Sunday, 13 March 2011

Yma o hyd -- diolch i Dad

~ Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn BARN, rhifyn 577: Chwefror 2011 ~


Cafodd fy nhad ei fagu mewn teulu alcoholaidd. Roedd fy mam-gu a'm tad-cu yn bobl ddigon dymunol -- fy nhad-cu wnaeth fy ysbrydoli i fod yn awdur, wedi'r cyfan -- ond does dim gwadu eu bod nhw'n hoff o'r ddiod. Gallaf gofio mynd i ymweld â nhw pan oeddwn yn blentyn. Pryd bynnag y cawn i gusan gan fy mam-gu, byddai fy moch yn llosgi oherwydd yr alcohol ar ei hanadl.

Nid oedd ots gen i am hynny, wrth gwrs. I blentyn, mae popeth fel y mae wedi bod erioed; os oes gan un fam-gu gusan sy'n pigo, wel dyna i chi gwrs y byd. Felly roeddwn yn ddigon hapus yn eu cwmni. Efallai nad oeddynt mor egniol â mam a thad fy mam, ond roeddynt yn fodlon gwrando ar fy straeon. Neu eistedd yn dawel wrth imi barablu.

Roedd plentyndod fy nhad yn wahanol, wrth gwrs. Roedd rhaid iddo fyw yn y bwlch rhwng yr hyn sydd a'r hyn sydd ei eisiau -- yr hyn a ddywedir a'r hyn a wneir. Mae'r meddwl alcoholig eisiau un peth wrth ymddwyn i'r gwrthwyneb. Nid oes sicrwydd o ddim; bydd popeth yn newid ymhen dim.

Mae nifer o ffyrdd i ymateb i hyn. Dewisai fy ewythrod (brodyr fy nhad) geisio gwrthryfela yn erbyn eu rhieni. Gallaf gofio'r dôn llais y bydda fy ewythr Dirk yn ei ddefnyddio pan oedd ar fin rhyddhau cenllif o regfeydd. Ond ar y cyfan, mynd i'w gragen a wnâi fy nhad. Ceisiai fod y mab perffaith yr oedd ei rieni yn dymuno amdano, a byddai'n diflannu weddill yr amser.

Diflannai i'w ystafell a gwrando ar y radio a recordiau. Nid oes esboniad clir pam, ond, am ryw reswm, yn y dyddiau hynny roedd nifer o raglenni Prydeinig i'w clywed yn ei ardal. Gellwch ddychmygu, efallai, yr effaith â gâi lleisiau Prydeinig ar fachgen mewn pentref di-nod yn Texas yn ystod y 1950au. Parai'r lleisiau freuddwydion am fyd coeth a chain. Am bobl garedig a thirion. Pobl a oedd yn deall a dilyn trefn. A dweud y gwir, syrthiodd fy nhad mewn cariad â'r syniad o Brydain.

Ond nid dyn anturus yw fy nhad. Mae'n well ganddo wneud y peth saff bob tro. Aeth i brifysgol. Priododd. Cafodd swydd dda. Magodd blant. Ac mae'n gweithio'n galed o hyd.

Cofiaf y tro cyntaf iddo ddod i ymweld â fi ym Mhrydain, pan oeddwn yn byw yn Portsmouth. Mae'n beth ystrydebol i'w ddweud, ond roedd fel plentyn. Byddai'n cerdded o gwmpas gyda'i lygaid yn llydan agored ac effro, yn hanner gorymdeithio fel petai'n fachgen sy'n gwylio parêd. Ac mae e fel hynny bob tro y daw yn ôl. Datblyga ryw acen ffug-Brydeinig chwerthinllyd a dweud pethau fel, "I say, shall we have a spot of tea?" heb damaid o eironi.

Ym mis Ionawr roeddwn i'n barod i adael. Nid oedd gennyf swydd, er gwaethaf misoedd a geisio am un. Ar ôl pedair blynedd a hanner o fyw yng Nghymru, ym Mhrydain, teimlwn fy mod wedi methu. Canlyniad fy mhrofiadau yma yw ysgariad, dyled ac iselder llethol. Efallai y byddwch yn cofio fy ngholofn yn rhifyn Rhagfyr/Ionawr, pan ddwedais fy mod am adael Cymru os na allwn ganfod swydd. Ym mis Ionawr roeddwn wedi colli ffydd a dechrau pacio.

"I just..." meddai fy nhad wrthyf mewn sgwrs Skype (dyna sut rydw i'n cysylltu â'm teulu a ffrindiau erbyn hyn: trwy sgrin cyfrifiadur). "I just feel so much that it's something you'll regret."

"I'm done, Dad," meddwn i. "It didn't work."

Ond doedd Dad ddim yn fodlon gyda'r ateb hwnnw. Sylweddolais wedyn mai oddi wrth fy nhad y dysgais fod yn dro arall, bob tro. Mynnodd anfon arian i fi, i'm cynnal a rhoi ychydig bach mwy o amser imi geisio ffeindio fy lle ar yr ynys wlyb hudol hon y breuddwydiai ef amdani ddegawdau yn ôl.

Dwi yma o hyd, felly. Pwy a ŵyr pa mor hir.

2 comments:

Anonymous said...

Pryd ddaw'r penderfyniad ta?

Chris Cope said...

Dwi ddim yn siwr at ba benderfyniad bod chi'n cyfeirio. Tybiaf fod chi'n sôn am y penderfyniad fisa, er nad oes sôn am y hwlabalw 'na yn yr erthygl hon. Bydd y tribwnal yn 4ydd Ebrill; am wn, caf i wybod ar y dydd.