Wednesday, 29 October 2008

Y bore nesaf

"O na, beth sy'n bod Chris?" meddai Fflur.
"Dim."
"Na. Mae 'na rywbeth. Eto. Ti'n hoffi cwyno."
"Dwi ddim yn hoffi cwyno."
"Ti yn."
"Na."
"Wel, ti'n cwyno lot."
(A ydw i? Ffyc) "Efallai. Ond gwahanol yw hynny. Os dwi'n cwyno, dyw hi ddim yn golygu mod i'n hoffi cwyno. Jyst mod i'n sinigaidd, chick. Dwi'n dywyll weithiau. Mae gennyf shit ar fy meddwl."
"Beth wyt ti eisiau cwyno amdano, te?"
"Dim."
"Liar."
"Ie, falle."

Naill neu'r llall, efallai buasai'n well imi beidio cofnodi o dan ddylanwad y hwyliau drwg a ddaw drosof ar adegau.

Monday, 27 October 2008

Yr hiraeth sy'n lladd

Daethon nhw o Laos -- lle sy'n wahanol ym mhob un ystyr y gall le fod yn wahanol wrth fodoli ar yr un blaned â'r lle yr aethon nhw ato. Y Hmong. Pobl a ddioddefai wrth ddwylo'r comiwnyddion yn sgil eu cefnogaeth yr Americanwyr yn Rhyfel Fietnam. Rhywsut -- does neb yn hollol siŵr -- cyrhaeddon nhw Finnesota yn eu miloedd.

Mae gan Finnesota, y tir gwastad oer hwnnw sydd mor annwyl imi, rhagor o bobl Hmong nag unrhyw le arall yn yr Unol Daleithiau -- tua 45,000 erbyn hyn.

Atgoffwyd fi ohonynt nos Sul wrth wylio "Stephen Fry in America," y rhaglen yr ynddi mae Fry yn hedfan trwy'r 50 talaith gwlad fy ngenedigaeth. Ac mae yn hedfan. Cafodd Ohio, y dalaith honno sydd gan gynifer o gysylltiadau i Gymru, sydd mor bwysig i'r etholiad presennol, dim ond y sylw taw amdani hi yw'r gân "Ohio" gan Neil Young. Mwy neu lai, bu sylw Fry fel hyn: "Wel, dyma chi Ohio. Saethon nhw rhai hippies yma 38 blwyddyn yn ôl. Trist. O wel, bant â ni i Detroit (sy'n shit hefyd)."

Ond treuliodd ef ychydig rhagor o amser ym Minnesota. Wrth reswm -- gwell nag Ohio yw Minnesota. Ac fel rhan o'i ymweliad cwrddodd â rhai pobl Hmong a chlywodd ychydig o'u hanes; sut ddaethon nhw i Finnesota a bu'r hiraeth yn ormod i rai ohonynt.

Weithiau, yn y dyddiau cynnar, âi rhai o'r dynion i gysgu a pheidiai ddeffro byth. Iach byddai'r dynion hyn ond ni allai eu heneidiau ddioddef y poen o weld eisiau cartref. Yn ogystal â nhw, mae yna'r rhai sydd bron wedi marw. Deffrid y dynion hyn gan eu gwragedd ar ôl clywed anhawster anadlu neu rywbeth. A sonian nhw am hedfan uwchben y coed Minnesota, tros y tir gwastad, tros y mynyddoedd y gorllewin, tros y môr, ac yn ôl i Laos. Cyn cael eu deffro, gallai rai ohonynt weld y bryniau gwyrdd eu mamwlad, y caeau, a'u hen bentrefi. Nid breuddwydion bu hyn; bu eu heneidiau yno yn Laos, yn gartref. Ac oni bai am gael eu deffro, byddai eu heneidiau wedi aros.

Ac wedyn dyna Fry ar ryw lyn rhewedig ym Minnesota, yn pysgota trwy'r iâ, a chofiais y breuddwydion a gawn i yn fy mlwyddyn gyntaf o fyw yng Nghymru. Byddwn i'n hedfan yn ôl i Finnesota a bod yno yn nhŷ Eric ymhlith rhyw barti bach i gael barbiciw neu wylio pêl-droed neu beth bynnag; ac roeddwn i yno.

Dwi ddim yn gweld Minnesota ers rhagor na dwy flynedd nawr. Does arian neu amser am deithio yn ôl. Ac weithiau bydd yr hiraeth mor galed, mor solid, ni allaf anadlu.

