Monday, 25 October 2010

Grr

Ychydig y tu ôl i bethau ar hyn o bryd. Bydda' i yn ôl at y blogio cyn fuan â phosib.

Friday, 8 October 2010

Croesi ffiniau

Cyhoeddwyd y darn hwn yn Tu Chwith, cyfrol 33, haf 2010


Codai fy ngwraig am 6 o'r gloch bob bore'r wythnos. Ar ôl taro'r larwm sawl gwaith, a chryn dipyn o rwchian-rhegi, byddai'n baglu tua'r tŷ bach i gael cawod. Myfyriwr oeddwn i yn y dyddiau hynny; doedd dim rhaid i mi godi byth, bron, ond yn bendant doedd dim angen codi mor gynnar â hi. Felly byddwn i'n claddu fy mhen o dan clustog a hanner cysgu hyd nes clywed y gawod yn cael ei diffodd a drws y tŷ bach yn cael ei agor. Yna, byddwn i'n rholio ar fy nghefn, plethu fy nwylo y tu ôl i'm pen ac aros iddi ddychwelyd i'r ystafell wely.

"Hooray naked Rachel," dwedwn yn gysglyd.

Dyna uchafbwynt bywyd priodasol: bronnau beunyddiol. Mae noethni'n hawdd ei gael a does dim rhaid teimlo euogrwydd wrth ei weld.

"Do a little dance," dwedwn wrthi.

"Get a job," atebai hithau.

Nid person y bore oedd fy ngwraig.

Yn ôl o dan y clustog âi fy mhen. Byddwn yn gwrando ar sŵn fy ngwraig yn paratoi: drysau'r wardrob yn cael ei symud, clic a chwistrellu ei cholur a phersawr, tincian breichledau, blwch sgidiau'n cael ei agor, a'r "hmm" a "nah" a "I need new clothes" meddal wrth iddi ddewis ei gwisg. Yna, sŵn ei thraed ar y grisiau, cerddoriaeth glasurol ar y radio, a hi yn y gegin. Byddai'n cael yr un peth i frecwast yn feunyddiol: tost gyda menyn, a siocled poeth.

Wrth orweddian yn y gwely'n dawel dawel a gwrando'n astud, gallwn glywed sŵn potel llaeth yn cael ei thynnu o'i lle yn nrws yr oergell, chwisg mewn padell, plât yn cael ei osod ar y cownter, tost yn neidio yn y tostiwr, a sŵn "herrrrk" stôl yn cael ei thynnu o'i chuddfan o dan y cownter er mwyn iddi eistedd. Wedyn, sŵn meddal ei chwpan siocled poeth yn clecian ar y cownter pan byddai hi'n ei osod i lawr.

Rŵan, yn fy mhen, gallaf glywed y synau hyn o hyd.

Gwyddwn fod fy ngwraig yn mwynhau cael yr hamser i'w hunan yn y bore, ond, o dro i dro, byddwn i'n mentro lawr y grisiau ac ymuno â hi.

"Raaa-chel. Bore da to you my Raaa-chel," byddwn i'n canu. "Raaa-chel, dwi'n dy garu diiii..."

Yn y gegin gyda hi, gallwn glywed sŵn arall: y "ffyp-ffyp" ysgafn a ddeuai o dudalennau ei Beibl. Merch ffyddlon i'w chrefydd yw hi. Nid efengylwr -- chewch chi ddim pregeth ganddi -- ond un ffyddlon; rhywun sy'n credu'n gryf, yn ddiysgog, yn dawel. Bob bore, byddai'n darllen tudalen neu ddwy o'i llyfr du, trwchus, mawr. Pwy a ŵyr faint o droeon yr aeth hi trwyddo. Mormon yw hi, felly nid y Beibl yn unig oedd y llyfr ond nifer o destunau eraill hefyd. Rhyw fath o ddetholiad o weithiau gorau'r Arglwydd: The Holy Bible, Book of Mormon, The Doctrine and Covenants of the Church of Jesus Christ of Latter-day Saints, a Pearl of Great Price. Ac ar glawr y llyfr, ei henw wedi'i argraffu mewn llythrennau bras, iwtilitaraidd, aur: Rachel Marie.

Diflannodd y synau boreol ym mis Medi 2009.

~


Symudodd Rachel Marie a minnau i Gaerdydd ym mis Gorffennaf 2006 yn llawn brwdfrydedd a breuddwydion a disgwyliadau. Gwyddem y byddai ein bywydau'n newid; roeddem eisiau hynny. Roeddem yn gobeithio amdano. Roeddem yn dyheu amdano. Ac anochel oedd y peth, os meddyliwch amdano. Roeddem yn tynnu ein hunain o'n ffiniau arferol: ffiniau daearyddol, ffiniau personol, ffiniau cymdeithasol, ffiniau diwylliannol, ac yn y blaen. Mae'n rhaid i berson newid mewn sefyllfa fel hynny -- mae'n amhosibl peidio.

