Sunday, 28 September 2008

Golwg newydd

Rydw i wedi gwneud dyrnaid o newidiadau i'r hen flog heddiw. Ac efallai bod yna rai newidiadau llai ar ddod.

Yn gyffelyb i'm blog Saesneg mae gan y blog "newydd" tair colofn, sy'n golygu (fel nodwyd gan Weirdo) mwy o le am hysbysebu. Er, a dweud y gwir, dyw hynny ddim yn y rheswm tu ôl y newid. Does dim arian i'w gael gan hysbysebu ar wefannau Cymraeg eu hiaith.

Rhywbryd yn y dyfodol, rydw i am ddefnyddio'r lle ar y de i'm hunan-hyrwyddo, sef cynnig dolennau i bethau rydw i wedi'u hysgrifennu. Shallow? Yes, yes it is. Croeso i'm blog. Gyda thair colofn gallaf osod mwy o wybodaeth ar yr ystlys heb gael ei cholli ar waelod y tudalen.

Hefyd rydw i wedi ychwanegu Twitter, a wna bethau'n haws i chi sy'n awyddus i'm stalcio. Rydw i'n meddwl ychwanegaf, rhywbryd yn y dyfodol, ryw fath o galendr Google y byddai'n dangos beth bynnag rydw i'n gwneud a phryd. Ond does dim pwynt i'r fath beth nawr oherwydd rydw i'n gwneud dim ffycin byd.

Yn y bôn, wrth wneud y newidiadau hyn rydw i'n ceisio edrych tua'r dyfodol a datblygu rhywbeth y gallwn ei ddefnyddio fel awdur, heb angen mynd i'r drafferth (a chost) i greu gwefan go iawn, megis yr un Owen neu Catrin ac ati. Mae hunan-hyrwyddo yn elfen bwysig o fod yn awdur, medden nhw. Nid Catrin ac Owen, ond "nhw" -- y "nhw" hollbresennol sy'n dweud pob math o stwff. Peidiwch gusan ar y first date; does neb yn siarad y Gymraeg yn y de; rhaid awdur treulio uffach o amser wrthi'n hyrwyddo ei hunan.

Ymddengys nad ydw i yn yr unig un i fod yn gweithio ar ei wefan. Mae yna newidiadau mawr gerllaw i wefannau Barn a Golwg. Yn arbennig rydw i'n edrych ymlaen at weld beth yn union a ddaw gan Golwg. Rydw i eisiau gweld pa fath o wefan gall £200,000 y flwyddyn brynu.

Fel colofnydd Barn rydw i wedi cael cip bach ymlaen llaw o'r gwefan dyfod i Barn (dylai fod yn fyw rhywbryd yn ystod y mis nesaf). Ar y cyfan rydw i'n fodlon â'r peth. Bydd yn hawdd i'w ddefnyddio ac mae ganddo olwg weddol broffesiynol wrth ei gymharu â gwefannau tebyg. Hynny yw, os rydych chi'n edrych ar wefan Time neu Guardian (sef gwefannau cyhoeddiadau newyddion/digwyddiadau cyfoes), gwelwch uffach ragor o bells and whistles ond yn y bôn mae gwefan newydd Barn yn gyffelyb.

Mae hwn yn bwysig, rydw i'n meddwl, oherwydd does gan Barn £200,000 y flwyddyn ar gyfer datblygu a rheoli ei wefan. Am wn i, adeiladwyd yr holl beth gan un dyn heb lawer o brofiad mewn adeiladu gwefannau, sef Dyfrig. Y ffaith yw, yn y byd modern gellir adeiladu gwefan weddol dda heb angen gwario tomen o arian. A dweud y gwir, gall rhai pobl adeiladu gwefan weddol dda am ddim.

Yn sgil hynny, er gwaethaf sôn am ddatblygu meddalwedd newydd, does dim ffordd i berson call wario £200,000 ar adeiladu gwefan ac eithrio mewn senario Brewster's Millions-aidd yr ynddo raid gwario'r arian mor gyflym â phosib er mwyn cael rhagor. Felly, bydd rhaid yr arian hwnnw cael ei wario ar weithredu'r gwefan. Dwi ddim yn sôn am dalu'r £25 y flwyddyn am enw a £15 y mis am ddefnyddio server, ond am gynnwys y gwefan.

