Sunday, 22 March 2009

Shit! Mae mis Ebrill yn nesáu!

Mae hi ynDwi ddim yn gwybod sut aeth yn hwyr mis Mawrth mor gynnar. Mae amser yn symud yn rhy gyflym y dyddiau hyn, a dwi ddim yn gallu delio ag e. Sgil effaith heneiddio yw hyn, efallai. Amser maith yn ôl, darllenais erthygl a ddwedodd nad canfyddiad yn unig yw'r teimlad bod pethau'n mynd yn fwy cyflym wrth heneiddio. Hynny yw, wrth heneiddio bydd y corff yn heneiddio'n fwy cyflym nag y byddai pan oedd yn ifancach. Felly, yn nhermau ffisiolegol, mae person 70 yn cyrraedd 80 yn fwy cyflym nag mae person 20 yn cyrraedd 30. Os mae hynny yn gwneud synnwyr.

Mwy na thebyg, dyw hi ddim. Mwy na thebyg rydw i wedi cam-adroddi wrth geisio clymu gyda'i gilydd dau beth sy'n digwydd yn fy mywyd yn ddiweddar, sef: 1) Does dim digon o amser 'da fi; 2) Es i yn 33 oed dydd Gwener.

Aeth y briodferch ifanc a fi i Dŷ Ddewi ar y penwythnos i ddathlu fy mhenblwydd. Roedd yn wych. Yn gyffredinol, rydw i eisiau bwrw pobl pan rhaid imi eu clywed nhw'n defnyddio'r hen ddywediad 'na bod "West is best." Ond rhaid cyfaddef nad yw'n hawdd dadlau yn erbyn y datganiad. Pob tro rydw i'n llithro heibio Abertawe ac ymlaen tuag at Fôr Iwerddon, ffeindiaf fy mod i'n wrth fy modd yno.

Fy unig cwyn am y lle yw'r digonedd o Saeson De Lloegr; prin yw'r acennau Cymreig, a mwy prin byth yw'r Gymraeg yn Little England Beyond Wales. Ond dyna ni. Ac, a dweud y gwir, mae'n well da' fi dioddef yr acennau Oxfordshire nag yr acennau Birmingham a glywir yn y gogledd.

Mae yna rywbeth gwahanol am yr awyr wth symud tua'r gorllewin yng Nghymru; teimlaf yn fwy llawn bywyd. Teimlaf fy mod yn siglo'n rhydd o'r straen sy'n pwyso i lawr arnaf yn fy mywyd beunyddiol. Ar y cyfan, gwnaeth y briodferch a fi uffach o ddim heblaw bwyta a chrwydro ar lan y clogwyni a dwi ddim yn gallu cofio penblwydd gwell ers amser.

Ond bellach, dyma fi, yn ôl yng Nghaerdydd, yn ceisio delio â phopeth ac -- ar y cyfan -- yn methu. Rydw i'n ceisio taro rhyw fath o gydbwysedd rhwng y presennol a'r dyfodol ond yn methu talu digon o sylw i'r naill na'r llall. Mae gennyf bum traethawd i'w ysgrifennu cyn 5ed Mai. Ond hyd yma dwi ddim wedi dechrau ar un ohonyn nhw -- yn rhannol oherwydd dwi ddim yn gallu dechrau. Dyw'r llyfrau fy mod i'n eu hangen ddim ar gael yn y llyfrgell; rhaid imi aros iddyn nhw gael eu dychwelyd gan fyfyrwyr eraill oedd yn ddigon deallus i feddiannu'r llyfrau pan oedden nhw'n ffycin sixth formers. Neu rywbeth. Ar ben hyn rydw i'n gweithio i drefnu popeth ar gyfer Cwrw Am Ddim, yn ysgrifennu nofel newydd, ac yn ceisio dod o hyd i arian i wneud MA y flwyddyn nesaf (er, hyd yma, wn i ddim a ydw i wedi cael fy nerbyn).

Rydw i eisiau mynd yn ôl i'r gorllewin.

1 comment:

Llyr said...

Westering Home

Though you’d be pressed to say exactly where
It first sets in, driving west through Wales
Things start to feel like Ireland. It can’t be
The chapels with their clear grey windows,
Or the buzzards menacing the scooped valleys.
In April, have the blurred blackthorn hedges
Something to do with it? Or possibly
The motorway, which seems to lose its nerve
Mile by mile. The houses, up to a point,
With the masoned gables, each upper window
A raised eyebrow. More, though, than all of this,
It’s the architecture of the spirit;
The old thin ache you thought that you’d forgotten—
More smoke, admittedly than flame;
Less tears than rain. And the whole business
Neither here nor there, and therefore home.

Bernard O’Donoghue