Rydw i wedi cyrraedd fy ngwyliau'r Pasg. Ar ôl y tair wythnos hyn, bydd rhyw bythefnos arall o ddarlithoedd ac wedyn bydd fy mhrofiad israddedig wedi dod i ben, bron. Yn sgil hynny, rydw i'n ffeindio fy hunan yn asesu'r tair blynedd ddiweddar.
Fel y cyfeiriais ato yn fy nghofnod mwyaf diweddar, dyw'r sefyllfa ddim yn ddelfrydol. Des i i Gymru llawn gobaith o ganfod lle i berthyn iddo a hyd yma dyw hynny ddim wedi digwydd. Mae'r hyn y'i dwedir gan y Saeson yn wir i ryw radd: pobl ynysol yw'r Cymry -- y Cymry Cymraeg yn arbennig. Mae yn anodd addasu i'r byd Cymraeg. Mae yn anodd canfod ffrindiau go iawn, sef pobl sy'n fwy nag "helo" gyfeillgar bob hyn a hyn. Dyna ffaith. Dyw hi ddim yn hawdd dod i Gymru o rywle arall a chael rhywbeth, rhywle i berthyn iddo. Hyd yn oed os ydych chi'n fodlon torri eich cefn trwy ddirdroi chi eich hunan mewn ymdrech i weddu i bethau.
Fy ymateb cyntaf, emosiynol, yw eisiau pacio pethau lan, write off y Profiad Cymraeg fel methiant, a symud yn ôl i'r Unol Daleithiau gyda gwerthfawrogiad newydd o'r hen wirionedd nad yw pethau'n orau bob tro ar yr ochr arall i'r clawr. Ni allaf gyfrif y maint o droeon yr ydw i wedi meddwl am ddileu'r blog 'ma, wrth ddweud wrthyf fi fy hunan: "Seriously. I could go my whole life without wanting to speak another word of Welsh."
Yn enwedig y dyddiau hyn. Rydw i'n dilyn yr hyn sy'n digwydd yn ardal Fargo gyda diddordeb mawr. Roeddwn i'n arfer byw yno, ac er 'mod i'n feirniadol o'r lle mae ganddo lle arbennig yn fy nghalon. Daw'r llifogydd i Fargo bob flwyddyn -- efallai y cofiwch fy stori ficro amdanynt -- ond maent yn ofnadwy eleni. Mae'n frwydr enfawr i gadw'r dŵr draw.
Dyma gasgliad o luniau da sy'n dangos yr hyn sy'n digwydd yno. Mae pawb yn gweithio nerth eu cyrff, nerth eu calonnau. Mae gennyf hen ffrind, Chad, sy'n ddyn tân -- mae'n gwirfoddoli lan yno ar hyn o bryd ac yn Twittero ychydig am y profiad.
A dyma fi, yng Nghymru, yn teimlo mor amgen yma, ac yn meddwl: "Ffyc. Dylwn i fod yn ôl ym Minnesota. Gallwn i yrru lan i Fargo a gwneud ychydig o waith yno." Gallwn i lenwi neu osod bagiau tywod, gallwn i helpu yn y llochesau dros dro, gallwn i fod yn gwneud rhywbeth yn hytrach nag eistedd yma.
Daw hyn ar ben meddyliau o'r Unol Daleithiau yr oedd yn nofio trwy fy mhen eisoes oherwydd rydw i am fynd ar daith yno yn ystod yr haf. Dwi ddim wedi gweld fy nheulu na'm ffrindiau ers tair blynedd. Dwi ddim wedi teimlo na blasu'r aer Americanaidd ers tair blynedd. Dwi ddim wedi cael bwyd Mecsicanaidd go iawn ers tair blynedd. Dwi ddim wedi saethu fel pêl fagnel lawr ffordd syth heb ddiwedd, mewn car mawr ers tair blynedd. Ac yn y blaen. Ac yn y blaen.
Ond wrth feddwl y pethau hyn, rydw i'n dal ati i geisio adeiladu rhywbeth yng Nghymru. O hyd mae gennyf obaith. O hyd mae gennyf ddyheu am greu rhywbeth yma. O hyd mae gennyf gred y gallaf ddod i'm llawnder yma.