Diweddodd y rhaglen gyda Fry yn bwyta pysgod ar yr iâ rhewedig Minnesota, diffoddais y teledu ac eisteddais yno yn y tawelwch wrthi'n teimlo'r poen llethol yn fy nghalon.

Rhagor na dwy flynedd a beth sydd gennyf? Rhaid neidio trwy gynifer o gylchoedd i fyw yma ac er mwyn beth? Y tawelwch. Yr hiraeth. Y diffyg.

Wednesday, 22 October 2008

Camsyniadau

"Surviving the Times" - Nas

Wrth gwrs, anfantais o gael blog (sy'n beth hen ffasiwn i'w gael, ymddengys), neu golofn, neu Twitter neu Facebook neu beth bynnag, yw'r ffaith y gall unrhyw berson ddod draw a datblygu argraff hollol anghywir amdanoch chi. A does dim llawer a ellwch wneud amdano.

Digwydda hyn imi ar brydiau.

Rydw i'n bodoli ar sawl platfform ar y we; fel awdur (a) rydw i eisiau bod yn "hygyrch." Os oes unrhyw un sydd eisiau cysylltu â fi ar ba bynnag lefel, rydw i eisiau bod ar gael i'r person hwnnw. A hefyd, mae'n anodd imi ddatblygu ffrindiau yn ôl moddion "traddodiadol" -- o weld pobl wyneb yn wyneb ac ati. Mewn sefyllfaoedd cymdeithasol newydd prin allaf orfodi fy hunan i siarad. Treuliaf lawer o amser wrthi'n llygadrythu ar y llawr ac yn meddwl: "Er mwyn Grav, pryd alla' i ffoi rhag y ffycin lle 'ma?"

Ond trwy ambell tidbits electronig gallaf fod yn fi, beth bynnag mae'n golygu i fod yn fi.

Er, mae gan bobl gyfnodau canolbwyntio byr iawn -- yn enwedig wrth bori'r rhyngrwyd. Felly dyw hi ddim yn anghyffredin imi glywed gan berson sydd wedi methu darllen rhagor na brawddeg ond a fu wedi penderfynu rhywsut y mae fe'n deall fi'n berffaith. Yn arfer, cyngor diwerth yw'r canlyniad neu gwestiwn y rydw i wedi ei ateb sawl gwaith o'r blaen, neu rywbeth tebyg. Blinderau ysgafn. Ar y cyfan, ni phryderaf ormod am y pethau hyn. Part of the territory ydynt. Ond weithiau, daw rywun a benderfyna mewn pum gair i'm casáu am byth.

Yn yr achos hwn, y pum gair hynny bu "We're votin' for the n***er."

OK, chwarae teg. Ychydig llidiol yw'r geiriau penodol hynny. Ond nid fy ngeiriau i ydynt. Mae'n ddyfyniad gan gofnod blog gwleidyddol sy'n amlygu'r problemau gydag ymgyrch John McCain erbyn hyn. Mor o'u lle yw pethau iddo na all ddibynnu ar bobl hiliol hyd yn oed. A pan ddefnyddiais y dyfyniad hwnnw ar Twitter, dilynwyd ef â dolen i'r cofnod blog.

Ond byddai dilyn dolen yn ormod o waith i'r person a gafodd stranc dros ben wrth weld y gair hudol hwnnw. A pan ddychwelais i'm cyfrifiadur ar ôl dydd ar gampws, bu yna dorf o negeseuon negyddol yn aros amdanaf. Hysbyswyd fi gan fenyw ym Maryland taw "cracker" ydw i, ac y dylwn wrando ar Nas (b) ar gyfer deall pa mor ddrwg yw'r gair "N."

Achos dyna'r cyd y mae'r byd ei angen: Nas.

Cannoedd o flynyddoedd o broblemau hiliaeth yn yr Unol Daleithiau ond bydden nhw i gyd yn diflannu petai'r llywodraeth yn gyrru trwy'r strydoedd yn cyhoeddi barddoniaeth Nasir Jones, fel y Blues Brothers yn hybu eu sioe gydag uchelseinydd ar do eu car: "You two girls! You on the bike!"

Ta beth, ysgrifennais yn ôl at y fenyw, a rhois iddi wybod y rydw i'n hollol ymwybodol o arwyddocâd y gair. Credwch fi -- roeddwn yn arfer mynychu ysgol yr ynddo roedd pobl wen yn llai na 1 y cant y boblogaeth -- gwn am y gair a pa mor gyflym a llym gall yr ymateb fod i'r rheiny sy'n ddigon twp i'w ddefnyddio. Esboniais hyn i'r fenyw a taw nid fy ngeiriau bu'r dyfyniad (a bod yna sawl trac Nas ar fy iPod eisoes) a, chwarae teg iddi, daeth ymddiheuriad yn weddol gyflym.

