Monday, 27 September 2010

Blogwr o fri

Rydw i newydd weld bod y blog di-nod hwn ar restr fer y Wales Blog Awards mewn categori "Best Welsh-Language Blog"-- yn ogystal ag Adenydd Celtaidd a Blog Menai. Dau Americanwr a blog gwleidyddol. Hmm. Wn i ddim a fydd y fath restr yn tawelu cwynion gan y rhai sy'n teimlo bod y gwobrau hyn yn trin yr iaith fel novelty.

Ta beth, diolch.

Sunday, 26 September 2010

Delfrydol

Soniais am hyn eisoes ar fy mlog Saesneg: roeddwn yn rhy gyflym, efallai, wrth ddatgan yn fy ngholofn bARN mis Medi bod cariad newydd yn fy mywyd. Dim bellach. Newidiodd "y dlws Hirwaun" ei meddwl amdanaf a gadael rhai dyddiau cyn cyhoeddwyd y golofn. Methais ddilyn cyngor Norman Mailer ynglŷn ag ysgrifennu am gariadon, ac rydw i'n ddyn sengl unwaith eto.

Byddaf yn onest a chyffesu ei fod yn brifo. Nid cymaint â chael fy ngadael gan fy ngwraig y llynedd, yn amlwg -- doedd Lisa a fi ddim gyda'n gilydd mor hir â hynny. Ond mae poen. Dwi ddim eisiau bod ar fy mhen fy hun. Dwi ddim eisiau dioddef gaeaf arall mewn gwely oer a gwag. Ac yn ogystal â phoen ac unigrwydd, mae'r ffaith fy mod wedi cael fy ngadael eto yn codi ofn ynof fod rhywbeth o'i le amdanaf i.

Dyw'r cyn-gariad ddiweddar ddim wedi cynnig rheswm pendant am fy ngadael. Roedd hi jyst eisiau mynd.

"I'm sorry," meddai hi. "But I just don't think we're right for each other."

Ac yn sgil diffyg rheswm clir, alla' i ddim osgoi'r teimlad taw fi yw'r broblem. Cyn i Lisa, ces i fy ngadael gan Rachel. A blynyddoedd cyn iddi hi, ces i fy ngadael gan yr ast anfad o gyn-gariad sy'n dwyn eneidiau (a). A dweud y gwir, gyda rhai eithriadau bach, fi yw'r un a gafodd ei adael yn y rhan fwyaf o'm perthnasoedd rhamantus.

Efallai fy mod yn ddiffygiol yn fy mhen neu fy mhersonoliaeth (er mae popeth yn A-OK gyda'r corff, merched). Wn i ddim. Pan gofynnais iddi, dwedodd Lisa fy mod yn "awesome in a bejillion ways" -- nad yw'r math o ganmol y byddid yn ei ddisgwyl gan rywun sy'n mynnu peidio â bod yn gariad bellach. Os ydw i wir mor hyfryd, pam bod hi wedi fy ngadael?

Mae hanner ateb, efallai, mewn e-bost a anfonodd hi ata' i rhai wythnosau yn ôl: "I think you will meet the right person for you very soon. Hopefully they will speak Welsh, run faster and drink less wine than me."

Dyna frawddeg sy'n amlygu nifer o'i hansicrwyddion (b) am fod mewn perthynas gyda fi. Rydw i'n ddyn iach, sy'n rhedeg a nofio a chodi pwysau a cherdded ac ati. Oherwydd diffyg awydd am ben tost yn y bore dwi ddim yn yfed llawer ac o ganlyniad i hynny, mae gennyf fwy o egni ar gyfer y pethau corfforol. Efallai bod y ffaith fy mod yn sboncio o gwmpas trwy'r amser yn blino person, a dyna pam y ces i fy ngadael. Ond ddwedais i ddim byd o'r math erioed. Mae'n iawn 'da fi os wyt ti eisiau mwynhau dy ddiod. Ac nid personal trainer ydw i; os wyt ti'n iach, yn teimlo'n iach ac yn hapus gyda'th dy hunan, iawn.

Efallai nad oedd hi'n fodlon gyda hi ei hunan ac roedd fy mhresenoldeb yn tynnu sylw at hynny yn ei meddwl. Ac efallai fy mod yn dweud y fath beth oherwydd eisiau osgoi ansicrwyddion fi fy hunan.

Ond y peth a'm darodd fwyaf oedd y sôn am Gymraeg. Dwedodd Rachel rywbeth tebyg wrthyf pan mynnodd gael ysgariad. Dwedodd fod hi'n gobeithio y byddwn i'n canfod rhywun sy'n siarad Cymraeg. Roedd y ddwy'n teimlo bod yr iaith yn hollbwysig yn fy mywyd, er dwi ddim yn teimlo hynny. A dweud y gwir, weithiau byddwn i wrth fy modd yn cerdded i ffwrdd o Gymru, ei diwylliant a'i hiaith, a pheidio ag edrych yn ôl byth.

Ond ymddengys fod nhw'n meddwl bod yr iaith yn fwy pwysig i fi nag ydw i'n sylweddoli. Yn ôl eu rhesymeg, felly, dylwn i fod yn cyfyngu fi fy hunan i mewn i'r byd Cymraeg bach llosgachol wrth chwilio am ferch newydd i'w charu. Mae'n syniad nad ydw i'n hoff ohono. Mae rhywbeth o'i le am gydbwyso popeth ar un wynebedd penodol.

Er, rydym ni yn sôn am iaith, on'd 'dyn ni? Sy'n beth pwysig. Rhaid cyfathrebu. Wedi'r cyfan, a fyddwn i'n mynd mas â merch nad yw'n medru Saesneg?

Wel, ie, petai hi'n caliente, byddwn. Os mae hi'n gwybod sut i ddweud "yes" bydd popeth yn iawn...

Ta beth, mae hyn i gyd wedi peri imi feddwl am ba fath o ferch y hoffwn ei chwrdd petawn i'n gallu dewis. Pa fath o ferch byddai fy merch ddelfrydol?

Wel, iawn, for argument's sake byddai hi'n siarad Cymraeg. Efallai y byddai'n siarad Sbaeneg, hefyd. Gan fy mod innau mor hoff o'r iaith 'na. Petai hi'n siarad y ddwy iaith hynny, does dim angen am y Saesneg. Er byddai'n neis.

Byddai hi'n llai na fi yn nhermau corfforol -- yn fyrrach ac yn pwyso llai. Fe'm hymgodymir gan fath o euogrwydd wrth ddweud hynny; mae'n swnio'n rhy arwynebol. Ac rydw i'n credu'n gryf bod person yn gymaint mwy na'i olwg. Ond, wel, mae'n bwysig i person fod yn iach. Dwi ddim yn mynnu cael athletwr, ond rydw i'n cadw'n iach ac, mewn ffordd, byddwn i'n gwneud hynny ar ei chyfer. Felly, byddwn i'n disgwyl iddi hi wneud yr un peth ar fy nghyfer i. Mae parchu eich hunan yn rhan o barchu person arall.

Hefyd, rydw i'n berson bywiog. Rydw i'n hoffi rhedeg a mynd am droeon hir a cherdded y mynyddoedd a sgïo a nofio a beicio a dawnsio, ac yn y blaen ac yn y blaen ac yn y blaen. Dyma'r math o bethau fy mod yn mwynhau eu gwneud. Mae'n aml iawn pan dewisaf wneud pethau corfforol pryd mae amser sbâr 'da fi. Petawn i gyda merch ordew, byddai'n anodd meddwl am bethau i'w gwneud gyda'n gilydd. Heb sôn am ryw. Rhaid cael ffitrwydd i gnocio bŵts, afraid dweud. Ac rydw i'n hoff o shago, fel mae merch y Cymoedd yn hoff o basteiod.

Ar y llaw arall, mae taldra yn fwy o ego thing nag unrhywbeth arall. Ces i fy magu yn Texas, ac mae rhywbeth dwfn y tu mewn i fi sy'n mynnu bod yn or-wrywaidd a theimlo'n anghyfforddus gyda'r syniad o fod yn fyrrach na'm gariad. Mae'n ddiffyg o'm personoliaeth, efallai. Wn i ddim. Ond rydw i'n 6-troed-1, felly does dim llwyth o ferched sy'n dalach na fi. Ac rydw i'n siŵr y byddai fy meddwl yn newid petawn i'n cwrdd â merch sy'n ticio'r blychau eraill. So, come here, tall, sexy lady; I want to climb to the top of your love tree.

Er fy mod eisiau i'r ferch ddelfrydol hon fod yn llai na fi yn ei chorff, byddwn i'n disgwyl iddi fod yn gystal â fi -- neu'n well -- yn ei phen. Mae deallusrwydd yn bwysig. Intelligent girls are sexy, yo. A dwi ddim yn gallu dioddef merch dwp. Sori. Ond, nac ydw, dwi ddim yn sori. Er bod golwg merch yn bwysig i fi, rydw i'n sylweddoli na fydd hynny'n parhau am byth. Yn ddelfrydol, byddwn i gyda'r ferch hon am weddill fy oes. A dwi ddim eisiau bod yn hen gyda dynes a oedd yn brydferth ond nad yw'n werth siarad â hi.

Rydw i eisiau cwrdd â merch sy'n hoffi darllen, gweld ffilmiau annibynnol, mynd i weld dramâu ac ymweld ag orielau celf ac amgueddfeydd. Merch sydd â chwaeth cerddoriaeth dda. Ond hefyd merch sy'n fodlon eistedd i lawr a mwynhau'r twpdra godidog o bethau fel "Strictly Come Dancing" neu "NCIS." Merch nad yw'n ofni camu y tu allan i'w comfort zone a gwneud pethau newydd -- hyd yn oed pan mae'r pethau newydd yn wirion. Merch a wisga gorsed. Merch a fyddai'n ymweld â'r Tate Modern yn y dydd a mynd i wylio gêm rygbi yn y nos. Merch sy'n hapus treulio'r oriau'n siarad mewn caffi neu nofio mewn afon.

