Monday, 14 March 2011

Canfod swydd - colli ffydd

~Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn BARN rhifyn 578: Mawrth 2011 ~


Penderfynais ddoe roi'r gorau ar ysgrifennu yn y Gymraeg. Amser maith yn ôl roedd gennyf reswm, ysgogiad, dros fod eisiau ysgrifennu yn yr iaith. Ond bellach ni allwn gofio beth oedd hynny. Rydw i'n credu bod y misoedd ar fisoedd o ddiweithdra a'r blynyddoedd ar flynyddoedd o deimlo fy arwahanrwydd wedi bod ar draul y brwdfrydedd a'm denodd i Gymru, tua hanner degawd yn ôl. Bellach mae ynof chwerwedd. Fel salwch mae'r chwerwedd, weithiau, yn tyfu ynof nes imi deimlo fy mod ar fin chwydu.

Ond heddiw, ffoniodd un o'r canolfannau iaith lleol i roi gwybod bod fy nghais am swydd yn llwyddiannus. Rydw i'n diwtor Cymraeg erbyn hyn. Fy maich i yw trosglwyddo'r hen iaith i galonnau newydd. Ond yn ogystal â hynny, a mwy sylfaenol, yw'r ffaith fod gennyf swydd. O'r diwedd.

Ers faint ydw i wedi bod yn parablu yma yn fy nghornel fach o'r cylchgrawn hwn am fod eisiau swydd? A chyn hynny, wrth fy ffrindiau? Chwe mis, o leiaf. Rydw i wedi bod yn ysu am swydd, a theimlo fy hun yn cael fy sigo gan ddiffyg swydd.

Roeddwn yn dweud wrthyf fy hunan y byddai popeth yn iawn ar ôl ennill cyflog. Hapus hapus. Bunnies and rainbows and unicorns! Ond nid felly y mae hi.

Teimlaf f mod wedi cael fy nhrawsffurfio rhywsut gan y cyfnod hir o ddiweithdra; teimlaf fo fy mherthynas â Chymru wedi cael ei newid.

Ble bynnag mae dau beth, mae perthynas. Merch a bachgen, mae perthynas. Mam a mab, mae perthynas. Cyflogwr a gweithiwr, mae perthynas. Iaith a dyn, mae perthynas. A sail perthynas yw'r "rhoi a'r cymryd" sy'n digwydd rhwng y ddau. Mae'r cyfnod hwn o ddiweithdra wedi fy ngorfodi sylweddoli nad yw fy mherthynas gyda'r iaith yr hyn y meddyliwn yr oedd hi. Nid yw'r iaith Gymraeg yn iaith fy "hunan," yn iaith fy nghalon nac yn iaith fy meddwl. Fydd hi ddim, chwaith. Rydw i wedi sylweddoli hynny yn ystod y misoedd diweddar. Despite my best efforts, I will never be one of you. Ever.

Teimlwn hyn o'r blaen, wrth gwrs. Yn fy llyfr, Cwrw Am Ddim -- a gyhoeddwyd flwyddyn a hanner yn ôl -- soniaf am y Gymraeg fel petai'n grefydd, a dweud fy mod yn dioddef argyfwng ffydd. Ond o hyd roedd teimlad -- gobaith -- y byddai pethau'n newid. Roeddwn yn siŵr y byddwn i'n cael fy nerbyn Ryw Ddydd. Fel Cristion sy'n hiraethu -- ymdrechu -- am Iachawdwriaeth, roeddwn yn gweithio tuag at y Rhyw Ddydd hwnnw pan fyddai lle i mi yng Nghymru. Fy 40 erw a mul, fel petai.

Ond yn ystod y misoedd diweddar rydw i wedi cael fy ngorfodi i dderbyn nad oes y fath beth. Nid oes gwobr arbennig i'r mewnfudwr sy'n dysgu'r iaith. Mae Cymry'n bobl sy'n drwgdybio'r hyn a ddaw o'r tu allan. Felly dim lle i mi -- ddim yn y gymdeithas, ddim yn y gweithlu. Nid yw fy mherthynas gyda Chymru yr hyn yr oeddwn yn meddwl y byddai.

Ar ddarganfod nad yw'ch byd fel yr oeddech yn meddwl ei fod, mae gennych dri opsiwn: 1) Derbyn y sefyllfa fel y mae hi; 2) Gwneud rhywbeth amdani; 3) Cwyno. Yn rhy aml rydw i wedi dewis y trydydd opsiwn. Ac yn sgil hynny dewis gwneud rhywbeth arall hefyd, sef torri fy nghysylltiad emosiynol â Chymru. Os oes rhywun sy'n darllen fy ngholofn yn gyson (golygyddion truain Barn, efallai), yn cofio, fe ddwedais yn fy ngholofn yn Chwefror fy mod yn barod i adael Cymru. Dim ond cariad fy nhad at Brydain a'm cadwodd yma.

Erbyn hyn, mae swydd i mi yma. Ac un o brif gyfrifoldebau'r rôl honno yw dangos brwdfrydedd tuag at rywbeth yr oeddwn i'n barod i roi'r gorau arno. Rydw i i fod i drosglwyddo iaith y collais ffydd ynddi.

Ddoe penderfynais na fyddwn yn ysgrifennu gair Cymraeg arall byth eto. Heddiw mae arnaf ddyletswydd i ymroi tuag at ddyfodol yr iaith. Ac rydw i mewn penbleth. Nid yw fy mherthynas gyda Chymru yr hyn yr oeddwn yn meddwl yr oedd hi; ac ni fydd byth. Felly beth yw hi? Beth fydd hi? Ac o ble daw'r egni i'w chynnal?

No comments: