Wednesday, 18 November 2009

The Gift

"Does dim 'e' yn fy enw i."
"Be'?"
"Does dim 'e' yn fy enw i."
"Ha. Ie, OK. Doniol iawn."
"Na, o ddifrif. Does dim 'e' yn fy enw i."
"Ti'n siŵr?"
"Beth wyt ti'n feddwl, ydw i'n siŵr? Wrth gwrs dwi'n siŵr. Fy enw i yw e. Afraid dweud 'swn i'n gwybod sut i sillafu enw fi fy hunan."
"O... Yhm, 'falle baset ti'n fodlon newid y ffordd fod ti'n sillafu e, felly?"
"Be'? Na. Dwi ddim yn newid sillafiad fy enw."
"Plîs?"
"Na."
"Dere 'mlaen, cariad. Bod yn rhesymol, nawr..."
"Rhesymol? Ti yw'r un sydd wedi cael tatŵ mawr ar draws ei gefn gyda'r geiriau 'Dwi'n dy garu di, Annie'."
"Wel, ie. Dwi yn dy garu di."
"Ond dwi ddim yn Annie!"
"Ond does neb yn gwybod hynny."
"Dwi'n gwybod. Dwi'n gwybod fy enw i. A fy rhieni -- nhw sydd wedi rhoi'r enw i fi, cofia."
"Does dim rhaid i ti newid dy enw, fy annwyl. Dim ond y sillafiad."
"Paid â 'fy annwyl' fi. Na. Dy broblem di yw hyn."
"Beth ydw i i fod i wneud?"
"Wel, jyst cer at rhyw feddyg neu beth bynnag sy'n gallu tynnu'r 'e' i ffwrdd."
"Be'?! Tattoo removal?! O, na. Dwi wedi clywed bod hynny'n broses sy'n brifo."
"Doedd y tatŵ 'na ddim wedi brifo?"
"O, ie. Mae'n brifo lot. Ond ar dy gyfer di oedd y peth. Dwi'n fodlon dioddef dros gariad."
"Ond dwyt ti ddim yn fodlon dioddef dros gywirdeb?"
"Ta beth, taswn i'n tynnu'r 'e' i ffwrdd, basai'r peth i gyd yn edrych yn od."
"Od?"
"Ie, ar hyn o bryd mae'r peth wedi cael ei ganoli ar draws fy nghefn. Tasech chi'n tynnu'r 'e' i ffwrdd basai popeth yn o'i le."
"Beth am tynnu'r 'e' i ffwrdd, ac yna, ei ddisodli gyda rhyw ebychnod?"
"Be', 'Dwi'n dy garu di, Anni!'?"
"Ie. Er, wedi meddwl am y peth, falle basai rhaid cael ddau ebychnod, er mwyn i'r peth edrych yn iawn."
"Dau ebychnod? 'Dwi'n dy garu di, Anni!!' Fy nghefn i yw hyn, nid rhyw ffycin tudalen MySpace. Basai pawb yn ei ddarllen fel: 'Dwi'n dy garu di, Annîîîîîîîîîîî'. Na. Dwi ddim yn gwneud hynny."
"Wel, ti ddim yn newid y tatŵ a dwi ddim yn newid sillafiad fy enw. Beth wyt ti am wneud?"

Trannoeth, dychwelodd Rhys i Cardiff Ink a gofyn i Jay, yr artist tatŵ, ychwanegu gair arall o dan y geiriau eraill. Wedi'i ganoli, wrth gwrs:

Dwi'n dy garu di, Annie
Lennox



---------------------------------

Prynwch fy llyfr, Cwrw Am Ddim a Rhesymau Eraill Dros Ddysgu'r Iaith! Mae e ar gael trwy:
- Palas Print
- Gwales
- Gwasg Gomer

Monday, 16 November 2009

Ateb i Ifan Morgan Jones

Yn ddiweddar, esboniodd Ifan Morgan Jones pam nad oes diddordeb 'da fe yn fy llyfr. A chwarae teg iddo. Does dim rhaid i rhywun ddarllen rhywbeth nad ydynt eisiau ei ddarllen. Ta beth, dyma fy ateb i'r pwyntiau ei fod wedi codi:

Pwyntiau teg, Ifan, a diolch yn fawr am dy onestrwydd. Yn aml yn y byd bach ysgrifenwyr Cymraeg mae ofn o fod yn agored ynghylch yr hyn ein bod ni'n teimlo am weithiau pobl eraill.

