Friday, 17 December 2010

Y cyfweliad nad oedd yn gyfweliad


Peth a ddysgais o ganlyniad i wneud y fideo 'ma: mae'n anodd gyrru a ffilmio eich hunan.

Tuesday, 14 December 2010

Dim

Dyw pethau ddim wedi newid. Yr unig gwahaniaeth rhwng fy sefyllfa heddiw a fy sefyllfa yn ôl ym mis Tachwedd yw bod yna lai o amser imi ganfod swydd. Un mis erbyn hyn. Un mis i wneud pethau'n iawn. Un mis i gadw'r freuddwyd yn fyw.

Un mis. Ac ar hyn o bryd mae popeth yn cyfeirio at adael. Mae hynny'n sefyllfa sy'n peri traul ar y meddwl. Mae'n anodd codi yn y bore. Mae'n anodd parhau gyda'r trefn beunyddiol oherwydd bod llais yn fy mhen sy'n dweud: "Does dim pwynt. Dim ond mis sydd 'da ti nawr. A ti'n gwybod nad yw pethau'n symud yn ddigon cyflym yng Nghymru i'th harbed bellach. Dylet ti bacio dy bethau a mynd nawr. Y ffordd 'na, o leiaf, cei Nadolig gyda'th deulu."

Sut fyddech chi'n ymateb i hyn? O ddifrif? Petaech wedi rhoi mwy na degawd o ymdrech i mewn i fyw rhywle, wedi mynd mewn i ddyled er mwyn mynd yno, wedi caniatáu i'ch priodas chwalu er mwyn aros yno, beth fyddech chi'n ei wneud? Dychmygwch y peth o ddifrif: allwch chi ddim mynd ar y dôl, does dim teulu 'da chi yn yr wlad, does dim safety net, ac mae gyda chi un mis cyn ichi fynd yn anghyfreithlon. Un mis i ffeindio gwaith neu fynd. Beth fyddech chi'n ei wneud?

A sut fyddech chi'n teimlo? A fyddech chi'n teimlo'n chwerw yn erbyn Cymru? A fyddech chi'n teimlo rhwystredigaeth dros y blynyddoedd bod chi wedi buddsoddi i mewn i ddim? A fyddech yn teimlo bod chi wedi cael eich twyllo, eich bradychu? I safonau gwahanol, dwi'n siarad tair iaith ar hyn o bryd ond alla' i ddim ffeindio'r geiriau mewn un ohonynt i fynegi'r dicter a'r boen a'r galar sy'n berwi ynof trwy'r dydd o ganlyniad i'r sefyllfa 'ma.

Rydw i wedi gwneud cais am chwe swydd erbyn hyn. Dwi ddim wedi clywed yn ôl gan un. Ac a dweud y gwir, dwi wedi colli gobaith. Dwi wedi colli awydd.

Bywyd y tiwtor