Yn sgil
cofnod 24 Ionawr y blog hwn, a
chofnod 3 Chwefror Ifan Morgan Jones, rydw i wedi bod yn meddwl ychydig mwy am y syniad o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol mewn un lle penodol. Mwyfwy fy mod yn meddwl am y peth, mwyfwy fy mod yn meddwl ei fod yn syniad da.
Eto, rydw i'n credu y byddai cynnal yr Eisteddfod mewn un lle'n creu profiad mwy cyson, fwy pleserus. Yn hytrach na chael syrcas pebyll plastig blynyddol nad yw'n adlewyrchu Cymru yn ei naws, gellid cynnal y brifwyl mewn adeileddau parhaol sy'n gweddu i'w hamgylchoedd. Gellid cael profiad Eisteddfod sy'n teimlo'n fwy Cymreig. Hefyd gallai'r digwyddiad leihau ei effaith ar yr hinsawdd trwy adeiladu
walkways ac ati.
Er mwyn y drafodaeth hon, enwaf y peth "Pentref Eisteddfod," sef ardal lle byddai'r Eisteddfod yn cael ei chynnal. Byddai'n cynnwys y Maes, wrth gwrs, ond hefyd nifer o'r pethau sy'n mynd llaw a llaw gyda'r Eisteddfod (llwyfan a lle ar gyfer Maes B, er enghraifft).
Rydw i'n cytuno gyda gweledigaeth Ifan o Bafiliwn "wedi ei adeiladu o gerrig," yn ogystal â'i awgrym o stondinau sy'n "gyfres o adeiladau cerrig." Y pwynt yw creu rhywbeth a fydd yn parhau, yn union fel cynifer o gaerau a chestyll yng Nghymru. Os gall
Abaty Glyn y Groes barhau yn ei stad bresennol heb neb yn talu sylw ato am ryw 450 blynedd (a), gydag ychydig o ofal, gallai adeileddau Eisteddfod barhau am byth, mwy neu lai.
Yn fy ngweledigaeth i, ni fyddai'r adeileddau hyn yn cynnal llawer o
mod-cons. Dim ond adeileddau byddent, a byddai popeth eraill yn cael ei sefydlu o flwyddyn i flwyddyn. Y ffordd hynny, byddai'n llai tebygol o gael Pentref Eisteddfod sy'n ar ôl ei oes. Yn amlwg, bydd technoleg yn newid yn y blynyddoedd i ddod, ac mae'n hollol bosibl y bydd y ffyrdd o bweru'r technolegau'n newid hefyd.
Yr hyn fy mod i'n ei hawgrymu yw rhywbeth
parhaol, rhywbeth a fydd yn parhau heibio ein dychymyg presennol. Rhywbeth a fydd yno ganrifoedd ar ôl i ni wedi hen farw. Ac yn sgil y fath beth byddai'n ddatganiad anwadadwy ynglŷn â diwylliant Cymru.
"Pwy fydd 'ma ymhen can mlynedd?" gofynnir. Duw a ŵyr, ond byddai Pentref Eisteddfod yno ar eu cyfer. Byddai lle parhaol i'r Eisteddfod yn ddatganiad nad yw diwylliant Cymraeg am ddiflannu i mewn i hanes.
Ar ben hyn i gyd, byddai cynnal yr Eisteddfod mewn un lle penodol yn creu mwy o gysondeb yn nhermau rheoli'r peth. Ni fyddai'r math o sefyllfaoedd fel ydw i wedi'u gweld yn Abertawe, yr Wyddgrug, a Bala lle'r oeddent o hyd yn ceisio sortio mas y sefyllfa parcio rhyw ddau ddiwrnod ar ôl dechrau'r brifwyl. A byddai'r fath sefyllfaoedd fel y gwelwn ni yng Nglyn Ebwy ar hyn o bryd, lle maent yn
methu codi'r arian, yn llai tebygol.
Ac hefyd -- yn gysylltiedig â'r sefyllfa Glyn Ebwy, i ryw radd -- byddai cynnal yr Eisteddfod yn yr un man yn rhoi gwybod i bobl ble i'w ffeindio. Am y bobl a ddaw o'r tu allan i Gymru sydd eisiau blasu'i diwylliant ydw i'n meddwl, y bobl sydd eisiau gwybod beth ydyw. Bydden nhw'n gwybod ble i'w fynd heb angen gwybod cymaint am yr Eisteddfod ei hun (yn rhy aml mae Eisteddfod yn ddigwyddiad sydd ar gyfer dim ond pobl sydd wedi mynychu'r peth o'r blaen). Os ydych chi wedi darllen fy llyfr, efallai y byddwch yn cofio'r stori am deithio lan i'r Wyddgrug a chael pobl yn dweud wrthyf nad oeddwn ar y bws cywir i'r Eisteddfod:
"
'That's all the way down in Llangollen, dear,' meddai'r hen fenyw. 'This bus goes to Mold.'
'That's what I've told him, love,' meddai'r gyrrwr. 'He seems to think there's another one.'"
Rydw i'n siŵr y digwydda'r un math o sgwrs yn aml iawn yng Nghymru trwy'r amser. Caiff ymwelwyr eu cyfeirio at Langollen yn hytrach na Glyn Ebwy neu Wrecsam neu ble'r ffyc bynnag arall mae'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn 'na. Os cynhalir yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr un lle penodol caiff hynny ei wybod gan y rheiny na chlymir â diwylliant Cymraeg, a fydd o fudd iddi.
Ond lle i osod y fath beth? Yn fy nghofnod 24 Ionawr, awgrymais rywle yn y canolbarth. Erbyn hyn, byddwn i'n awgrymu Carno.
Pam? Wel, does dim rhaid, afraid dweud.
Ond wythnos ddiwethaf, gyrrais lan i Ddolwyddelan i ymweld ag
Annie. Ac wrth yrru trwy Garno, gwelais arwydd priflythrennau i gyd a ddatganai: "CARNO STATION NOW!" Ac fel mae'n digwydd, mae gan y pentref
grŵp gweithredu sy'n brwydro o blaid adeiladu gorsaf trên yno. Os maen nhw'n awyddus i gael y dwristiaeth a fyddai'n dod gyda gorsaf trên, mae'n fwy tebygol y bydden nhw'n fodlon bod yn gartref yr Eisteddfod Genedlaethol. Ond hefyd, mae'r pentref yn gyffordd o'r A470 a'r rheilffordd. Mae'n lle delfrydol yn nhermau ei gyrraedd (b).
Yn ystod weddill y flwyddyn gellid cynnal gwyliau eraill. Efallai gellid dangos yr hyder i wneud rhywbeth newydd fel cynnal math o Wakestock neu'i debyg yn y gaeaf (yn yr ystyr o fod yn ŵyl weddol fawr mewn lle gweddol fach -- yn amlwg dwi ddim yn awgrymu cael
watersport yn y gaeaf).
Mae yn bosibl. Tybed a oes gan Cymru'r hyder i wneud y fath beth?
-----
(a) Sef y cyfnod rhwng diddymiad y mynachlogydd a sefydlu Cadw. Yn amlwg rydw i'n bod yn fras gyda'r ffrâm-amser ond fy mhwynt yw pwysleisio sut y gall adeileddau barhau am hir iawn.
(b) Cofier hefyd bod y Cynulliad wedi datganu yn ddiweddar ei fod am wella'r A470 yn ogystal â rhwydwaith y rheilffordd