Os ydw i'n darllen o dan yr wyneb yn iawn, yr hyn dy fod yn dweud yw nad wyt ti'n hoffi hunangofiannau. Ac rydw i'n cytuno â ti yn llwyr. Ym mhob un rhan o'r broses ysgrifennu roeddwn yn ymwybodol o'r ffaith nad oeddwn eisiau creu hunangofiant diflas arall.

Yn sgil hynny, rydw i wedi ceisio ysgrifennu llyfr y byddai'n ddifyrrus i rywun nad yw'n fy nabod -- rhywun nad yw'n rhoi ffyc amdanaf, a dweud y gwir. Yn y bôn, rydw i wedi ceisio ysgrifennu nofel sy'n wir ond sy'n rhyddieithol, yn null tebyg i A Heartbreaking Work of Staggering Genius gan Dave Eggers (er, gobeithio nad ydw i mor hirwyntog ag ef). Rydw i wedi ceisio creu rhywbeth lle does dim ots pwy yw Chris Cope: mai'r naratif sy'n bwysig yn hytrach na'r prif gymeriad.

Hyd yn oed yn y broses greu clawr roeddwn yn bendant nad oeddwn eisiau i'r peth edrych fel hunangofiant. Dyna pam nad oes llun ohonof i'w weld ar y peth.

Er wedi dweud hynny, mae yn wir fod yna gryn dipyn o Chris Cope-rwydd yn y llyfr. Oherwydd fi yw'r person sydd wedi ysgrifennu'r peth. Afraid dweud y byddai fy arddull yn gryf yn fy llyfr fy hun. Byddai hynny'n wir petai'n waith ffuglen hefyd. Felly, os nad yw person yn ffan o'm ffordd o ddweud pethau, ie, byddan nhw'n ffycin casáu'r llyfr 'ma.

Ond dwi ddim yn meddwl ei fod yn gymharol â'm presenoldeb yng nghynifer o fannau eraill (megis Twitter a'm blog) oherwydd mae'r pethau hynny'n ddrafft cyntaf. Hoffwn i gredu bod gwahaniaeth yn y safon ac ansawdd rhwng yr hyn 'mod i'n ysgrifennu ar fy mlog a'r hyn a ysgrifennais yn fy llyfr. Aeth mwy o amser a meddwl i mewn i'r llyfr a'r broses o ddweud y stori sydd ynddo. Ac mae pethau a dyfnder yn y llyfr nad ydw i erioed wedi ysgrifennu amdanynt ar y blog.

Ynglŷn â'th ail bwynt. Dyw e ddim yn llyfr am Gymru. Mae hanner y peth yn digwydd yng Nghymru, ie, ond nid am Gymru yw Cwrw Am Ddim.

Ac ynglŷn â'th trydydd pwynt: wel, diolch. Gobeithio y bydd gennyf nofel go iawn ar dy gyfer cyn bo hir.
-----

Gellir prynu fy llyfr, Cwrw Am Ddim a Rhesymau Eraill Dros Ddysgu'r Iaith oddi wrth:
- Palas Print
- Gwales
- Gwasg Gomer

Oer

Oer. Oer. Oer. Oer.

Doedd dim mwy na hynny. Eisteddodd yn llonydd, yn dawel, yn ddideimlad heb ddim byd arall yn ei ben. Petai rhywun ond fe ei hunan yn yr ystafell wen-dywyll 16 troedfedd wrth 9 troedfedd, bydden nhw wedi dweud yr oedd yn edrych tua'r ffenestr. Bydden nhw wedi dweud yr oedd yn edrych y tu allan i'r tŷ bychan, unig, ar y llwyd di-baid, didostur, di-dduw a ledodd ar draws yr wybren. Ond rhaid bod rhywbeth i edrych ar rywbeth. Rhaid cael rhywbeth y tu mewn. Dyw bwrdd ddim yn edrych ar ddim -- na soffa, na silff lyfrau, na'r llyfrau arno. Mae angen mwy na llygaid er mwyn gweld; mae angen ymwybyddiaeth o weld. A doedd hynny ddim ganddo. Roedd popeth wedi cael ei ddwyn erbyn hyn. Popeth ond un peth.

