Nid oes gair Cymraeg am segue, sef modd llifo o un pwnc i'r llall heb fod yn sydyn. Hefyd, mae segue yn ffordd o ddechrau sgwrs neu stori neu gofnod blog cyn neidio i mewn i'r peth penodol bod person eisiau sôn amdano. Mae'n fodd meddalu'r ardrawiad, fel petai. Defnyddir segue yn aml pan bod rhaid i berson adrodd newyddion drwg.
Ond, fel y dwedais: does dim gair Cymraeg am segue. Felly dwedaf hyn yn blaen: dwi angen help. Os nad ydw i'n ffeindio gwaith cyn 17 Ionawr, ni fydd gennyf ddewis ond gadael Cymru. Daw fy nheitheb i ben, ac alla' i ddim aros yma heb swydd.
Gwn i mod i'n hanner enwog erbyn hyn am fod yn feirniadol o Gymru a phopeth Cymreig. Ond y gwirionedd yw nad ydw i eisiau gadael. Nid eto, o leiaf. O hyd mae'r hen deimlad o angen bod yma'n dal arna' i. Mae rhywbeth yn fy enaid sy'n annog fi i aros yng Nghymru, sy'n mynnu parhau.
Gallwn ni fod yn onest gyda'n gilydd: petawn i'n gadael, fyddwn i ddim yn dychwelyd i Gymru byth. Roedd symud i Gymru yn beth anodd ei wneud, peth a gostiodd fwy nag oeddwn yn disgwyl. Nid oes gennyf yr egni i wneud y fath beth dwywaith. Petawn i'n mynd yn ôl i'r Unol Daleithiau, byddwn yn datblygu bywyd newydd; byddwn i'n canfod swydd; efallai byddwn i'n ffeindio tŷ hyfryd; efallai byddwn i'n ffeindio cariad; efallai byddwn i'n priodi eto; efallai byddwn i'n creu teulu. Ac yn y blaen ac yn y blaen. A chyn bo hir, byddwn i'n darganfod fy mod mewn sefyllfa nad ydw i'n fodlon i'w beryglu gyda hen freuddwydion o Gymru.
Ac os ydw i'n onest gyda fy hunan: pa mor debygol byddai imi ddal ar fy Nghymraeg petawn i'n mynd yn ôl? Does neb imi sgwrsio â nhw yno, dim ffordd o gadw'r iaith yn fyw yn feunyddiol ar wahân i'r hen flog 'ma. Gallaf deimlo yn fy nghraidd na fyddwn i'n mynd yn ôl i'r hen drefn o siarad â fi fy hunan yn unig yn y car, fel roeddwn yn arfer gwneud cyn symud i Gymru. Yn araf araf, byddai fy Nghymraeg yn edwino.
Os na chanfyddaf waith, os af i yn ôl, bydd fy hen freuddwyd yn dod i ben ac bydd yr iaith yn dechrau marw ynof. Ie, gwn i 'mod i'n swnio'n felodramataidd iawn. Llai na dau fis cyn Y DIWEDD. Ond, mae'n wir. Mae'n realiti. Heb ffeindio gwaith does dim modd aros.
Felly dyma fi'n gofyn os ydych chi'n ymwybodol o rywbeth. Yes, I know there's a recession on. Dwi'n sylweddoli nad yw'n hawdd i neb ddod o hyd i waith, yn enwedig yng Nghymru. Ond efallai bod yna rywbeth.
Wrth gwrs, hoffwn i wneud rhywbeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn i hefyd defnyddio'r sgiliau a dawn sydd 'da fi, sef ysgrifennu. Rydw i wedi ysgrifennu dau lyfr erbyn hyn -- un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg; rydw i'n ysgrifennu colofn dros bARN, a wedi cyfrannu nifer o bethau i gylchgronau llenyddol. Yn ogystal â hynny. mae 'da fi 12 mlynedd o brofiad yn y byd newyddion. Tybed a oes swydd addas? Rhywbeth celfyddydol? Rhywbeth lle mae eisiau imi ddefnyddio fy sgiliau ysgrifennu?
Yn wreiddiol, roeddwn i'n gobeithio aros yn yr ardal Gaerdydd ond erbyn hyn rydw i'n fodlon ystyried mynd rhywle arall yng Nghymru.
"Beth am y gogledd?" gofynnodd Siân, pan oeddem yn sôn am hyn.
"Wfff," meddwn i, gydag ochenaid ddwfn. "Ie. Ie. Byddwn i'n mynd i'r Gogledd."
"Caernarfon?"
"Ffyc. That's a lot to ask. O, diawl. Ond, ie. Ie, Siân. Byddwn i'n mynd i Gaernarfon hyd yn oed."
Gellwch weld pa mor hir 'mod i'n fodlon mynd i aros, felly. Os ydych chi'n ymwybodol o rywbeth -- hyd yn oed yng Nghaernarfon -- wnewch chi roi imi wybod?
Dyma fy e-bost: james.christian.cope @ gmail.com
Diolch.