Mae hi'n sbel enfawr ers imi ysgrifennu cofnod go iawn ar y blog 'ma. Neu ar unrhyw flog a dweud y gwir. Y ffaith yw, mae Pethau Mawr yn digwydd yn fywyd eich hen gyfaill Chris, ac nid oes gennyf yr egni nac yr awydd i ysgrifennu amdanynt ar hyn o bryd. Efallai ymhen amser. Wn i ddim.
Y dyddiau hyn, mae tuedd i beidio ysgrifennu heblaw am hunan-hyrwyddo, sy'n y math o beth nad ydw i'n ffan ohono fel arfer. Mae hynny'n fel y blogiau a ysgrifennir gan gyflwynwyr radio: "O, cofia wrando ar y sioe heno, achos mae hyn a hyn yn digwydd."
A dyna chi'n meddwl: "Ffyc. Pam ydw i wedi gwastraffu fy amser trwy ddod yma dim ond i gael fy nghyfeirio at rywbeth arall? Dwi'n casáu'r boi 'ma nawr."
Ond wedi dweud hynny i gyd, dyma fi'n eich cyfeirio i wefan arall, sef gwefan y BBC -- sy'n cael adolygiad o'm llyfr (diolch i Nici Beech am nodi y peth). Mae hen ddywediad sy'n mynnu nad yw'n bwysig a yw beirniadaeth yn dda na chas, mor bell â bod nhw'n sillafu eich enw'n gywir. Yma, maen nhw'n cyfeirio ataf fel "Chris Pope."
Ond rydw i'n fodlon i faddau hynny, gan bod yr adolygiad yn weddol gadarnhaol. A thra ydw i wrthi'n cysylltu ag adolygiadau, dyma un arall gan Neil Wyn Jones a ysgrifennwyd ychydig yn ôl. A bod yn onest, rydw i wrth fy modd gyda'r ymateb i'r llyfr fy mod wedi'i glywed hyd yma. Mae nifer ohonoch chi wedi ysgrifennu ataf i ddweud eich bod wedi mwynhau, a dwi wir werthfawrogi hynny -- er gwaethaf y ffaith nad ydw i'n arbennig o brydlon yn nhermau ysgrifennu yn ôl. Diolch yn fawr iawn i gynifer ohonoch chi sydd wedi cymryd yr amser i anfon nodyn bach.
Rydw i'n cofio gwrando ar Simon Brooks fod yn dafod-yn-y-foch mewn darlith unwaith am y ffaith y gellir dod o hyd i adolygiadau gwaith Owen Martell ar ei wefan e, ond does dim adolygiadau negyddol. A dyma fi'n gwneud yr un peth. Er, dwi ddim yn ymwybodol o adolygiad negyddol . Ac, a bod yn onest, dwi ddim yn gweld pwynt mewn darparu rhesymau ichi beidio â phrynu fy llyfr -- I needs to eat, bitches -- ond efallai bod chi'n gallu dod o hyd i gwyn neu ddau ar maes-e.
Fel y dwedais, mae pethau'n weddol ansefydlog yn fy mwyd ar hyn o bryd, ond gobeithio y byddaf yn ôl i'r blogio cyn bo hir. Ymhen mis, efallai. Yna, o, mae gennyf straeon...