Roedd fel petaem wedi tynnu planhigyn o'r pridd. A dim ond dau beth a allai ddigwydd ar ôl gwneud hynny: byddai'r planhigyn yn gwreiddio mewn pridd newydd, neu byddai'n marw. Feddyliasom ddim am yr ail bosibilrwydd.

Mae'r gair "newid" yn un o'r rheiny sy'n dod gyda rhyw fath o werth cynhenid, onid yw? Mae'n debyg i "ddemocratiaeth," neu "ryddid." Pryd bynnag y defnyddir y geiriau hyn, tybir taw pethau da y maent yn eu disgrifio. Bob tro y defnyddir "newid," tybir bod y newid hynny'n beth da. Change is good. Efallai eich bod yn cofio'r etholiad diweddar, a phob plaid yn addo dod â newid. Weithiau fydden nhw'n dweud dim mwy na hynny: newid. Pwy sydd angen mwy? Roed y gair yn ddigon da ar ei ben ei hun.

Ond oni fyddai totalitariaeth yn newid? Neu ffasgaeth? Neu gael gwared â syniad o Brydain yn llwyr ac ymuno â Ghana? Newidiadau fyddai'r pethau hyn i gyd. Yn aml pan defnyddir geiriau fel "newid" does neb yn meddwl am gwestiynu'r manylion. Roeddwn i a'm gwraig eisiau newid. Ond feddyliasom ddim a fyddai'r planhigyn yn byw neu beidio yn ei bridd newydd.

~

"No man can serve two masters; for either he will hate the one and love the other, or else he will hold to the one and despise the other." - 3 Nephi 13:24, Llyfr Mormon


Collais fy modrwy briodas ym mis Hydref 2006. Llithrodd o'm bys oherwydd fy mod wedi colli pwysau yn y misoedd ers cyrraedd Cymru. Roedd y straen yn draul arnaf a doeddwn i ddim yn bwyta cymaint. Roedd pethau wedi dechrau mynd yn wael cyn hynny, ond cofiaf y digwyddiad o golli fy modrwy fel man cychwyn i'r hyn a ddaeth wedyn. O hynny ymlaen, byddai Cymru -- y profiad o fyw yng Nghymru -- yn tynnu darn ar ôl darn ohonof fi, oddi wrthyf i. Ac oherwydd hynny, doeddwn i ddim yn gweld fod yr un peth yn digwydd i'm gwraig.

Hiraeth oedd yn draul arni hi. Hiraeth am ei theulu, wrth gwrs, ond hiraeth hefyd am ei gwlad -- tywydd a daearyddiaeth a diwylliant a bwyd a phobl a dull o fyw'r Unol Daleithiau. Byddai'n hiraethu'n enwedig am yr helaethrwydd anial a mynyddoedd oren-goch de Utah, lle y cafodd ei magu. Mae'n anodd i flodyn yr anialwch ffynnu yn rhywle lle mae'r glaw'n ddiddiwedd.

Yn y cyfamser, roeddwn i'n edwino. Does dim croeso yng Nghymru i'r person sydd eisiau bod yn Gymro. Nid i'r person sy'n dod o'r tu allan i Gymru, o leiaf. Yng Nghymru, mae gair arall sydd ganddo werth cynhenid: "allanolyn." Ond mae bod yn "allanolyn" yn beth drwg. Mae allanolyn yn rhywun drwg, neu, o leiaf, rhywun i gadw hyd braich. Ac, a dweud y gwir, mae'r gair "newid" yn un drwg hefyd yn y wlad fach hon. Mae'r Cymry'n fodlon cadw pethau fel maent. Felly, os ydych chi'n allanolyn, fydd hynny ddim yn newid. Byddwch yn allanolyn am byth. Estronwr am byth.

Efallai fy mod yn gyfforddus gyda'r fath statws erbyn hyn. Chris yr Americanwr. Chris y person sy'n siarad Cymraeg ond na fydd fyth yn addasu i Gymru. Mae rhai manteision i fod yn berson sydd ar y ffin; mae'n haws gweld pethau weithiau. Mae'n haws osgoi gwisgo'r fantell diwylliannol hynny sy'n peri i berson feddwl bod cerdd dant yn ddiddorol, er enghraifft. Ond yn y dyddiau hynny, roeddwn yn dal ar yr hen freuddwyd Cymreig. Roeddwn i wedi symud i Gymru llawn gobaith o droi yn berson arall, person â chenedligrwydd newydd. Doedd hynny ddim yn digwydd ac roeddwn i'n marw o'r tu mewn o ganlyniad.

