Mae'r syniad yma'n ticio sawl blwch, yn enwedig yn y sefyllfa ariannol presenol! Wedi dweud hynny dwi ddim yn siwr os fydd S4C yn debyg o fod yn rhy fentrus o dan yr arweinyddiaeth presennol - gwaetha'r modd, ond pob lwc beth bynnag:)
Erika - Os byddan nhw o blaid y rhaglen, gwnaf fy ngorau i sicrhau ei bod hi ar gael y tu hwnt i ffiniau Prydain. Yn enwedig gyda rhaglen fel hyn, byddai'n gwneud synnwyr iddi fod ar gael ble bynnag y gwyliwr.
Syniad da, Chris, a phob lwc i ti. Baswn i wrth fy modd os fydd rhyw gyfres fel 'na -- unrhyw gyfres, a dweud y gwir -- ar gael yma, y tu fas o'r D.U. (S4C, os ydych chi'n darllen hyn: Dw i'n moyn eich talu chi, hyd yn oed! Jyst, jyst . . . rhowch raglenni ar y we ar gyfer pobl dramor sy'n ysu am ddefnyddio'r iaith!)
'Swn i'n gwylio, heb os. Dim jyst oherwydd mod i'n gwylio'r cofnideos yn barod - dw i'n ffan mawr o deithio, a llyfrau/rhaglenni *am* deithio. So pob lwc i ti.
Beth am y sefyllfa fisa - wyt ti'n meddwl y byddai hynny yn debygol o neud iddyn nhw newid eu meddwl, tasai'r apêl yn aflwyddiannus? (Oes modd ail-apelio?)
Kinetic - A dweud y gwir, yn nhermau fisa, byddai gwneud y rhaglen yn help enfawr. Hyd yn oed petai'r fisa presennol yn cael ei wrthod byddai'n fodd gwneud cais am 'performer's visa', sy'n haws ei gael -- os oes gan person waith perfformio.
Ie, syniad gwych, fel dywedodd amryw un. Mae crisialu'r pethau sy'n atyniadol am y Gymru Gymraeg(neu Gymreictod yn gyffredinol?) o ddiddordeb nid yn unig i'r rheiny sy'n ei chyfarfod o'r newydd, ond i bawb sydd am ddeall be sy'n bwysig yn y diwylliant. Tybed fyddai'r pethau sy'n apelio at bobl o fewn carfannau gwahanol e.e. Cymry di-Gymraeg, mewnfudwyr hefyd yn wahanol?
12 comments:
:) Gweld.
Benjiman
Syniad gwych! Bydd yn rhaglen hollol unigryw a diddorol (er na fydda i'n medru ei gweld.) Gobeithio bydd S4C yn ddigon craff dy gomisiynu di.
Mae'r syniad yma'n ticio sawl blwch, yn enwedig yn y sefyllfa ariannol presenol! Wedi dweud hynny dwi ddim yn siwr os fydd S4C yn debyg o fod yn rhy fentrus o dan yr arweinyddiaeth presennol - gwaetha'r modd, ond pob lwc beth bynnag:)
Rwy'n cytuno â Neil. Mae'n syniad da iawn ond mae'r bobl sy'n rheoli S4C y dyddiau ma'n rhy ofnus o bethau newydd. Truan, ond gwir.
Erika - Os byddan nhw o blaid y rhaglen, gwnaf fy ngorau i sicrhau ei bod hi ar gael y tu hwnt i ffiniau Prydain. Yn enwedig gyda rhaglen fel hyn, byddai'n gwneud synnwyr iddi fod ar gael ble bynnag y gwyliwr.
Syniad da, Chris, a phob lwc i ti. Baswn i wrth fy modd os fydd rhyw gyfres fel 'na -- unrhyw gyfres, a dweud y gwir -- ar gael yma, y tu fas o'r D.U. (S4C, os ydych chi'n darllen hyn: Dw i'n moyn eich talu chi, hyd yn oed! Jyst, jyst . . . rhowch raglenni ar y we ar gyfer pobl dramor sy'n ysu am ddefnyddio'r iaith!)
'Swn i'n gwylio, heb os. Dim jyst oherwydd mod i'n gwylio'r cofnideos yn barod - dw i'n ffan mawr o deithio, a llyfrau/rhaglenni *am* deithio. So pob lwc i ti.
Beth am y sefyllfa fisa - wyt ti'n meddwl y byddai hynny yn debygol o neud iddyn nhw newid eu meddwl, tasai'r apêl yn aflwyddiannus? (Oes modd ail-apelio?)
Kinetic - A dweud y gwir, yn nhermau fisa, byddai gwneud y rhaglen yn help enfawr. Hyd yn oed petai'r fisa presennol yn cael ei wrthod byddai'n fodd gwneud cais am 'performer's visa', sy'n haws ei gael -- os oes gan person waith perfformio.
Cytuno gyda Kinetic ydw i -- dw i'n hoff iawn o raglenni ddogfen am deithio. Ac byddai dy rhai di yn rywbeth "gwahanol".
Ro'n i'n disgwyl syniad mawr gwahanol. Rhoia i chi hint. Ishe aros ym Brydain + meddiannu ar Brydeinwraig o gariad =
Kendra - Mae hynny'n haws dweud na gwneud. Gwnes i geisio ffeindio Cymraes am sbel ond heb lwyddiant,

Post a Comment