A dyna ni. Popeth yn iawn unwaith eto a gallaf barhau i wneud beth bynnag a wnaf hyd at ddaw rywun newydd i'm cyhuddo o fod yn rhywbeth erchyll arall, megis Republican neu gefnogwr Wrecsam.

Ond ar ôl hyn i gyd, un peth wedi taro fi: Er nid hiliol ydw i, does gennyf un ffrind yn y byd sy'n ddu. Tybed pam? Ai adlewyrchiad ar fy nghymeriad yw hwn?

-----
(a) O, onid ydw i'n gyflym i roi'r teitl hwnnw i'm hunan? Dwi ddim wedi cyhoeddi eto hyd yn oed. O wel.

(b) Mae'n hollol annhebygol y mae Alaw neu Elain yn ddarllenwyr fy mlog ond os rydych yn: Clywch chi yn y gân Nas ar ben y cofnod hwn sampl o gân oddi ar The Wiz, a gyfeiriais ato rhai wythnos yn ôl.

Monday, 20 October 2008

Llên micro: I can only sing short phrases

"Beth fasai'r ymateb taswn i'n dweud mod i'n dy garu di o hyd?"

Mae hi'n edrych arna' i gyda'i hen lygaid glas pefriog. Wel, nid hen ydyn nhw, chi'n deall. Maen nhw'n ifanc a hardd a swynol; trywanan nhw fy enaid fel y bydden nhw gynifer o flynyddoedd yn ôl. A dyna beth dwi'n meddwl gan ddweud "hen" -- yr amser rhyngom ni. Efallai taw "tragwyddol" yw gair gwell. O'n cwmpas mae yna'r clînc a clênc y tŷ bwyta. Lleisiau a cherddoriaeth oedolyn-cyfoes yn yr awyr. Ond dim ond hi sy'n bodoli yn yr oren a chynnes.

"Be'?" medda hi.

"Wel, taswn i'n dweud mod i'n dy garu di hyd yn hyn, beth faset ti'n dweud?"

Ochenaid hir wrth fodio ei sgarff gwlân ffasiynol. Ei llais Glenfiddich yn canu'n feddal wrth feddwl. Yna mae'n codi ei hen ael dywyll. Ei hael dragwyddol? Na, swnia 'na yn rong. Yr ael a godai hi flynyddoedd yn ôl pan oeddem ni...

"Baswn i'n dweud nad ydw i wedi tynnu fy nghôt eto, Harris. Cynnig drink i ferch yn gynta', am fuck's sake," medda hi. "Baswn i'n dweud taw amser hir yw pymtheg mlynedd. A dyma ti -- yn sydyn, o'r awyr fân -- yn dweud rhywbeth fel 'na? Undeg pum mlynedd heb air, heb sôn. Baswn i'n dweud gall lot o bethau ddigwydd mewn adeg fel 'na. Baswn i'n dweud mod i'n berson gwahanol erbyn hyn; nid merch yn ei harddegau ydw i bellach. Baswn i'n dweud bod lot o nerve 'da ti."

"Ond, nid outright rejection?"

Yn araf, daw'r hen wên gyfrwys.

"Na," medda hi. "Nid outright rejection."

Saib. Mae hi'n edrych arna' i gyda'i phen yn gogwyddo i'r dde

"Go wir? Ti'n dweud fod ti'n caru fi o hyd?" medda hi.

"Sa' i'n gwybod. Dwyt ti ddim wedi tynnu dy gôt eto. Drinks?"

Saturday, 18 October 2008

Llên micro: Sara Michelle Scores Another Emotional Victory

Coda fe bore 'fory a bwyteir yr un brecwast a fwyteir pob dydd ers blynyddoedd yn ôl. Tost, te, marmalêd. Brecwast o bencampwyr. Brecwast o freuddwydwyr. Yn y ddinas oer o lenorion a Phabyddion prynai ei de annwyl gan y Gwyddelod ffug ac honnai wrtho ei hunan taw dilys oedd ef. Neu, byddai. Eisteddai wrth ei fwrdd cegin yn gwrando ar yr offeiriaid yn canu; gwyliai'r eira'n disgyn yn feddal; chwarddai; dawnsiai; a rhywsut llwyddai i ddarbwyllo ei hunan taw gwell nag yna byddai yma. Meithrinai’r freuddwyd, y ddelfryd.

