Sunday, 13 March 2011

Ffarwel Gymru?

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn 575/576 BARN: Rhagfyr 2010/Ionawr 2011


Mae'n bosibl taw hon fydd y golofn olaf imi ei hysgrifennu yng Nghymru. Ar ôl mwy na phedair blynedd o frwydro emosiynol dros gyfle i dorri ychydig bach o dir yn y wlad fach hon, ymddengys y daw bopeth i ben ymhen dau fis ac y bydd rhaid imi ddychwelyd i'r Unol Daleithiau. Wel, o leiaf byddaf yn ôl mewn amser i wylio'r Super Bowl.

Diffyg arian yw gwraidd y broblem. Os na lwyddaf i ddod o hyd i swydd (neu swm o arian sylweddol) i'm cynnal, bydd yn amhosibl adnewyddu fy nheitheb; bellach byddaf yn un o'r mewnfudwyr drwg, anghyfreithlon hynny y mae pawb yn y byd gwleidyddol yn mwynhau anelu eu picffyrch ato. Ac yn sgil hynny bydd yn amser tynnu'r llen ar yr hen Brofiad Cymraeg a symud yn ôl i wlad fy ngeni.

Efallai y gallwn fyw yma'n anghyfreithlon. Rydw i wedi meddwl am y posibilrwydd. Mae'n ddigon hawdd i berson sy'n siarad Cymraeg osgoi sylw y Swyddfa Gartref, afraid dweud. Gallwn fyw mewn car ac ennill arian o dan y bwrdd hwnt ac yma mewn tafarn neu buteindy (wel, OK, nid puteindy; dwi ddim wedi llwyddo i ffeindio merch sy'n fodlon fy nioddef i am ddim). Ond i be? Nid mewnfudwr o wlad dlawd ydw i. Ni ddeuthum i Gymru oherwydd diffyg cyfleoedd yn fy mamwlad. A dweud y gwir, er gwaetha'r problemau ariannol sy'n effeithio ar bob cornel o'r byd erbyn hyn, mae'r Unol Daleithiau o hyd yn un o'r lleoedd gorau i greu bywyd i chi eich hunan. Mae pobl a fyddai'n lladd, yn llythrennol, i fod yn yt un sefyllfa â fi: perchennog pasport yr Unol Daleithiau.

Deuthum i Gymru oherwydd angen am wreiddiau, angen dwfn dwfn yn fy enaid i berthyn i le a phobl. Symudai fy nheulu yn aml pan oeddwn yn ifanc, ac o ganlyniad nid oedd gennyf y teimladau cynnes hynny tuag at unman yn America. Deuthum i Gymru, yn rhannol, oherwydd fy mod eisiau rhoi'r gorau ar symud. Beth, felly, fyddai pwrpas byw fel ysbryd yng Nghymru? Beth fyddai diben crwydro milltiroedd heb gyfeiriad mewn gwlad sy'n canmol dyn sy'n nabod ei filltir sgwâr? Mae angen incwm i gael teitheb. Ac mae angen arnaf am yr un math o sicrwydd i deimlo awydd i aros.

Rydw i eisiau aros. Ffaith sy'n ychydig o syndod i mi, a bod yn onest. Wrth edrych ar y pedair blynedd a hanner diweddar gallaf gyfeirio at gymaint o dristwch personol fel na fyddai'n afresymol dweud: "Na, dwi ddim eisiau mwy o hyn. Os yw'r deitheb yn dweud ei bod hi'n amser dweud ffarwel, dwi ddim am ddadlau."

Ond o hyd mae'r hen deimlad, dwfn dwfn yn fy enaid, sy'n dweud: "Arhoswch, Chris. Mae rhywbeth i chi yma. Rydych chi'n perthyn yma. Rhywsut."

(Ydy, mae fy enaid yn barchus iawn tuag ataf; cyfeiria ataf fel "chi.")

Rydw i eisiau aros. Gwn gymaint â hynny. Ac felly rydw i'n gwneud ceisiadau am bob math o swyddi, ym mhob cornel o Gymru. A nifer o gorneli y tu hwnt hefyd -- yn Lloegr, er enghraifft. Rydw i mor anghenus fel fy mod yn fodlon symud i Gaernarfon, hyd yn oed. Gwell dioddef y Cofi na cholli'r iaith.

Oherwydd, os bydd rhaid gadael, gwn yn dawel bach, er nad ydw i eisiau cydnabod y fath beth, ei bod hi'n debygol na ddof yn ôl i Gymru byth. Mae fy lle bach 'ma yng nghefn tudalennau Barn wedi tystio i'r heriau a ddaeth yn sgil symud i Gymru a cheisio byw ynddi; ni chredaf fod gennyf y cryfder emosiynol i wneud popeth eto. Petawn yn symud yn ôl i'r Unol Daleithiau, byddwn yn canfod swydd ac yna, efallai, byddwn yn canfod cariad newydd. Efallai y byddem ni'n symud i mewn i dŷ hyfryd ac yn dechrau teulu. Petai hynny'n digwydd, fyddwn i ddim yn meiddio peryglu'r cyfan gyda lol am fynd yn ôl i'r Hen Wlad Nad Ydyw'n Hen Wlad Fy Nhadau. A heb freuddwyd o ddychwelyd, beth fyddai pwynt cadw'r iaith? Yn araf araf, byddai hi'n marw ynof.

Mae'n od bod yma nawr, yn sefyll wrth drobwynt posibl hollbwysig yn fy mywyd heb unrhyw syniad o'r hyn sydd o'm blaen. Beth fydd? Dywedaf wrthoch ym mis Chwefror.

No comments: