Tuesday, 31 August 2010

Adolygiad Faith, Hope and Love, Llwyd Owen

~Cyhoeddwyd yn Taliesin, Haf 2010 (Cyfrol 140)~

Yn enw gonestrwydd a thegwch, dylwn gyfaddef o'r dechrau nad ydw i'n ffan o arddull Llwyd Owen. Seliaf y farn hon ar ôl darllen tair o'i nofelau, sef Ffawd Cywilydd a Chelwyddau, Ffydd Gobaith Cariad, a Mr. Blaidd. Mae'n arddull anghreadigol a diflas -- arddull a aeth yn hen ffasiwn ryw ddegawd yn ôl.

Ond, yn enw gonestrwydd a thegwch, dylwn gyfaddef hefyd y credaf fod Llwyd Owen yn awdur arbennig o bwysig a ffres yn y Gymraeg. Yn yr iaith honno, mae ei arddull yn anghonfensiynol ac yn gwthio ffiniau.

A dyma chi'r ddeuoliaeth sy'n bodoli yn y diwylliant Cymraeg. Yn aml, credir dau beth sy'n groes i'w gilydd, o ganlyniad i natur wrthgyferbyniol yr iaith a'i chyd-destun.

Fel y bobl sy'n ei siarad, mae iaith yn rhywbeth byw, ac fel popeth byw, mae gan iaith orffennol, presennol a dyfodol; os yw iaith i barhau, rhaid iddi lwyddo yn y presennol. Ond, onid yw'r byd modern a'r hyn a ddaw yn ei sgil, yn peri dicter i'r sefydliad yng Nghymru? Yn nhermau diwylliant, rhaid cydnabod taw'r dylanwad Eingl-Americanaidd sy'n rheoli'r byd modern gorllewinol -- ac mae hynny'n arbennig o wir am Gymru. Ond os yw'r byd modern yn gwyro tua'r Saesneg, beth yw'r cyfiawnhad dros ddefnyddio'r Gymraeg?

Mae nifer o awduron Cymraeg yn osgoi wynebu'r cwestiwn annifyr hwn yn gyfan gwbl trwy osod eu gwaith yn y gorffennol neu ar ryw ffermdy hynafol. Ond nid Llwyd Owen. Mae'n ysgrifennu nofelau sydd wedi eu gwreiddio yn y byd cyfoes (neu fersiwn Llwyd Owen-aidd ohono, beth bynnag) sy'n llawn cymeriadau modern. Mae'n rhaid ei ganmol am hynny. Mae'n awdur sydd wedi helpu i lusgo'r diwylliant Cymraeg i'r presennol a hefyd i'r dyfodol, gobeithio -- i'r oes odidog honno pan na fydd rhaid defnyddio'r ôl-nodyn, "yn y Gymraeg" wrth sôn am hygrededd artistig (e.e. "Mae Llwyd Owen yn awdur arbennig o bwysig a ffres yn y Gymraeg"). Mae'n rhan allweddol yn y frwydr i geisio cael gwared ar y ddeuoliaeth mewn safon rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Yn anffodus i Llwyd Owen, mae hynny'n costio'n ddrud iddo, oherwydd wrth ddarllen y testun Saesneg, datgelir awdur sydd, ar y cyfan, yn gwneud dim on dynwared ffilmiau poblogaidd ei ddyddiau prifysgol.

A dyma i chi brif ddiffyg Faith, Hope and Love, cyfieithiad Saesneg yr awdur o'i nofel Ffydd Gobaith Cariad: nofel a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2007. Mae'r fersiwn Saesneg yn weddol ffyddlon i'w gymar Cymraeg, felly mae'n nofel hawdd ei darllen gyda chronoleg ddyfeisgar a naratif byw. Nid nofel wael mo hon. Ond -- yn Saesneg -- nid nofel newydd yw hi chwaith. Yn sydyn ddigon, dyw'r nofel ddim yn gwthio unrhyw ffiniau. Heb y caveat o fod yn dda yn y Gymraeg, mae Faith, Hope and Love yn nofel na chaiff fawr ddim effaith, os o gwbl.

Ac yna, wrth gwrs, dyna'i arddull; mae'n blino rhywun. Dyma ddyfyniad yn agos at ddechrau'r nofel, wedi'i ddewis ar hap. Yma, mae'r prif gymeriad, Alan, yn sôn am ei dad-cu:

"Alive, he was a good friend, and now -- well, he's good company, quiet and comforting. Everything and everyone I ever had has gone up in smoke, but at least I've got someone with me in this strange world, even if I can wave my hand through him as easily as clearing fag air. He doesn't cramp my style like some second shadow; in fact there he goes now, disappearing into the ether like an odourless fart."

Tair brawddeg: dau drosiad, tair cyffelybiaeth, saith ansoddair ac ystrydebau à gogo. Wrth ystyried y fath ddyfyniad, mae'n anodd peidio â meddwl fod Llwyd Owen yn dyheu am ysgrifennu rhywbeth fel: "Sometimes all a fella needs in this mad, crazy, mixed-up world is some bad whisky and a good dame. Even better the other way 'round."

Dyma arddull a adfywiwyd y myd y ffilmiau gan Quentin Tarantino a Robert Rodriguez a'u tebyg yn ystod y 1990au. Mae gan yr arddull sawl enw: hack, pulp, dime-store, noir, comic-book, hardboiled, ac yn y blaen. Mae'n arddull sydd â'i wreiddiau yn athroniaeth Jack Kerouac (sef ysbrydolwr y genre): "It ain't whatcha write, it's the way atcha write it." Ac mae'n arddull sy'n mynd yn llafurus ar ôl tua dwsin o dudalennau.

Mae'r gymhariaeth gyda Quentin Tarantino yn un gyffredin wrth sôn am waith Llwyd Owen. Fel arfer, bydd pobl yn cymharu'r elfennau arwynebol -- gwaed, rhyw, cyffuriau, ac yn y blaen -- neu ei ddefnydd o linell amser doredig. Ond mae Faith, Hope and Love yn debycach fith i waith Tarantino; yn Saesneg daw'n amlwg fod hon yn nofel a ysgrifennwyd gan un o efelychwyr Tarantino. Dawn Tarantino yw cymysgu ystrydebau i greu rhywbeth newydd. Er enghraifft, yn y ddwy ffilm Kill Bill, mae pob cymeriad yn ystrydebau ddau ddimensiwn sy'n ddeillio o sawl genre ffilm arall. Drwy eu cyfuno, crëir rhyngweithiad newydd a stori sy'n llwyddo, rywsut, i fod yn ffres drwy fod yn fformiwläig.

A dyma yw bwriad Faith, Hope and Love. Ac eithrio Will, brawd y prif gymeriad, does dim cymeriad tri dimensiwn yn y nofel. Maent i gyd yn ystrydebau: y dyn diniwed wedi'i lygru gan y byd troseddol, y mentor peryglus, yr hen ddyn ffraeth, y rhieni perffaith/anhapus, y chwaer-yng-nghyfraith ddeniadol, ac yn y blaen. Mae hi'n nofel sy'n llawn o bobl amhosibl eu hadnabod oherwydd nad oes dyfnder iddynt. Maent yno i weithredu, er mwyn symud y naratif ymlaen yn unig. Er enghraifft, pan ddaw heel turn Floyd (mae'n addas defnyddio terminoleg wreslo yma), does dim cwestiynu pam ei fod wedi newid mor gyflym, heb reswm. Yn sydyn mae'n ddyn drwg gan fod y naratif yn galw am ddyn drwg.

Defnyddir ystrydebau -- fel yn nhechneg Tarantino -- gyda'r amcan o greu rhywbeth diystrydeb. Ac er clod i Llwyd Owen, mae'n gwneud defnydd o nifer o ystrydebau Cymreig a Phrydeinig yn ei waith, sy'n gymorth i osgoi'r dybiaeth fod hwn yn waith Americanaidd wedi'i ysgrifennu gan rywun nad yw'n deall America. Ond weithiau, mae'r ffin rhwng efelychu a chopïo yn denau iawn. Yn anffodus, mae gwaith Llwyd Owen yn tueddu i fod ar yr ochr anghywir i'r ffin honno.

Mae yna duedd hefyd i'r arddull danseilio'r neges. Er bod ymgais ar ran Llwyd Owen i drafod sawl pwnc yn y nofel -- ewthanasia, cyffuriau a bodolaeth Duw yn eu plith -- maent yn teimlo'n llipa wrth eu gosod ochr yn ochr â chymeriadau da ddimensiwn. Mae'n anodd i gymeriadau heb ddyfnder fod yn ddwfn.

Ond ar y cyfan, mae Faith, Hope and Love yn nofel dda, os yw'r darllenydd yn medru stumogi ei harddull. Ond dyw hi ddim yn ddigon da i ennill yr un math o glod ag a gafodd y nofel wreiddiol, yn y Gymraeg. Yn Saesneg mae hi'n un nofel arall mewn môr o nofelau, a dim llawer mwy. A dyma'r hen ddeuoliaeth eto. Ond o leiaf mae cyhoeddi'r nofel hon yn tynnu sylw at y ddeuoliaeth mewn safon rhwng y Gymraeg a'r Saesneg ac yn symud gam yn nes at chwalu'r ddeuoliaeth honno. Ac mae'n rhaid diolch i Llwyd Owen am hynny.

Monday, 30 August 2010

Her i'r Eisteddfod

~Cyhoeddwyd yn Barn, mis Gorffennaf/Awst 2010~

Mi es i adref yn ystod mis Gorffennaf. Dyna sut y bydda' i'n cyfeirio at yr Unol Daleithiau erbyn hyn: "adref." Cymru yw'r lle rydw i'n byw, ond UDA yw "adref." Sgil effaith annisgwyliadwy byw mor bell o wlad fy ngenedigaeth yw datblygu cariad trosti. Diolch i'r pellter rhyngom, gallaf weld y da nad oedd yn hawdd ei weld pan oeddwn yn breswylydd ynddi.

Mae uchelgais yn un o'r pethau da hynny. Ar y cyfan, mae'r Unol Daleithiau a'i phobl yn uchelgeisiol iawn o ran natur. Ac a dweud y gwir, byddwn yn dweud taw uchelgais yw'r prif wahaniaeth rhwng America a Chymru. Cefais i fy magu i fod yn uchelgeisiol, i ddatblygu breuddwydion a gobeithion a syniadau, a'u dilyn. Doeddwn i ddim yn blentyn unigryw yn hyn; dywedir bod gan blant Americanaidd fwy o hunanhyder na'u cymheiriaid ym mhob gwlad ddatblygedig arall. Ond yn aml -- yn rhy aml -- mae uchelgais yn beth drwg yng Nghymru. Caiff syniadau newydd eu difrïo ddim ond am eu bod yn newydd. Yn yr hen wlad, prin fod yna groeso i'r newydd.

Felly rydw i'n disgwyl y bydd rhai ohonoch yn casáu'r syniad canlynol. Byddwch yn dweud nad ydw i'n deall hanes na phwysigrwydd nad arwyddocâd yr hyn yr ydw i'n sôn amdano. Dim ond Americanwr ydw i, wedi'r cyfan, ac yn sgil hynny mae rhyw ddiffyg genetig sy'n fy nghadw i rhag deall pethau'n llwyr.

"Gadewch Gymru i'r Cymry," byddwch yn dweud.

Ond, weithiau, nid oes gwahaniaeth rhwng syniad da a syniad gwych, ar wahân i'r ffaith fod y syniad gwych yn cael ei ddweud.

A'r syniad: man parhaol i'r Eisteddfod Genedlaethol.

Hynny yw, dylai'r Eisteddfod gael ei chynnal yn yr un man bob blwyddyn. Mae'n amser i roi'r gorau i'r Eisteddfod symudol. Mae'r cysyniad o symud yr Eisteddfod hwnt ac yma bob blwyddyn yn un sydd wedi hen heneiddio; nid oes angen am y fath beth bellach. Yn ogystal â hyn, mae'n syniad costus, syniad sy'n niweidiol i'r amgylchedd, a syniad nad yw'n gweddu i Gymreictod.

Datblygwyd yr Eisteddfod symudol fel cyfle i bob Cymro fynychu'r fath ddigwyddiad, pan oedd teithio'r wlad yn arbennig o anodd os nad amhosibl. Erbyn hyn, mae gan Gymru rwydwaith o ffyrdd a rheilffyrdd. Ie, does dim gwadu nad yw'r rhwydwaith hwn yn ddigonol -- ffaith y byddwn ni i gyd yn ymwybodol ohono wrth geisio cyrraedd Glynebwy eleni -- ond gellir eu gwella.

Yn amlwg, ni chaiff cysylltiadau cludiant eu gwella ar gyfer Eisteddfod symudol; nid y Ryder Cup yw'r brifwyl. Nid oes digon o gymhelliad i ddatblygu isadeiledd ardal ar ei chyfer. Ond petai gan yr Eisteddfod fan arbennig, parhaol, gellid datblygu'r cysylltiadau iddo. Gellid sicrhau bod cyrraedd Eisteddfod yn broses nad yw'n cadw pobl draw.

Hoffwn i weld datblygu rhyw fath o Bentref Eisteddfod. Man gydag adeiladau fyddai'n parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn ddelfrydol, byddai'r pentref hwn yn cael ei adeiladu gydag amcan o barhau am ganrifoedd. Afraid dweud, byddai prosiect fel hyn yn ddrud o'r dechrau. Ond byddai'n fuddsoddiad. Ac ymhen amser byddai'n llai costus o lawer, oherwydd na fyddai angen symud pebyll a phob dim yn flynyddol.

