Wednesday, 10 December 2008

J.I.M.P.

Efallai eich bod yn gwybod am hwn eisoes. Mae'n eithaf poblogaidd yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd, ond caf fy synnu weithiau sut fydd pethau'n methu cyrraedd Cymru. Ta beth, os rydych chi'n plentynnaidd yn eich meddwl (fel fi) byddwch yn chwerthin ar y fideo hwn.

Monday, 1 December 2008

Bwystfil Parc Bute

Amser maith yn ôl -- mor bell yn ôl nad oedd gan y dyddiau enwau -- roedd yna fwystfil. Roedd yn fwystfil enfawr, bwystfil cawraidd, gyda thrwyn fel mochyn a chlustiau pigfain a llygaid melyn, hyll, sgleiniog. Byddai'r bwystfil yn stompio o gwmpas Cymru a phob tro byddai'n cyrraedd pentref byddai'n lladd y dynion i gyd a gwneud cadair o'u hesgyrn. Wedyn byddai'n casglu'r babanod y pentref a rhoi nhw mewn bwced, wedyn byddai'n llosgi'r pentref. A dyna'r bwystfil yn eistedd yn ei gadair wrth y tân, yn bwyta babanod o'i fwced, wrth wrando ar sgrechian ac wylo gwragedd y pentref. Ac roedd y sŵn 'ma fel hwiangerdd iddo.

Un diwrnod, cyrhaeddodd y bwystfil ein hardal annwyl ni, sef Bro Morgannwg. A daeth ef at bentref ar lan Afon Taf. Lladdodd y dynion i gyd, a gwnaeth gadair o'u hesgyrn, a chasglodd y babanod a rhodd nhw mewn bwced, a llosgodd y pentref. Ond y tro 'ma, llwyddodd un o'r babanod ddianc o'r bwced. Mab arglwydd bu'r baban 'ma a gan hynny bu'n faban arbennig -- arbennig o gryf ac arbennig o hyderus. A daeth y baban o hyd calen. Hen air Cymraeg yw "calen," sy'n golygu cerrig neu faen a fyddai'r bwystfil yn ei defnyddio i gadw ei gleddyf yn siarp. A dyma'r baban yn codi'r galen uwchlaw ei ben ac yn taflu hi at y bwystfil. A dyma'r galen yn taro boch y bwystfil. A gwnaeth ddim byd.

"Duw a ŵyr dylwn i ladd di, baban," meddai'r bwystfil. "Ond wnaf i ddim achos mor lawn ydw i â babanod, ac mor gyfforddus ydw i yn fy nghadair. Felly cer o 'ma. Ac o hyn ymlaen Calen Hyder bydd dy enw di."

Aeth Calen Hyder i fyw ymhlith y coed yn y bryniau a daeth i fod yn gyfaill i bob math o greadur yno. I'r anifeiliaid, ac i'r pysgod yn yr afon, ac i'r adar yn yr awyr. Ac un diwrnod daeth yr adar at Calen Hyder a dwedon nhw: "'Drycha. Dyma'r bwystfil eto yn nesáu at ein hardal ni."

"Cyfeillion," meddai Calen Hyder, "dwi ddim yn gallu hedfan fel chi, felly dwi ddim yn gallu gweld. Ond gwnaf i ddringo i'r lan Y Garth er mwyn edrych arno."

Ac yr hyn a wnaeth. Safodd Calen Hyder ar ben domen ar ben Y Garth a gwelodd y bwystfil yn y pellter, wrthi'n dinistrio Aberthaw. Gallai weld y mwg yn codi o'r pentref a gallai glywed sŵn sgrechian ac wylo gwragedd Aberthaw. Ac, wrth gwrs, y trasiedi 'ma yw'r rheswm tu ôl yr Hollt Aberthaw.

Safodd Calen Hyder ar ben y domen am dri diwrnod. Ar y trydydd dydd, edrychodd o'i amgylch a gwelodd cŵn -- cŵn gwyn, gwyn pur, gwyn fel eira, gyda chlustiau coch a llygaid coch. Yna, gwelodd frenin.

"Ar fy nhomen i wyt ti'n sefyll," meddai'r brenin. "Duw a ŵyr dylwn i ladd di. Ond wnaf i ddim oherwydd galla' i weld fod ti eisiau trechu'r bwystfil. A dyma sut i drechu fe. Cer at dy gyfeillion y pysgod a dweud wrthyn nhw i fynd mas i Fôr Hafren a defnyddio eu cynffonnau i wthio'r dŵr yn ôl mewn i Afon Taf. Gorlawn bydd yr afon a bydd yna lif. Wedyn, sefyll yma ar ben Y Garth a herio'r bwystfil i ddod atat. Pan mae fe'n cyrraedd canol y llif dweda wrth y pysgod i droi a defnyddio eu cynffonau i wthio'r dŵr mas o'r afon ac yn ôl mewn i'r môr. A bydd y bwystfil yn suddo mewn i'r mwd. Wedyn dweda wrth dy gyfeillion yr adar i ddod lawr a fflapio eu hadenydd i sychu'r mwd a chreu tir solet. Ac wedyn cer at y bwystfil gyda'r hudlath 'ma a tharo fe yn erbyn ei dalcen dim ond unwaith."

