Tuesday, 8 September 2009

Y trydydd peth

Dwi ddim wedi darllen Y Trydydd Peth gan Siân Melangell Dafydd eto, felly dwi ddim yn gwybod ai addas yw defnyddio teitl ei gwaith i'r cofnod hwn, ond mae'n ffitio mewn ystyr wynebol o leiaf.

Collodd Rachel ei rhwymyn priodas dydd Sadwrn.

Modrwy yr ydw i'n sôn amdani, ond mae gwahaniaeth rhwng y ddwy fodrwy y'u gwisgir gan ferch briod. Mae yna'r fodrwy y'i rhoddais ar fys Rachel ym mis Mawrth 1999 pryd es i lawr ar fy mhen-lin a gofyn iddi briodi fi, ac mae yna'r fodrwy (y rhwymyn priodas, neu wedding band) y'i rhoddais ar ei bys ym mis Mehefin 1999 pryd safodd y ddau ohonom o flaen ei theulu anghroesawgar a chael ein clymu yn swyddogol, yng nghyfreithiol.

Ar y dydd hwnnw, roedd tair modrwy: Fy modrwy i, modrwy briodas Rachel, a'r rhwymyn priodas 'na.

Collais fy modrwy briodas ym mis Hydref 2006 wrth aros am fws i'm cludo i'r Mochyn Du. Rydw i wedi ail-adrodd y stori sawl gwaith erbyn hyn, a phob tro mae'n fwy o chwedl. Bob tro, mae'r pryf cop yn fwy; bob tro mae fy ymateb iddo yn fwy merchetaidd dros ben. Ond yn y bôn, gwelais bryf cop enfawr yn dod i lawr arnaf a dyna fi'n taro arno llawn egni a drama, a theimlo'r fodrwy fach syml yn ffoi o'i chartref ar fy llaw chwith. Clywais ei thincian ar y palmant, ond ni welais ddim byd. Er gwaethaf sawl awr o chwilio'r man, ni allwn ddod o hyd i'r darn o aur y cafodd ei mwyngloddio ym mynyddoedd Nevada -- lle syrthiodd Rachel a fi mewn cariad.

Yn swyddogol, ni chollodd Rachel ei modrwy briodas, ond daeth amhosib i'w gwisgo ar ôl i'r diemwnt ddiflannu ar fws rhywle rhwng Casnewydd a Chaerdydd rhyw flwyddyn yn ôl. Gwisgai hi fodrwy densiwn yr oedd i fod i gadw'r diemwnt yn ei le trwy bwyso arno. Yn hytrach na modrwy mewn siâp O, roedd mewn siâp C gyda'r diemwnt yn llenwi'r bwlch. Roedd golwg arbennig ac unigryw ar y peth ac roedd y boi a werthodd y fodrwy inni'n bendant na fyddai'r diemwnt yn dianc ei osodiad byth. Onid yw'n wir mai'r celwyddwyr mwyaf yw'r rhain sy'n gwerthu shit drud? Felly aeth y diemwnt, a chyda hynny caeodd y fodrwy a mynd yn amhosib i'w gwisgo yn bellach.

Yna, nos Sadwrn, diflannodd rwymyn priodas Rachel. Wn i ddim sut. Des i adref o redeg ac oedd hi yn yr ardd, yn chwilota'n fanwl trwy'r pridd.

"What's up?" meddwn i.

"It's gone," meddai hi, yn dangos ei bys noeth. "I'm sorry."

A dyna ni. Y trydydd peth. Three strikes and you're out. You win, Wales.

Rydw i wedi dweud sawl gwaith ynghynt bod y profiad hwn o fyw yng Nghymru wedi tynnu darnau oddi wrthyf, wedi fy mlingo o'r hyn yr oeddwn cyn symud yma. Rydw i wedi colli fy hunan-hyder, fy nealltwriaeth o bwy ydw i, eitemau materol perthnasol, a bellach...

Y ffaith yw, mae'n addas bod Rachel wedi colli'r trydydd o'r modrwyau yr oedd yno gyda ni y noswaith boeth mis Mehefin honno ddegawd yn ôl. Oherwydd ymhen pythefnos bydd hi'n byrddio awyren i'r Unol Daleithiau, ac ni ddaw yn ôl.

Ac arhosaf yma.

Efallai bod y profiad wedi bod yn ormod iddi hithau. Wn i ddim. Yn fy llyfr rydw i'n paentio Rachel fel math o arwr, rhyw gerrig ansymudol imi lynu wrthi ymhlith y stormydd fy mywyd a'm meddwl. Ond mae hyn i gyd wedi effeithio arni hithau, yn ddiau. Mae hi wedi gweld y boen yr oeddwn i'n ei phrofi ac wedi'i theimlo yn ei ffordd ei hun, wedi cael ei phoen hi ei hunan hefyd. Ac yn y misoedd ddiweddar rydym wedi sylweddoli nad oes digon ar ôl inni fod yr hyn yr oeddwn.

Mae Rachel yn dyheu dychwelyd i'r cynhesrwydd a glendid y Gorllewin yr Unol Daleithiau. Mae'n hiraethu'r wybrennau glas llydan o'r ardal ei phlentyndod. Mae'n angen dod o hyd i'w hunaniaeth eto.

Bellach, tro nesaf ydych chi'n clywed fi mewn cyfweliad yn sôn am fy llyfr neu fy mhrofiadau, a daw'r hen gwestiwn 'na gan y cyfwelydd, "Ond mae pethau wedi gwella erbyn hyn, ydyn nhw?", byddwch yn gwybod pam bod yna saib mor hir cyn imi ateb.