Ac wrth gwrs, does dim gwadu bod cymaint o symud yn niweidiol i'r amgylchedd. Petai man parhaol, gellid ei ddatblygu i fod yn "wyrdd" -- gyda systemau sy'n defnyddio pŵer yr haul a'r gwynt, er enghraifft -- a sicrhau bod ganddo gysylltiadau rheilffordd da.

Ond, yn bwysicaf, byddai Pentref Eisteddfod yn ddatganiad o Gymreictod. Onid yw'n od fod traddodiadau Cymru'n cael eu canmol a'u cynnal yn y fath ffordd? Hynny yw, caiff elfennau parhaol Cymru a'i diwylliant eu cyfleu mewn ffordd mor fyrhoedlog, dros dro. Beth mae hynny'n ddweud am ddiwylliant Cymraeg? Ei bod yn travelling circus? Nad yw'n ddigon pwysig i fod yn fwy na rhyw barti bach a gaiff ei anghofio ymhen dwy flynedd?

Mae'r glaswellt wedi tyfu yn ôl yng Nghaerdydd erbyn hyn (bron). Ar wahân i'r Eisteddfodwr pur, pwy fyddai'n gwybod bod Eisteddfod wedi bod yno yn 2008? Pwy fydd yn cofio Eisteddfod Glynebwy, ar ôl i canolfan siopa orchfygu'r maes?

Byddai Pentref Eisteddfod yn dweud bod Cymru yn barhaol, bod ei diwylliant yn barhaol, ei hiaith yn barhaol.

Ni fyddai hyn yn beth anodd ei wneud. Rydw i wedi gweld pethau tebyg yn yr Unol Daleithiau -- "pentrefi" sy'n cael eu defnyddio i bwrpas arbennig, yn flynyddol. Mae'n bosibl; yr hyn sydd ei angen yw awydd.

Uchelgais: tybed a oes gan Gymru'r fath beth?

Sunday, 29 August 2010

Ond cariad pur...

~Cyhoeddwyd y golofn hon yn Barn, mis Mehefin 2010~

Dywedodd Siân Melangell Dafydd wrthyf unwaith bod rhaid boddi calon Cymraes mewn gwin i swigod gwirionedd ddod i'r golwg. Nid dyna'r union eiriau, ond dyna'r ystyr. Dyw'r Gymraes ddim yn hoff o ddangos yr hyn sydd y tu mewn iddi. Gellir dweud yr un peth am galon Cymro, tybiwn.

Daw hyn yn amlwg wrth i mi sôn am fy hoff hen destun, sef cariad. Yn Rhagfyr 2009 ysgrifennais am ddiffyg cariad rhamantus mewn nofelau Cymraeg eu hiaith. A dyma fi'n pendroni ar y pwnc unwaith eto.

Mae cariad yn bodoli ym mhobman. Dychmygaf ef fel peth elfennol sy'n ymestyn ar draws y bydysawd, fel hydrogen. Mae yno, ym mhob cornel fach bodolaeth, ond weithiau mae'n anos ei ganfod. Weithiau mae'n haws. Yn sgil hynny, rydw i wedi caru pob un ferch a gusenais erioed. Wrth gusanu, gwesgir popeth yn y bydysawd i mewn i'r gofod crynedig hwnnw rhwng dau gorff. Does dim byd y tu hwnt i'r person arall. Ac yn yr ennyd honn -- ennyd y gusan -- mae popeth yn glir ac mae cariad yn hawdd ei deimlo.

Ond pa mor hir fydd y teimlad yn parhau, pa mor gryd fydd ef? Pan ddaw'r cusanu i ben a'r bydysawd yn ddychwelyd i'w gyflwr anfeidraidd, gall hanner-oes cariad fod yn weddol fyr.

Dim ond 0.000055% o'r atmosffer sy'n hydrogen. Mae yno bob tro, ym mhob cornel fach, ond rhywsut mae'n haws amgyffred ei bresenoldeb rhwng dau berson yn hytrach nag yn yr awyr agored eang. Heb rywbeth mwy i'w gynnal, bydd cariad yn edwino, ond ddim yn diflannu'n gyfan gwbl. Bydd yno, rywle, weddill eich oes. Bydd yno am byth.

Pan oeddwn yn laslanc yn yr ysgol bu rhaid i mi ddysgu'r Thomistic Proofs, sef y pum ffordd i brofi bodolaeth Duw yn ôl Thomas Aquinas. Ces i fy swyno ganddyn nhw, gan y syniad a'r athroniaeth y tu ôl iddyn nhw. Roedd Thomas Aquinas yn dyheu am gael prawf o'i gredoau. Tybed faint o bobl grefyddol erbyn hyn sy'n fodlon cwestiynu eu credoau eu hunain fel hynny?