Ac yr hyn a wnaeth Calen Hyder. Nofiodd y pysgod i gyd i'r môr a chwipion nhw eu cynffonnau i lenwi'r afon gyda dŵr a lledodd lif ar draws ein hardal annwyl ni. A dyma Calen Hyder ar ben y Garth yn dweud: "Bwystfil. Dere ataf i." A dyma'r bwystfil yn brasgamu tuag ato, ac yn beisio trwy'r llif, a pan mae'n cyrraedd canol y llif dyma Calen Hyder yn dweud: "Nawr, cyfeillion!" A dyma'r pysgod yn troi ac yn chwipio eu cynffonnau i wthio'r dŵr mas o'r afon ac yn ôl mewn i'r môr. Ac mae'r bwystfil yn suddo'n araf mewn i'r mwd. A dyma Calen Hyder yn dweud: "Nawr cyfeillion!" Ac mae'r adar yn dod lawr i fflapio eu hadenydd i sychu'r mwd a chreu tir solet. A dyma Calen Hyder yn mynd at y bwystfil a thynnu'r hudlath yn ôl, a chwifio hi yn yr awyr a tharo'r bwystfil yn erbyn ei dalcen. A gwelodd lygaid melyn, hyllt, sgleiniog y bwystfil yn fflamio â llid. A dyma Calen Hyder yn tynnu'r hudlath yn ôl eto a chwifio hi yn yr awyr a... chofio: dim ond unwaith.

A gwelodd Calen Hyder lygaid y bwystfil cau yn araf, araf iawn ac aeth y bwystfil i gysgu am flwyddyn a diwrnod.

"Bydd rhaid imi ddychwelyd i'r man hwn un flwyddyn ac un diwrnod o heddiw," meddai Calen Hyder, "i daro fe yn erbyn ei dalcen eto a chadw fe'n cysgu a chadw ein hardal annwyl ni yn saff."

Ac er mwyn helpu ei hunan cofio ar ba un diwrnod i ddychwelyd. Aeth Calen Hyder ati i drefni ac enwi'r eiliadau, y munudau, yr oriau, y dyddiau, y wythnosau, y misoedd, a'r blynyddoedd. Ac rydym ni'n defnyddio'r un drefn erbyn hyn. Pan ydym ni'n cyfeirio at drefn y dyddiau, rydym ni'n galw hi y calender.

Dychwelai Calen Hyder at y man am chwedeg mlynedd a chwedeg diwrnod. Ond, fel bydd yn digwydd i bob dyn, heneiddiodd Calen Hyder ac un diwrnod bu fe'n marw a chladdwyd ef mewn tomen ar ben Y Garth. A hyd yma gellwch chi weld Tomen Calen Hyder ymhlith y Tri Thomen ar ben Y Garth.

Ond beth am y bwystfil 'na? Pan ddaeth y diwrnod pan fyddai Calen Hyder wedi taro fe yn erbyn ei dalcen, doedd neb yno. A dyma'r bwystfil yn agor ei lygaid yn araf ac yn gweld does dim Calen Hyder. A dyma'r bwystfil yn edrych i'r lan tuag at Y Garth ac yn gweld y domen ac yn gwybod does dim Calen Hyder. A dyma fe'n mynd ati i geisio rhyddhau ei hunan o'r pridd. Ond allai fe ddim. Allai fe ddim symud. Allai fe ddim symud o gwbl. Oherwydd ar hyd y chwedeg mlynedd a chwedeg diwrnod bu Calen Hyder wedi plannu coed hwnt ac yma o amgylch y bwystfil. A bu gwreiddiau'r coed wedi suddo mewn i'r tir a lapio eu hunain o amgylch breichiau a brest a choesau'r bwystfil a chadw fe'n sownd am byth.

Ac os rydych chi'n cerdded trwy Barc Bute yng Nghaerdydd, gellwch chithau weld y bwystfil -- gyda'i drwyn fel mochyn a chlustiau pigfain a llygaid melyn, hyll, sgleiniog yn llygadrythu ar Y Garth o hyd.
-----

Yn fy modiwl Pedeir Keinc y Mabinogi gofynnwyd ni creu a pherfformio stori Mabinogi-aidd. Dyma'r stori a ysgrifennais a pherfformiais. Gwnaeth ffwl o'm hunan wrthi'n neidio o gwmpas yr ystafell wrth ddweud y stori.