Mae nifer o bethau bach ynglŷn â Chymraeg a Chymreictod a Chymru ac yn y blaen wedi bod yn nofio trwy fy mhen yn ddiweddar ond dwi ddim yn meddwl bod un o'r meddyliau hyn yn ddigon cyflawn ar gyfer cofnod blog ar ei ben ei hun. Er, pwy sy'n dweud pa mor hir y dylai cofnod fod? Fy mlog i yw hwn, wedi'r cyfan. Petawn i eisiau ysgrifennu cofnod un-gair (boobies) gallwn wneud hynny.
Ta beth, dyma fi'n gwasgu'r meddyliau i mewn i un cofnod.
1) Dylai Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn yr un man penodol bob blwyddyn. Hynny yw, yn hytrach na chael y dryswch a thrafferth o symud y peth yn ôl ac ymlaen o'r de i'r gogledd yn ddibaid, dylai fod rhyw fath o Bentref Eisteddfod parhaol. Fy syniad i yw cael y fath beth yn y canolbarth.
Byddai'n rhaid bod yn hawdd ei chyrraedd ar y trên, i sicrhau prifwyl wyrdd.
Yn ogystal â hynny byddai'r strwythurau -- yr adeiladau a stondinau ac ati -- hwythau'n wyrdd. Ac oherwydd nid dros dro bydden nhw, gellid rhoi mwy o ymdrech i'w hesthetig. Hynny yw, gallai gael pethau sy'n gweddu i'r ardal ac i Gymru yn well na swmp o blastig gwyn sy'n brifo'r llygaid. Yn sgil gwneud hyn, rydw i'n meddwl y byddai'n costio llai i gynnal y peth yn y pen draw.
Hefyd byddai un corff yn gyfrifol am reoli'r peth. Byddai'r brifwyl yn fwy cyson o flwyddyn i flwyddyn yn hytrach na chael y fath sefyllfaoedd lle mae un Eisteddfod yn iawn (Bala) a'r llall yn shit (Abertawe). Mae cael eisteddfodau anghyson -- eisteddfodau gwael, yn enwedig -- yn brifo'r Eisteddfod a'r ardaloedd sy'n eu cynnal.
2) Dylai Cymru ddilyn esiampl Iwerddon a defnyddio Cymraeg yn unig yn ei thermau llywodraethol. Hynny yw, yn lle na chael "prif weinidog" a "first minister" dylai fod yn "prif weinidog" yn unig. Eisoes mae tuedd i wneud hynny gyda'r Senedd, sef yr adeilad ar lan Bae Caerdydd. Ond byddai'n syniad da i wneud yr un gyda phethau eraill: prif weinidog, y Cynulliad, y Llywodraeth, ac ati. Rydw i wedi gweld Gordon Brown a Barack Obama llwyddo ynganu'r gair Taoiseach, felly rydw i'n siŵr y gallent ddelio â "prif weinidog."
3) Yn gysylltiedig â hynny, dylai Cymru gael gwared â sillafu'r un enw mewn dwy ffordd. Hynny yw, mae'n blino fi bod yna Llandaf a Llandaff; mae Merthyr Tudful a Merthyr Tydfil; mae Radyr a Radur; Mae Pen-y-lan a Penylan. Er mwyn Grav, dewiswch un.
4) Mewn Cymru fodern -- Cymru sy'n rhan o un o'r economïau mwyaf yn y byd, Cymru lle nas oes gormes Seisnig (a), Cymru lle mae rhyw 70 y cant y boblogaeth yn gweithio tros y sector cyhoeddus, Cymru lle mae rhaid cynnal yr iaith gyda grantiau -- a oes rheswm da tros annibyniaeth? Rheswm nad yw'n emosiynol?
-----
(a) Gormes go iawn ydw i'n sôn amdano. Efallai nad yw rhai'n gyfeillgar na pharchus tuag at draddodiadau Cymru, ond does dim gormes.