Roedd yr oerni wedi diferu i mewn i'r tŷ ac amsugno'r waliau. Roedd e'n fel llwydni du sy'n ymddangos yn dawel, a dirgel -- y tu ôl i'r teledu, efallai, neu o dan y carped -- a goresgyn. Ymhen dim mae'n pydru'r awyr, yn ymlusgo i mewn i'r ysgyfaint a'u difrodi. Weithiau does dim y gall person wneud am y fath lwydni ond cydnabod y trechu. Llosgi'r tŷ. Symud i ffwrdd. Ceisio anghofio am yr holl beth.

Roedd yr oerni wedi trechu pob cornel y tŷ, a phob peth ynddo. Roedd wedi allyrru ei anadl trwm-lethol yn yr ystafell fach wen-dywyll. Ac yna, lapiodd yn dynn o gwmpas cawell asennau'r dyn a eisteddai yn yr ystafell, a suddodd ei grafangau i mewn i'w ben, i mewn i'w feddyliau. Plannodd un gair yn ei ben a'i ynysu rhag geiriau eraill.

Eisteddodd yn llonydd. Rhuodd y distawrwydd.

Yn araf, fel petai'n llygoden fach ddiniwed swil, crwydrodd ei law dde o dan y flanced feddal oren-a-du oedd e wedi'i brynu flynyddoedd yn ôl pan oedd e'n ifanc. Pan oedd e a hi yn ifanc. Pan oedd e a hi gyda'i gilydd. Arhosodd am sbel. Wedyn crwydrodd y llaw fach swil yn bellach o dan ei siwmper, o dan ei ddau grys, i gynhesrwydd croen noeth ei stumog.

Wrth deimlo ei fysedd rhewllyd ei hun, deffrodd e. Daeth wreichionen. Yn sydyn, teimlodd yr oerni yn mathru ei fysedd a'i fysedd traed. Teimlodd y boen yn ei gymalau, ei gefn, ei frest, ei ben. Am ysbaid miniscwl oedd yn ymwybodol; collodd y lludded ei afael a dawnsiodd y llygaid. Ond yn ofer. Diflannodd bopeth mor gyflym ag y daeth. Popeth ond un peth.

Rhaid bod yn rhywbeth i edrych ar rywbeth. Rhaid cael mwy nag un peth, mwy nag un gair.

Oer. Oer. Oer. Oer.
-----

Mae fy llyfr, Cwrw Am Ddim a Rhesymau Eraill Dros Ddysgu'r Iaith, ar gael erbyn hyn, gellir ei brynu trwy:
- Palas Print
- Gwales
- Gwasg Gomer

Tuesday, 10 November 2009

Pledio

Dwi ddim yn hoffi canmol fi fy hunan. Efallai nad yw hynny'n gredadwy -- minnau gyda dau flog (wel, tri, os cynhwysir y blog ar gyfer enwau bandiau) a Twitter a Facebook ac ati. Yn amlwg rydw i'n mwynhau sôn amdanaf fy hunan. Er, fyddwn i ddim yn dweud taw mwynhau sôn amdanaf ydw i, ond bod hynny'n bwnc fy mod yn siŵr amdano. Hynny yw, os ydw i'n ysgrifennu amdanaf fy hunan, gallaf fod yn weddol sicr nad ydw i'n anghywir. Neu, os ydw i yn anghywir -- yn camddeall fi fy hunan yn llwyr, rywsut -- gallaf fod yn weddol sicr nad oes neb arall sy'n gwybod hynny.

Ond pryd ddaeth fy llyfr, Cwrw Am Ddim a Rhesymau Eraill Dros Ddysgu'r Iaith, allan yn ôl ym mis Awst, efallai byddwch wedi sylwi nad oeddwn yn arbennig o gyfforddus am ysgrifennu amdano. Ceisiais, ond ar y cyfan es i yn dawel. Roeddwn yn fodlon mynd trwy'r broses o hybu'r llyfr ar Wedi 7 a Radio Cymru ac yn y blaen, ond hyd yn oed yn y sefyllfaoedd hynny doeddwn i ddim yn gyfforddus yn sôn am y llyfr, yn ei hybu, yn annog pobl i'w brynu. Doeddwn i ddim yn gyfforddus gyda'r syniad o ganmol fi fy hunan. Mae rhywbeth wn-i-ddim-beth nad ydw i'n hoffi am geisio gwerthu fy llyfr, gwerthu fi fy hun.

