Friday, 28 November 2008

Yr her o geisio

Aeth Owen a fi i ryw noson "gomedi" yng nghanol yr hen ddinas nos Iau. Rhof y gair "comedi" mewn dyfyniadau oherwydd doedd dim lot o gomedi i'w gael ar y nos. Efallai taw mewn ystyr Shakespeare-aidd oedd trefnwyr y gig yn defnyddio'r gair.

Cofiaf y tro cyntaf gorfodwyd fi darllen gwaith Shakespeare -- "A Midsummer Night's Dream" -- a chyfeiriodd yr athro at y ddrama fel "comedi."

"But, dude," meddwn i, 14 oed. "This thing is totally not funny."

"Well, perhaps" meddai'r athro. "It has got its funny parts. But in those days, 'comedy' generally meant that none of the characters died."

Wrth ddefnyddio'r diffiniad hwnnw... OK, ie, noson gomedi bu nos Iau. Er, gwaetha'r modd ni fu neb yn marw.

Amser maith yn ôl roeddwn eisiau bod yn gomedïwr ac es i ati i barablu ar lwyfan ym Minneapolis. Ond aflwyddiant diamheuol bu fy ymdrech a diolch byth ces i ddigon o synnwyr i roi'r observational humour yn y to gyda'r ffidl. Ac ers hynny, mae gennyf duedd i fod yn hynod o lym wrth wylio perfformwyr comig. Ond dwi ddim yn meddwl y roeddwn i'n gwneud hynny nos Iau.

A dweud y gwir, diolch i'm profiadau fy hunan gallaf werthfawrogi pa mor anodd yw perfformio comedi pan wneud hynny yw'r amcan. Ambell waith bydd pobl yn dweud wrthyf fy mod yn ddyn doniol ond mae yna wahaniaeth uffach o enfawr rhwng medr i ddweud rhywbeth ffraeth mewn sgwrs a medr i sefyll ar lwyfan a pheri chwerthin mewn cynulleidfa. Ast o anodd yw bod yn ddoniol pan ydych chi'n ceisio bod yn ddoniol.

Yn sgil hyn, roeddwn yn meddwl heddiw am fy ngobeithion i fod yn awdur. A fyddaf i'n gywerthydd llenyddol o'r comedïwr annioddefol? Os rhoir digon o gwrw mewn Owen bydd e'n mynnu taw ysgrifennwr da ydw i, sy'n ganmoliaeth heb ei ail, siŵr. Ond ffurfiwyd barn (meddw) Owen oddi wrth yr hyn y rydw i wedi ysgrifennu ar y blog hwn, neu fy mlog Saesneg. Pethau y rydw i wedi eu hysgrifennu pan nad ydw i'n ceisio o ddifrif.

A allaf gyflwyno llyfr y rydw i wedi rhoi llawer o amser i mewn iddo sy'n werth ei ddarllen? Gobeithio. Neu a fydd y ffaith y rydw i wedi ceisio yn rhy amlwg? Mae yna fedr arbennig mewn ddiymdrechrwydd.

Tuesday, 25 November 2008

Llên ficro, neu paragraff agoriadol stori fer -- dwi ddim wedi penderfynu eto

Mor naturiol yw ei golwg. Dyna'r math o beth y rydych chi i fod i'w ddweud mewn achlysur megis hwn. Meddan nhw. Ond celwydd byddai. Beth sy'n naturiol am orweddian mewn blwch? A does dim byd naturiol am y llonyddwch chwaith. Mae'n edrych fel y mae'n cysgu. Meddan nhw. Ond pwy erioed welodd hi'n cysgu? Pwy erioed welodd hi'n eistedd? Mor annaturiol yw ei golwg. Annaturiol yw ei chorff bach bregus. Annaturiol yw ei gwallt gwyn main. Hon yw fel teimlo'r awel a niwl ysgafn ar lan y môr a cheisio dychmygu nhw i fod y gwynt a glaw a wnaiff gorwynt.
"Rhywbeth hollol o'i le am honno," meddai Jas wrth amneidio ar y blwch.
"Ie. Hollol," meddwn i.
"Pwy fasai wedi meddwl? Beth ddwedodd y doc, te?"
"Amhendant."
"Mmm?"
"Does gwybod yr achos am sicr. Aeth yr afu a'r ysgyfaint ar yr un pryd."
"Ffyc off."
"Na, gwir. Medda'r crwner."
"Ffyc off," meddai Jas eto, mwy wrtho ei hunan na fi. "Waw."
Chwarddodd. Ac eto yn uchel. Plygodd tuag at y blwch.
"Ha!" gweiddodd. "Wrth gwrs na fasai un peth yn lladd chi, y ffycin tymestl! Angen dau ar y leiaf! Falle dylem ni saethu hi, er mwyn ofn."