Hefyd, byddai'n ferch ddigon annibynnol. Nid mor annibynnol nad oes diddordeb ynof, yn amlwg, ond digon hyderus yn ei hunan i wneud pethau ar ei chyfer ar ei phen ei hun. Dwi ddim eisiau bod yn dad i'm cariad. Yn yr un modd, dwi ddim angen mam newydd; mae'r un sydd 'da fi'n conan digon, diolch.

Byddai'r ferch hon yn brydferth, wrth gwrs. Er, peth goddrychol yw prydferthwch, onid yw? Felly mae'n anodd dweud pa fath o olwg yr ydw i'n chwilio amdano. Yn ystod y blynyddoedd rydw i wedi mynd mas gyda phob math o ferch -- pob lliw gwallt a chroen. Mae tuedd 'da fi ffafrio gwallt tywyll. Byddwn i wrth fy modd gyda Katya Virshilas yn fy mreichiau, er enghraifft. Ond fyddwn i ddim yn cwyno petawn i'n deffro gyda Natalie Lowe wrth fy ochr.

Ie, dwi newydd ddefnyddio dau ddawnsiwr "Strictly Come Dancing" fel enghreifftiau. Efallai y dylwn i bwysleisio bod hoffter tuag at y rhaglen 'na yn weddol bwysig. Ac yn sgil hynny, byddai rhaid i'm merch ddelfrydol cael hiwmor da. Rhywun sy'n arabus ac sy'n chwerthin. Estyniad o ddeallusrwydd yw hiwmor, rydw i'n meddwl, felly efallai fy mod yn ailddweud pethau.

Cymraes. Deniadol. Deallus. Bywiog. Chwareus. A fydd yn fy ngharu. Tybed a oes y fath ferch? Hyd yn hyn dwi heb gwrdd â hi.

-----

(a) Gyda llaw, cewch hanes (mwy neu lai) yr ast anfad o gyn-gariad sy'n dwyn eneidiau yn fy nofel Saesneg, The Way Forward. Allison yw hi.

(b) Rydw i'n creu gair yma. Y gair Saesneg byddai "insecurities." Awgryma Geiriadur yr Academi ddefnyddio "ansicrwydd" ond does dim fersiwn lluosog. Felly, rydw i wedi dewis "ansicrwyddion" yn hytrach nag "ansicrwyddau" gan fod e'n swnio'n well i'm clust.

Friday, 17 September 2010

Ai beth da yw'r Wales Blog Awards?

Rhaid dweud ei fod yn anrhydedd i weld y blog bach hwn ar restr hir y Wales Blog Awards. Mae'n wych i fod ymhlith cynifer o flogwyr o fri, a hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn o waelod fy nghalon i'r person caredig a enwebodd Pugnacious Little Trolls am y wobr -- sef, fi.

OK, iawn. Fi oedd y person i enwebu'r blog 'ma. Ac nid fi yw'r unig un i wneud y fath beth. Hunan-enwebodd Peggi, hefyd. Americans, huh? We have no shame.

A dweud y gwir, mae'n od bod y WBA'n bodoli erbyn hyn, a mwy od byth nad oeddent yn bodoli o'r blaen.

Rhai blynyddoedd yn ôl, aeth Simon Dyda ati i hybu blogiau yng Nghymru gyda'i fersiwn ei hunan o'r gwobrau, felly dyw'r syniad y tu ôl i'r WBA ddim yn hollol newydd. Ond amatur oedd menter Simon. Nid beirniadaeth yw hynny, ond ffaith. Doedd dim arian ganddo i gynnig gwobrau materol mewn seremoni gain. Rhoddodd gryn dipyn o waith i mewn i'r ymdrech ond yn y diwedd, roedd ei reach yn gyfyngedig; roedd yn anodd iddo estyn y tu allan i'r byd bach blogiau Cymru i ddarpar ddarllenwyr eraill.

Felly, hyd y gwn i, dyma'r tro cyntaf i flogiau Cymru gael eu canmol mewn modd a bendithir gan y sefydliad. Hynny yw, bu gwobrau blogiau o'r blaen, siŵr, ond doedd neb yn talu sylw. A gan ddweud "neb," wrth gwrs, dwi'n golygu "y cyfryngau yng Nghymru."

Ond fel y dwedais, mae'n od bod ni'n gwneud hyn nawr, gan fod gweddill y byd yn meddwl am flogio fel rhywbeth hen-ffasiwn. Ond nid oedd gennym Guardian Cardiff cyn nawr. Ymddengys i fi fod Hannah Waldram, y person y tu ôl i Guardian Cardiff, yn un o'r prif hyrwyddwyr y WBA. Hebddi hi a'i chyflogwr, doedd blogio yng Nghymru ddim yn cael ei sylw o ddifrif. Onid yw'n drist bod angen cangen pupur Llundain i dynnu sylw ar bethau sy'n digwydd yng Nghymru? Tybed ble mae'r Western Mail wedi bod yn ystod y blynyddoedd?

Onid yw'n drist bod Hannah -- un person -- yn llwyddo ymdrin â'r hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd (a Bro Morgannwg) yn well na South Wales Echo (a), nag unrhyw bapur (neu wefan) "genedlaethol" Cymru? Diolch byth amdani hi, meddwn i.

