Friday, 20 February 2009

Fi fi fi

Mae yna ychydig o sôn draw ar Metastwnsh am fy ngholofn Barn mis Chwefror. Ynddo, rydw i'n cwyno nad yw Cymry Cymraeg yn meddiannu'r we.

Rydw i'n gweld yr eironi yn y ffaith nad yw'r peth i'w gael ar wefan Barn; ar hyn o bryd mae'r gwefan yn yn ddioddef llwyth o broblemau. Please stand by.

Thursday, 12 February 2009

Fy mhobl i

Pam mae pobl Minnesota mor ffycin cwl? Oherwydd does dim ots ganddyn nhw am bethau pitw, megis marwolaeth. Rydw i'n wrth fy modd gyda'r llun 'na.

Tuesday, 10 February 2009

Blog symudol

Rydw i'n blogio gyda'm ffon symudol - nad yw'n sefyllfa ddelfrydol am
amryw rhesymau. E.e., dwi ddim yn gallu defnyddio 'spellcheck' a dwi
ddim yn gallu fformatio pethau'n iawn. Yn enwedig ar fy ffon shit BT.
Rydw i am brynu iPhone rhywbryd yn y dyfodol amrwys, ond ar hyn o
bryd... dyna ni. Does gennyf ddim dewis.
Does gennyf ddim amser i flogio'n iawn y dyddiau 'ma oherwydd mae
gennyf gymaint ei wneud. Yr unig amser sydd gennyf i flogio yw yn
ystod yr 20 munud ar y tren rhwng Danescourt a Cathays. Arse. Rydw i'n
fwy prysur nag erioed o'r blaen.

--
Sent from my mobile device

Wednesday, 4 February 2009

Tybed...

Tybed pa acen Gymraeg sy'n mwyaf secsi? A oes acen secsi ymhlith siaradwyr Cymraeg? Er enghraifft, yn y Saesneg rydw i'n wrth fy modd yn gwrando ar Wyddeles yn siarad. A oes y fath beth gydag acenion Cymraeg?

Tuesday, 3 February 2009

Fel y gwyddoch

Snow
(Eira ar ddeilen ger gorsaf Danescourt)

Daeth ac aeth yr eira ymhen 24 awr yma yn yr hen ddinas dydd Mawrth. Ond roedd yn ddigon -- efallai y byddech yn gwybod y caewyd rhyw 500 ysgol yng Nghymru o ganlyniad y stwff gwyn. Fel cyn-breswyliwr Minnesota, mae'n anodd imi beidio beirniadu'r ymateb hynny ond dyna ni.

Ta beth, siŵr bid mwynhaodd y plant hynny eu diwrnod o'r ysgol -- i'w dreulio yn taflu peli eira ar geir ac yn gwneud dynion eira ac ati. A dweud y gwir, doedd y plant ddim ar eu pennau eu hunain gan fwynhau'r tywydd. Cafodd y briodferch ifanc diwrnod i'r brenin; clywais sôn am frwydr peli-eira fawr ar Colom Road; yn agosach at gartref gallwn glywed oedolion yn chwerthin y tu allan wrth imi baratoi i fynd i gampws.

Roedd yn fater o falchder imi fentro i'r brifysgol yn y tywydd. Roedd y darn Minnesotaidd 'na ohonof yn mynnu ar ddangos na chaf i fy stopio gan ychydig o ddŵr wedi'i rhewi. Er, does dim llawer o "fentro" mewn cerdded i orsaf drên.

Wrth orsaf Danescourt gwelais foi yr oedd yn rholio -- a, gan hynny, yn creu -- pêl eira enfawr ar y platfform. Pan ydw i'n dweud "boi" mewn gwirionedd rydw i'n sôn am ddyn -- oedolyn mor hen â fi. Doedd e ddim yn aros am drên neu unrhywbeth, dim ond yn mynd ati i greu pêl eira mawr gyda'r hyn yr oedd ar y platfformau. Ar ôl ychydig o wthio a llyfnhau a dwlu ar ei waith, blinodd ychydig ac eisteddodd ar ei bêl gyda golwg o hunan-fodlonrwydd yn ysmygu sigarét. Roedd e'n eistedd ger mynediad yr orsaf ar ochr arall y cledrau ond gallwn weld yr oedd yn arbennig o hapus gyda'i hunan.

Nutter with a snow ball.
(Dyn yn creu pêl eira enfawr wrth orsaf drên Danescourt)

Pan gyrhaeddais gampws roedd popeth yn symud ymlaen fel arfer -- roedd yr eira ar fin mynd eisoes. Erbyn diwedd fy niwrnod, tua 16:30, roedd y mwyafrif ohoni wedi toddi (neu ymdoddi).

Pwy a ŵyr pryd y gwelwn ni rhagor o'r stwff. Tro diwethaf imi weld eira yng Nghymru oedd dwy flynedd yn ôl. Rydw i'n hiraethu amdani yn barod.

Dyma ychydig rhagor o'r lluniau a thynnais ohoni ddydd Mawrth:


Tracks
(Olion yn yr eira, ger fy nhŷ)

Danescourt in the snow
(Gorsaf drên Danescourt)

Modern transportation
(Trên yn cyrraedd gorsaf drên Danescourt. Mae'r trên mor hen taw amhosibl byddai gwybod pryd tynnwyd pe na bawn i wedi dweud wrthoch. Yn amlwg, mae fe eisiau côt o baent ac yna gellir dweud ei fod yn newydd sbon

Sunday, 1 February 2009

Mae'r myth yn parhau

Rydw i'n gweld nad yw sgâm Y Byd wedi marw eto. Nos Sadwrn, yn lle na derbyn realiti, pleidleisiodd y bobl a wnaeth fuddsoddi yn y peth i ddal at hela snipe a pharhau gyda'r syniad o gyhoeddi papur newydd yn yr iaith Gymraeg.

Roedd yna gyfarfod nos Sadwrn i benderfynu dyfodol y cwmni o freuddwydwyr afrealistig yr oedd yn addo papur newydd dyddiol Cymraeg ers pum ffycin mlynedd. Tua blwyddyn yn ôl, ymddangosai fod y peth wedi chwalu o'r diwedd pan benderfynodd y llywodraeth ddosbarthu (gormod o) arian i Golwg er mwyn creu gwefan nad yw'n bodoli eto (a), yn lle na rhoi'r arian i Y Byd. Ond erbyn hyn mae'r cwmni wedi cytuno i ddal ati. Does dim sôn am sut maen nhw'n bwriadu dal ati, ond efallai nad oes pwynt mewn gofyn y fath gwestiwn. Erbyn hyn mae Y Byd yn fath o grefydd, fel bod y Tystion Jehofah.

Efallai y gwyddoch y cafodd y Tystion Jehofa eu dechrau yn yr adladd o broffwydoliaeth wedi'i methu. Dwedodd Charles Taze Russell y byddai'r byd yn dod i ben ym mis Ebrill 1878. Pan gyrhaeddodd mis Mai 1878, yn hytrach na chydnabod realiti aeth ein boi Russell ati i ailffurfio ei athroniaeth i ddweud yr ydym ni yn y dyddiau olaf... ond y tro 'ma roedd e'n ddigon deallus i beidio â dweud pryd yn benodol bydd pethau'n gorffen. Mwy na chanrif wedyn, mae gennych chi o hyd pobl sy'n cnocio ar eich drws ac yn mynnu taw jyst rownd y gornel yw'r Diwedd.

Dyna chi cwlt Y Byd, felly. Can mlynedd o heddiw, o hyd bydd yna lwyth o bobl sy'n plastro sticeri Y Byd ar eu ceir ac yn pwdu nad yw'r llywodraeth yn gwneud digon i gefnogi eu delfryd chwerthinllyd. Gallaf eu gweld nhw, yn crwydro lan ac i lawr Heol y Frenhines yma yng Nghaerdydd ac yn gwisgo hysbyslenni gyda'r geiriau "MAE DECHRAU Y BYD YN AGOS" ar eu traws.

Yn wreiddiol, pan ddarllenais y newyddion am ddyfodol amwys Y Byd, meddyliais y gwnaethpwyd y penderfyniad er mwyn osgoi angen talu arian yn ôl i gyfranddalwyr y cynllun. Suddodd lawer o bobl llawer o'u harian i mewn i'r rhith, a byddwn i'n tybio nad oes gan y cwmni'r arian i dalu'r bobl hynny yn ôl bellach. Mwy na thebyg, gwariwyd ef amser maith yn ôl ar olygyddion nad oedd yn golygu a gohebyddion nad oedd yn gohebu.

Doedd y stori gan y BBC ddim yn glir taw pleidlais cyfranddalwyr oedd hon. Dyna broblem gynhenid yn y wasg Cymraeg ei hiaith: yn aml, mae rhaid ichi wybod eisoes beth sy'n digwydd i ddarllen newyddion am beth sy'n digwydd. Yr hen broblem "Pawb Yn Gwybod" ydyw. Mae yna uffach o bethau yn y Profiad Cymraeg -- Eisteddfod yn eu plith -- sy'n tybio gwybodaeth flaenorol; ni chaiff pethau eu hesbonio oherwydd mae "pawb yn gwybod," on'd 'dyn nhw? Ta beth, meddyliais taw pleidlais rhyw fwrdd oedd hon, ond ces i fy nghywiro diolch i Rhys Llwyd.

(A dweud y gwir, rydw i'n ffeindio bod Rhys yn news source gwell nag unrhyw bapur newydd yng Nghymru. Clywais am T. Llew Jones ganddo fe cyn gan y BBC.)

Ond dyw'r ffaith bod cyfranddalwyr wedi pleidleisio arno ddim yn gwneud y peth yn well yn fy llygaid i. Mae Y Byd yn wastraff o amser erbyn hyn; mae'n embaras. Ac fydd y peth ddim yn bodoli byth.