Sunday, 23 November 2008

Paragraff agoriadol o nofel y rydw i'n gweithio arni

Sŵn od bu. Rhuodd drwy fy mhen a hongiai yng ngofod anfeidraidd fy meddwl fel piano oddi ar y ffilm The Matrix -- sy'n gyfeiriad anacronistaidd ond dyna'r math o beth y gall ddyn ei wneud wrth ddweud ei straeon blynyddoedd ar ôl digwyddasant. Byddai'r piano wedi cael ei gau i mewn gelatin a'i wthio i lawr siafft lifft a ymylwyd â matresi. Er, i bobl eraill, mwy na thebyg bu'r sŵn yn fwy o dwrf. Neu bwfd. Neu pwfbldd. Neu beth bynnag yw sŵn pen yn taro darn pren caled.

Eiddigedd

Broke, Lovesick & Driftin' -- Hank Williams III

Efallai eich bod chi -- fel fi -- yn ddarllenwr blog Annie Rhiannon ac efallai eich bod yn ei dilyn hi ar ei hanturiau ar draws ac ar hyd yr Unol Daleithiau. Erbyn hyn mae hi wedi cyrraedd Nashville, Tennessee, ac ymddengys y bydd yn aros yno am sbel. Ces i dext oddi wrthi ar ddydd Mercher a ddwedodd ei bod hi'n chwilio am swydd yn Music City. Yn wreiddiol, roedd hi i fod yn ôl yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos hon. Ond nawr, pwy a ŵyr.

Efallai bod gan Nashville rhyw fath o effaith swynol ar Gymraes. Cofiwch yr aeth Cerys Mathhews yno er mwyn recordio albwm, ac ni ddaeth yn ôl am ryw pedair blwyddyn.

Does gennyf reswm am ymddwyn fel hwn ond teimlaf fel math o frawd i Annie. Wel, brawdmaeth. Neu, efallai byddai'n fwy cywir i ddweud fy mod i'n stalker gyda gafael wan ar realiti a'r natur perthnasau sydd gennyf drwy'r rhyngrwyd. Ta beth, fy ymateb cyntaf i'r newyddion o'i bwriad aros yn Tennessee bu'n fath o sarugrwydd gwarchodol. Fel y byddai'r ddyletswydd ar fy ysgwyddau i petai bethau'n mynd o'i le i'n Annie bach. Fel y byddai hi'n canfod ei hunan mewn carchar a baich fi byddai teithio mas i'r Volunteer State a chyweirio popeth.

Ond wedyn sylweddolais taw'r hyn a deimlaf yw eiddigedd. Nid cyfrifoldeb. Iesu Gravell, dyna Annie, wrthi'n fforio tir fy ngenedigaeth ac yn cael pob math o antur bydd-hwn-yn-beth-da-i'w-roi-mewn-llyfr, a, dyma fi yng ngwald genedigaeth Annie yn cael... wel...

A rhywle, dwfn yn fy enaid, mae yna rywbeth sy'n gweiddi: "Hei, hwn dylai fod fy mhrofiadau i. Fy mhrofiadau yng Nghymru."

OK, dwi ddim yn golygu y dylai fod fy mhrofiad yng Nghymru yn union fel profiad Annie yn Tennessee. Dwi ddim eisiau canfod fy hunan mewn tŷ pren wrthi'n cnuchio dyn sy'n edrych fel epa. Ond rhaid cyffesu y roeddwn yn disgwyl rhagor na'r bywyd IKEA-aidd sydd gennyf. Ar y cyfan, fel byw mewn dinas yr Unol Daleithiau yw byw yng Nghymru. A thawelwch yw'r brif elfen fy mywyd. Clywaf dawelwch mwy nag unrhyw beth arall. Tawelwch. Tawelwch. A'm llais fy hunan.

Gallaf gofio gorweddian yn fy ngwely yn St. Paul a meddwl: "Sut fydd fy mywyd yng Nghymru? Ble af i? Beth wnaf i? A fydd pethau'n rhy gyffrous? A gaiff fyw yng Nghymru effaith negyddol ar fy mhriodas? A fydd fy mywyd cymdeithasol mor lawn, mor brysur na chaf i ddigon o amser ar gyfer fy ngwraig?" Ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Wrth gwrs, sefydlwyd fy nelwedd o Gymru ar y math o gelwyddau a geir gan fyrddau neges rhyngrwydol. Os rydych chi eisiau cael darlun hollol anghywir am le, ewch i fforwm rhyngrwyd a gofyn amdano.

Felly dyw e ddim yn syndod mawr nad yw fy mhrofiad yng Nghymru yn gyffelyb â phrofiad Annie yn yr UDA. Ond hefyd -- a dyma rywbeth y gellir ei weld o leiaf ddwywaith yn y cofnod hwn, hyd yn oed -- mae gennyf duedd i fod yn berson eithaf negyddol a cheidwadol yn ei fôn.

Rydw i'n meddwl am hyn yn aml yn ddiweddar. Yn rhannol oherwydd rydw i'n darllen Dyfi Jyncshiyn: Y Dyn Blingan Gareth F. Williams. Rydw i wedi penderfynu fy mod i'n casáu'r prif gymeriad (a) ac ychydig o'r rheswm tu ôl y casineb hwn yw'r ffaith y rydw i'n gweld elfennau o'm hunan ynddo.

Yn rhannol rydw i'n meddwl am hyn oherwydd fy mlwyddyn olaf yw hon ac hyd yma does gennyf lawer o ffrindiau (gallwn ddweud tri os rydw i'n bod yn optimistaidd). Rhaid bod yn onest gyda'm hunan a derbyn y diflanna un neu bob un ohonynt yn fuan ar ôl inni raddio. Mae'n rhywbeth a ddigwydda; symuda bobl ymlaen yn eu bywydau ac anghofiant amdanoch. Felly beth fydd gennyf? Beth fydd y pwynt o fyw -- o frwydro mor ffycin galed i fyw -- yng Nghymru?

Ac yn rhannol rydw i'n meddwl am hyn oherwydd rydw innau am deithio ar led yr Unol Daleithiau yn yr haf, er mwyn casglu straeon a phrofiadau ar gyfer llyfr (a dweud y gwir, o'm sôn am y llyfr hwn gafodd Annie'r syniad am ei thaith yn y lle cyntaf). Ond pryderaf na fydd fy anturiau mor anturus â'r rheiny Annie, oherwydd nid ydw i mor anturus ag Annie. Eiddigus ydw i am hynny. A chrac.

Eiddigus o Annie, a chrac ar fy mhen fy hun am gael y math o fywyd sydd gennyf. Crac y rydw i'n methu torri'n rhydd o'm cell hunan-drallod. Tawelwch.
-----

(a) Yn anffodus, rydw i'n ei gasáu gormod. Oni bai am ddatblygiad arbennig o dda, mwy na thebyg rhof y gorau i'r nofel ar ddydd Mercher pan brynaf Dolenni Hud.

Wednesday, 19 November 2008

Ble mae'r de?

Mae Guardian wedi creu map sy'n dangos lle gellir canfod aelodau'r BNP ym Mhrydain. Daw hwn yn sgil cyhoeddiad ar-lein o enwau'r 13,500 aelod y blaid.

Rydw i'n nodi'n llawen nad oes llawer ohonynt i'w gweld yng Nghaerdydd annwyl, yn ôl y map. Ond beth sy'n bod ar Abertawe? Yr ardal gyda'r aelodau mwyaf yw hi.

Mae'n rheswm arall am beidio mynd yno, tybiaf. (a)
-----

(a) Pobl Abertawe, jôc yw honno. Paid â digio.

Tuesday, 18 November 2008

Thursday, 13 November 2008

Blaenoriaethau

Er gwaethaf fy hoffter tuag at y teulu brenhinol, nid Ceidwadwr ydw i. Neu, nid Ceidwadwr byddwn i, petawn i'n gallu pleidleisio ym Mhrydain. Er, gwelais raglen unwaith a awgrymodd taw -- er gwaethaf cefnogaeth gan Geidwadwyr -- agosach at sosialwyr yw'r teulu brenhinol yn nhermau ideolegol. Felly efallai fy mod i yn fy lle.