Am y fath arian, disgwyliaf weld cynnwys unigryw i'r gwefan -- stwff na welir yn y cylchgrawn. Faint o bobl a ydych chi'n meddwl a weithia tros wefan Daily Post Cymraeg? Byddwn i'n dyfalu un. Un wage slave sy'n cyfieithu dyrnaid o straeon ac wedyn ei throi hi am y dafarn. Petai Golwg yn cynnig gwefan sydd ganddo ddim byd rhagor nag beth bynnag sydd yn y cylchgrawn, ni fyddai yna angen am y gweithiwr Daily Post hyd yn oed. Gall berson rhan-amser wneud y gwaith. Does angen llawer o amser i cut and paste.

Fel fersiwn ar-lein o'r hyn a gaiff gan y cylchgrawn, gallwn reoli gwefan Golwg am £30,000 y flwyddyn, ac rydw i'n bod yn hael iawn i'm gweithiwr rhan-amser. Ond dwedir gan Golwg eu bod nhw'n creu "gwasanaeth gwerth llawer iawn mwy na £200,000 y flwyddyn."

Meddyliwch am hynny. Am £200,000 y flwyddyn gallwn gyflwyno gwefan gyda staff chwe pherson cyfforddus-yn-eu-cyflog. Chwe ffycin person. Roeddwn i'n arfer gweithio tros gwefan newyddion gyda staff dau berson mewn ardal 3 miliwn preswyliwr, sef mwy na phoblogaeth yr holl Gymru. Does dim ots am greu gwasanaeth gwerth mwy na £200,000, sut mae Golwg am greu gwasanaeth sy'n hanner agos i werth yr arian sydd ganddo?

Fel dwedais, rydw i'n edrych ymlaen. This shit better be the Beijing Olympics of websites, yo.

Hyd yma, dwi ddim yn optimistaidd. Wrth ddarllen blog Golwg, gwelaf lawer o stwff sy'n gyfarwydd o'm dyddiau gweithio yn y rhyngrwyd. Stwff nad ydw i'n siŵr amdano. Er enghraifft, dweda Golwg eu bod nhw eisiau datblygu gwefan sy'n "fel Maes yr Eisteddfod. Ein gwasanaeth newyddion a materion cyfoes ni fydd y Pafiliwn yn y canol ond mi fydd yna bob math o bethau eraill yn gallu digwydd o’i gwmpas."

Wrth gwrs, gwyddom sut teimlaf am Eisteddfod. Ond swnia hwn fel yr hen syniad o'r "catch-all website," neu'r "web portal," sef gwefan sy'n ychydig o bopeth i bawb. Ond wrth gwrs, os rydych chi'n ceisio gwneud hyn rydych chi'n methu'n llwyr i ddeall y rhyngrwyd. Does angen am wefannau "catch-all" oherwydd mae popeth ar gael trwy'r rhyngrwyd. Users create their own interface. Hynny yw, a la carte yw'r pethau mwyaf llwyddiannus ar y we. Wrth geisio creu rhyw fath o sefyllfa rhywbeth-i-bawb rydych chi'n methu sylweddoli deallusrwydd o'ch defnyddwyr. Mae'r syniad o'r "web portal" wedi mynd â'r 90au.

Ond, chwarae teg, does gennyf syniad am beth mae Golwg yn sôn gyda'r stwff cylchgrawn-fel-Eisteddfod hwn (gobeithio na ddisgwylir ganddynt inni dalu £12 am weld y ffycin peth). Efallai bydd yn wych. Wn i ddim. Yr hyn nad ydw i eisiau gweld yw sgâm arall. Efallai na fu amcan Y Byd yn bod yn sgâm, ond bu. Heb gwestiwn, bu. Os rydych chi'n pledio am arian am fwy na phum mlynedd a chwarae ar deimladau cenedlaetholdeb pawb er mwyn cyrraedd eu waled, dim ond i gynhyrchu dim o gwbl, mae hwnnw'n sgâm. Does gair arall.

Nawr mae'r arian mewn dwylo Golwg ac rydw i'n nerfus (a yw hwn y gair gorau i'w ddefnyddio, tybed?) am yr hyn a welaf oddi wrthynt. Enghraifft arall (er, bach) yw'r enw newydd, sef "Golwg Newydd."

Beth fydd synnwyr yr enw hwnnw ymhen blwyddyn, pan nad yw Golwg Newydd yn newydd ym mhellach?