Dwedodd Rhys wrthyf y byddai Y Byd yn bodoli petai'r ymdrech wedi ennill cymorth ariannol gan y llywodraeth. Mae fe'n nodi y caiff papurau newydd tebyg (sef papurau newydd mewn ieithoedd lleiafrifol) yn cael arian cyhoeddus mewn lleoedd eraill. OK, chwarae teg. Ond hyd yn oed pe na baem ni'n delio â grŵp sydd wedi profi ei fedr i fethu yn gyson (sef grŵp Y Byd), a fyddai'n ddeallus i suddo arian cyhoeddus i mewn i ddiwydiant sy'n colli tir ym mhob cornel y byd? Mae papurau newydd yn cwympo bob dydd ymhobman. Hyd yn oed mae'r New York Times yn brwydro. Y New York ffycin Times! The Gray Lady, er mwyn Grav!

Dwedir taw ar y we yw gobaith gorau i'r NYT; disgrifir eu gwefan fel "the only happy story in journalism." Mae'r gweddill y byd yn sylweddoli erbyn hyn taw ar y rhyngrwyd yw'r ffordd ymlaen. Ond dyna'r cefnogwyr Y Byd yn mynnu ar gael "papur go iawn." Dydyn nhw ddim yn fodlon â thidbits electronig.

Mae cychwyn papur "go iawn" yn afrealistig yn y byd cyfoes. Ac yn sgil hynny, dyw hi ddim yn fenter sy'n haeddu arian cyhoeddus. Efallai y byddai yna bapur "go iawn" gyda chymorth ariannol. Ac efallai y byddai rhagor o bobl yn defnyddio ceffylau yn lle na cheir petai'r llywodraeth yn pwmpio arian i mewn i stablau ac hyfforddi gofaint du (b). Ac onid fyddai hynny yn beth da i'r amgylchedd a thwristiaeth?

Dylai'r llywodraeth wedi cefnogi papur newydd Cymraeg ugain mlynedd yn ôl, efallai. Bellach mae'n rhy hwyr. Yn enwedig i gwmni megis Y Byd nad oedd yn gallu datblygu dim yn ystod pum mlynedd. Dyw cychwyn papur newydd "go iawn" ddim yn syniad da ar hyn o bryd, a petai fe yn syniad da ni fyddai grŵp Y Byd yn yr un i'w gyflwyno.

Dwi ddim yn erbyn y cysyniad, gyda llaw. Rydw innau'n hoffi'r syniad o gael papur newydd materol i'w chwifio yn wyneb person -- rhywbeth y gallaf ei blygu o dan fy nghesail a'i ddefnyddio i danio siarcol pan mae Rhodri a fi'n gwneud barbiciw yn yr Eisteddfod. Byddwn i'n wrth fy modd yn eistedd yno a darllen papur newydd Cymraeg ar y trên. Ond rydw i'n ddigon deallus i wybod na ddigwydda'r peth byth.

Rydw i mor siŵr, fel mae'n digwydd, yr ydw i'n fodlon gwneud bet arno. Meddyliwch amdanaf fel Thomas -- fydda' i ddim yn credu hyd gallaf i gyffwrdd â'r peth gyda fy nwylo amheus fy hunan. Felly, petawn i'n gallu cerdded i lawr i siop a phrynu copi solet Y Byd, byddwn yn rhoddi £500 i elusen. Nid oes gennyf £500 ar hyn o bryd ond byddwn yn dod o'i hyd, rhyw ffordd, petai Y Byd yn bodoli. Fel pethau mae, does dim rheswm imi boeni.

Yn gyffelyb i Charles Taze Russell yn addasu ei athroniaeth i realiti'r fodolaeth o fis Mai 1878, ymddengys fod Y Byd yn twymo ychydig i'r syniad o wefan yn hytrach na mynnu ar goed marw yn unig. Nodais fod yn y straeon amdanynt, yn sydyn mae sôn am y "freuddwyd o gyhoeddi papur neu wefan newyddion yn yr iaith Gymraeg." Gallaf ragweld dydd pan fydd Y Byd yn gofyn am arian cyhoeddus i ddatblygu'r fath beth. Ond yn fy marn i, maen nhw wedi gwastraffu eu cyfleoedd yn ystod yr hanner ddegawd diweddar. Mae angen am newyddion dyddiol yn yr iaith Gymraeg, mae angen am ragor na dim ond un ffynhonnell o'r newyddion hynny, ond mae'n amser cydnabod nad yw Y Byd yn yr un i sylweddoli'r freuddwyd. Gobeithio na fydd y llywodraeth yn agor ei drws pan ddaw cwlt Y Byd i gnocio a gofyn am arian.
-----

(a) Er gwaethaf o leiaf chwe mis o sôn amdano. Fel y dwedais o'r blaen: This shit better be the Beijing Olympics of websites, yo.

(b) Blacksmiths