Friday, 18 November 2011

A yw'r Welsh Not mor ofnadwy?

Ysgrifennais ddarn ar fy mlog Saesneg am y Welsh Not, a fy nheimladau nad oedd y peth, efallai, mor erchyll a ddwedir gan rhai cenedlaetholwyr. Siwr o fod bydd pob Cymro'n fy nghasau ond dwi'n meddwl bod hi'n werth trafod yn onest y fath bethau os mae wir eisiau am annibynaeth.

Hynny yw, ai siarad lol yw annibyniaeth neu amcan difrif? Os taw'r ail yw e, rhaid edrych ar y dadlau'n onest, a dwi ddim yn prynu'r dadl bod angen am y peth dim ond o ganlyniad i gael eich trin yn wael gan Loegr.

1 comment:

neil wyn said...

Post diddorol am y Welsh Not a phethau eraill ar dy flog Saesneg.
Mae'n pwysig gweld pethau mewn cyd-destun yr oes, ac yn pwysig cofio gafodd athrawon eu talu ar sail canlyniadau arholiadau, a'r rheiny yn uniaith Saesneg. Cymry oedd yn gweithredu y WN yn y bon? Symbol ydy o erbyn heddiw wrth gwrs, ac un sy'n cael ei ddefnyddio'n gamarweiniol yn aml iawn, er mor erchyll oedd rhai o ymarferion yr oes fictoria. Dysgu pobl er mwyn yr ymerodraeth Prydeinig oeddent mae'n siwr, nid er mwyn datblygiad personol.

Wyti'n lladd ar genedlaetholwyr (nats?) ychydig yn ormodol yn fan hyn Chris? Sdim angen bod yn ofn ohonynt mewn 'brenhiniaeth cyfansoddiadol', neu ddemocratiaeth hyd yn oed;)
Mae gynnon nhw hawl i gredu yr hyn a mynnwn ac i ddadlau drosto.

Lle dylai fod y bai am gyfundrefn drafnidaeth diffygol Cymru? dwi ddim yn siwr, yn hanesyddol dim ond y ffyrdd i'r Ddwyrain oedd yn bwysig. Roedd gan Dr Beeching cynllun i gau pob un rheilffordd yng Nghymru ar wahan i'r llinell i Gaerdydd (wir yr!), ond diolch byth gafodd ei roi i'r neilltu. Er hynny wnaeth o niwed difrifol i gysylltiadau dros y wlad i gyd.

O ran annibyniaeth does gen i fawr o deimladau'r un ffordd neu'r llall. Mae gan Gymru synnwyr o hunaniaeth sydd wedi tyfu llawer ers 1979, sydd yn groes i'r hyn fasai rhywun wedi disgwyl. Ers i ddyfodiad Llywodraeth Cymru mae 'na fwy o atebolrwydd tu mewn i'r wlad sy'n peth da, cyn pelled a bo gan y pobl fydd yn y cyfundrefn. Dyna'r ffordd dwi'n gweld pethau'n mynd, ychydig mwy o bwer i Gaerdydd pob hyn a hyn, ond wneith pethau stopio llawer yn fyr o annibyniaeth.

Ta waeth, dwi'n mwynhau ein pum munud wythnosol o gofnideo, er nad ydwi'n ymateb pob tro dwi'n eu gwylio:)