Wednesday, 28 October 2009

Beth ydwyf

Os ydw i'n adnabyddus -- a gellir dadlau tros ac yn erbyn hynny am sbel -- rydw i'n fwyaf adnabyddus am fod yn flogwr. Sy'n beth od wrth ystyried nad ydw i'n blogio'r dyddiau hyn, heblaw am rai cofnodion crwydrol annarllenadwy-ofnadwy Saesneg ynglŷn â Strictly Come Dancing.

Ta beth. Fel arfer mae'n well 'da fi cyfeirio ataf fi fy hunan fel awdur yn hytrach na blogwr, oherwydd mae'r fath beth yn swnio'n well. Petai dim ond dau ddyn ar ôl yn y byd, mae'n debygol y byddai'r awdur yn cael shag gan y merched sydd ar ôl cyn y blogwr. Ond y ffaith yw, dwi ddim yn ysgrifennu ar hyn o bryd, a dwi ddim yn siŵr pa mor hir yw'r statute of limitations am alw chi eich hunan yn awdur.

Tybiaf fy mod yn Americanwr o hyd, ond gan bod fy mhasbort yn arnofio trwy fiwrocratiaeth y Swyddfa Gartref yn bresennol mae'n anodd bod yn bendant am hynny chwaith. Efallai bod rhyw snafu wedi troi fi'n Sinead. Hynny yw, rhywun o Tsiena, nid Sinéad. Er does dim byd y tu hwnt i'r Deyrnas Bosibilrwydd wrth ddelio â llywodraeth, a oes? Efallai y daw fy mhasport yn ôl yn y post gyda nodyn bach: "Dear Miss O'Connor, we here at the Home Office must admit to being great fans of yours, all the lads in human resources especially. We wonder if you would be so kind as to send along a few autographed photos of yourself."

Ac yna, dyna fi'n eillio fy mhen a thynnu lluniau aneglur ohonof fi fy hunan er mwyn cael teitheb ac aros yng Nghymru.

Beth ydw i felly? Dyn sy'n carlamu -- ymddengys -- tuag at ysgaru. Ac o ganlyniad i hynny mae'n anodd bod unrhywbeth arall. Mae'r tŷ yn rhy dawel weithiau; mae'r gwely'n rhy oer.

Ac eto... Weithiau mae pethau'n iawn. Weithiau maent yn well. Dwi ddim yn teimlo fy ngorfod i gyfiawnhau byw yng Nghymru bellach; ni theimlir cyfrifoldeb am hapusrwydd rhywun arall.

Ac weithiau dwi'n ddim. Diflannaf i mewn i'm pen; collaf amser ac ymwybyddiaeth o'r hyn sydd o'm cwmpas. Mae hynny wedi digwydd sawl gwaith yn ystod yr wythnos 'ma. Bydd pobl yn siarad â fi ac yn sydyn sylweddolaf eu bod nhw'n edrych arnaf ac yn disgwyl imi ateb rhyw gwestiwn nad ydw i wedi'i glywed.

Yn rhannol mae hynny'n effaith y gwaith academaidd hefyd. Efallai nad ydw i'n siŵr beth ydw i ond rydw i'n ceisio bod yn fyfyriwr. A bod yn onest, rydw i'n ceisio'n fwy dilys yn yr MA 'ma nag erioed o'r blaen. Cyffesaf falchder am hynny. Cyffesaf rwystredigaeth, hefyd, nad ydw i'n teimlo ei fod yn ddigon.

Felly dyna fi: rydw i'n gwthio fy ymennydd a'm calon i'w llawnder. Ac mae bywyd yn parhau.

Saturday, 3 October 2009

Bant â ni

Tua phythefnos yn ôl, yr oeddwn yn eistedd yn ystafell fyw y tŷ, yn gwylio Rachel yn mynd trwy fynydd o bapurau a'u gwahanu i mewn i ddau bentwr: un i'w losgi, ac un i'w ailgylchu. Dyna hi'n diosg yr elfennau bach o'i bywyd yng Nghymru, felly. Ffurflenni, cardiau ac ati.

"Do you need this?" meddai hi, yn dal lan copi o hen stori BBC amdanom.

"Uhm. Oh. No, I guess not," baglais yn ôl.

"OK, that's going," meddai, yn fwy wrthi hi ei hunan na fi, ac yn taflu'r papur i mewn i bentwr.

Mae'n beth poenus i'w wylio: eich bywyd chi yn cael ei rydwytho i lawr i bapurau pwysig i'w llosgi a phapurau gwirion-emosiynol i'w gwaredu. Ond dyna ni. Roeddem ni wedi treulio cryn lawer o'n hegni a'n hamser yn poeni tros y pethau hyn eisoes -- bellach oedd yn amser i symud ymlaen.

Bore Mercher diwethaf aeth Rachel o Gaerdydd. Es i â hi i'r orsaf drên, er mwyn dweud ffarwél. Dyna'r ffordd ddelfrydol, onid yw? Y ffordd ramantaidd, lenyddol. Fi a hithau ar y platfform yn llygadrythu ar ein gilydd llawn awydd i ddweud rhywbeth ond heb eiriau i ddweud unrhywbeth. Ac yna, byddai cerddoriaeth Coldplay neu'i thebyg yn chwyddo o'r cefndir, byddai hi'n byrddio'r trên ac -- yn dibynnu ar ba fath o stori yw hon -- byddwn i'n rhedeg ar ei ôl yn gweiddi nerth fy mhen, neu sefyll yn stond yn gwneud dim.

Roedd y tywydd yn gymylog ar y bore 'na. Cyrhaeddom yr orsaf rhyw hanner awr cyn i'w thrên adael. Felly dyna ni'n eistedd mewn tawelwch ar blatfform 1, yn syllu tros y cledrau tua phlatfform 0 ac wrtho, y trên i Glyn Ebwy.

"Eisteddfod's in Ebbw Vale next summer," meddwn i, yn nodio fy mhen at y trên. "I think I'll enter a short story or something. I can't imagine a person in that town will know what the hell is going on; they'll just know that traffic is fucked up. Still, I think it's kick-ass that they get it. If I ever win some major award, I want it to be at an Eisteddfod held outside of the usual Welshy bullshit. If I understand correctly, the Eisteddfod maes will be right near where you used to work up there. Remember that? You would drive up there every day and there would be sheep outside your window and..."

Es i yn dawel wrth sylweddoli taw siarad er mwyn llenwi'r awyr oeddwn i -- yn creu sŵn gyda gobaith o foddi'r hyn sy'n digwydd yn fy mhen a'm calon. A minnau'n sôn am Glyn Ebwy, yn cyfeirio at adeg pan oedd yna obaith -- roedd gan Rachel swydd go iawn. Roedd hi'n hapus yn gweithio lan yno ac mae'n druenus nad oedd gan y bwrdd iechyd lleol ddigon o arian i'w chadw yno. Cwyna pobl yn y wasg am hyn a hyn sy'n digwydd yn y GIG ac yn mynnu na ddylai cymaint o arian gael ei "wastraffu", ond y peth na sylweddolant yw bod yna fachgen go iawn rhywle sy'n brwydro i gadw'n iach a phan maent yn tynnu'r arian i ffordd maent yn tynnu i ffordd y person yr oedd yn helpu'r bachgen 'na.

Daeth Rachel o hyd i swydd arall yng Nghasnewydd -- the New Hate -- ond doedd hi ddim mor hapus yno. Gweithiai'n rhy galed. Ac nid aeth y pwysau yr oedd yn cronni ar ei hysgwyddau ers dod i Gymru. Y newid, yr hiraeth, y boen o wylio ei gŵr yn chwalu.

Tawelwch.

"Y trên sy'n cyrraedd platfform 1..." datganodd y Tannoy, a llithrodd y neidr las hir First Great Western i'r platfform i gludo'r person sydd wedi fy nghwblhau ers degawd i ffordd ac ymlaen i Gatwick.

Helpais iddi lwytho ei bagiau i mewn i'r trên a chau'r drws trwm ar ei hôl. Goleddodd hi allan o'r ffenestr a rhoi imi gusan ysgafn.

"Tynged," meddai hi.