Ond efallai bydd yn enw newydd dros dro. Ar hyn o bryd mae Golwg yn defnyddio ychydig o'i £200,000 i ofyn am help i ganfod enw'r peth. Maen nhw'n fodlon rhoi £100 i rywun sy'n gallu meddwl am enw da. Rydw i wedi awgrymu rhai enwau -- bid siŵr gellwch feddwl am rywbeth gwell.

65,509 gair

Postiwyd llawysgrifen Cwrw Am Ddim i'r golygydd ddoe. A allaf ddweud y postiwyd i'm golygydd, tybed? Swnia'r olaf yn fwy cŵl rhywsut.

Ta beth, roeddwn am anfon (danfon? Gyrru? Pa un fyddech chi'n ei ddefnyddio?) y llyfr iddi (y golygydd) ar ddydd Gwener ond penderfynodd fy argraffydd yn reit sydyn i fynd tits up (a). Felly bant â'r briodferch ifanc a fi i Comet i brynu argraffydd newydd.

Peiriant ffycin enfawr sydd gynom ni nawr. Mae yna rywbeth amdano sy'n edrych yn anfad. Dwi ddim yn siŵr beth sydd amdani. Y lliwiau efallai. Ei faint. Ond mae yna rywbeth HAL-aidd amdano. Rydw i am ychwanegu cost y peth i'm cais am ysgoloriaeth Academi pan af i ati i lenwi'r ffurflenni rhywbryd yn ystod yr wythnos hon.

Wrth ail-ailddarllen y llyfr tros yr wythnos ddiweddar, llwyddais ychwanegu tua 3,000 gair iddo. Erbyn hyn rydw i'n teimlo'n weddol dda am y prosiect ac rydw i'n gobeithio na fydd yna ormod o waith ychwanegol i'w wneud cyn caiff ei gyhoeddi. Wrth gwrs bydd yna waith ychwanegol. Dyna rywbeth sy'n digwydd mewn unrhyw achos, ond bid siŵr digwydda mewn achos mwnci meddw megis fi nad yw'n siaradwr cynhenid. Ond gobeithio na fydd yn sefyllfa o: "OK, iawn, Chris, dim ond angen iti ailysgrifennu... wel... yr holl beth."

Ac wedi dweud fy mod yn "teimlo'n weddol dda" am y llyfr, rydw i'n, wrth gwrs, dweud celwydd. Rydw i'n cachu brics amdano. Anfonais bennod i ffrind yr wythnos ddiwethaf ac roedd hi'n hapus â hi, ond o hyd pryderaf y byddai pawb a'u ci yn casáu'r peth. Wrth edrych ar y llawysgrif cyn ei anfon i ffordd ar ddydd Sadwrn, teimlais, mewn ffordd ryfedd, debyg i Lot ar fin cynnig ei ferched i'r dorf tu allan: "Dyna chi, byd. Rhywbeth sy'n dod oddi wrthyf ac sydd mor bersonol ac agos imi -- yr eiddoch i'w ddifetha."

Cyfeiriad i'r Beibl, cyfeillion (b). Dyna Gymreictod ichwi.

Ta beth, wn i ddim beth sy'n digwydd yn y broses o hyn ymlaen -- does gennyf syniad pryd byddai'r peth yn cael ei gyhoeddi, er enghraifft -- ond gellwch fod yn sicr y blogiaf amdani ad nauseum.

Er, nawr, newidia fy nghanolbwynt yn ôl i fywyd prifysgol. Dychwelaf ar gyfer fy mlwyddyn olaf ar ddydd Llun. Mae'n anodd imi fywiogi ar ei chyfer oherwydd mor anodd yw'r tymhorau academaidd, ac rydw i wedi treulio'r pedwar mis diwethaf wrthi'n gweithio ar y llyfr. Rydw i eisiau egwyl, nid gast o her arall.

-----
(a) Ni allaf ganfod mynegiant cyfartal yn fy "Geiriadur Idiomau" annwyl.

(b) Ac wrth gwrs, yr awgrym cynnil yw taw hoyw ydych chi os dydych chi ddim yn hoffi fy llyfr

Wednesday, 17 September 2008

62,321 gair

Nodwch y dyddiad, cyfeillion. Dyma ddiwrnod y gorffennais ddrafft cyntaf Cwrw Am Ddim: A rhesymau eraill i ddysgu'r iaith. OK, ni allaf ddychmygu pam fyddech chi eisiau nodi'r dyddiad, ond mae'n foment arbennig imi. Caniatewch imi ddathlu y bitches.