Ta beth, chwarae teg i'r Ceidwadwyr am beri ychydig o storm-tân ynglŷn â Baby P dydd Mercher. Mae yna rywbeth hollol o'i le yng ngwlad ble all ddau faban farw a does neb wedi colli ei swydd; tra daeth pob math o shit i lawr ar bennau Jonathan Ross a Russell Brand am sarhau ffycin Manuel oddi ar "Fawlty Towers".

Wednesday, 12 November 2008

Didaro

You're Blasé - Phil Harris

Treuliais y bore yn y gwely wrthi'n llygadrythu ar y nenfwd. Rydw i'n hoffi'r gair "nenfwd." Mae'n swnio fel lle yn hytrach na pheth: "Os ydych chi'n bihafio, bachgen, awn ni i'r Nenfwd ar ôl ymweld â'r meddyg."

Es i ddim i unlle. Dim ond gorweddian yn y gwely a theimlo'r tristwch llethol hwn sydd wedi gafael arnaf yn ddiweddar. Yn sydyn, heb reswm neu gynhyrfiad teimlaf lawer o'r un pethau y roeddwn eu teimlo yn fy mlwyddyn gyntaf: Rydw i ar goll yn fy meddyliau, mae gennyf hiraeth am bethau amwys, a phrin ydw i eisiau siarad y Gymraeg.

Yn sgil y pethau hyn, dwi ddim yn talu llawer o sylw ar yr hyn sy'n digwydd o'm cwmpas. Megis prifysgol. Rydw i wedi cyrraedd diwedd seithfed wythnos y tymor, ond mewn ystyr meddyliol dwi ddim wedi dechrau hyd yn oed. Af i ddarlithoedd a chlywed y geiriau yn chwyldroi o gwmpas fy mhen ond peidio eu clywed. Yr unig beth allaf ganolbwyntio arno yw fy awydd mynd adref.

Dwi ddim yn siŵr beth i'w wneud am hyn. Sut i danio fy hunan, i danio fy nychymyg? Y ffaith yw nad ydw i eisiau bod yma ar hyn o bryd. Wn i ddim ble ydw i eisiau bod -- nid yma.

Wednesday, 5 November 2008

Dyfodol gobeithiol, niwlog

Er mwyn eglurder, ni fyddwn i wedi defnyddio'r gair "hergipio." Enillodd GW Bush yr arlywyddiaeth yn deg yn 2000. Aeth bethau'n shit ac yn siomedig, ie, ond teg bu'r etholiad yn ôl y drefn yr Unol Daleithiau. Os nad ydym ni'n hapus â'r drefn honno, dylem fynd ati i'w newid. Ond y ffaith oer yw nad ydym ni erioed ceisio hyd yn oed.

Ta beth, "hergipio" bu'r gair a ddefnyddiwyd gan fy nghyd-Americanwr ar fore Mercher i esbonio pam mae llwyddiant Barack Obama mor bwysig ac arbennig i ni, y bobl annwyl o the unlikely story that is America. Gallaf ddeall y teimlad, o leiaf. A gallaf ddeall yr awydd i ddod o hyd rheswm syml, hawdd-ei-gyflwyno-ar-y-radio i geisio gafael ar pam mae'r etholiad hwn mor bwysig. Pam aeth ragor o bobl nag erioed (tua 137 miliwn) i bleidleisio; pam bu'r ganran pleidleiswyr ei uchaf ers canrif. Ond dyw'r ateb ddim mor hawdd ag eisiau gosod pethau'n iawn ar ôl hergipiad pŵer.

Efallai taw haws ydyw. Mewn ffordd.

Dwedir gan Thomas Jefferson, y dyn athrylithol hwnnw a ysgrifennodd ein cyfansoddiad, y mae gwlad yn angen chwyldro o leiaf pob ugain mlynedd. Ar y cyfan, rydym ni wedi dehongli hynny i olygu y dylai lywodraeth gwlad newid mor aml ag hynny, nid bod angen ar le ryfel pum waith y ganrif. Ond efallai ei fod yn fwy nag hynny. Efallai bod gwlad yn angen newid athroniaeth yn ystod yr adeg honno.