Ac yn sgil cael Hannah yma yn yr Hen Ddinas, mae gennym wobrau blogiau Cymru bellach.

Ond dyw pawb ddim yn hapus. Yn gyntaf, mae cwestiwn ynglŷn â faint o Gymru a gynrychiolir gan y gwobrau hyn. Mae rhai'n cyhuddo'r gwobrau o ganolbwyntio gormod ar brifddinas Cymru yn hytrach na'r wlad i gyd. Efallai bod y rheswm dros hynny yw bod Hannah'n byw yng Nghaerdydd. A swydd hi yw canolbwyntio ar Gaerdydd. Ac, o'r hyn 'mod i wedi'i weld, mae Guardian Cardiff yn hybu'r gwobrau'n well nag unrhywun arall. Felly, rydym ni yng Nghaerdydd yn fwy ymwybodol o'r WBA. Os mae'r gwobrau'n rhy Gaerdyddedig, efallai bod bai am hynny ar ysgwyddau MediaWales am fethu dweud wrth neb arall.

Efallai bod Caerdydd a'r cymoedd yn ddigon mawr y dylai fod gwobrau blogio ar eu cyfer yn unig. Wn i ddim.

Ond peth arall yw'r categori o Best Welsh-Language Blogger. Os ydych chi'n edrych ar y sylwadau o dan y rhestr hir byddwch yn gweld bod nifer o flogwyr Cymraeg wedi gofyn am beidio â chael eu hystyried ar gyfer y peth. Byddwch yn gweld hefyd, o'm sylw i, nad ydw i'n siŵr sut i deimlo am y peth.

Galla' i ddeall pam na fyddai person eisiau cael ei ystyried, efallai. Mae blogio trwy gyfrwng y Gymraeg yn union fel blogio mewn unrhyw iaith arall. Ac yn sgil hynny, mae elfen o tokenism i ddolennu ni blogwyr Cymraeg i gyd gyda'n gilydd. Efallai y gellwch gymharu blogiau fi a Rhys Llwyd (b), er enghraifft, gan fod y ddau ohonom yn ysgrifennu am yr hyn sydd o ddiddordeb i ni. Rydym yn ysgrifennu am bethau eraill, ond mae sut yr ydym yn defnyddio ein blogiau yn debyg. Ond sut i'n cymharu â fideobobdydd? Neu'r hen Metastwnsh? A yw'n ddeg? A fyddai'n deg i gymharu fy mlog Saesneg â'r Huffington Post? Mae'r ddau'n flogiau, ac ysgrifennir y ddau yn Saesneg...

Wedi dweud hynny, mae rhan ohonof sydd o blaid cael gwobr arbennig i flogiau Cymraeg eu hiaith, oherwydd bydd yn tynnu sylw arbennig at ein hymdrechion ni yma yn y byd bach bach o flogwyr Cymraeg (c). Ac yn y bôn, rydw i'n credu taw diffyg sylw yw'r prif reswm nad oes mwy ohonom. It's nice to be noticed, yo.
-----

(a) Ers sefydlwyd Guardian Cardiff, neidiodd MediaWales ar y bandwagon gyda yourcardiff, nad yw'n hanner cystal ag ymdrechion Hannah a Guardian Cardiff.

(b) Nad yw ar y rhestr hir am ryw reswm. Pam? Efallai nad enwebodd ei hunan. Silly Rhys: humility will get you nowhere.

(c) Gyda llaw: pam bod cynifer o flogwyr Cymraeg eu hiaith yn mynnu defnyddio'r lliw du fel cefndir ar eu blogiau? Mae hynny'n golygu llythrennau gwyn, sy'n brifo fy llygaid a pheri pen tost. Fydda' i ddim yn eu darllen.

Thursday, 16 September 2010

Brifo Bob Dydd

~Cyhoeddwyd yn bARN, mis Medi 2010.
Yn anffodus, nid yw'r golofn yn wir bellach; rydw i ar fy mhen fy hun eto~


Fe fydd y mis hwn yn nodi blwyddyn ers pan adawodd fy ngwraig. Mae’n syndod nad ydw i wedi llwyddo i oresgyn y boen eto. Gallaf gofio’r dydd yr aeth hi: 24 Medi 2009. Roedd wedi bwrw glaw yn ystod y bore hwnnw ac roedd tinc bach bach o oerni yn y gwynt. Roedd y tywydd wedi gwella ychydig erbyn y prynhawn, ac wrth eistedd gyda’n gilydd ar fainc ar Blatfform 1, Caerdydd Canolog, roedd pelydryn o heulwen euraid i’w weld hwnt ac yma ar y gorwel. Eisteddem yn dawel. Dw i ddim yn cofio’r hyn a ddwedwyd gennym. Pethau bychain, dibwys, dibwynt – crwydro er mwyn llenwi’r awyr â s?n ac anwybyddu’r cwestiynau a’r lletchwithdod. Roedd Rachel wedi dod adref un dydd ym mis Awst a dweud nad oedd hi’n hapus bellach yng Nghymru.

Dwedodd ei bod wedi bwcio awyren yn ôl i’r Unol Daleithiau ar ei chyfer ei hun. Doedd dim sôn amdanaf i. Dim sôn amdanom ni. Nawr, wrth eistedd ar fainc ar Blatfform 1, roedd y cwestiynau’n rhuo trwy fy mhen. Ond ddwedais i ddim gair. Rhedasom allan o bethau i’w dweud. Roeddem yn eistedd yn ddistaw, ei llaw hi yn fy llaw i, pan ddaeth y trên. Helpais i hi gyda’i bag. Sefais nesaf at ei ffenestr y tu allan i’r trên yn edrych arni’n drist. Yna, sefais yno’n stond wrth weld y trên yn mynd. Es i adref ac wylo am wythnos.

Fyddwn i ddim yn ei gweld hi byth eto. Rai misoedd yn hwyrach, gofynnodd am ysgariad. Aeth hynny’n swyddogol ar 16 Mawrth 2010 – pedwar diwrnod cyn fy mhen-blwydd.

"Chris, don’t you miss her?" gofynnodd fy mam-gu wythnosau yn ôl. "Oh, sure," meddwn i. "Every day."

Gallaf deimlo’r boen o hyd. Weithiau, edrychaf ar luniau o Rachel a theimlo fel petai lori’n gwasgu lawr ar fy mrest. Daw’r hen ddagrau. A’r cwestiynau.

Ond daw cwestiynau newydd erbyn hyn. Sut y gall y fath boen barhau mor hir? Mae blwyddyn wedi mynd heibio. Oni ddylwn i fod yn gwella bellach? Ond a dweud y gwir, rydw i yn gwella erbyn hyn. Mewn ffordd.

Yn aml, defnyddir geiriau fel "rhwygo" a "thorri" a "gwahanu" i ddisgrifio ysgariad. Mae’n broses o un peth yn mynd yn ddau. Dydw i'n ddim ond hanner o rywbeth a fu, sef ein priodas. Ond, ynof fi fy hunan, hefyd, mae dwy ran.

Mae un rhan eisiau marw. Ers colli fy ngwraig, mae fel petai rhan ohonof ar gau. A ydych wedi clywed erioed am Faes Awyr Mojave, California, lle caiff cannoedd ar gannoedd o hen awyrennau eu storio? Does neb eisiau’r awyrennau hyn; mae’n debygol na fydd eu hangen byth. Teimla rhan o’m henaid fel un o’r awyrennau diangen hynny – yn gorwedd yn dawel, heb bwrpas, yn dadfeilio’n araf.

Gyda’r nos, gallaf deimlo gwacter a phoen yr awyren. Rydw i eisiau ffonio fy nghyn-wraig a dweud wrthi: "Dwi’n gweld dy eisiau ac eisiau dy weld. Dere ’nôl ata’ i. Plîs."

Ond mae rhan arall ohonof yn symud ymlaen. Mae gennyf gariad newydd y dyddiau hyn. Merch dlos hyfryd gyda llygaid glas, sy’n edrych arnaf yn llawn caredigrwydd a chwant. Rydw i wrth fy modd yn cerdded law yn law gyda hi trwy’r parc ar ddydd heulog o haf, oedi o dan goeden a’i thynnu hi’n agos.

Teimlaf yn hapus. Teimlaf yn fyw. Gyda hi, edrychaf ymlaen at y dyfodol. Eisoes mae sôn am Nadolig a phob dim, gyda’r ddau ohonom yn defnyddio’r rhagenw arwyddocaol hwnnw: ‘ni’. Nid fi a hi, na hi a fi – ni. Ond o dan yr wyneb mae cwestiynau a phryderon. Dim ond rhan ohonof sydd ganddi. Alla’ i ddim ei charu hi â’m holl galon ac enaid. Nid oes gennyf y gallu. Dyw’r math hynny o beth ddim yn teimlo’n bosibl. Teimlaf yn anghyflawn. O hyd mae’r teimlad fy mod yn ddim ond hanner o rywbeth a fu.

Ond mae’n rhywbeth na fydd, chwaith. Ac yn sgil hynny rydw i’n dyheu am wella, rydw i ar dân i fod yn ddyn llawn eto. Am faint fydd y boen yn parhau? Pa mor hir fydd hi cyn y gallaf ddweud wrth rywun, ‘Dwi’n dy garu di’ unwaith eto?

Friday, 10 September 2010

A fyddai toriadau'n beth da?

Pobl geidwadol yn eu bôn yw'r Cymry Cymraeg. "Ceidwadol" gyda "c" bach bach -- nid ceidwadol yn eu gwleidyddiaeth, ar y cyfan, ond yn eu naws, eu dull o feddwl. Ac wrth gwrs, rydw i'n dod o wlad sy'n fwy ceidwadol na fyddai'r gweddill y byd yn ffafrio. I'r gofid cynifer o wleidydd, mae'r Unol Daleithiau'n centre-right yn ei gwleidyddiaeth a'i meddwl.