Rydw i'n casáu'r holl syniad o werthu. Y modd mwyaf effeithiol o sicrhau na phrynaf rywbeth yw ceisio gwthio fi i'w brynu. Y bois 'na a ddaw i'r drws yn ystod swper gyda'u clipfyrddau i'm darbwyllo newid fy ngwasanaeth trydan? Rydw eisiau dim ond i'w cicio nhw.

"Most of your neighbours are signed up with us."

"Really? Then most of my neighbours must have a greater tolerance for insufferable cocksucking cunny bastards who show up at their door while they're eating. Fuck off."

Doeddwn i ddim eisiau bod fel hynny. Doeddwn i ddim eisiau i pobl feddwl: "O, mae'r Chris 'ma yn ceisio rhy galed i werthu ei lyfr bach e, ac mae hynny'n diffodd fy awydd i ddarllen y peth." Roeddwn i'n gobeithio y byddai bodolaeth y llyfr yn ddigon, rhywsut. Roeddwn yn gobeithio gadael yr adolygiadau i wneud y canmol a gwerthu:

>BBC Cymru: "Mae Chris Cope yn ddysgwr anarferol ac mae ganddo stori anarferol, wahanol, a honno'n stori sy'n cydio."
>Golwg360: "...canlyniad yr onestrwydd a’r hiwmor yw chwip o lyfr craff, difyr a phoenus – i’r awdur ac i ni."
>Western Mail: "Mae’n rhaid canmol Chris"
>Neil Wyn Jones: "Mae rhai o'r troeon sy'n wynebu'r darllenwr yn hollol anhysgwyliedig... ond mae'n trywydd sy'n wir gwerth ei dilyn. "
>Maes-e: "...wych, diddan, trist, doniol a difyr. "

Ond bellach rydw i'n difaru fy hands-off approach oherwydd dyw'r llyfr ddim yn gwerthu mor dda ag oeddwn yn disgwyl. Clywais oddi wrth Gomer yn ddiweddar, ac o ganlyniad i'r nifer is o gopïau wedi'u gwerthu hyd yma dydyn nhw ddim yn fodlon eto dweud bod eisiau am gyfrol arall. Fyddan nhw ddim yn gwneud penderfyniad ynglŷn ag ail lyfr tan fis Ionawr, ar ôl edrych ar werthiant 6 mis.

Fel cic i'r craidd yw'r newyddion 'ma. Rydw i wedi mynd ar deledu a radio, wedi cael cryn dipyn o adolygiadau da, wedi cael ymateb mor gadarnhaol gan gynifer ohonoch chi, ac eto... methu. Mae'n rhwystredig a bod yn onest. Mae chwerwedd ac amheuaeth. Ond hefyd rhaid derbyn y bai. Efallai nad ydw i wedi ceisio'n ddigon.

Felly, dyma fi'n pledio: Prynwch fy llyfr, os gwelwch yn dda. Does dim rhaid i chi ddarllen y peth hyd yn oed. Gellwch ddilyn cyngor Simon Dyda: "Buy it and burn it, folks; buy it and burn it." Ond prynwch fe, er mwyn Crist!

Erm, na. Rydw i'n jocian. Peidiwch â phrynu pethau nad ydych eu heisiau. Ond efallai bod chi'n fel fi, ac yn weddol araf yn nhermau prynu llyfrau. Efallai bod chi'n fel fi a nofelau Tony Bianchi, yn dweud wrthoch eich hunan: "Ie, dwi am ddarllen hynny ond nid eto. Nid nawr. I'll get around to it eventually." Ond yr hyn fy mod sylweddoli yw nad yw'r byd yn fodlon aros amdanaf. Hynny yw, os dwi ddim yn prynu llyfr, mae hynny'n anfon neges i'r cyhoeddwr -- naill ai'n fwriadol neu ddim -- na ddylai'r awdur gael cyfle arall. Ac rydw i wir eisiau cyfle arall.

Felly, os nad oes gennych gopi eisoes, ac os oes gennych ddiddordeb yn ei ddarllen, gellwch brynu fy llyfr o:
- Palas Print
- Gwales
- Gwasg Gomer
- Amazon

Diolch