Daw'r trên i'w gludo lawr i'r hen ddinas. Rhugla'r gwresogydd wrth ei draed a deimla heddwch a thristwch. Neu, heddwch â thristwch. Daw'r cyfarch cynnes, y gwenau gwyn, y llygaid gloywon. Ac ymatebir hyn ganddo â gwên nerfus, mwmian, a llygadrythu ar y llawr. Gwinga fe yn erbyn ei fywyd caeth na all ei ddianc. Pob diwrnod yn berfformiad na all ei feistroli. Eistedda'n dawel a llonydd, a cheisia beidio... bod.

Daw'r trên i'w gludo yn ôl adref. Bygythia'r unigrwydd i'w ladd, teimla'r tristwch yn ei orlethu. Fel cic i'r frest, fel plymio oddi ar adeilad. Yn ei feddwl aiff drwy bob un wên, pob un cyfarchiad, pob un arlliw, pob un eiliad, a'u dadansoddi dros ben. Dylai fe wedi dweud hwn. Neu, ni ddylai fe wedi dweud hwnnw. Yn ei gegin, wrth yfed ei de, caiff sgyrsiau dychmygol â nhw. Chwarddan nhw ar ei ffraethineb; swynir nhw ganddo, a byddant wrth eu boddau yn ei gwmni.

Dychwela yfory. Ac yfory ac yfory "creeps in this petty place from day to day, to the last syllable of recorded time; and all our yesterdays have lighted fools the way to dusty death." Gwena. Mwmia. Llygadrytha ar y llawr. Ond yn ddigon buan daw bopeth i'w ben. Ac anghofian nhw amdano ymhen mis. Neu, llai.

Friday, 17 October 2008

Pedair oed

Pen-blwydd y blog bu dydd Gwener. Pedair blynedd yn ôl, es i ati i geisio cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rhyw oes yn hwyrach (neu fel hyn teimla bethau ambell waith), dyma fi ar fin cyhoeddi fy llyfr cyntaf (os gellir dweud taw mis Ebrill/Mai yw "ar fin cyhoeddi") ac yn dechrau gwaith ar fy ail (a).

Mae'r blog wedi mynd trwy sawl newid yn ei fywyd byr -- golygon ac enwau gwahanol -- ond yr un blog ydyw. Peth bach yng nghornel anhysbys y rhyngrwyd enfawr gyda dyrniad o ddarllenwyr ydyw.

O hyd mae gan y Cymry rhyw fath o annhuedd tuag at y we. Neu, efallai byddai'n fwy cywir i ddweud bod ganddynt annhuedd tuag ataf i. Yn gyffredinol daw ryw 25 person pob dydd, gyda chanran ohonynt yn bobl sydd wedi cam-gyrraedd yma wrth wneud chwiliad Google am fronnau glaslancesi neu beth bynnag. Ysgrifennwch eiriau megis "hot asian teens take it from mature Western gentlemen" ar eich blog dim ond unwaith a chanfyddir eich gwefan gan bob ffyctard (b) yn y byd.

Y peth sydd wedi newid y mwyaf tros y blynyddoedd yw fy agwedd tuag at y blog. Cychwynnwyd y gwefan gydag amcan o gysylltu â lle nad oeddwn i'n byw ynddo. Erbyn hyn, rydw i'n byw yng Nghymru ac, mewn ffordd, rydw i'n fwy unig.

Unwaith, yn yr haf diwethaf, cerddais i'r lan y Garth, mynydd (c) yng ngogledd Caerdydd, a gweiddais nerth fy ysgyfaint enw fy nghyfaill, Fflur, sy'n byw yn Ffynnon Taf, ar ei waelod. Gwnes i hyn er mwyn gweld a allai hi glywed fi. Fy mlog yw fersiwn technolegol o'r weithred honno. Dibwynt, aneffeithiol, yn ofer -- rydw i'n siarad â neb a phawb ar unwaith.

-----
(a) Wrth gwrs rydw i'm mynychu prifysgol ar hyn o bryd, felly does gennyf uffach o amser ar ei gyfer. Ni fyddwn i'n disgwyl cwblhau'r peth hyd at rywbryd yn ystod yr haf nesaf. Mwy na thebyg ni chyhoeddaf gofnodion am y diweddaraf ar gynnydd a maint eiriau ac yn y blaen, fel gwnes i wrth ysgrifennu Cwrw Am Ddim.