A dweud y gwir, dyw'r athroniaeth yr Unol Daleithiau ddim wedi newid ers y gynnar 1980au, pan enillodd Ronald Reagan ei derm cyntaf. Ie, Democrat yw Bill Clinton ond ar y cyfan parhaodd ef y polisïau o economi "trickle-down" a diplomyddiaeth cymhellol a thueddiadau ceidwadol (a). Clinton, y ffycr, bu'r un i arwyddo'r Ddeddf Telathrebu 1996 a ddinistriodd y cyfryngau yn yr Unol Daleithiau (b).

Mae yna helaethder o achosion ond rydw i'n credu bod, yn y bôn, Obama yn arlywydd-etholedig heddiw oherwydd mae'n dod ag athroniaeth sy'n o leiaf wyth blwyddyn hwyr. Ni all yr UDA arwain gyda hen ddull o feddwl. Ni all fod yn "beacon of opportunity, freedom and democracy," chwedl David Cameron (c), os mae'n tanio ei fflam gyda chynnud bron 30 oed. Bu, yng ngeiriau Dewi Prysor, hen amser i America dyfu lan.

Felly dyma ni. President Obama. Rydw i'n hoffi'r sŵn o hynny. Trwy'r dydd rydw i wedi siarad â llawer o bobl sydd wedi cael eu hysbrydoli gan y digwyddiad hwn (faint o ffycin cerddi am Obama bydd rhaid Eisteddfodwyr eu dioddef yn y Bala, tybed?). Mae hanes yn hanes, ond ar y cyfan teimlaf ollyngdod; fel petai bwysau wedi cael ei godi o'm hysgwyddau.

Rydw i'n ymwybodol mae gan Obama uffach o lawer ar ei blât. Heriau ym mhob un cornel. Ni fydd pethau'n hawdd iddo. Ond rydw i'n obeithiol. Dwedais ar fy mlog Saesneg dydd Mawrth y rydw i'n ddarn o wlad fy ngenedigaeth, a darn ohonof ydyw. O'i phridd ydw i; o'i dŵr; o'i haer. Dyma bethau cynhwynol. Pethau a rof i'm plant rhyw ddiwrnod. We are physical manifestations of the places our ancestors have been. Rydw i'n gweddïo am ddyfodol y gallent fod yn falch ohono.

-----
(a) Byddai Hogyn y Rachub yn llygaid ei le i gwyno am ddiffyg gwahaniaeth rhwng Clinton a'r Republicans y cyfnod

(b) Un rheswm gwelom ni gymaint o sôn am yr etholiad yma ym Mhrydain yw'r ffaith y mae Americanwyr yn ymddiried y wasg Brydain yn fwy nag gwasg eu hunain. Mae yna miliynau a edrycha tuag at y BBC a'r Guardian a'r Times ac ati ar gyfer eu gwybodaeth.

(c) Iesu Gravell, geiriau neis, Dave. Diolch. A wyt ti'n ymgyrchu am swydd yn America?

'I shoulda changed my fucking lock'

"I Will Survive" -- Cake


Cân y rydw i wedi ei uwchlwytho ar gyfer un person yn bendant yw hon. Ond os wyt ti'n delio â shit gan gyn-gariadon ar hyn o bryd, gelli ei hystyried i fod yn gân ar dy gyfer tithau.

Tymor newydd

Dechrau newydd? Byd newydd? Rydym ni i gyd yn awyddus i roi pob math o label i'r hyn a ddigwyddodd yn yr Unol Daleithiau nos Fawrth. President Barack Obama.

Rydw i'n hapus, ac rydw i wedi blino. Rydw i'n llawn gobaith a phryder.

Ond ar y cyfan, ar hyn o bryd, rydw i jyst eisiau cysgu. Ond o leiaf gallaf gysgu yn dawel.

Monday, 3 November 2008

Our destiny will be shaped by us

Pleidleisiodd y briodferch ifanc a fi tair wythnos yn ôl trwy'r post ond o'r diwedd mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd. Yr Etholiad. Ar ddydd Mawrth bydd y bobl yr Unol Daleithiau (wel, rhyw 220 miliwn ohonynt, amcangyfrifir) yn dewis eu harlywydd newydd a, mewn ffordd, y person a arweinia'r byd o leiaf am y pedair blwyddyn nesaf. Dibynna beth sy'n dod ar ôl hynny ar bwy ydyw a gaiff ei ethol.