Ar gyfer fy mhrofion fy hun -- profion bod Duw yn bodoli, neu, o leiaf, nad yw'n bosibl dweud yn bendant nad oes y fath beth â Duw -- trof at natur. Wrth edrych ar y byd o'n cwmpas, gellir canfod creadur sydd â synhwyrau mwy craff na synhwyrau dyn ym mhob achos. Yr anifail all glywed yn well, efallai, neu un arall fedr weld yn well, neu symud yn gyflymach, ac yn y blaen. Ond, rywsut, dyn sydd ar ben y gadwyn fwyd. Pam? Ein meddyliau. Gallwn ni feddwl yn well; rydym yn fwt deallus nag unrhywbeth arall ar y blaned hon. Ond a olyga hynny ein bod yn fwy deallus nag unrhywbeth arall yn y bydysawd i gyd? Ei fod yn bosibl inni amgyffred popeth?

Dywed ffisegwyr cwantwm fod gan y bydysawd o leiaf 26 dimensiwn. Erbyn hyn, gallwn ddirnad pedwar ohonynt: amser, taldra, lled a dyfnder. Felly mae'n bosibl nad ydym yn deall mwy na chweched ran o'r bydysawd, ac mae'n bosibl hefyd nad ydym yn medru ei ddeall. Sut all anffyddiwr fynnu nad oes Duw pan mae cyn lleied o dystiolaeth ar gael?

Er, ar ôl tynnu sylw at wendid meddwl atheistiaidd, rhaid cyffesu bod popeth y tu hwnt i hynny'n ddyfalu a dychmygu, breuddwydio a gobeithio. Dyna ffydd.

Ond rydw i'n credu bod cariad yn rhan bwysig ohoni -- rhan bwysig o bopeth, rhywbeth elfennol y bydysawd sy'n cysylltu popeth. Ac yn debyg i hydrogen ar y Ddaear, mae gweld cariad yn ei gyflwr pur un brofiad prin iawn yn y fodolaeth fer hon.

Mae cariad yn rhywbeth go iawn. Nid dim ond awydd a chwant na beth bynnag a dardda o'r corff yw ef, ond rhywbeth cryf, hollbresennol, anwadadwy.

Ac os ydych chi'n arbennig o lwcus, ni fydd ei ffurf bur y eich canfod byth. Ces i fy nghanfod ganddo pan oeddwn yn 15 oed ac mae e wedi bod yn dawnsio o'm cwmpas ers hynny. Mae'n fy hoffi i. Mae'n hoffi fy arteithio i.

Wednesday, 18 August 2010

Anifail cymdeithasol yw dyn

~Cyhoeddwyd y golofn hon yn Barn, Ebrill 2010~

Bu fy ewythr farw yn 2003 o fethiant yr iau. Roedd yn 46 oed.

Chwarae teg i'r meddygon, gwnaethant eu gorau glas i arbed ei fywyd trwy roi iau newydd iddo. Wel, nid iau newydd sbon oedd y peth, yn amlwg. Gwaetha'r modd.

Darllenais unwaith ei bod yn bosibl -- mewn egwyddor o leiaf -- tyfu ieuau ac ysgyfaint a chalonnau a phob dim corfforol mewn moch i'w defnyddio gan ddyn. A gydag ychydig o addasu genetig i'r moch, gellid cae organau na fyddai'r corff yn eu gwrthod. Ni fyddai angen cyffuriau i sicrhau na fyddai hynny'n digwydd.

Ond does neb wedi buddsoddi yn y fath ymchwil oherwydd anghysur moesol ynghylch y syniad. Sy'n beth truenus yn fy marn i. Oni fyddai'n wych petai'n bosibl cael mochyn personol sy'n meithrin pob math o ddarnau newydd ar eich cyfer? Yna, ar ôl cael eich iau newydd, gallech ddathlu'r llawdriniaeth llwyddiannus trwy rostio'r mochyn a chael parti.

Ond doedd dim o'r fath beth ar gael i'm hewythr. Roedd yn rhaid iddo aros ac aros ac aros am drasiedi berffaith cyn cael ei iau newydd. Yn y diwedd, penderfynwyd na allai aros am organ a oedd yn gant y cant yn berffaith, a rhoddwyd iddo iau gyda hepatitis. Erbyn hynny roedd yn rhy wan; ni allai ddioddef y straen. Bu farw ychydig yn ddiweddarach -- yn sâl, yn ddigalon ac yn wallgof.