(b) Un o'm hoff eiriau ar hyn o bryd yw "fucktard." Ac, a bod yn onest, wrth ei ddweud, mae ganddo ryw sŵn Cymraeg iddo, rydw i'n meddwl.

(c) Wel, marilyn yw fe yn swyddogol.

Thursday, 16 October 2008

Wispa

Darn sbwriel rhodda imi.
Hi â'r llygaid brown,
Â'r llais eira Tachwedd
Pan ddeuai wyn meddal
I'm cadw a'm bedyddio.
Hongiai danau yn yr awyr,
A brifai fy mreichiau amdani
Heb ei nabod.
A allai fod
Iddi hi wylai fy enaid?
"Maybe I'd be outside
As you passed on your bike;
Would I know?
"*

Darn glas a choch ac aur ac arian
I mewn poced â thrachwant
A llawenydd.
Jacob a'i fendith a ladratwyd.
John Henry a alwyd duw.
Deallent y gorfoledd
A deimlaf wrth gerdded Bute.
Trysoraf y darn bach bregus;
Fy nghalon yn dyrnu
Wrth ddal y wobr mewn llaw.
"I do love you
Just not..."
"Yes, I know."

Brifa fy mreichiau amdani.
Petai gennyf ymerodraethau
Byddwn yn eu chwalu
Ar ei chyfer.
Hi â'r llygaid brown.
Fi â'r enaid llawn.


-----
*Daw'r tair llinell hyn o'r gân "The Luckiest" gan Ben Folds

Wednesday, 15 October 2008

Llên ficro: 20 Ionawr 2009

"I, Sarah Louise Heath Palin, do solemnly swear that I will support and defend the Constitution of the United States against all enemies..."
"Chris, wyt ti'n clywed arogl llosgi?"
"Ie, dim ond fy mhasport yw hwnnw."

Tuesday, 14 October 2008

Llên ficro: North Dakota 1997

Lledodd y llifogydd dros y strydoedd, i mewn tai, ar draws caeau a thros freuddwydion. Daeth y tanau a llosgwyd y ddinas i ddim. Llyncwyd popeth gan Afon Goch. Daeth miloedd o bobl yr ardal i ymladd yn ei herbyn gyda rhawiau a thywod a chwys a gweddïau. Yn ofer.

Daeth ddŵr y gwanwyn i'n llonni. Canodd Mam a Vanessa a fi tra cafodd yr ystafell fyw ei llenwi â thonnau, a dawnsiodd belydr ein tortshys yn y noson ddi-bŵer. Yn y bore, cawsom ni bicnic ar y to. A daeth Mr. Betrand yn ei gwch swnllyd, olewog ei arogl, i'n cario i'r tryciau gwyn mawr lle cawsom ni ddonuts a phwnsh i gyd. Bu yna ddyn heddlu a rodd tedi bêr i Vanessa, a ches i gyfle swnio'r seiren ei gar.

Daeth y plismon â fi a'm chwaer a Mam i'r brifysgol, lle bu yna bebyll gwyn a phobl yn tyrru ym mhobman. Yn y gymnasiwm bu rhes ar ôl rhes ar ôl rhes o welyau glas dros dro gyda blancedi meddal newydd sbon y gallem eu cadw am byth. Bu yna sudd afal a sudd oren am ddim, a dwedodd Mam y gallwn yfed cymaint ohono ag oeddwn ei eisiau. Daeth Ms. Jenkins i ddysgu ni, ac yn y nosau bu yna gemau a chanu. A rhodd Mam inni gofleidiadau fel byth erioed o'r blaen.

Un dydd, daeth ddau ddyn i chwarae pêl-fasged â fi a'r bechgyn eraill. Byddai un ohonyn nhw'n bownsio'r bêl yn galed yn erbyn y llawr a byddai'r bêl yn taro fe yn yr wyneb a byddai fe'n cwympo i'r llawr. Hefyd rhoddon nhw inni gummy bears. Gofynnais yr un doniol a fyddai fe'n dod â fi i roi i Vanessa becyn o gummy bears a bownsio'r bêl gyda'i wyneb ar ei chyfer. Gwnaeth, a chwarddodd Vanessa mor galed yr aeth hi ati i besychu. Siaradodd y dyn â Mam a bwytasom ni gummy bears. Gofynnodd y dyn a oeddwn i'n drist i fod yn aros yn y gymnasiwm.

"No," meddwn i. "This is the best thing that's ever happened in my whole life!"

Wednesday, 1 October 2008