Efallai 'mod innau'n geidwadol hefyd -- gyda "c" bach bach -- ond dwi ddim yn hoff o gydnabod y fath beth.

Ta waeth, rhywbeth 'mod i wedi arsylwi am bobl geidwadol yw'r tuedd angen argyfwng i annog gweithredu. Fel arfer, maent yn fodlon gadael pethau aros fel maen nhw, yn hytrach na buddsoddi'r egni i mewn i'w gynnal yn ddigonol a'u gwella. Esgeulusir pethau tan yr ânt yn amhosibl i'w hanwybyddu. Er enghraifft, yn yr Unol Daleithiau a Chymru mae rhwydweithiau trenau nad oedd wedi cael eu diweddaru ers oes ein taid.

A bellach yng Nghymru mae gennym argyfwng S4C. Gwyddom fod swyddogion y sianel Gymraeg wedi bod yn cyfarfod gydag Ysgrifennydd Diwylliant Jerry Hunt ond dydyn nhw ddim yn fodlon dweud beth yn union yr oeddent yn ei drafod. Yn ôl sôn ar Twitter, mae gan y sianel mis i gyfiawnhau ei hunan cyn dioddef toriadau o hyd at 24 y cant yn ei chyllid o fewn pedair blynedd. Pwy a ŵyr a yw hynny'n wir, ond roedd y bygythiad yn ddigon i beri Cymdeithas yn ddiweddar i fynd ati i brotestio. Wrth gwrs, mae unrhywbeth, bron, yn ddigon i beri Cymdeithas protestio -- yr awel, dydd Llun...

Ond mae dyfodol S4C yn poeni pobl eraill hefyd. Mae pryder y gallai Cymru golli ei hunig sianel Gymraeg, a fyddai'n beth arswydus dros ben. Ac yn sgil hynny, mae ymdrechion i hel cefnogaeth trosti. Erbyn hyn mae miloedd o bobl wedi arwyddo deiseb sy'n mynnu cadw'r arian llywodraethol yn llifo i'r sianel. Anogir pobl llofnodi hyd yn oed os nad ydynt yn hapus gyda safon y rhaglenni sy'n cael eu darlledu. Ymddengys taw "mae'n well cael shit na dim byd o gwbl" yw'r athroniaeth. Neu, yng ngeiriau Garmon Ceiro ar ei Twitter: "Seinio deiseb n erbyn toriade S4C fel mynd i weld hen nain mewn cartre hen bobol. Gei di ffac ol mas ohono fe ond ma raid ti neud."

Am wn i, nid yw llofnod gan foreigner fel fi'n ddilys ar ddeiseb. Hynny yw, fel person heb hawl pleidleisio yn yr wlad hon, nid oes gennyf hawl rhoi fy enw i rywbeth a fynna fod yn llais pleidleiswyr. Felly galla' i sefyll yn ôl a dweud wrthyf fy hunan: "Not my fight."

Sydd ychydig yn wan, a dweud y gwir. Rydw i'n gwrthod bod yn bendant ar bwnc oherwydd manylyn technegol. Ond onid ydw i'n fodlon mynegi fy marn ar bynciau eraill yng Nghymru, yn ogystal â phynciau mewn lleoedd eraill lle nad ydw i'n ddinesydd?

Ond y ffaith yw, petawn i'n Gymro, wn i ddim a fyddwn i'n arwyddo'r ddeiseb 'na.

Yn gyntaf, onid yw hyn yn gam tuag yr hynny bod cenedlaetholwyr ei eisiau? Hynny yw, mae annibynwyr'n breuddwydio am gael gwared ar ddylanwad San Steffan yng Nghymru. Wel, mae hynny'n golygu cael gwared ar arian San Steffan hefyd. Dyma i chi gyfle i brofi i bawb nad oes angen llywodraeth Prydain. Go on, then. You say Wales can do better on its own. Here's your chance: do better.

Ond twyllymresymeg yw hynny. Rydw i'n credu taw o fudd i Gymru yw bod yn aelod y Deyrnas Unedig, ac mae'r cyfryngau Cymraeg yn un o'r rhesymau tros feddwl hynny. Iaith a diwylliant cynhenid i Brydain yw iaith a diwylliant Cymru, ac mae gan lywodraeth Prydain ddyletswydd foesol/hanesyddol i'w cefnogi.

Yn sgil hynny, petawn i'n Gymro, byddwn i'n ysu am arwyddo'r ddeiseb, ie? Wel, dwi ddim yn siŵr. Yn fy marn i, fel corff sy'n derbyn arian cyhoeddus mae gan S4C ddyletswydd i'r cyhoedd. Mae gan pob darlledwr ddyletswydd i'r cyhoedd, ond mae'n fwy cryf ar y rheiny sy'n dibynnu ar arian cyhoeddus. Ac yn fy marn i, mae S4C yn methu'n gyson yn ei dyletswydd. Yn amlwg, nid fi yn unig sy'n teimlo hynny: wrth annog pobl i arwyddo deiseb, cydnabyddir diffyg bodlonrwydd gyda'r hyn sy'n cael ei darlledu ar y sianel.

