Wednesday, 29 April 2009

Yn trwsio'r perthynas

Bydd y tri ohonoch chi sy'n darllen y blog 'ma wedi sylwi nad ydw i wedi ysgrifennu cofnod ers pythefnos. Mae'r hen brifysgol ar fai eto. Neu mae'r hen oedi sydd ar fai. Ta beth, rydw i'n ddwfn nawr yn y dasg o geisio cwblhau fy nhraethodau i gyd cyn eu dyddiad cyflwyno.

Rydw i'n ceisio bod yn fachgen da ac osgoi'r gwrthdyniadau technolegol megis fy mlog a Facebook ac ati. Ond rydw i wedi cael llond bol o'r traethodau y prynhawn 'ma, felly dyma fi'n defnyddio amser gwerthfawr i dapio allan rhyw gofnod ar fy ngliniadur. Yn nhermau emosiynol a meddyliol rydw i wedi gorffen â phrifysgol (y rhan israddedig, o leiaf) ac mae'n anodd dal ati i'r diwedd. Daw'r diwedd 'na ymhen rhyw bythefnos arall; mae gennyf dri thraethawd i'w cyflwyno a chystadleuaeth ysgrifennu gyflym (sef arholiad) i'w hwynebu cyn gallaf ddweud fy mod i wedi gorffen mewn gwirionedd.

Er, cyrhaeddais ryw gerrig filltir heddiw gyda'm darlith (israddedig) olaf byth. Ar ôl cynifer o false starts ym Minnesota, Lloegr, Nevada a California, dyma fi, o'r diwedd, yn cyrraedd y terfyn. Bron. Dwedodd ddarlithydd wrthyf heddiw fy mod i'n siŵr o raddio nawr, a dyma fi'n chwerthin ac yn dweud: "Mae gennyf sgiliau mewn gwneud llanast o bethau. If there's time, I have the ability to screw it up."

Ni allaf ganiatáu fi fy hunan i ymlacio mewn difrif tan ar ôl 14 Mai.

Ta beth, rhyw bum dydd ar ôl y terfyn gwynfydedig 'na, fyddaf ar awyren i'r Unol Daleithiau ar gyfer taith ddau-fis ar led yr wlad. Af i o Boston i Seattle i Portland i Los Angeles i Las Vegas i Santa Fe i Austin i Houston i St. Louis i Minneapolis i Chicago i Washington, DC, gyda phob mathau o bethau eraill cydrhwng. Wel, mwy neu lai. Mae'n debygol y bydd y llwybr yn newid ychydig wrth fynd ati.

Swnia dau fis fel uffach-lawer o amser ond rhaid cofio mai uffach-enfawr yw'r Unol Daleithiau. Er enghraifft, bydd yn cymryd rhyw bum diwrnod imi gyrraedd Seattle ar ôl gadael Boston: nos yn Cleveland, nos ym Minneapolis, nos ym Medora, North Dakota, nos yn Pwy-a-Ŵyr, Montana ac yna cyrraedd Seattle erbyn 7 y.p. er mwyn gweld perfformiad Danielle Ate The Sandwich. (Talented girls with guitars, yo. I will travel thousands of miles to see them)

Yn wreiddiol roedd y daith hon i fod yn rhywbeth hollol wahanol. Roeddwn am gwrdd â siaradwyr Cymraeg yn yr Unol Daleithiau a chanfod rhyw reswm tros gadw'r iaith yn fyw yn eu bywydau. Roeddwn eisiau dod o hyd i bobl debyg i'm hunan, pobl a gafodd eu geni a'u magu y tu allan i Gymru, a cheisio ateb y cwestiwn y'i gofynnir ohonof i mor aml: Pam?

Ac ar y daith hon roeddwn i fod i gael fy ymuno â Llŷr. Roeddwn yn gobeithio bod llyfr arall yn dod o'r profiad (a), ac yn fy mhen gwelwn Llŷr fel math o wrthgytbwys i'm harddull ysgrifennu -- mae'n gweld pethau'n wahanol, mae'n farddol, ac mae'r iaith Gymraeg yn gynhenid iddo. Roeddwn yn siŵr y gallai'r ddau ohonom ni greu'r fath o gyfrol y byddai'n cael ei ychwanegu i gwricwla prifysgolion.

Dechreuais i ffurfio'r syniad o'r wibdaith hon rhyw flwyddyn yn ôl, ac o'r cychwyn roeddwn yn awyddus i bobl eraill ymuno yn yr hwyl. Roeddwn yn dychmygu/dyheu cael math o griw sipsiwn Cymraeg yn baglu ar draws yr Unol Daleithiau. A wandering mess of Welshness lost in the great American exapnse. Breuddwydiwn amdanaf fy hunan fel math o Dean Moriarty sobr, yn swyddogaethu fel tywysydd i dorf fechan a meddw. Felly, es i ati i wahodd sawl person i ymuno â fi a Llŷr: Owen, Annie, Chris, Fflur, Steffan, Dan, ac un neu ddau arall nad ydw i'n cofio ar hyn o bryd.

Yn ystod y flwyddyn, byddai pobl yn dangos a cholli diddordeb yn y peth. Ond yn y diwedd, dim ond fi sy'n mynd.

Mae yna rywbeth addas am hynny, efallai. Ar ôl tair blynedd heb weld yr Unol Daleithiau, dychwelaf yn waglaw. Hello, America. I return to you with less than when I left. Ac mae'r uchelgais o ganfod rhyw wirionedd am hunaniaeth Gymreig, neu'r ffyc bynnag yr oeddwn yn meddwl am ei wneud, wedi hen ddiflannu.