Sut mae hi'n gwybod y gair 'na, tybed? Dyw hi ddim yn siarad Cymraeg heblaw am frawddegau dysgwr-aidd megis, "S'mae", a, "Dwi'n hoffi coffi". Ond cwynfanodd breciau'r trên ac roedd hi'n llithro i ffordd yn araf dawel cyn imi gael cyfle i ofyn cwestiynau ieithyddol. Gwenodd hi arnaf. Sefais yn stond yn teimlo fy malurio o'r tu mewn.

Deuai gryndodau o emosiwn wrth imi eistedd ar blatfform 7, yn aros am y trên i fynd â mi yn ôl i'm caer fechan ar ffiniau Caerdydd. Ac ar gyrraedd y tŷ, daeth tonnau o dristwch drosof. Cyffesaf nad ydw i wedi crio fel hynny erioed o'r blaen. Roeddwn yn crio o'm henaid, o'm bôn.

Gorweddais yn fy ngwely trwy weddill y dydd yn dychmygu rhaff felfedaidd yn disgyn o'r nenfwd, lapio o gwmpas fy ngwddf a'm tynnu yn ysgafn i'r lan. Dychmygais fi fy hunan yn hongian yn dyner, a'm hymwybyddiaeth yn llifo oddi wrthyf yn araf deg. Meddyliais am yr hen gartwnau gwleidyddol o'r 1700au y'u gwelwn mewn llyfrau hanes pan oeddwn yn high school: rhywbeth fel dyn wyneb-dew a hyll yn cario sach gyda'r geiriau "Old Scratch" arni. Ac yn dod o geg y dyn byddai yna geiriau wedi'u hysgrifennu ar ruban (yn hytrach na mewn balŵn fel y gwelir mewn cartwnau erbyn hyn) -- rhywbeth fel: "Tis a simple thing for a New Englandman!" A fi'n methu deall o gwbl sut y mae hynny i fod yn ddoniol neu ffraeth neu unrhywbeth ond dryslyd. Ond am y rhubanau o eiriau yr oeddwn yn meddwl amdanynt. Dychmygais rubanau tebyg yn diferu oddi wrth fy mysedd a'm bysedd traed, ac arnynt yr enwau o'r hyn sy'n fy arteithio: ansicrwydd, tristwch, unigrwydd, hunan-gasineb, ac yn y blaen.

Dychmygais y rhubanau'n cwympo i'r llawr o danaf, a bod hwythau fel bacteria neu rywbeth nad yw'n gallu parhau allan o'r corff am hir ac ymhen diwrnod neu wythnos, byddent yn farw i gyd. Yna, byddai'r rhaff yn fy ngostwng yn ôl i'r gwely a byddai merch gyda gwallt tywyll a blas Dr. Pepper ar ei gwefusau yn deffro fi gyda'i chusan.

"It's alright," byddai hi'n dweud, ei llygaid yn sgleinio. "Everything is alright."

Wythnos a hanner ddiweddarach ac rydw i'n ceisio symud ymlaen. "Miles to go before I sleep," medd y geiriau ar fy mraich. Rhaid parhau. Rhaid brwydro. A bellach mae'r MA wedi dechrau. Rydw i'n edrych ymlaen ond hefyd rydw i'n nerfus dros ben am yr hyn sydd o'm blaen. Diawl, mae'n llawer o waith. Ac bydd yn anos ceisio gwneud y fath beth wrth fyw mewn tŷ gwag. "Does dim byd gwaeth na phaned mewn tŷ oer i wneud rhywun fod yn ymwybodol o'i ffaeleddau ei hun," medd Siân Melangell Dafydd yn Y Trydydd Peth. Caf i gryn dipyn o'r amserau paned hynny yn y misoedd sy'n dod.

Ond hoffwn i feddwl fy mod wedi dysgu ychydig o'm profiadau cynt; fyddaf i ddim yn cuddio yn y tŷ; fyddaf i ddim yn tynnu yn ôl. Rydw i am geisio byw a gwneud y gorau o bopeth. Er enghraifft, rydw i am deithio ychydig bach yn fwy. Dyw'r cyfrif banc ddim mor fawr y gallaf galifantio i Moscow neu ble bynnag, ond i Gaerfaddon y penwythnos nesaf, i Langrannog yr wythnos ar ôl hynny, ac ati.

Mae yna obaith; mae'n well byw na pheidio. Ceisiaf gofio hynny.