Ac mae yna lawer o bethau sy'n digwydd ynglŷn â hynny.
Hyd yma dwi ddim wedi clywed yn ôl am yr MA -- wn i ddim a ydw i wedi cael fy nerbyn ar y cwrs na ddim -- ond rydw i'n ceisio ymddwyn fel petawn i wedi cael ateb cadarnhaol. Yn sgil hynny, rydw i'n ceisio dod o hyd i'r arian ar gyfer mynychu'r brifysgol. Gan fy mod i'n fyfyrwyr o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd bydd rhaid imi ganfod rhyw £9,600. Uffach, dyna lawer o arian. Dwi ddim yn hollol siŵr sut ydw i i fod i gael y fath arian, a bod yn onest. Gallaf wneud cais am ychydig o help gan Ysgol y Gymraeg. Rydw i wedi ceisio cysylltu â sawl grŵp Cymru-Americanaidd megis yr WNABC, y WNGGA, y NWAF ac yn y blaen -- ond heb lawer o lwyddiant.
Mae'n anodd peidio â chreu rhyw "doomsday scenario" yn fy mhen wrth feddwl am bopeth. Os dwi ddim yn gallu canfod yr arian, dwi ddim yn gallu gwneud y radd, wrth gwrs, ond hefyd mae'n fwy annhebygol y caf i deitheb newydd ar gyfer byw yng Nghymru. Byddai rhaid imi ddychwelyd i'r Unol Daleithiau. Ac er fy mod i'n sôn am eisiau bod yno nawr, dwi ddim eisiau hynny yn y pen draw. Neu, dwi ddim eisiau i'r penderfyniad 'na -- lle ydw i'n byw -- gael ei wneud ar fy nghyfer gan HM Customs.
Rydw i wedi sôn o'r blaen am bosibilrwydd o wneud MA ysgrifennu creadigol yng Nghaerfyrddin. Yno byddai'r cwrs yn costio dim ond £4,334. Ond o hyd byddai rhai imi ddod o hyd i'r arian. A hefyd ni chaiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, felly dyw e ddim mor ddelfrydol at yr hyn fy mod i eisiau ei wneud. Rydw i eisiau ysgrifennu llyfrau yn y Gymraeg.
Pam? I haven't a clue. Honestly. Perhaps I just hate myself that much ac rydw i'n mwynhau fy arteithio.
Ta beth. Dwi eisiau ysgrifennu llyfrau yn y Gymraeg. Rydw i wedi ysgrifennu llyfr yn y Gymraeg. Ces i fy nghontract ar gyfer Cwrw Am Ddim dydd Gwener. Yn ôl y darn hwnnw o bapur, caiff y llyfr ei gyhoeddi ymhen chwe mis.
Ar hyn o bryd mae'r cyhoeddwr, Gomer, yn creu rhyw fersiwn ffug o'r llyfr, sef "proflen." Os ydw i'n deall yn iawn, bydd yn edrych mwy neu lai fel y bydd y llyfr go iawn. Bydd cyfle imi fynd trwyddo ac yna bant ag e i'r Cyngor Llyfrau i gael prawf darlleniad terfynol.
Am wn i, rydym ni o hyd yn anelu at gyhoeddi jyst cyn Eisteddfod. Yay. I get to go to Eisteddfod. We all know how fond I am of that. Ond a dweud y gwir rydw i yn edrych ymlaen. Rydw i'n ystyried mynd lan i Fala am sbel weddol hir. Byddaf i wedi dychwelyd o'r Unol Daleithiau erbyn hynny a mwy na thebyg bydd ychydig o'r hen frwdfrydedd tuag at bopeth Cymraeg wedi dychwelyd.
Pryd caiff y llyfr ei gyhoeddi, caf i swm pitw gan fy nghyhoeddwr fel blaendal, ac yna swm pitw arall fel breindal rhyw fis yn ddiweddarach. Fydd e ddim yn llawer. Ond arian yw arian. Dwi ddim yn gallu cwyno gormod am gael fy nhalu i ysgrifennu oherwydd rydw i'n wrth fy modd yn ysgrifennu. Efallai y dylwn i annog pobl i brynu'r llyfr er mwyn helpu fi aros yng Nghymru a gwneud yr MA.