Bellach rydw i am weld gwlad fy ngenedigaeth. Yn syml. Yn ôl fy amserlen i. Ar fy nhermau i.

Ac efallai y bydd hyn o'r budd gorau. Erbyn hyn, rydw i'n gweld y daith fel math o relationship counselling i mi a'r Unol Daleithiau. Gadawais tair blynedd yn ôl gyda phen llawn dicter tuag at y pethau a'r bobl y lle. Teimlais fel alltud. Pryd gyrhaeddais Gatwick, roeddwn yn fodlon llosgi fy mhasbort a pheidio troi yn ôl byth. Ond bellach gallaf gofio rhai pethau da. Rydw i'n hiraethu am fy ffrindiau yn angerddol. A dyw pethau ddim mor ddelfrydol yng Nghymru, chwaith. Felly rydw am geisio ffeindio rhyw gydbwysedd, fel petai. It's just you and me, Lady Liberty. Come on, baby, let's remember the good times. Let's see if we can make this thing work.
-----

(a) Rydw i am ysgrifennu llyfr am y daith beth bynnag, ond yn amlwg caiff gyfeiriad a chanolbwynt hollol wahanol.

Thursday, 16 April 2009

Byddaf angen pasport newydd

A ydych chi wedi gweld y newyddion 'ma? Sut fyddai hyn yn effeithio fy statws ym Mhrydain, tybed?

Sunday, 12 April 2009

Ystrydebol ac yn ddibwynt

Rydw i wedi sôn o'r blaen am y ffaith y gall ysgrifennu ar eich blog ddechrau teimlo ychydig fel dyletswydd weithiau. Yn ystod yr adegau hynny mae'n anodd dod o hyd i'r awydd i wneud dim byd; yn sydyn, mae'n anodd meddwl am rywbeth i'w ddweud. Dwi ddim yn hoffi gweithio, felly pryd bynnag mae yna rywbeth sy'n teimlo fel gwaith bydd rhywbeth y tu mewn i fi'n gwrthod. Fy Kryptonite yw gwaith.

Ond hefyd rydw i'n delio â thomen o waith arall ar hyn o bryd -- gwaith prifysgol. Sy'n fwy pwysig. Gellir dadlau. A dweud y gwir, a yw gwaith prifysgol yn fwy pwysig nag ysgrifennu ar flog? Dyna gwestiwn da. Yn nhermau o'r hyn sy'n bwysig yn y bydysawd, a yw ysgrifennu traethawd am Caradog Prichard yn fwy pwysig nag ysgrifennu cofnod blog? A oes ganddo fwy o werth? Pam? Os ydych chi'n meddwl am y peth, mae'n anodd dweud taw mwy pwysig yw ein boi Cardog. Nid llai pwysig, efallai, ond nid mwy pwysig chwaith.

Y peth fy mod wedi ei ddysgu gan brifysgol yw pa mor ddibwynt yw prifysgol. It is bullshit for the people who can't hold their own in pub arguments. A dyma fi'n dal ati. A dweud y gwir, rydw i'n meddwl bod gennyf fwy o ddiddordeb mewn dal ati gyda phethau academaidd bellach oherwydd eu diwerthrwydd.

Felly, nid oes gennyf yr amser i gofnodi oherwydd rydw i'n canolbwyntio ar rywbeth diwerth. Ond, wedi dweud hynny, mae'r teimlad hwnnw o ddyletswydd yn parhau. After all, I have a reputation to uphold.

Clywais yn ddiweddar y ces i fy nychanu yn Taliesin. Wel, yn rhannol -- ymddengys fod rhywun wedi dychanu blogwyr, a minnau yn eu plith. Dwi ddim wedi darllen y peth. A dwi ddim yn bwriadu ei ddarllen chwaith -- gallaf ddychanu fi fy hunan, does dim angen help. Ond ar ôl clywed y newyddion 'na roeddwn yn teimlo ychydig o falchder fy mod i'n berson digon pwysig yn llygaid rhywun i haeddu dychan. Go me.

Ta beth, petawn i'n dychanu fi fy hunan, byddai rhaid cael rhyw ddarn sy'n sôn am ferch fy mod i'n ei nabod, neu wedi ei nabod, a'i bronnau. Efallai y byddai yna sôn am ba mor wych yw Minnesota neu Texas. Wrth gwrs, byddai rhaid defnyddio cryn lawer o code-switching, yn ogystal â brawddeg sy'n cydnabod y ffaith honno mewn iaith fras, megis: "Go fuck yourself if my use of English upsets you." Ac yna rhyw rant bach am natur Luddite y Cymry. Dyna chi fy mlog mewn paragraff.

Ta beth, er mwyn parhau yn yr ystrydeb, dyma ddwy ddolen sydd wedi fy nifyrru. Y cyntaf yw rhywbeth fy mod i'n meddwl y bydd Llŷr yn ei fwynhau: "I'm On a Boat." Daw fy hoff linell am 2:37.

Hefyd, ar gyfer y rhai ohonoch chi sydd heb amgyffred â Twitter eto, dyma esboniad gweddol syml o sut mae'n gweithio.

Wednesday, 8 April 2009

Cŵl

Mae'r e-bost 'ma newydd cyrraedd. Gwn i, felly, beth y byddaf i'n ei wneud yn y flwyddyn nesaf:

Cardiff University is pleased to offer you admission to the programme detailed below:
School: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Programme: MA YN Y GYMRAEG
Commencing: 21 September 2009
Attendance: Full-Time