Byddaf ar Radio Cymru gynnar ar fore Mawrth (tua 8 yn y bore) ac wedyn treuliaf weddill y dydd yn agos at y teledu, yn gwylio, yn gobeithio ac yn pryderu. Cofiwch taw gwlad uffach o enfawr yw'r Unol Daleithiau, felly ni fydd ateb cadarnhaol am ddewis yr Americanwyr hyd at gynnar bore Mercher (a), pan fyddaf ar Radio Cymru unwaith eto (7-8:30 yn y bore) fel rhan o'u "Brecwast Americanaidd" ar Bost Cyntaf. Erbyn hynny dylai'r polau wedi cau yn California (yn Nghaliffornia?) a dylai'r sefyllfa arlywyddol fod yn weddol glir.

Ond bydd yna rai arwyddion cynnar i'w gweld cyn mynd at eich gwely clyd ar nos Fawrth. Caea fwyafrif o'r polling stations (b) yn Indiana (Yndiyana?) am 7 yn y nos EST, sef 11 o'r gloch yma ym Mhrydain. Ac honno yw talaith sydd braidd ar y ffens. Os enillir hi gan Barack Obama, gellir dychmygu y bydd yn noson i'w dathlu ymhlith ei gefnogwyr.

Bydd canlyniadau Virginia (Firjinya?) ar gael tua hanner nos ym Mhrydain. Ar flog Nic gellwch weld fideo weddol dda (gan ymgyrch Obama) sy'n mewncapsiwleiddio beth sy'n digwydd yn y dalaith honno. Dyw Virginia ddim yn pleidleisio am Democrat ers 1964, ond erbyn hyn mae gan Obama siawns dda o'i chipio. Petai hynny'n digwydd byddai'n arwydd ofnadwy o gryf bod llwyddiant yn gerllaw i'r seneddwr Illinois (Ílinoe?).

Dyma fap sy'n dangos pryd caea'r polling stations gwahanol. Yn gyffredinol, y taleithiau i gadw llygad arnynt yn arbennig yw: Pennsylvania, Ohio a Florida (Pensylfania, Ôheio, a Fflorida?).



Rydw i'n ceisio bod yn optimistaidd am ddydd Mawrth. Torraf fy rheol bersonol a dweud wrthoch chi yn blwmp ac yn blaen y rydw i wedi pleidleisio am Obama. Rydw i'n meddwl ers y dechrau taw'r ymgeisydd gorau yw. Yn ôl y polau diweddaraf, mae gennyf reswm i edrych ymlaen at y canlyniadau. Rydw i'n meddwl am ddod â photel champagne gyda fi i Bost Cyntaf ar fore Mercher ar gyfer dathlu ei lwyddiant.

Ond wastad mae yna'r posibilrwydd y gwna Americanwyr lanast o bethau a rhoi'r swydd i John McCain a'r ffyctard honno, Sarah Palin. A bod yn hollol onest, credaf y byddai hynny'n un o'r gwallau gwaethaf yn hanes yr Unol Daleithiau (c). Teimlaf fod yr etholiad hwn yn fwy pwysig nag unrhyw etholiad arall yn fy mywyd a chredaf y rydym ni wedi cyrraedd croesffordd yn the unlikely story that is America. Gallwn ni symud ymlaen a pharau i arwain y byd gyda phwrpas ac egni newydd, neu gallwn ni lithro o ddylanwad. Dyma'r diwedd neu'r dechrau newydd yr Unol Daleithiau America. Mor bwysig â hynny yw'r etholiad hwn, rydw i'n credu.

Heb os nac oni bai, mae'n werth ei wylio.

-----
(a) Ar y gorau. Cofiwch beth ddigwyddodd yn ôl yn 2000.

(b) Dwi ddim yn siŵr beth fyddai'r term am hyn yn y Gymraeg. Rydw i'n meddwl "gorsafoedd pôl" ond efallai taw gor-lythrennol yw'r cyfieithiad hwnnw.

(c) Wel, un o'r gwallau gwaethaf nad yw'n cynnwys marwolaeth miloedd o bobl...