Yn ystadegol, mae mwyafrif o siaradwyr Cymraeg yn drefol. Rydym yn byw yng Nghaerdydd, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Aberystwyth, Caernarfon ac yn y blaen. Mae'n hollol wir fod siaradwyr Cymraeg yn y cefn gwlad, ac mae'n hollol wir taw yn y cefn gwlad yw gwreiddiau emosiynol yr iaith. Ond heddiw, yn y presennol, mae mwyafrif o siaradwyr yn drefol. Ond, beth sydd i'w weld ar S4C? Rhaglen ar ôl rhaglen ar ôl rhaglen am gymeriadau cefn gwlad. Ie, roedd yna gyfres o'r enw "Caerdydd" na chynrychiolodd y ddinas na'i phobl na dull o fyw trefol mewn gwirionedd. Ond ar wahân i'r methiant hynny, beth sy'n cynrychioli bywydau'r mwyafrif?

Ac mae'r rhaglenni hyn i gyd, bron, yn reality television beth sydd i danio'r dychymyg?

Dyma ddim ond dwy enghraifft. Gallaf feddwl am sawl arall. Yn ddiau, gellwch chithau feddwl am enghreifftiau hefyd. Ar y cyfan, mae'r hyn sy'n cael ei ddarlledu ar S4C yn shit. Does dim gwadu hynny.

Dyw rhaglenni shit ddim yn exclusive domain S4C, wrth gwrs. Gellir gweld rhaglenni annioddefol o wael ar Channel 4. Ymddengys fod llawer o bobl yn hoff iawn o raglenni shit. Ac os mae S4C eisiau dilyn y fath gyfeiriad, chwarae teg iddyn nhw. Ond, fel Channel 4, ddylen nhw ddim yn derbyn arian cyhoeddus.

Erbyn hyn rydw i'n credu bod S4C angen argyfwng. Mae hi angen rhywbeth sy'n torri'r sianel i'w chraidd. Perhaps it is time to tear everthing down and start anew. Yn sgil hynny, efallai bod 24 y cant mewn toriadau'n union beth mae'n ei hangen.

Fel person yr oedd yn arfer gweithio yn y byd teledu yn yr Unol Daleithiau, rydw i'n gwybod y gall sianel barhau ar gyllid sy'n syndod o fach. Cam cyntaf byddai troi at fwy o fusnesau Cymru am arian hysbysebu. Mae yn bosibl -- dim ond awydd, egni ac ymdrech sy'n cael eu hangen. Ond os nad yw pobl yn fodlon dilyn model Americanaidd, mae'n ddiau fod yna fodelau llwyddiannus eraill yng ngwledydd bach eraill.

Mae S4C yn methu am rhy hir. A fyddai pethau'n gwella heb rywbeth i orfodi newid? Efallai bod y toriadau hyn yn gyfle. Wn i ddim.

Friday, 3 September 2010

Yr atgyfodiad

"Here you go, Chris," meddai brawd-yng-nghyfraith Lisa yn ddiweddar, wrth estyn peint i mi. "Consolation pint, mate."

Roeddem ni i gyd yn sefyll yn nhafarn Glancynon -- "situated in the beautiful village of Hirwaun," yn ôl gwefan y tafarn. Os mae Hirwaun yn hardd, dwi ddim eisiau gweld yr hynny sy'n hyll. Ond mae'n lle. Mae rhaid i pawb ddod o rywle, a lle Lisa yw Hirwaun. Mae hi'n byw lawr yn yr hen ddinas erbyn hyn (Caerdydd: Dinas Breuddwydion), ond aiff lan yr A470 yn aml i ymweld â'i theulu. Roeddwn i wedi dod â hi'r tro 'ma, er mwyn dathlu pen-blwydd ei chwaer.

"Consolation for what?" meddwn i, yn codi'r peint i'm gwefusau.
"Fella's stolen your gimmick, mate," meddai fe. "Saw him on the news today, he was. This American fella taught himself Welsh and then put an audition tape on the internet to be on 'Pobl y Cwm.' He's gonna be on the programme."
"Oh, yeah," meddwn i. "Dan Rhys. Yeah, I'm not sure whether they said he's going to be on the show. They only said they would look at the tape."
"Doesn't matter, does it?" meddai fe. "No one watches, anyway. They could put whatever they want on there -- fishin', maybe. Doesn't matter. Just put some fat bloke talkin'. No one cares. No one watches. Point is, though, you're not special anymore, Chris. That other fella stole your gimmick."

Symudodd y sgwrs ymlaen at rywbeth arall, ond arhosodd y gair yn fy mhen: gimig.

Dyna, sylweddolais, yw'r rheswm dros ddileu'r blog 'ma yn ôl ym mis Mawrth. Doeddwn i ddim wedi canfod y geiriau -- y gair -- tros fy nheimladau cyn hynny.

Dileais fy mlog Cymraeg 14 Mawrth 2010, a theimlais i ddim edifeirwch tros y peth. Roeddwn yn teimlo pob math o bethau eraill: poen, dicter, brad, chwerwedd, ac yn y blaen. Ond doedd dim difaru. Roedd fy mlog wedi mynd i gynrychioli rhywbeth i mi nad oeddwn yn gallu ei adnabod yn iawn, ond rhywbeth yr oeddwn yn ei gasáu. Roeddwn yn hollol fodlon cael gwared ar y ffycin peth.