A dyna lle roedd fy ngwraig, yn gwylio ei ŵr yn llithro oddi wrthi. Ymhen hanner blwyddyn o symud i Gymru, roeddwn i wedi ceisio lladd fy hunan. Awn i'n dawel am ddyddiau, a chrio'n ddi-baid dro arall. Doeddwn i'n ddim. Dyna oedd ei bywyd: y freuddwyd doredig a'r hiraeth llethol. Cynyddai'r ail ynddi. Yn fwyfwy, roedd delweddau Americanaidd yn tynnu ar ei chof a'i chalon a'i henaid, ac aeth hi'n chwerw yn erbyn Cymru. Hefyd, yn dawel, aeth hi'n chwerw yn fy erbyn i.

"Always this dream about moving to the UK. That was the golden standard. That was the fucking flag that was held up as the fulfilment of Chris' happiness," ysgrifennodd hi mewn e-bost yn ddiweddar. "But the dream fell apart. And I came apart. This dream that you had had for the whole of our marriage was crashing down around me. It was crushing me. I became exhausted with life. I became exhausted with you and us."

Gallaf gofio bellach ambell waith pan fyddwn i'n clywed ei char cyrraedd at y tŷ, ond yna, fyddwn i ddim yn clywed hi'n dod mewn am chwarter awr. Yn hirach na hynny weithiau. Sylweddolais yn ddiweddarach ei bod hi'n eistedd yn y car, yn poeni sut y byddai'n delio â fi. Doedd hi ddim eisiau dod mewn a dioddef iselder ei gŵr, neu, y dyn sydd wedi cymryd lle ei gŵr. Roedd hi'n casáu hwnnw.

Tua diwedd mis Medi 2009, paciodd fag ac aeth. Yn ôl at ei theulu, yn ôl i'w hanialwch lliwgar, yn ôl i'w gwlad. Pedwar mis wedyn, mynnodd gael ysgariad.

Mae'n dawel yn y tŷ'r dyddiau hyn. Codaf tua 6:30 yn y bore -- efallai bod rhyw ddarn ohonof eisiau dal gafael ar yr hen drefn -- a does neb imi wrando arno. Pan ddof i lawr y grisiau does dim cerddoriaeth glasurol, na neb imi ganu iddo. Ac ar silff yn yr ystafell fyw, eistedda ei Beibl -- ar gau. Aeth hi hebddo. Aeth hi heb yr hen lyfr du, mawr, hwnnw oedd yn ganolog i'w bywyd trwy gydol ein priodas.

Dyw hi ddim wedi gadael Cymru. Mae hi wedi dianc.

Roedd fel petai Caerdydd dan ymosodiad ac roedd rhaid i bawb ffoi oddi wrth y ddinas mewn brys. Rhedodd hi i ffwrdd, fel petai byddin ar fin cyrraedd a doedd dim amser i bacio'n iawn, doedd dim amser i feddwl. Dyna'r math o sefyllfa fyddai'n galluogi person oedd mor ffyddlon â hithau i'w chrefydd, i adael ei Beibl ar ôl. Ond doedd dim byddin, doedd dim peth erchyll i ffoi rhagddo...

...ar wahân i fi.

~


Roeddwn eisiau newid pan ddes i yma. Roeddwn eisiau torri allan o'r ffiniau fy mywyd. And I got my wish. Rydw i wedi newid. Rydw i'n berson gwahanol i'r dyn a ddaeth i Gymru bedair blynedd yn ôl.

Efallai nad oedd y newid yn dda. Ond tybed nad oes gan y gair "newid" werth iddo. Cesiaf beidio â meddwl am y newid fel peth da neu beth drwg. O'r tu allan, gellir dweud bod yna gryn dipyn o ddrwg: mae priodas 10 mlynedd wedi dod i ben, rydw i wedi mynd i ddyled anwelladwy, ac rydw i'n parhau i beidio â theimlo fel aelod o'r gymuned y des i yma i ymuno â hi. Roedd y freuddwyd yn fethiant ac rydw i'n talu'n llym yn emosiynol ac yn ariannol.

Ond y tu mewn i fi, wn i ddim. Rydw i wedi caledi. Dwi ddim mor optimistaidd; dwi ddim mor obeithiol. Ond rydw i'n dysgu byw fel hynny. Rydw i'n dysgu byw heb gysylltiadau â'r lle rydw i'n byw ynddo, heb wreiddiau. Ac felly, rydw i'n fodlon.

Bodlon. Am y tro.

Tuesday, 5 October 2010

Keeeep dancing

Gan fy mod yn treulio cymaint o amser ar ysgrifennu cofnodion am "Strictly Come Dancing" ar fy mlog Saesneg, efallai ei fod yn syniad da imi dynnu sylw atynt ar y blog hwn. Yn enwedig oherwydd taw y blog hwn a gafodd le ar restr fer y Wales Blog Awards.

Ta beth, dyma fy re-cap o'r hyn a ddigwyddodd yn y rhaglen yr wythnos hon. Mwynhewch, homies.