Ac eithrio am seibiant tair-wythnos ym mis Awst, gweithiwn yn ddi-baid ar y llyfr hwn ers diwedd mis Mai. Gweithiwn o 8 y bore i 11 y nos. Hmm, dylwn i ddysgu sut i ysgrifennu'n gyflymach, efallai. Ta beth, rydw i wedi gorffen. Gallaf ddatgan felly taw awdur dau lyfr ydw i.

Dau lyfr na gyhoeddwyd. Ond rydw i am newid hynny gyda'r llyfr hwn. Treuliaf ychydig amser ar gywiro ac wedyn bant â'r peth i'm golygydd. Gobeithio cyrraedd y cam hwn erbyn diwedd y mis.

Daw'r cwblhau hwn mewn union bryd; cychwynnaf ar daith fy mlwyddyn brifysgol olaf yr wythnos nesaf. Yay. Another fucking year of uni. Er, mae'n well na gweithio. Bron popeth yn well na gweithio. Ond roeddwn yn dymuno am gael tipyn o egwyl cyn mynd ati i geisio ffugio diddordeb yn y Mabinogi ac ati. Roedd gennyf weledigaethau mawreddog o ddiflannu ar Benrhyn Llŷn neu rywbeth. Mynd i'r dafarn honno sy'n enwog am fod yn anodd ei chyrraedd. Onid yw pwynt o fod yn awdur treulio eich amser yn feddw gaib mewn tafarn anghysbell?

Yr haf nesaf efallai.

O hyn ymlaen cyflyma bethau. Bydd yna brifysgol a beth bynnag gwaith ychwanegol a ddaw cyn caiff y llyf ei gyhoeddi. Uffach. Ar ôl gorffen prosiect mor enfawr dylwn i deimlo gorfoledd. Ond yn ei le, rydw i'n edrych ar y gwaith dyfod a theimlo y rydw i'n sefyll ar glogwyn, wrthi'n yn meddwl: "The fall will probably kill ya."

Monday, 15 September 2008

Y Fenni: Canol o ddrygioni y bydysawd

Ymddengys fod heddlu yn y Fenni wedi dod o hyd Emperor Palpatine. Da iawn ichi, heddlu De Cymru. Mae'n well delio â'r broblem 'ma cyn iddi fod yn waeth. Pob tro, dechreua'r problemau megis hyn gyda ffrae fach am barcio neu beth bynnag, a'r munud nesaf mae'r person yn lladd y Jedis i gyd.

Beth? Dim Palpatine yw honno? A ydych chi'n siŵr?

Wednesday, 10 September 2008

Llun fy enaid



Dyma lun o frawd cyn-gariad high school a welais ar ei thudalen Facebook yn ddiweddar. Mae Andrew (enw y bachgen, nid fy nghyn-gariad) wedi tyfu lan erbyn hyn ond dyma fe mwy na dau ddegawd yn ôl.

Mae yna rywbeth eiconig am y llun hwn na allaf ei esbonio'n glir. Rydw i'n hoffi meddwl amdano fel llun o'm enaid -- y boi tu mewn (a). Pan oeddwn innau'r un oed prin fyddwn i'n gwisgo rhywbeth arall na'm Underoos Superman.

Dyna ffased bywyd Americanaidd na chlywch amdano yn aml, onid oes? Underoos. Math o ddillad isaf ar gyfer plant. Tybed os oes Underoos i'w canfod yn y siopau o hyd? Uffach rydw i'n hen.

-----
(a) Ond hefyd rydw i'n edrych ar y llun hwn fel un fy enaid. Rhywsut mae gennyf y ddau foi tu mewn. A rhywsut, dydyn nhw ddim mor wahanol.

Monday, 8 September 2008

55,975 gair

Dwi ddim yn ysgrifennu llawer ar y blogiau'r dyddiau hyn oherwydd rydw i'n ceisio defnyddio fy egni i gyd tuag at gwblhau'r llyfr chwedlonol 'ma. Mae gennyf ddwy bennod ar ôl i'w hysgrifennu, ac fel canlyniad rydw i'n ceisio arafu tipyn yn fy meddwl.