"I only wish it were a tangible thing, so I could set it alight and watch it burn," meddwn i wrth fy nhad rhai dyddiau ar ôl dileu.

Doedd fy nhad ddim yn hapus gyda'r syniad o ddileu'r blog. Dyw e ddim yn siarad Cymraeg, does ganddo ddim cysylltiadau i Gymru ar wahân i fi, ond doedd e ddim yn hapus gyda'r syniad beth bynnag.

"It's just so much work," meddai fe. "To just get rid of all of it seems... I don't know. It's just so much work to have it all completely disappear."
"Yeah, well," meddwn i.

Dwedais wrtho am fy nheimladau cymysglyd-boenus tuag at Gymru a phopeth Cymreig. Soniais am yr aberthau: gadael fy ffrindiau a'm teulu er mwyn symud i Gymru, mynd i ddyled, chwalfa fy mhriodas, fy nheimladau o gael fy nieithrio, ac yn y blaen ac yn y blaen.

"But it's just so much work," meddai fe.
"Yeah. Well," meddwn i.

Dyn rhy saff yw fy nhad. Weithiau nad ydw i'n siŵr bod ganddo'r medr i'm deall. Dyw e ddim yn deall fy sefyllfa, fy rhesymeg na fy nheimladau; sut y gall e fy nghynghori ar sut i ymddwyn? Ond, er gwaethaf hynny, ymlwybrodd pryderon fy nhad i mewn i'm pen i.

Fel mae'n digwydd, mae'n bosibl achub blog Blogger ymhen 90 diwrnod o'i ddileu. Un ar ddeg dydd ar ôl cael ei ddileu, cafodd fy mlog ei dynnu yn ôl o'r ether. Gwnaethpwyd fe'n flog na allai neb ei ddarllen. Yna es i ymlaen gyda fy mywyd; anghofiais am y peth. Y gimig. Roeddwn i wedi cyfeirio at hynny yn nheitl y blog: yr arth sy'n dawnsio. Y creadur i edrych arno ond fyth i'w groeso. Efallai bod arth sy'n dawnsio'n ddifyrrus dros ben, ond chaiff ei ddim gwahoddiad i gael te â neb.

Ond dyna beth yw siaradwr Cymraeg nad yw'n frodor Cymru, on'd yw? Pob tro mae person yn dysgu Cymraeg -- Americanwr sydd wedi dysgu ar y we, neu hyd yn oed Saeson sy'n hoffi sŵn yr iaith -- mae elfen gimig-aidd. Bod yn onest, pa un cafodd mwy o sylw yng nghystadleuaeth y Fedal Rhyddiaith eleni: dawn Jerry Hunter, neu'r ffaith ei fod yn Americanwr? Mae e'n gimig. Rydw i'n gimig. Mae pob dysgwr yn gimig. Mae pob un person sy'n ceisio gweddu'r iaith i'w fywyd yn gimig; caiff ei drin fel hynny gan bobl y tu mewn a'r tu fas i'r byd Cymraeg am weddill ei oes.

By design or negligence the Welsh language, its speakers, and especially those with a desire to be a part of its community, have become something to be treated as a gimmick -- by both speakers and nonspeakers. We're all babbling Klingon out here. Hee-hee, aren't we cute and silly?

Efallai yr oeddwn i wedi clywed am ymdrech Pethau Bychain cyn hynny. Dwi ddim yn cofio erbyn hyn. Ond ar ôl darganfod eglurder ynglŷn â'r hyn a oedd yn fy ngwylltio -- yr ensyniad o fod yn gimig -- dechreuodd cynlluniau adfywio'r blog hadu yn fy mhen.

I fi, mae ymdrech Pethau Bychain yn ymdrech i ddatganu nad gimig yw defnyddio Cymraeg ar y we. Ac yn sgil hynny, mae'n gam (bach bach bach) tuag at gael iaith sy'n rhywbeth mwy na chasgliad o gimigau. Dyna ddull o feddwl fy mod eisiau cyfrannu ato. Wn i ddim a ydw i eisiau aros yng Nghymru. Weithiau rydw i'n ysu am neidio ar awyren a mynd, heb bacio. Ond tra ydw i yma, rydw i'n teimlo math o ddyletswydd i gyfrannu. Dyletswydd y dyn cyfiawn.

(Ha. Symudais i Gymru yn rhannol oherwydd blinder gyda phethau Americanaidd, ond dyma fi, o hyd, yn ceisio byw yn ôl daliadau yr hen "Cardinal Principles" fy fraternity, Phi Delta Theta.)

Felly mae'r blog 'ma yn dychwelyd. Dechreuaf yn araf; rydw i am ysgrifennu cofnod bod dydd Gwener. Efallai y daw mwy. Mae awydd 'da fi ceisio eto i gysylltu â Chymru, i fod yn rhan o rywbeth, i fod yn fwy na gimig.