Dyna sgil-effaith y cyffuriau sy'n rhwystro'r corff rhag gwrthod yr organ: maent yn peri paranoia.

Ac oherwydd hynny, cyn bod person yn gallu mynd ar restr i gael organ newydd, rhaid iddo brofi bod ganddo gefnogaeth. Rhaid iddo gael rhywun sy'n fodlon mynd gyda fe trwy'r uffern emosiynol-seicolegol o aros am drawsblaniad a chael llawdriniaeth. Fel arfer bydd yr unigolyn hwnnw'n gariad neu'n rhiant i'r person, ond roedd mam fy ewythr wedi hen farw erbyn hynny, roedd ei dad yn alcoholig ac roedd ei wraig wedi ei ysgaru. Yn y diwedd cytunodd ei fab hynaf, fy nghefnder Garrett, i gamu i'r adwy. A bu rhaid i Garrett arwyddo cytundeb i selio'i ymrwymiad.

Pe na bai Garrett wedi arwyddo'r cytundeb, byddai'r meddygon wedi gwrthod trawsblaniad a byddai fy ewythr wedi marw yn 2000, yn 43 oed.

Mae creulondeb erchyll yn y fath drefn. Ond dyna natur. Mae natur, mae bywyd, mae'r bydysawd yn cosbi'r unig. OK, efallai nad yw hynny'n hollol wir. Onid oes nifer o anifeiliaid sy'n fodlon byw heb eu cymar? Yr arth wen, er enghraifft. Ond mae unigrwydd yn rhywbeth croes i'r profiad dynol. Anifail cymdeithasol yw dyn, meddai Aristotle. Nei Plato. Neu Zeppo Marx. Un o'r bois 'na -- dwi ddim yn cofio pa un.

Mae dynion angen ei gilydd. Gellir gweld hynny wrth edrych ar iaith. Yn sylfaenol, prin yw'r geiriau sydd eu hangen i berson oroesi. Hynny yw, mae cymaint mewn iaith sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n angenrheidiol. Mae gan sawl anifail eu dulliau o gyfathrebu pethau pwysig/sylfaenol fel: "Dere 'ma," "Cer o 'ma," "Mae rhywbeth yn nesáu," ac ati.

Ond mae gan ddyn ei iaith sy'n dweud cymaint mwy. Mae gan ddyn iaith sydd fel petai wedi'i chreu i gadw pobl eraill yn agos. Gallwn ni ddefnyddio iaith i ddenu pobl atom a dal ein gafael ynddyn nhw. Felly, gallwn ni ddweud, "Dere 'ma," ond gallwn ni ychwanegu at hynny'n ddi-ben-draw: "Dere 'ma. Eistedda i lawr. Dwi eisiau siarad â ti. Dwi eisiau dweud stori wrthot ti. Dwi eisiau clywed beth sydd gennyt ti i'w ddweud. Dwi eisiau i ti fod yma gyda fi."

Mae iaith yn dystiolaeth ein bod ni i gyd yn ysu am gwmni; mae'n beth cynhenid i'r profiad dynol.

Meddyliaf am y pethau hyn yn fy ngwely yn y nos, wrth aros i gwsg gyrraedd. A minnau ar fy mhen fy hun. Rydw i'n byw mewn swigen lle nad ydw i'n siarad â neb. Mae gennyf iaith. Mae gennyf ddwy iaith -- ac a dweud y gwir, ar hyn o bryd rydw i'n dysgu trydedd iaith -- ond dwi ddim yn eu defnyddio. Nid, o leiaf, yn ôl eu pwrpas bwriadedig, sef cadw cwmni.

Dwi ddim yn llwyddo fel anifail cymdeithasol. A phetai fy iau'n methu byddai'r meddygon yn dweud nad ydw i'n haeddu byw.

Tuesday, 17 August 2010

Cysur Siawns

~Cyhoeddwyd y golofn hon yn Barn, Mawrth 2010~

Yn ôl y theori, petai nifer diddiwedd o fwncïod yn tapio ar nifer diddiwedd o deipiaduron, ymhen hir a hwy bydden nhw'n teipio gweithiau William Shakespeare allan i gyd. Mae'n bosibl, hefyd -- na, mae'n hollol debygol -- y byddent yn creu colofn o safon sy'n ddiymwad yn well na hon. Ond mae gan Barn derfynau amser ac nid yw ei olygyddion yn fodlon aros am gynnyrch cnud o fwncïod. Ymddengys fod un mwnci Americanaidd yn ddigon.

Ta beth, rydw i wedi bod yn meddwl am y mwncïod hynny a'r theori y tu ôl i'w medr hap-lenyddol. Hynny yw, os yw'r bydysawd yn anfeidrol, mae posibilrwydd yntau'n anfeidrol. Felly mae'n bosibl y byddai fy nghar yn cael ei danio ar hap a, rhywsut, byddai'r gêr yn cysylltu ac yna, trwy fownsio hwnt ac yma, yn araf araf iawn byddai'n gyrru ei ben ei hun lan o Gaerdydd i Aberystwyth.

Mewn gwirionedd, os yw'r bydysawd yn anfeidrol, nid posibilrwydd yw hynny ond ffaith. Mae wedi digwydd. Mae'n digwydd ar hyn o bryd. Digwydd ryw nifer diddiwedd o droeon eto.

Beth yw tebygolrwydd ei ddigwydd ar y blaned hon, tybed -- yn fy nghornel fach ddiniwed i o'r bydysawd lle nad ydw i'n ymwybodol o'r fersiynau eraill ohonof sy'n bodoli, rhywle, yn y pellter? Wn i ddim. Ac, a bod yn onest, does dim ots. Yr hyn sy'n fy swyno yw'r syniad hwnnw o bosibilrwydd.

Posibilrwydd. Rydw i wrth fy modd gyda'r cysyniad. Os ewch i siop fetio gellwch roi eich arian ar unrhyw bosibilrwydd, bron: pwy fydd yn ennill Cwpan y Byd, a fydd hi'n bwrw eira ar Ddydd Nadolig, a gaiff Pete Doherty ei benodi'n Archesgob Caergaint, ac yn y blaen ac yn y blaen. Mae'n annhebygol iawn y byddwch yn clywed y geiriau "dim siawns" mewn siop fetio. Does neb a fydd yn dweud wrthoch: "Come on, mate, that's never gonna happen. Save your money."

Oherwydd ym myd posibilrwydd does dim o'r fath beth â "dim siawns." Mae siawns bob tro.

Rydw i'n dal yn dynn wrth y ffaith 'na y dyddiau hyn. Y mis diwethaf mynnodd fy ngwraig fynd yn gyn-wraig; ces i ysgariad ychydig wythnosau cyn fy mhen-blwydd 34.

Mae ysgariad fel y goleuo uwchfioled a ddefnyddir gan y bois 'na ar CSI i ganfod gwaed, ond yn hytrach na gwaed mae ysgariad yn amlygu pob ffaeledd yn eich bywyd. Yn sydyn, deuwch yn boenus o ymwybodol o bob un peth sydd o'i le amdanoch chi eich hunan. A, diawl, mae'n brifo. Tanseilir eich hyder, eich hunan-werth, eich awydd, eich gobaith, eich hiwmor, eich breuddwydion -- eich hunan.

Pan ddaw'r nos, gorweddaf yn fy ngwely oer a meddwl: "Dyma ni; rydw i wedi gweld cyrraedd ac ymadawiad uchafbwynt fy mywyd. O hyn ymlaen rydw i'n gwneud dim ond byw ac aros i beidio â byw."

Iawn, efallai 'mod i'n eithaf melodramatig yn y nos. Y pwynt yw fod pethau'n teimlo'n anadferadwy; teimlaf nad oes gennyf siawns i fod yn hapus byth eto.

Ond does dim o'r fath beth â dim siawns. Mae siawns. Mae siawns bob tro. Ac mae gobaith. A bob tro mae gobaith y caf i siawns arall. Ac os mai anfeidrol yw'r bydysawd, mae natur o bosibilrwydd anfeidrol yn dweud bod hynny'n digwydd eisoes. Rhywle, ar y foment hon, ar blaned arall, mae mwnci'n ysgrifennu'r golofn 'ma, ac rydw i'n cael rhyw gyda'r actores Reese Witherspoon.

Rhywle, felly, rydw i'n hapus. Gobeithio bod yna siawns y byddaf innau'n hapus yma hefyd.

Monday, 16 August 2010

Ysbryd y Nos

~Cyhoeddwyd y golofn hon yn Barn, Chwefror 2010~

Mae putain ar Keyston Road.

Ni wn hynny o brofiad, wrth gwrs, ond mae digon o dystiolaeth o'r fath beth. Af am fro bob nos trwy'r gymdogaeth ac yn aml iawn gwelaf ryw ddyn newydd yn cerdded o'i drws hi, sbonc yn ei gam, yn wên i gyd. Hi'n gwisgo gŵn nos, yn pwyso ar ffrâm ei drws ac yn tynnu ar sigaret.

"Ta-ra, love. See you soon."
"Alright, darlin'. Take care."

Meddyliaf amdanynt wrth gerdded ymlaen. Ymddengys fod y ddau'n hapus -- neu'n fodlon, o leiaf -- gyda'u gweithrediad masnachol. A ydyn nhw? Ble aiff e ar ôl ymweld â hi? Faint o gwsmeriaid wêl hi yn ystod noson? Sut mae bywyd beunyddiol iddi? Fel beth fyddai'r profiad 'na o fod gyda hi?

Pan ddaw'r unigrwydd llethol i wasgu lawr arnaf yn y nos, meddyliaf am ferched fel hi: mae'n anodd dadlau na fyddai bod gyda rhywun, unrhywun, yn well na dioddef trwy'r nos. Faint fyddwn i'n fodlon ei dalu i gael merch i ddweud celwyddau wrthyf? Faint mae'n costio i gael merch i ddweud: "Dwi eisiau ti, Chris. Dwi eisiau dy gwmni di"?

Ond dyna'r peth. Dyn od ydw i. Rydw i eisiau caredigrwydd lawn cymaint â rhyw. Rhaid imi fod yn ffrindiau â merch cyn imi deimlo'n rhamantus tuag ati. Ond, am wn i, nid oes gennyf ffrindiau fel 'na. Gwaetha'r modd. Ond petai gennyf y fath ffrind, pa fath o bris fyddai'n cael ei ofyn?

Fy ffrind Siân, er enghraifft. Mae ganddi gorff siapus, llygaid brown-ddwfn, a chwarddiad swynol. Afraid dweud nad yw hi'r fath ferch i werthu ei chorff, ond, er mwyn dim ond y drafodaeth, faint tybed? Faint fyddai hi'n disgwyl cael ei thalu am noson o 'farchogaeth' gyda fi?

Dylwn ofyn iddi. Efallai y byddai rhyw fath o ddisgownt cyfeillgarwch ar gael.

Ymhellach i lawr yr heol, eistedda dyn yn ei Peugeot 406 browngoch. Daw car arall; neidia dyn nerfus allan ohono a cherdded i'r Peugeot.

"Alright, mate?"
"Alright."

Plyga'r dyn nerfus wrth ffenestr y Peugeot, estynna sypyn o arian trwy'r ffenestr a chaiff becyn bach yn ôl.

"Cheers, mate. See you later."
"Ta."

Bob tro y gwelaf hyn, rydw i eisiau cerdded draw a rhoi gwybod iddyn nhw eu bod newydd wyneud y drug deal mwyaf amlwg erioed. Maen nhwn' ymddwyn fel petaent mewn drama teledu, er mwyn dyn. Rydw i'n hanner disgwyl iddyn nhw gael ffugenwau street fel Weezo a Stacks. Ond ni ddwedaf ddim. Mae'n debygol nad yw Stacks yn ddyn llawn hiwmor. Cerddaf ymlaen heb air.

Ymhellach fyth ac ymddengys ddyn o dywyllwch y parc cudd sydd mor fach fel nad oes ganddo enw. Y parc, hynny yw. Tybiwn fod gan y dyn enw, ond mae'n brasgamu'n rhy bendant i beri awydd mewn person i ofyn. A gyda fe mae ci sy'n edrych arnaf yn ddrwgdybus.

"You're alright, butt," meddai; a gofynnaf yn fy mhen ai fi neu'r ci sy'n cael ei gyfarch.

Heibio'r eglwys Gatholig wag, gyda'i ffens haearn sy'n gwneud i'r lle edrych fel canolfan gadw. Heibio'r dyn tacsi sy'n cerdded i mewn i dŷ tywyll-ddigalon gyda bag take-away. Heibio'r tŷ lle yr eistedda bachgen wedi'i lapio mewn duvet Man United ar soffa, a chael ei fedyddio yng ngolau glas y teledu. Heibio perchennog Fairwater Tandoori, sy'n sefyll y tu allan i'w siop gyda'i freichiau ymhlyg, yn aros i'r meddwon gyrraedd. A minnau'n cerdded a cherdded a cherdded. Aiff Pwllmelin Road yn Fairwater Road, ac aiff honno'n Heol y Pavin.

Eisteddaf yn llonydd ar fainc goncrid wrth ochr ddeheuol Eglwys Gadeiriol Llandaf ac edrych lan ar yr wybren. Dim ond fi fydd yno. Eisteddaf nes clywed canu'r clychau yn nodi'r chwarter awr. Yna, anadlaf y tywyllwch yn ddwfn a throi yn ôl tua'r tŷ.

Pawb yn y nos, yn byw eu bywydau. Ac mae'r eglwysi ar gau.