Rydw i'n ysgrifennu'r llyfr mewn trefn gronolegol, hynny yw, fel byddwch yn ei ddarllen (a) yw sut ydw i'n ysgrifennu'r peth. Mae'n gwneud synnwyr i wneud hyn, efallai -- "begin at the beginning" ac ati -- ond dwi ddim eisiau ansawdd yr ysgrifennu cael ei effeithio gan fy awydd i orffen y peth. Felly rydw i'n ceisio tawelu yn fy meddwl ychydig trwy wrthdynnu fy sylw.

Wedi dweud hynny, dwi'n disgwyl i roi'r hoelen olaf yn y drafft cyntaf (dyna drosiad od, onid yw?) erbyn diwedd yr wythnos. Yî-ha. Wedyn daw gywiro ac yn y blaen ac yn y blaen. Soniaf yn ddi-baid am y ffycin llyfr 'ma, ond y gwir yw nad oes gennyf syniad am bryd fyddai'n cael ei gyhoeddi.

Ta beth, rydw i'n teimlo'n weddol dda. Bydd gennyf wythnos (efallai) i ymlacio cyn mynd ati i ddechrau yn ôl ym mhrifysgol nes ymlaen yn y mis. Hon bydd fy mlwyddyn olaf. I'll be all grown up after that.

Uffach. Gobeithio dyw hynny ddim yn wir.

Wrth ysgrifennu'r llyfr hwn, rydw i'n datblygu syniad am lyfr arall. Deuai lawer o chwerwedd tuag at Gymru a'i hiaith i'r wyneb yn ystod y misoedd diwethaf na wyddwn y roedd ynof. Ond dwi ddim eisiau cerdded o gwmpas wrthi'n cario math o gasineb yn fy enaid. Felly rydw i eisiau dod o hyd ffordd i allfwrw'r teimladau hyn.

Ers amser rydw i'n meddwl am ysgrifennu llyfr am geisio canfod y "Gymru Go Iawn" honno a fynna bobl nad yw'n bodoli yng Nghaerdydd. Y syniad yw creu rhyw fath o lawlyfr ar sut i fod yn Gymro diffuant. Gallwn ychwanegu at y cysyniad hwn fy siwrnai o geisio ysgwyd yn rhydd o'm teimladau negyddol tuag at y wlad hon y rydw i wedi dewis i fyw ynddi.

Wn i ddim. Ni fyddai'r prosiect hwnnw'n dod am sbel. Rydw i am wneud ymchwil ar gyfer llyfr arall yn ystod yr haf nesaf, ysgrifennu nofel yn 2009-2010, ac wedyn dychwelyd i'r llyfr o'r haf cynt. Yes, I'm planning several years into the future -- I am well aware that God loves to fuck with people who try to do that. Efallai byddai'n well imi ddweud y rydw i'n dychmygu sawl blwyddyn ymlaen.

Ac wrth gwrs, rhaid delio â phopeth presennol cyn pryderu am sut i amserlennu llyfr am geisio dod i garu Cymru eto. Ond mae yn gwestiwn, onid yw? Beth fyddech chi'n awgrymu i rywun sydd wedi colli ei ffydd, fel petai? Nid fi yn benodol, ond unrhyw un. Beth ddylai fe wneud? Ble ddylai fe fynd?

(a) Gobeithio y byddech chi'n ei ddarllen. Plîs?

Swing and a miss

Rydw i'n gweld y mae gan Fws Caerdydd wefan newydd, haws i'w ddefnyddio. Ond rydw i'n gweld hefyd nad oes yna Gymraeg i'w weld ar y peth.

Ychwanegiad: Am y tro cyntaf erioed rydw i wedi ysgrifennu at rywun i gwyno am ddiffyg y Gymraeg. Wn i ddim beth sy'n digwydd imi -- I'm becoming one of those insufferable Welsh types. Ta beth, os ydych chi am ysgrifennu atynt hefyd, bod yn barchus os gwelwch yn dda. A dweud y gwir, yn fy mhrofiadau i, o leiaf, mae Bws Caerdydd wedi dangos parch tuag at yr iaith yn y gorffennol. Rydw i'n gobeithio taw anghysondeb yw hwn ac y mae'r fersiwn Cymraeg ar y ffordd.

Ychwanegiad i'r ychwanegiad: Clywais yn ôl yn syth gan Fws Caerdydd. Dwedodd nhw: "...from what I understand, (the site) will be improved in various aspects as time progresses. As for the Welsh language aspect of the website -– this is on the agenda as the web site develops, just not sure how long away we are on this."