mae yna ragdybiaeth nad ydw i'n medru siarad y Gymraeg yn iawn, ac nad ydw i'n medru deall cysyniadau a drafodir yn y Gymraeg. Pan geisiaf fod yn gellweirus, felly, mae yna duedd methu gweld yr hiwmor a thybio y rydw i wedi gwneud math o gamgymeriad, neu mae yna rywbeth o'i le am fy nghymeriad.

Friday, 1 August 2008

Ar feddwl am gigs Eisteddfod...

Mae yna lawer i'w feirniadu am gerddoriaeth gyfrwng Cymraeg, ond erbyn hyn rydw i wedi penderfynu na allaf ddefnyddio termau megis "da" neu "wael." Does dim modd teg o fesur rhinwedd cerddoriaeth gyfoes oherwydd mae gan bawb chwaeth amrywiol. Ond ar y cyfan, gwahanaf grwpiau mewn i ddau gategori:

1) Grwpiau sy'n perfformio imi.
2) Grwpiau sy'n perfformio i'w hunain.

Ar y cyfan, gwedda grwpiau cyfrwng Cymraeg fewn i'r ail grŵp. Os rydych chi'n mynd i weld nhw perfformio yn fyw, y peth sy'n eich taro'n syth yw bod nhw'n mwynhau eu hunain wrth wneud. A gan hynny, dydyn nhw ddim yn talu uffach o sylw ar safon y gerddoriaeth. Does dim ots ganddyn nhw os collan nhw nodyn neu dri, neu beth bynnag. Maen nhw'n cael amser gwych.

A chwarae teg iddyn nhw. Does dim llwyth o arian i'w gael wrth wneud pethau yn y Gymraeg, ac os nad ydych chi'n eu mwynhau byddai'n well ichi roi'r gorau iddyn nhw. Ond, wel, pan rydw i'n gwrando ar grŵp a ymddengys i fod yn mwynhau eu hunain i'r pwynt does dim ots ai yno neu ddim ydw i, mae'n well gennyf beidio â bod yno. Hynny yw, os rydych chi eisiau fuck about ar lwyfan, does dim ots 'da fi -- ond dwi ddim am dalu i'ch gweld.

Wedi dweud nad oes gennyf hawl bendant i feirniadu gerddoriaeth gyfoes gyfrwng Cymraeg, oes rhaid bod yna gynifer o grwpiau ska/funk/60au-aidd? Byddai person yn meddwl nad oes math arall o gerddoriaeth yng Nghymru.

I get it. You're wacky. You wear silly clothes. Now play some fucking music that isn't shit.